Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Costau tanwydd ac arbed arian

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglyn â’r wybodaeth yma

Yn yr wybodaeth yma, rydym yn dweud wrthych sut fyddai'n bosib i chi arbed arian ar eich costau tanwydd, gan gynnwys:

Nôl i’r brig


Arbed arian ar filiau nwy a thrydan

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich biliau tanwydd trwy ddewis ffordd o dalu sy’n cynnig gostyngiad, trwy ddefnyddio nwy a thrydan yn effeithlon neu drwy inswleiddio eich cartref.

Mae rhai cwmnïau sy’n darparu tanwydd yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy’n talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cynllun cyllidebu taliadau sefydlog neu gynllun taliadau hyblyg. Dylech ddarllen telerau’r cynlluniau talu y mae’r cwmni sy’n darparu’ch tanwydd yn eu cynnig yn ofalus.

Os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol, dylech ddarllen eich mesurydd yn rheolaidd i sicrhau eich bod ond yn talu am yr ynni yr ydych wedi ei ddefnyddio. Fe fydd hyn yn galluogi’r cwmni sy’n eich cyflenwi i osod eich taliad debyd uniongyrchol ar lefel gywir. Os oes unrhyw beth yn digwydd i newid faint o nwy neu drydan yr ydych yn ei ddefnyddio, dywedwch wrth y cwmni sy’n eich cyflenwi. Ar rai adegau, efallai y bydd eich cyfrif mewn credyd, ond cofiwch y bydd unrhyw gredyd yr ydych yn ei gronni yn yr haf yn cael ei ddefnyddio i dalu am ddefnydd ynni uwch yn y gaeaf. Os ydych yn cronni llawer o gredyd, efallai y byddwch am ofyn i’r cwmni sy’n eich cyflenwi am ad-daliad. Mae gan bob cwmni cyflenwi ei reolau ei hun ynghylch pryd mae’n cynnig ad-daliad i gwsmeriaid debyd uniongyrchol.

Mae rhai cyflenwyr trydan yn cynnig yr opsiwn o beidio â thalu tâl sefydlog, ond rydych yn talu cyfradd ychydig yn uwch am y trydan a ddefnyddir yn lle. Mae’n bosib y bydd hyn yn opsiwn rhatach i chi, ond fe fyddai angen i chi gyfrifo hyn o’ch biliau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahanol ffyrdd o dalu sydd ar gael i dalu biliau tanwydd, gweler Cyflenwad nwy a Cyflenwad trydan.

Os ydych yn 60 neu’n hyn, neu’n byw gyda rhywun sy’n 60 neu’n hyn, efallai y byddwch yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda chostau tanwydd dros y gaeaf.

Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn medru cael Taliad tywydd oer pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol.

Rhaid bod gan bob cwmni sy’n cyflenwi tanwydd god ymarfer ar ddefnyddio nwy a thrydan yn effeithlon. Os ydych yn gofyn amdano, rhaid i’r cwmni cyflenwi roi gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim i chi ar y canlynol, hefyd:-

  • atal gwres rhag dianc o'r cartref
  • dewis rheolyddion a systemau gwresogi nwy neu drydan
  • defnyddio system wresogi nwy neu drydan mewn ffordd effeithlon
  • mudiadau a fydd, efallai, yn medru rhoi cyngor a hyfforddiant pellach a gwasanaethau eraill
  • ffynonellau help ariannol posib ar gyfer unrhyw waith a fedrai wella'r defnydd effeithlon o nwy neu drydan.

Dyma bethau eraill fedrwch chi eu gwneud:

  • rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.est.org.uk
  • cysylltwch â chanolfan gyngor leol yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ar 0800 512 012
  • yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rhowch glic ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk, neu ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506
  • yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar Gyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn: (New window) www.consumercouncil.org.uk, neu ffoniwch nhw ar 028 9067 2488.

Nôl i’r brig


Costau tanwydd – cyfraddau gostyngol i gwsmeriaid bregus neu gwsmeriaid sydd ar incwm isel

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Fe fydd Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn rhoi ad-daliad awtomatig o £120 i chi ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2011/12 a’r tri gaeaf nesaf os ydych chi’n gymwys o dan y Cynllun.

Fe fyddwch yn gymwys i gael yr ad-daliad os ydych yn cael credyd cynilion Credyd Pensiwn yn unig ar y diwrnod cymhwyso, sef 11 Medi 2011. Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn cael credyd cynilion Credyd Pensiwn.

Rhaid i bob cwmni cyflenwi trydan sydd â mwy na 250,000 o gwsmeriaid domestig ymuno â Chynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Mae cwmnïau llai hefyd yn medru ymuno â’r cynllun os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio sicrhau eich bod yn cael y gostyngiad yn awtomatig, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn i’ch cwmni trydan am y gostyngiad.

Efallai y bydd rhai cwsmeriaid trydan sydd ddim yn cael rhan gwarant Credyd Pensiwn hefyd yn cael y gostyngiad, ond fe fydd i fyny i’r cwmni sy’n cyflenwi eich trydan i benderfynu pwy sy’n gymwys. Mae’r grŵp yma o bobl yn debygol o fod yn gwsmeriaid sy’n cael budd-daliadau eraill.

Tariffau cymdeithasol

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae cwsmeriaid sy’n cael tariff cymdeithasol gan eu cwmni ynni yn mynd i gael eu trosglwyddo’n raddol at Gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Mae tariffau cymdeithasol yn gynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau unigol i roi cyfraddau gostyngol i gwsmeriaid sydd ar incwm isel neu’n fregus. Ond, efallai na fydd rhai cwsmeriaid sy’n gymwys ar gyfer tariff cymdeithasol ar hyn o bryd yn gymwys i gael help o dan Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Fe fydd rhai cwsmeriaid hefyd yn gweld bod y gostyngiad o dan y cynllun newydd yn llai na gostyngiad y tariff cymdeithasol y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd. Efallai y bydd peth help ychwanegol ar gael i wneud iawn am y diffyg hwn.

Nôl i’r brig


Prisiau tanwydd – cael y ddêl orau

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, efallai y byddwch yn medru gostwng eich costau tanwydd drwy newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Erbyn hyn, mae llawer o gwmnïau tanwydd yn cynnig cynlluniau tanwydd deublyg sy'n medru arbed arian i chi os ydych yn prynu nwy a thrydan gan y cwmni cyflenwi yna. Efallai y bydd cynlluniau eraill, hefyd, sy'n cael eu gweithredu’n lleol neu'n genedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae gwefan Llais Defnyddwyr hefyd yn rhestru nifer o wasanaethau cymharu prisiau ar y rhyngrwyd sydd wedi eu cymeradwyo. Fe fydd y rhain yn cymharu'r deliau gwahanol sydd ar gael gan gyflenwyr trydan a nwy i'ch helpu chi i ddarganfod a oes modd i chi arbed arian trwy newid at gwmni cyflenwi newydd. Er mwyn cymharu'r prisiau sy'n cael eu cynnig gan gwmnïau cyflenwi gwahanol gyda phris eich cwmni cyflenwi presennol, fe fydd angen i chi gyfrifo faint yr ydych chi'n ei dalu ar hyn o bryd am eich tanwydd, bob blwyddyn. Rydych yn medru cyfrifo hyn drwy edrych ar eich pedwar bil chwarterol diwethaf. Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae gwefan Llais Defnyddwyr hefyd yn medru rhoi rhestr o'r cwmniau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi, ynghyd â'r prisiau y maen nhw'n eu codi.

Mae gwybodaeth bellach ar gael y ddêl orau ar gyfer eich ynni hefyd ar gael mewn taflen ar wefan Ofgem yn (New window) www.ofgem.gov.uk.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rydych yn medru cael help a chyngor ynghylch newid eich cwmni cyflenwi drwy ffonio Llais Defnyddwyr ar 0845 404 0506. Y llinell gymorth cyfrwng Cymraeg yw 0845 404 0505.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru cael gwybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi drwy gysylltu â Chyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon ar 028 9067 2488, neu rhowch glic ar eu gwefan: (New window) www.consumercouncil.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwmnïau nwy, gweler Cyflenwad nwy.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwmnïau trydan, gweler Cyflenwad trydan.

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau tanwydd, dylech gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Newid cyflenwyr nwy a thrydan yng Ngogledd Iwerddon

Ar hyn o bryd, mae yna ddau gwmni cyflenwi nwy yng Ngogledd Iwerddon, ond dim ond mewn rhai ardaloedd fedrwch chi newid at y cwmni sy’n cyflenwi eich nwy. Mae manylion yr ardaloedd ble fedrwch chi newid at gwmni nwy arall ar wefan Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn: (New window) www.consumercouncil.org.uk.

Mae yna ddau gwmni cyflenwi trydan, ac felly fe fyddwch yn medru penderfynu newid y cwmni sy’n cyflenwi eich trydan. Mae yna offeryn cymharu prisiau ar gyfer newid eich cwmni trydan ar wefan Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn: (New window) www.consumercouncil.org neu ffoniwch y Cyngor Defnyddwyr ar 0800 121 6022.

Nôl i’r brig


Effeithlonrwydd ynni

Mae'r mwyafrif o gartrefi’n medru arbed swm sylweddol ar filiau tanwydd drwy ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac mae'n medru bod yn fwy cynnes ac iach o ganlyniad. Mae cynlluniau grant a gostyngiadau ar gael i helpu gyda mesurau effeithlonrwydd tanwydd. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gwrdd â pheth o'r costau eich hun, mae'r arbedion ar filiau tanwydd yn medru ad-dalu'r gost gychwynnol yn gyflym.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni a thorri eich biliau tanwydd, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rhowch glic ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar (New window) www.consumercouncil.org.uk.

I gael syniad o'r ynni y medrwch ei arbed yn eich cartrefi, rydych yn medru gwneud gwiriad ynni yn y cartref. Rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk, neu ffoniwch eich canolfan Arbed Cyngor ar Ynni leol ar 0800 512 012.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gynhyrchu eich ynni eich hun, rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk.

I gael syniad o’r technolegau sy’n addas i gynhyrchu ynni ar gyfer eich cartref, fe allwch ddefnyddio’r Teclyn Dewis i Gynhyrchu Ynni ar gyfer eich Cartref yn (New window) www.energysavingtrust.org.uk.

Mae’r wefan hefyd yn rhoi:

O dan y cynllun Tariff Cyflenwi Trydan, rydych yn medru cael tâl am yr holl ynni yr ydych yn ei gynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys yr holl drydan yr ydych yn ei gynhyrchu, hyd yn oed os ydych yn ei ddefnyddio’ch hun ac, yn ychwanegol at hyn, unrhyw drydan gormodol nad ydych yn ei ddefnyddio’ch hun, y byddwch yn medru ei allforio i’r Grid Cenedlaethol.

Nôl i’r brig


Grantiau a chynlluniau

Mae yna gynlluniau a grantiau effeithlonrwydd ynni amrywiol ar gael. Mae'r cynlluniau hyn yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig ac yn cael eu rhedeg gan amrywiaeth o fudiadau. Y prif gynllun yw cynllun effeithlonrwydd ynni yn y cartref a elwir yn Warm Front yn Lloegr, Warm Deal yn yr Alban, y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref yng Nghymru a Warm Homes Scheme yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r cynlluniau'n cael eu hariannu gan y llywodraeth ac yn rhoi grantiau a chyngor ynglyn ag ynni i helpu gyda chostau inswleiddio'r cartref. Maen nhw hefyd yn helpu gwella effeithlonrwydd ynni i grwpiau penodol o bobl gan gynnwys pobl sydd ar incwm isel.

Cynigir y cynlluniau i berchen-breswylwyr a phobl sy'n rhentu llety. Mewn rhai achosion, nid yw uchafswm y grant sydd ar gael yn talu cost lawn y gwaith a rhaid i chi dalu rhywfaint tuag at y costau.

Mae help gydag inswleiddio'r cartref hefyd ar gael i berchnogion cartrefi a thenantiaid preifat, trwy gynllun gan y llywodraeth sy'n cael ei rhedeg gan Wasanaethau Ynni Carillion. Mae'r cynllun yn darparu inswleiddio ar gyfer y cartref, naill ai'n rhad ac am ddim neu ar gost isel, gan ddibynnu a ydych chi'n cael rhai budd-daliadau. Mae mwy o wybodaeth ar gynllun inswleiddio'r cartref ar gael oddi ar wefan Gwasanaethau Ynni Carillion yn: (New window) insulation.carillionenergy.com.

Efallai hefyd y byddwch yn medru cyflwyno cais i'r awdurdod lleol am grant, benthyciad neu fath arall o help ar gyfer gwelliannau i'r cartref.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwelliannau i'r cartref, gweler Help gyda gwelliannau i'r cartref.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwelliannau i'r cartref, gweler Grantiau tai.

Rydych yn medru cysylltu â'ch canolfan Arbed Cyngor ar Ynni leol am wybodaeth ar gynlluniau a grantiau arbed arian. I ddod o hyd i'ch canolfan leol, ffoniwch radffôn 0800 512 012 neu rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn (New window) www.energysavingtrust.org.uk. Rydych hefyd yn medru chwilio am grantiau lleol a chynigion yn eich ardal chi ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk. Mae llawer o gwmnïau tanwydd annibynnol ac awdurdodau lleol yn cynnig grantiau a chynlluniau ac yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni. Gellir rhoi grantiau am waith sy'n gysylltiedig â mesurau arbed ynni, gan gynnwys, mewn rhai amgylchiadau, ar gyfer darparu gwres canolog nwy neu drydan. Mae'n bosib rhoi grantiau hefyd ar gyfer bylbiau golau ynni isel.

Cynllun Warm Front yn Lloegr

Mae'r cynllun Warm Front yn cael ei rhedeg gan gwmni o'r enw Gwasanaethau Ynni Carillion. Adwaenir Gwasanaethau Ynni Carillion fel rheolwr y cynllun.

Beth mae'r Cynllun Warm Front yn ei gynnwys

Rydych yn medru cyflwyno cais i'r cynllun Warm Front am grant i wneud un neu fwy o'r canlynol:

  • mesurau inswleiddio, er enghraifft, inswleiddio waliau cafiti, inswleiddio llofftydd, tanciau a phibau, gwaredu drafftiau mewn ffenestri a drysau, awyru, siacedi ar danciau dŵr poeth
  • gwelliannau i gynhesu gofod a dŵr, er enghraifft, gwresogyddion ystafell nwy gyda rheolyddion thermostatig, gwresogyddion stôr trydan, casetiau tân tanwydd solid caeedig, gwresogyddion dŵr tanddwr, rheolyddion amseru ar gyfer gwresogyddion dŵr a gofod trydanol a gwresogyddion ffan trydanol yn ystafelloedd ymolchi cartrefi sy’n cael eu gwresogi gan wresogyddion stôr trydanol
  • gwella effeithlonrwydd ynni system gynhesu dŵr neu ofod, atgyweirio unrhyw ran o unrhyw system gynhesu dŵr neu ofod neu osod rhan newydd yn ei lle
  • darparu systemau gwres canolog nwy, tanwydd solid neu olew (gan gynnwys systemau sy'n cynhyrchu trydan), trawsnewid tanau ystafell 'tanwydd solid' agored yn danau ystafell 'tanwydd solid' caeedig, darparu systemau gwres canolog sy'n gysylltiedig â grid gwresogi'r gymuned leol
  • darparu systemau gwresogi gofod neu ddŵr sy'n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy

Pwy sy'n medru cael grant Warm Front

Er mwyn bod yn gymwys i gael grant Warm Front, rhaid i’ch eiddo gael ei asesu fel un sydd ag effeithlonrwydd thermol isel o dan Weithdrefn Asesu Safonol y Llywodraeth ar gyfer Cyfradd Ynni Anheddau. Mae mwy o wybodaeth ar y Weithdrefn Asesu Safonol ar wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn: (New window) www.decc.gov.uk.

Rhaid i chi gwrdd â rhai amodau penodol hefyd. Efallai y byddwch yn medru cael grant Warm Front os ydych:

  • ·yn berchen ar eich eiddo eich hun. Efallai y bydd rhai tenantiaid hefyd â hawl i grant Warm Front
  • ·nid ydych wedi ceisio am grant ar gyfer eiddo arall yn ystod y deuddeg mis diwethaf
  • ·rydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Pensiwn
  • ·rydych chi neu’ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm ac mae yna blentyn dan bump, pensiynwr neu berson sy’n ddifrifol anabl yn eich cartref

Faint yw'r grant Warm Front

Uchafswm y grant Warm Front yw £3,500, neu £6,000 os fydd system wres canolog sy'n cael ei thanio gan olew'n cael ei gosod.

Efallai y bydd gan landlordiaid hawl i Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid, sy'n werth hyd at £1,500, am bob eiddo, os ydynt yn gwneud rhai gwelliannau arbed ynni penodol. Dylai landlordiaid gysylltu â'u swyddfa dreth leol am fwy o wybodaeth.

Nid yw landlordiaid yn cael codi'r rhent ar eiddo sydd wedi elwa o grant Warm Front am gyfnod penodol wedi gwneud y gwaith. Os yw'ch landlord yn ceisio gwneud hyn, dylech gael help gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Sut i geisio am grant Warm Front

Mae mwy o wybodaeth ar gael am grant Warm Front ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk/warmfront. neu drwy ffonio Gwasanaethau Ynni Carillion ar radffôn  0800 408 0688.

Y Rhaglen Nyth yng Nghymru

Mae’r rhaglen Nyth yn darparu gwaith gwella ynni yng Nghymru. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i rheoli gan Nwy Prydain.

Mae rhai enghreifftiau o’r gwaith fedrwch chi ei gael wedi ei wneud o dan Raglen Nyth yn cynnwys:

  • ·inswleiddio llofftydd a waliau cafiti
  • ·inswleiddio waliau solid
  • ·gwarchod rhag ddrafftiau
  • ·gosod boeler newydd yn lle hen un
  • ·technolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres o’r aer a phanelau solar.

Fe allwch chi gael cyngor ar sut i arbed ynni, waeth a ydych chi’n cael unrhyw waith wedi ei wneud ai peidio.

Mae Nyth yn cymryd lle’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref. Os ydych wedi ceisio am grant o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref, ond nid ydych wedi cael penderfyniad eto, neu os nad yw’r gwaith wedi dechrau eto, fe fydd eich cais yn cael ei drin fel petai wedi cael ei gyflwyno o dan raglen Nyth.

Pa eiddo sy’n gymwys ar gyfer y gwaith?

Rhaid bod yr eiddo’n eiddo preifat neu’n cael ei rhentu’n breifat.

Os ydych yn rhentu’ch cartref, fel arfer fe fydd angen i’ch landlord gytuno:

  • ·i beidio â chynyddu’r rhent (ac eithrio yn unol â chwyddiant) am gyfnod penodol o amser, neu
  • ·i beidio ag ystyried y gwaith a wnaed wrth adolygu’r rhent.

Os fydd eich landlord yn ceisio codi eich rhent am i chi gael gwaith wedi ei wneud o dan Raglen Nyth, dylech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Pwy sy’n medru cael help o dan Raglen Nyth?

Er mwyn i chi fedru cael pecyn cymorth llawn o dan Raglen Nyth, rhaid eich bod chi’n byw mewn eiddo cymwys a rhaid eich bod hefyd yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credydau treth gydag incwm o dan lefel benodol.

Fe fyddwch ond yn medru cael pecyn cymorth llawn o dan y cynllun os oes gan eich eiddo gyfradd effeithlonrwydd ynni F neu G.  Mae gwybodaeth ynghylch y gyfradd ynni ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk. Efallai y bydd hawl gennych i gael help gydag inswleiddio dim ond os ydych:

  • yn 60 mlwydd oed neu'n hyn , neu
  • yn anabl neu’n ddifrifol sâl. neu
  • yn feichiog, neu
  • yn byw mewn cartref gyda phlentyn neu berson ifanc dan 25.

Sut i geisio o dan y cynllun

Er mwyn ceisio am help o dan Raglen Nyth, ffoniwch 0800 512 012 yn rhad ac am ddim o linell dir, neu o ffôn symudol ffoniwch 0300 456 2655. Mae gwybodaeth ynghylch y rhaglen ar wefan Nyth yn: (New window) www.nestwales.org.uk/cym.

Pecyn Cymorth Ynni yn yr Alban

Yn yr Alban, mae’r Pecyn Cymorth Ynni yn rhoi cyngor rhad ac am ddim i bawb ar ynni. I’r rheiny sy’n gymwys, mae yna gyngor pellach ar wella incwm a gostwng biliau ynni. Ar gyfer tai’r sector preifat (perchen-breswylwyr a thenantiaid landlordiaid preifat) sy’n gymwys, mae yna grantiau sy’n helpu gyda chostau inswleiddio’r cartref a gwres canolog. Rheolir y Pecyn Cymorth Ynni gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer Llywodraeth yr Alban.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Pecyn Cymorth Ynni, rhowch glic ar wefan y Pecyn Cymorth Ynni yn (New window) www.energyassistancepackage.com neu cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012.

Grant Warm Deal yn yr Alban

Yn yr Alban, roedd grant o'r enw Warm Deal yn darparu grantiau a oedd yn helpu gyda chostau inswleiddio’r cartref, gwarchod rhag drafftiau a chynghori ar ynni.

Daeth y cynllun hwn i ben i ymgeiswyr newydd ar 5 Ebrill 2009 a daeth y Pecyn Cymorth Ynni i gymryd ei le. [Link to Pecyn Cymorth Ynni, Energy Assistance Package above] Rheolir y Grant Warm Deal ar gyfer cwsmeriaid presennol gan Scottish Gas ar gyfer Llywodraeth yr Alban.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch y Grant Warm Deal, cysylltwch â:

Scottish Gas
Freepost
SCO 4421
Edinburgh
EH6 OBR
Rhif Ffôn:0800 316 6009

Rhaglen Gwres Canolog Llywodraeth yr Alban

Yn yr Alban, roedd y Rhaglen Gwres Canolog ar gyfer y sector preifat, ac roedd yn cynnig grantiau i’r rheiny â gwres canolog a oedd wedi torri, a oedd yn aneffeithlon neu heb fod yn gyflawn, neu’r rheiny heb unrhyw wres canolog ganddynt o gwbl, tra’u bod yn bodloni amodau penodol. Daeth y cynllun hwn i ben i ymgeiswyr newydd ar 5 Ebrill 2009 a daeth y Pecyn Cymorth Ynni i gymryd ei le. [Link to Pecyn Cymorth Ynni, Energy Assistance Package above] Rheolir y Rhaglen Gwres Canolog ar gyfer cwsmeriaid presennol gan Scottish Gas ar gyfer Llywodraeth yr Alban.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch y Rhaglen Gwres Canolog, cysylltwch â:

Scottish Gas
Freepost
SCO 4421
Edinburgh
EH6 OBR
Rhif Ffôn:0800 316 1653

Grant Warm Homes yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn gymwys i grant Warm Homes i gael help gyda mesurau inswleiddio a/neu wresogi. Rhennir y grant yn ddwy ran.

Mae Warm Homes yn darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio ac mae ar gyfer perchentywyr o unrhyw oed sy’n cael o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol:

  • ·Cymhorthdal Incwm
  • ·Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm
  • ·Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar Incwm
  • ·Budd-dal Tai (gan gynnwys budd-dâl tai ar gyfer trethi)
  • ·Credyd Pensiwn
  • ·Credyd Treth Plant gydag incwm perthnasol o lai na £16,190
  • ·Lwfans Byw i’r Anabl
  • ·Lwfans Gweini

Mae Warm Homes plus yn darparu system wresogi newydd i berchentywyr sy’n defnyddio tanwydd solid, Economy 7, nwy potel neu ddim system o gwbl. Mae perchentywyr o unrhyw oed yn medru ceisio os ydynt yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

·Budd-dal Tai (gan gynnwys budd-dal tai ar gyfer trethi)

  • Cymhorthdal Incwm
  • ·Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm
  • ·Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar Incwm
  • ·Credyd Pensiwn
  • ·Credyd Treth Gwaith

Am fwy o wybodaeth ynghylch y grant Warm Homes yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar: (New window) www.warm-homes.com.

Nôl i’r brig


Biliau tanwydd – cael help yn y gaeaf

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Efallai y byddwch yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda'ch costau tanwydd os ydych wedi cyrraedd yr oed cymwys. Os ydych yn fenyw, mae’r oed cymwys yr un oed ag y medrwch gael pensiwn gan y wladwriaeth. Os ydych yn ddyn, mae’r oed cymwys yr un peth ag oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi.

Mae'r Taliad Tanwydd Gaeaf yn daliad di-dreth a delir bob blwyddyn dros fisoedd y gaeaf. Fodd bynnag, fe fyddwch yn medru dewis sut fyddwch chi'n defnyddio'r arian, ac nid yw'r taliad yn dibynnu pa mor oer yw'r tywydd. Mae yna daliadau eraill sydd ond yn cael eu talu pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol, sef taliad tywydd oer. Mae'n cael ei dalu i bobl sydd ar rai budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, yn ystod tywydd oer. Efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer yn ogystal â Thaliad Tanwydd Gaeaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy sy’n medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf a sut i hawlio os oes angen, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf, neu ba gyfradd yr ydych yn gymwys i'w chael, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Taliadau tywydd oer

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer i helpu gyda'ch costau tanwydd yn ystod cyfnodau o dywydd oer.

Ond, nid oes gwahaniaeth ar beth fyddwch chi'n gwario’ch arian, ac nid oes rhaid ad-dalu taliadau tywydd oer.

Gwneir taliadau pan fydd yr orsaf dywydd sydd wedi ei chysylltu at eich ardal yn darogan neu'n cofnodi tymheredd dyddiol cyfartalog o 0 gradd canradd neu lai am saith niwrnod yn olynol.

Mae taliadau tywydd oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf sy'n cael eu gwneud bob gaeaf i bobl dros 60 waeth faint yw'r tymheredd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, gan gynnwys pwy sydd â hawl iddynt a faint fyddwch chi’n ei gael, gweler Help i bobl ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol.

Nôl i’r brig


Dyledion tanwydd – cael help

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, os oes dyledion gennych ar eich nwy neu drydan, efallai y byddwch yn medru cael help gan y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd.

Mae rhai cwmnïau cyflenwi ynni wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid, i'w helpu i dalu eu dyledion tanwydd. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael grantiau i dalu am filiau eraill y cartref.

I ddarganfod os ydych yn medru cael help, rhowch glic ar wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain yn: (New window) www.britishgasenergytrust.org.uk, gwefan Ymddiriedolaeth Ynni'r EDF yn: (New window) www.edfenergytrust.org.uk neu gwefan Ymddiriedolaeth Ynni npower yn: (New window) www.npowerenergytrust.org.uk.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch dyledion tanwydd, gweler Ôl-ddyledion nwy a thrydan yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n medru helpu

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn medru asesu eich anghenion a chynnig cyngor ar bob agwedd ar effeithlonrwydd ynni. Maen nhw hefyd yn medru cynnig cyngor ar grantiau neu gynlluniau sydd ar gael yn eich ardal chi.

I gysylltu â'ch canolfan gyngor Ymddiriedolaeth Arbed Ynni leol, ffoniwch (rhadffôn) 0800 512 012, neu rhowch glic ar (New window) www.energysavingtrust.org.uk.

Cyswllt Defnyddwyr

Mae Cyswllt Defnydwyr yn medru rhoi help a chyngor i chi ynghylch nwid y cwmni sy'n cyflenwi eich ynni.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr, a gefnohir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaethau Safonau Masnacgu'r awdurdod lleol. Mae ar gael yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir yr un tâl â rhifau 0845 am alwadau ffôn i Gyswllt Defnyddwyr.

Ffôn: 0845 404 0506 neu 0845 404 0505 ar gyfer y llinell gymorth cyfrwng Cymraeg
Gwefan: (New window) www.consumerdirect.org.uk

Llais Defnyddwyr

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, Llais Defnyddwyr yw'r gwylgi i ddefnyddwyr sy'n gyfrifol am ddiogelu buddiannu defnyddwyr nwy a thrydan.

Ar wefan Llais Defnyddwyr, mae gwybodaeth ynghylch:

  • newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd
  • pa gwmniau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi a'r prisiau y maen nhw'n eu codi
  • gwasanaethau cymharu prisiau
  • sut i defnyddio llai o ynni a gostwng eich biliau tanwydd.

Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon (Consumer Council for Northern Ireland)

Mae Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn medru rhoi gwybodaeth a chyngor i chi ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Rydych yn medru cysylltu â nhw ar: 028 9067 2488, neu rhowch glic ar eu gwefan yn: (New window) www.consumercouncil.org.uk.

Age UK

Mae Age UK yn cynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch arbed arian ar danwydd ac ynni. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan yn: (New window) www.ageuk.org.uk (Lloger), (New window) www.ageuk.org.uk (Cymru), (New window) www.ageuk.org.uk (Alban), (New window) www.ageuk.org.uk (Gogledd Iwerddon).

Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor dros y ffôn i bobl hŷn.

Yn Lloegr, rydych yn medru cysylltu â chyngor Age UK ar 0800 169 6565.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru cysylltu â chyngor Age NI ar 0808 808 7575.

Yn yr Alban, rydych yn medru cysylltu â chyngor Age Scotland ar 0845 125 9732.

Yng Nghymru, rydych yn medru cysylltu â chyngor Age Cymru ar 0800 169 6565.

Llinell Gymorth Home Heat

Mae Llinell Gymorth Home Heat yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gwresogi eu cartrefi neu dalu eu biliau. Mae'r llinell gymorth yn medru rhoi help a chyngor i chi ar ddod o hyd i grantiau effeithlonrwydd ynni, trefnu dulliau eraill o dalu, cynnal gwiriadau budd-daliadau a chael cyngor arbenigol. Rydych yn medru cysylltu â Llinell Gymorth Home Heat ar 0800 33 66 99.

Cwmnïau sy'n cyflenwi nwy a thrydan

Mae'n rhaid i'r holl gyflenwyr nwy a thrydan ddarparu gwybodaeth ar fesurau arbed ynni fel amod o'u masnach. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd a holwch hwy am y cyngor ar ynni a gynigir. Mae manylion cyflenwyr nwy a thrydan ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyflenwyr nwy, gweler Cyflenwad nwy.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyflenwyr trydan, gweler Cyflenwad trydan.

Help i gwsmeriaid anabl

Os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn medru cael grant cyfleusterau i'r anabl i wella eich system wresogi. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael grant neu ryw fath arall o gymorth gan eich awdurdod lleol i helpu inswleiddio'ch cartref.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau cyfleusterau i'r anabl, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda gwelliannau i'r cartref ac, yn yr Alban, gweler Cynlluniau gwella cartrefi.

Y Gwasanaeth Cyngor am Arian

Os hoffech chi gyngor diduedd, rhad ac am ddim ar arian, i’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â’ch biliau ynni, rhowch dro ar brawf iechyd ariannol y Gwasanaeth Cyngor am Arian. Dim ond ychydig funudau sydd eu hangen i ateb y cwestiynau ac maen nhw’n hollol gyfrinachol. Ar y diwedd, fe fydd gwell dealltwriaeth gennych o’ch sefyllfa ariannol.

Mae’r prawf iechyd hefyd yn rhoi cynllun gweithredu ariannol i chi, a syniadau ynghylch sut i gael y mwyaf o’ch arian. Am wybodaeth bellach, rhowch glic ar (New window) www.moneyadviceservice.org.uk.

Nôl i’r brig