Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sefydlu clwb olew a'i rhedeg

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ar y dudalen hon, cewch help a chyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych chi am sefydlu clwb olew. Mae clybiau olew yn grwpiau o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn bennaf, ac sy’n cyfuno’u harchebion wrth brynu olew i wresogi’u cartrefi. Maen nhw’n amrywio o ran maint, o ychydig aelodau i sawl cant.

Trwy ddod at ei gilydd i brynu swmp o olew, mae clybiau olew yn medru cael gwell dêl gan gwmnïau sy’n dosbarthu olew. Mae aelodau wedi gweld arbedion o 10 y cant neu fwy. Trwy gyfuno archebion, mae’r amgylchedd yn elwa hefyd, oherwydd mae’n golygu llai o siwrneiau i ddosbarthu’r olew, gan ostwng tagfeydd ar yr heolydd.

Sefydlu clwb olew

Os ydych chi am sefydlu clwb olew, dilynwch y camau canlynol:

  • Cam un: holwch os oes clwb eisoes yn bodoli yn eich ardal. Os oes clwb yn bodoli, ystyriwch ymuno ag ef. Dylai fod gan y clwb gyfres sylfaenol o reolau, a elwir yn amodau gorchwyl, ac mae’r rhain yn esbonio’r hyn fedrwch chi ei ddisgwyl ganddynt. Gofynnwch am gael gweld yr amodau gorchwyl a phenderfynwch p’un ai eich bod yn hapus â hwy ai peidio, cyn ymuno.
  • Cam dau: os nad oes clwb yn eich ardal, galwch gyfarfod i ddarganfod os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn sefydlu clwb o’r fath. Fe fyddwch yn medru hysbysebu’r dyddiad trwy gylchgrawn y plwyf, mewn ffenestri siop, ar hysbysfwrdd y pentref a thrwy ledu’r gair.
  • Cam tri: yn ystod y cyfarfod, cytunwch ar eich amodau gorchwyl eich hun, gan esbonio beth all bobl ei ddisgwyl gan y clwb. Fe fydd angen i chi  eu cofnodi’n ysgrifenedig a sicrhau bod pawb yn cael copi.

Byddwch yn realistig ynghylch yr amser fedrwch chi ei roi i’r clwb. Weithiau, mae clybiau mwy o faint yn medru cael mwy o arbedion, ond mae angen mwy o waith cydlynu. Efallai y byddai’n haws cadw pethau’n fach i ddechrau, ac yna dod o hyd i wirfoddolwyr eraill i’ch helpu.

I ddarganfod os oes clwb olew gerllaw, yng Nghymru a Lloegr, rhowch glic ar wefan Cyngor ar Bopeth a rhowch eich cod post. Fe allwch gofrestru’ch clwb ar y wefan hon hefyd, ble bynnag yr ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Rhedeg clwb olew

Unwaith fyddwch chi wedi sefydlu clwb olew, gwnewch yn siwr ei fod yn rhedeg yn hwylus. Fe fydd angen i chi ystyried:

Amseriad

  • ·cytunwch ymlaen llaw ar y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn, er mwyn i bobl fedru cynllunio ymlaen llaw
  • ·ceisiwch archebu’n gynnar yn yr Hydref ar gyfer y Gaeaf, pan fydd cwmnïau cyflenwi yn llai prysur ac weithiau’n medru cynnig gwell gostyngiadau

Dewis eich cwmni cyflenwi ac archebu

  • cadwch ar ben y prisiau olew trwy ddarllen y papurau newydd cenedlaethol, i fod yn siwr eich bod yn cael dêl dda
  • pan fyddwch chi’n dewis cwmni cyflenwi, cofiwch ffactorau fel ansawdd y gwasanaeth a pha mor ddibynadwy ydyw, yn ogystal â’r pris
  • ·lluniwch restr o gwmnïau cyflenwi olew, eu prisiau, a chofnod o’u gwasanaeth, ac yna fe fyddwch yn medru ei diweddaru a’i hadolygu’n rheolaidd
  • ·sicrhewch eich bod yn cadw copïau ysgrifenedig o bob archeb a chytundeb, gan sicrhau eich bod yn cadw cofnod papur o unrhyw wybodaeth gyfrifiadurol
  • ·meddyliwch am lunio taenlen sy’n cynnwys holl fanylion yr archebion a gwybodaeth ynglyn â mynediad, ar gyfer pob ty, gan gynnwys lleoliad y tanc.

Cyfathrebu

  • ·cysylltwch ag aelodau mewn da bryd, cyn bod angen archebu, er mwyn rhoi digon o amser iddynt i ymateb
  • os ydych chi’n bwriadu codi tâl ar aelodau am y gwasanaeth, sicrhewch eich bod yn egluro hyn
  • ·sicrhewch fod rheolau’r clwb yn egluro mai cyfrifoldeb aelodau yw talu’r cwmni cyflenwi, ac nid y trefnydd
  • ·meddyliwch am ddefnyddio e-bost neu neges testun i gyflymu’r broses, ond cofiwch na fydd pob un ar-lein nac yn berchen ar ffôn symudol
  • ·cofiwch hyrwyddo’r clwb yn nigwyddiadau’r pentref a gwahodd pobl newydd sy’n symud i’r ardal i ymuno â’r clwb

Cadw llygad ar eraill

  • ·cofiwch gadw llygad ar aelodau mwy bregus y gymuned a meddyliwch sut fedrwch chi eu helpu nhw i archebu
  • diweddarwch aelodau ynghylch cynlluniau eraill a fedrai eu helpu i arbed arian ar eu costau tanwydd, er enghraifft grantiau inswleiddio’r cartref

Am fwy o wybodaeth ar arfer gorau i glybiau sy’n prynu olew, gweler Canllawiau arfer gorau i grwpiau sy’n prynu olew

Camau nesaf

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chlybiau olew a ffyrdd eraill o arbed arian ar olew i wresogi’ch cartref, gweler Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi’ch cartref


I gael help gyda phroblemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref,  gweler Problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref

Mwy o wybodaeth am ddosbarthu olew

I gael rhestr o’r wybodaeth y bydd cwmnïau cyflenwi olew ei hangen gennych er mwyn dosbarthu’r olew, gweler gwefan Ffederasiwn Cyflenwyr Petrolewm

Rate this page Give feedback