The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Problemau gyda'r cwmni sy'n cyflenwi'r olew i wresogi'ch cartref
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Ar y dudalen hon, mae yna gyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud os oes problem yn codi gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref.
Nid yw cwmnïau sy’n cyflenwi olew i wresogi’ch cartref yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â chwmnïau sy’n cyflenwi nwy a thrydan. Ond, mae gennych hawliau cyfreithiol o hyd, fel defnyddiwr.
Problemau wrth dderbyn eich olew
Os ydych chi’n gwresogi’ch cartref gan ddefnyddio olew sy’n cael ei gludo gan dancer, efallai y bydd problemau’n codi pan fyddwch chi’n ei dderbyn. Er enghraifft, efallai y bydd y cwmni cyflenwi yn ceisio newid y pris o’r pris a ddyfynnwyd yn wreiddiol, efallai y bydd yn dod â’r swm anghywir o olew, neu’n rhoi’r olew yn y tanc anghywir.
Am help a chyngor pellach os ydych yn cael problem wrth dderbyn yr olew i wresogi’ch cartref, gweler Problemau wrth dderbyn olew i wresogi’ch cartref
Atal problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’ch olew
Er mwyn gostwng y tebygolrwydd o gael problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’ch olew, sicrhewch eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig bob tro ar gyfer unrhyw archeb. Dylai hyn gynnwys prisiau, amserlenni cyflenwi ac unrhyw amodau eraill sydd ar yr archeb.
Os ydych yn archebu dros y ffôn neu’r rhyngrwyd, mae hyn yn cyfrif fel gwerthu o bell, ac mae’n rhaid i’r cwmni cyflenwi roi gwybodaeth ychwanegol benodol i chi. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich hawliau i ganslo’r cytundeb ac unrhyw wasanaeth ‘ar ôl gwerthu’ a ddarperir gan y cwmni cyflenwi.
Dylech sicrhau hefyd fod y cwmni cyflenwi olew wedi cael cadarnhad ysgrifenedig o leoliad eich tanc a sut i’w gyrraedd.
I gael gwybod mwy am yr wybodaeth y mae hawl gennych i’w chael wrth brynu nwyddau o bell, gweler Gwerthu o bell – eich hawl i wybodaeth
Os ydych yn ei chael yn anodd talu am eich olew
Nid yw cwmnïau sy’n cyflenwi olew i wresogi’ch cartref yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â chwmnïau sy’n cyflenwi nwy a thrydan. Mae hyn yn golygu nad oes rheidrwydd arnynt i’ch trin chi mewn ffordd benodol os ydych yn ei chael yn anodd talu am eich olew. Er enghraifft, nid oes rhaid iddynt barhau i ddod ag olew i chi os nad ydych yn talu’ch biliau. Ond, mae yna rai camau y byddwch yn medru eu cymryd o hyd, os ydych yn ei chael yn anodd talu am olew i wresogi’ch cartref.
Am help a chyngor pellach ar yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych yn ei chael yn anodd talu am yr olew i wresogi’ch cartref gweler Rydych chi’n ei chael yn anodd talu’r biliau ar gyfer olew i wresogi’ch cartref
Mwy o wybodaeth
I gael help a chyngor ar arbed arian ar filiau olew i wresogi’ch cartref, gweler Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi’ch cartref
I gael cyngor ar sefydlu clwb olew gweler Sefydlu clwb olew a’i rhedeg
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Mae mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr ar wefan Ffederasiwn Cyflenwyr Petrolewm.









