Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi'ch cartref

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi’ch cartref

Mae prynu olew i wresogi’ch cartref yn medru bod yn ddrud. Mae rhai cwmnïau’n mynnu eich bod yn archebu lleiafswm uchel o olew ac yn gofyn am daliad ymlaen llaw.

Os ydych chi am osgoi biliau mawr, mae ymuno â defnyddwyr eraill i ffurfio clwb olew yn medru bod yn ffordd wych o arbed arian ar gostau tanwydd. Mae pobl sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer clybiau olew wedi gweld eu bod yn medru arbed arian trwy ddod at ei gilydd i archebu mwy o swmp o olew.

Sut mae clybiau olew’n gweithio

Mae clybiau olew yn grwpiau o bobl, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf, sy’n cyfuno’u harchebion am olew i wresogi’r cartref. Maen nhw’n amrywio o ran maint, o ychydig o aelodau i sawl cant. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n syndicadau olew, grwpiau prynu olew neu fentrau olew cydweithredol.

Trwy ddod at ei gilydd i brynu swmp o olew, mae clybiau olew yn medru cael gwell dêl gan gwmnïau sy’n dosbarthu olew. Mae cyfuno archebion hefyd yn golygu llai o siwrnai i ddosbarthu’r olew, gan ostwng tagfeydd ar heolydd. Mae hefyd yn tarfu’n llai ar bentrefi, oherwydd mae pawb yn medru cael yr olew ar yr un diwrnod.

I ddarganfod os oes clwb olew yn eich ardal chi yng Nghymru a Lloegr, rhowch glic ar y map hwn a gynhyrchwyd gan Cyngor ar Bopeth

Os ydych eisoes yn aelod o glwb olew, fe fyddwch yn medru gosod y clwb ar y map hwn.

Sefydlu clwb olew

Os nad oes clwb olew gerllaw, efallai y gallech feddwl am sefydlu clwb o’r fath. Mae’n medru cymryd tipyn o amser i’w drefnu, ond fe allai arbed arian i bawb yn eich cymuned.

I gael help a chyngor ar sefydlu clwb olew, gweler Sefydlu clwb olew: gair o gyngor

Cofiwch fonitro newidiadau mewn prisiau a phrynu ymlaen llaw

Un ffordd o arbed arian ar olew wrth wresogi’ch cartref yw monitro’r newidiadau mewn prisiau. Yn aml, mae olew i wresogi’ch cartref yn ddrutach dros y gaeaf gan fod mwy o alw amdano. Mae’n medru bod yn ddefnyddiol sicrhau bod eich tanc yn llawn yn yr haf er mwyn osgoi bil uchel yn y gaeaf.

Ffyrdd eraill o arbed arian ar filiau i wresogi’ch cartref

Rydych hefyd yn medru arbed tipyn mwy o arian ar filiau tanwydd trwy ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac mae’ch aelwyd yn medru bod yn gynhesach ac yn iachach o ganlyniad. Mae grantiau a chynlluniau gostyngiad ar gael i’ch helpu i ddefnyddio’ch ynni’n well, er enghraifft help gyda chostau inswleiddio. Hyd yn oed os ydych yn gorfod talu rhai o’r costau hyn eich hun, fe all yr arbedion ar filiau tanwydd ad-dalu’r arian yr ydych wedi ei wario ar fesurau i wneud eich cartref yn gynhesach, a hynny’n gyflym.

Mae yna gynlluniau a gostyngiadau amrywiol ar gael, hefyd, ar gyfer pobl hyn a bregus, ac mae hyn hefyd yn medru helpu gyda chostau ynni.

Am help a chyngor pellach ar sut i arbed arian ar eich biliau ynni, gweler Arbed arian ar eich biliau ynni

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ar ddefnyddio olew i wresogi’ch cartref, gweler Olew i wresogi’ch cartref – gorolwg

Am help a chyngor os ydych yn cael problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref, gweler Problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref

Rate this page Give feedback