The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Rydych chi'n ei chael yn anodd talu'r biliau ar gyfer olew i wresogi'ch cartref
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Mae’r dudalen hon yn esbonio beth fedrwch chi ei wneud os ydych yn ei chael yn anodd talu’r biliau ar gyfer yr olew i wresogi’ch cartref.
Nid yw cwmnïau sy’n cyflenwi olew i wresogi’r cartref yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â chwmnïau sy’n cyflenwi nwy a thrydan. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gorfod eich helpu os ydych yn ei chael yn anodd talu am eich olew. Ond, mae yna gamau y byddwch yn medru eu cymryd o hyd, os ydych yn ei chael yn anodd talu am olew i wresogi’ch cartref.
Ceisiwch drafod gyda’ch cwmni cyflenwi
Dylech drin dyledion i’ch cwmni cyflenwi olew fel dyled sy’n flaenoriaeth neu ddyled frys. Os oes arnoch arian i’r cwmni sy’n cyflenwi’ch olew, mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â nhw. Mae hyn yn medru bod yn ofid, ond os nad yw’r cwmni’n gwybod eich bod mewn trafferthion ariannol, fe fyddan nhw’n derbyn nad ydych chi eisiau talu. Efallai y byddan nhw’n dechrau dwyn achos yn eich erbyn.
Cysylltwch â’r cwmni i esbonio’r sefyllfa ac i esbonio pam yr ydych chi mewn dyled. Gwnewch nodyn o bob galwad ffôn, llythyr a chyfarfod, gan gynnwys enw’r sawl a fu’n siarad â chi a’r hyn a gytunwyd.
Os nad ydych yn medru ad-dalu’r ddyled ar unwaith, gofynnwch am fwy o amser, er enghraifft 14 neu 28 diwrnod, tra’ch bod yn cael cyngor ac yn cyfrifo’ch cyllideb. Fe allech ofyn os fedrwch chi drefnu cynllun talu hefyd, er mwyn talu’r swm sy’n ddyledus mewn rhan-daliadau.
Mae’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru’ch helpu i drafod eich ad-daliadau a chyfrifo’ch cyllideb, os ydych yn cael trafferth cael y cwmni cyflenwi i gytuno i hyn.
Os na fedrwch chi fforddio talu unrhyw arian i’r cwmni sydd wedi cyflenwi’ch olew, ac nid yw’ch sefyllfa’n debygol o wella, dylech gael cyngor ar unwaith. Fe fydd cynghorydd yn medru eich helpu i benderfynu ar yr hyn sydd orau i chi ei wneud yn eich sefyllfa chi. Dywedwch wrth eich cwmni cyflenwi eich bod yn cael cyngor ac yn mynd i gysylltu â nhw cyn gynted â phosib. Gofynnwch iddyn nhw atal unrhyw gamau pellach am ychydig wythnosau tra’ch bod yn cael cyngor.
Os yw’ch cwmni cyflenwi’n bygwth achos llys
Os yw’ch cwmni cyflenwi’n bygwth dwyn achos llys, cofiwch gysylltu â nhw ar unwaith. Gofynnwch iddynt beidio â chymryd unrhyw gamau pellach am bythefnos, er mwyn i chi fedru llunio cynnig. Os ydyn nhw eisoes wedi dechrau dwyn achos llys, efallai y byddwch yn dal i fedru dod i gytundeb i atal yr achos.
A yw’ch cwmni cyflenwi’n medru mynd ag olew o’ch tanc?
Os oes arnoch arian i’ch cwmni cyflenwi olew, efallai y byddan nhw’n dweud wrthych fod angen iddynt fynd â’r olew o’ch tanc. Ond, mae hyn yn anghyfreithlon. Nid yw cwmni cyflenwi olew yn cael dod ar eich eiddo heb ganiatâd, ac nid oes rhaid i chi adael iddynt ddod ar eich eiddo. Maen nhw’n medru mynd â chi i’r llys i gael yr arian.
Os yw’ch cwmni cyflenwi’n ceisio mynd â’r olew o’ch tanc, dylech riportio hyn i Safonau Masnach. Er mwyn gwneud hyn, fe fydd angen i chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu Cyswllt Defnyddwyr (Consumerline yng Ngogledd Iwerddon). Maen nhw’n medru cyfeirio’ch cwyn at Safonau Masnach.
Os yw’ch cwmni cyflenwi wedi dod ar eich eiddo heb ganiatâd, fe fyddwch hefyd yn medru galw’r heddlu
Camau nesaf
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ar ddelio gyda dyledion, gweler Help gyda dyled.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ffoniwch linell gymorth Cyswllt Defnyddwyr: 08454 04 05 06 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00yb tan 5.00yp.
I siarad â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg, ffoniwch 08454 04 05 05
Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Consumerline ar 0300 123 6262









