The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Biliau nwy a thrydan
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â biliau nwy a thrydan
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am eich biliau nwy a thrydan. Fe fydd yn eich helpu i ddeall eich bil fel eich bod yn gallu gwirio ei fod yn gywir a chysylltwch â’ch cyflenwr os nad ydych yn ei ddeall neu os ydych yn meddwl bod rhywbeth o’i le.
Yn ogystal, mae yna wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o dalu eich biliau. Bydd y wybodaeth hon yn gallu eich helpu i ddewis y ffordd orau ar eich cyfer chi.
Gall deall eich biliau nwy a thrydan a dewis y dull talu cywir eich helpu i arbed arian ac osgoi mynd i ddyled.
Peidiwch ag anwybyddu eich biliau os ydych yn ei chael yn anodd talu. Ni fyddant yn diflannu. Cysylltwch â’ch cyflenwr neu mynnwch gyngor gan ymgynghorydd dyled profiadol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr hyn ddylech ei wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch biliau nwy a thrydan, gweler Help gyda dyled.
Deall eich bil nwy a thrydan
Pan ydych yn cofrestru am gyflenwad nwy neu drydan, byddwch yn cael bil rheolaidd sy’n dweud faint o ynni yr ydych wedi’i ddefnyddio a faint mae’n rhaid i chi dalu amdano.
Dylai eich biliau gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- cyfeiriad a manylion cyswllt eich cyflenwr
- eich rhif cyfeirnod cwsmeriaid. Hwn yw’r rhif a ddefnyddir i wneud taliad
- eich enw a’ch cyfeiriad
- faint o arian sy’n ddyledus gennych. Fel arfer caiff y swm hwn ei argraffu ar y dudalen flaen
- dyddiadau’r bil
- darlleniadau blaenorol a chyfredol y mesurydd a ph’un ai bod y darlleniad yn amcangyfrif neu’n ddarlleniad gwirioneddol
- nifer yr unedau o ynni yr ydych wedi’u defnyddio. Dangosir hyn mewn oriau cilowat (KWh) sef system safonol a ddefnyddir i fesur ynni
- pris fesul uned nwy neu drydan, neu’r ddau os oes gennych gynllun tanwydd dwbl
- swm unrhyw gostau sefydlog. Mae costau sefydlog yn gostau penodol sy’n cynnwys costau anfon biliau, darparu a darllen mesurydd a chostau cynnal a chadw. Nid oes gan bob cwmni costau sefydlog. Fel arfer mae’r rhai nad oes ganddynt gostau sefydlog yn codi ychydig mwy ar gyfer costau defnyddio i ddigolledu’r costau hyn.
- manylion am unrhyw ddisgowntiau, er enghraifft, mae’n bosib y cewch ddisgownt am dalu’r bil erbyn rhyw ddyddiad penodol
- costau TAW
- y rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer eich cyflenwad, a gaiff ei adnabod hefyd fel yr MPR/MPAN
- rhifau ffôn mewn argyfwng er enghraifft, pwy ddylid ei ffonio os oes gollyngiad nwy
- gwybodaeth am sut i gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr a Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni
- yng Ngogledd Iwerddon, gwybodaeth am sut i gysylltu â’r Cyngor Defnyddwyr
Yn Lloegr, Cymru a’r Alban, o Orffennaf 1 2010, bydd yn rhaid i’ch cyflenwr roi’r wybodaeth ganlynol i chi:
- enw eich tariff. Hwn yw’r gyfradd yr ydych yn ei dalu am eich nwy a’ch trydan
- faint o ynni mewn oriau cilowat (KWh) yr ydych wedi’i ddefnyddio dros y deuddeg mis diwethaf. Hwn yw’r mesuriad a ddefnyddir i gyfrifo eich defnydd
- amcangyfrif o gost eich cyflenwad ar gyfer y deuddeg mis diwethaf os ydych yn talu’r un gyfradd, os nad yw’r costau ynni yn cynyddu ac os ydych yn defnyddio’r un faint o ynni.
Dylech bob amser wirio eich bil er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir ar gyfer eich nwy a’ch trydan. Os ydych yn credu bod rhywbeth o’i le ar eich bil neu os nad ydych yn ei ddeall, cysylltwch â’ch cyflenwr a dylai ei esbonio i chi.
Gallwch gael help i ddeall eich bil nwy a thrydan a delio ag unrhyw broblemau gan ymgynghorydd yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Dewis sut i dalu eich bil
Dylai eich cwmni ynni roi ddewis o ffyrdd i chi dalu eich biliau ynni, ynghyd â’r opsiwn i dalu am eich nwy a thrydan yn chwarterol, yn fisol neu’n flynyddol.
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o dalu am eich ynni a gall rhai arbed arian. I ddewis dull talu addas, mae’n bosib yr hoffech ystyried:
- pa mor aml yr hoffech dalu. Mae’n bosib y gallwch ddewis dalu’n wythnosol, yn fisol neu’n chwarterol
- p’un ai byddwch yn arbed arian drwy dalu mewn ffordd benodol. Er enghraifft, mae llawer o gwmnïau yn codi llai o dâl arnoch os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol misol
- sut ydych yn rheoli eich arian yn gyffredinol. Mae’n bosib yr hoffech wasgaru’r gost yn gyfartal dros y flwyddyn neu dalu’r bil cyfan bob tro
- ble ydych yn dymuno talu. Er enghraifft, a oes gennych fynediad i gyfrifiadur er mwyn talu ar-lein neu a oes gwell gennych ymweld â siop
- p’un ai eich bod am dalu gydag arian parod, siec, cerdyn neu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc.
Fel arfer, gallwch dalu trwy’r dulliau canlynol:
- arian neu siec ar gyfer biliau chwarterol
- ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd neu drosglwyddo’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn talu
- mesurydd rhagdal
- debyd uniongyrchol
Talu gydag arian parod neu siec
Bydd bil chwarterol neu fisol yn cael ei anfon atoch a gallwch dalu amdano gydag arian parod neu siec trwy’r banc neu’r Swyddfa Bost neu, drwy’r post os ydych yn talu gyda siec. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ffi os ydych am dalu dros y cownter mewn banc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych yn anfon siec drwy’r post, sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser fel ei bod yn cyrraedd a chael ei phrosesu cyn diwedd y terfyn amser. Fel arall, codir ffi taliad hwyr arnoch.
Mae talu gydag arian parod neu siec fel arfer yn fwy drud na thalu drwy ddebyd uniongyrchol. Gwiriwch p’un ai eich bod yn gallu cael disgownt am dalu’n brydlon neu beidio pan ydych yn talu gydag arian parod neu siec, os yw eich cyflenwr yn cynnig cynllun o’r fath.
Cardiau talu
Mae cerdyn talu yn eich caniatáu i dalu eich biliau ynni mewn unrhyw PayPoint neu Swyddfa Bost.
Mae gan gyflenwyr ynni wahanol gardiau talu. Gyda rhai cardiau, gallwch wneud taliadau hyblyg pryd bynnag yr hoffwch, hyd yn oed cyn i chi dderbyn eich bil. Gyda chardiau eraill, mae’n rhaid eich bod yn gwneud taliadau rheolaidd.
Gall cardiau talu fod yn opsiwn da os nad ydych am dalu drwy ddebyd uniongyrchol ac os ydych yn chwilio am ffordd gyfleus i dalu gydag arian parod.
Cewch fanylion eich gorsafoedd PayPoint lleol ar wefan Trwyddedu Teledu: www.tvlicensing.co.uk.
Defnyddio mesurydd rhagdal
Mae mesurydd rhagdal yn eich caniatáu i dalu wrth ddefnyddio nwy a thrydan. Rydych yn talu am y tanwydd drwy ddefnyddio tocyn neu allwedd (trydan) neu gerdyn call (nwy) a gallwch roi arian arnynt mewn siopau lleol. Os nad ydych yn rhoi arian ar eich tocyn, allwedd neu gerdyn, byddwch yn rhedeg allan o danwydd.
Mae mesurydd rhagdal yn eich caniatáu i dalu am eich tanwydd pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, yn hytrach nag aros am fil. Mae’n gallu bod yn syniad da ar gyfer pobl sydd ag incwm newidiol.
Mae’n bosib eich bod yn talu mwy am eich ynni drwy fesurydd rhagdal oherwydd bod y tariffau (neu gostau) yn aml yn uwch ar gyfer y dull hwn o dalu.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol misol, gallwch arbed pump neu ddeg y cant o’ch bil blynyddol. Fodd bynnag, os ydych yn gwneud hyn, bydd angen i chi dalu swm penodol bob mis i’ch cwmni ynni. Os ydych wedi gordalu, dylech dderbyn ad-daliad. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn eich bod yn gwirio’n rheolaidd bod y swm a dalwch yn ddigonol i dalu cyfanswm eich bil.
Mae rheolau corff gwarchod buddiannau’r diwydiant nwy a thrydan Ofgem yn golygu bod yn rhaid i gyflenwyr ynni:
- osod debydau uniongyrchol teg sy’n seiliedig ar faint o nwy a thrydan a ddefnyddiwch
- esbonio’n glir fel maen nhw wedi cyfrifo eich ffigwr debyd uniongyrchol
- ad-dalu unrhyw gredydau yr ydych wedi’u cronni pan ofynnwch.
Fodd bynnag, gall eich cyflenwr wrthod ad-dalu gordaliadau os ydynt yn meddwl y bydd talu biliau yn broblem i chi yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’n bosib na fydd y cyflenwr yn cytuno i roi ad-daliad yn yr haf os ydych wedi ei chael yn anodd talu biliau tanwydd gaeaf uwch yn y gorffennol.
O dan reolau gwarant debyd uniongyrchol, dylech gael gwybod o leiaf deg diwrnod gwaith cyn bod yr arian yn cael ei ddidynnu o’ch cyfrif. Os na chewch wybod naill ai’n ysgrifenedig neu pan gewch eich bil, gallwch gwyno a gofyn am iawndal o’ch banc.
Am fwy o wybodaeth am ddebydau uniongyrchol, gweler Sut mae cyfrifon banc yn gweithio.
Am fwy o wybodaeth am gwyno i’ch banc, gweler Cwyno am fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Os ydych yn symud i gyflenwr newydd
Os ydych yn newid cyflenwr ac yn dewis talu drwy ddebyd uniongyrchol, sicrhewch nad yw’r cyflenwr newydd yn codi cyfraddau talu drwy ddebyd uniongyrchol uwch na’ch cyflenwr blaenorol. Os ydyw, gallech dalu mwy am eich biliau ynni, hyd yn oed os yw’r tariff yn rhatach. Gallech ddefnyddio eich hen gyfraddau talu drwy ddebyd uniongyrchol i ddadlau bod y rhai newydd yn annheg.
Fodd bynnag, mae’r hawl gan eich darparwr ynni gynyddu eich taliadau debyd uniongyrchol ac oherwydd bod prisiau nwy a thrydan yn cynyddu a gostwng yn gyflym, gallai hyn ddigwydd i chi.
Darlleniadau mesuryddion
Pan ydych yn cael bil, sicrhewch eich bod yn cael darlleniad mesurydd. Os ydych yn dibynnu ar fil amcangyfrifol a bod yr amcangyfrif yn rhy isel, bydd angen i chi dalu mwy ar ddiwedd y flwyddyn. Yn debyg, os ydych yn talu gormod yna bydd yn rhaid i chi ofyn i’r cwmni ynni i ad-dalu’r arian.
Dim ond unwaith bob dwy flynedd y mae’n rhaid i’ch cyflenwr ynni ddarllen eich mesurydd. Os derbyniwch ddarlleniad amcangyfrifol neu os ydych wedi colli darllenydd y mesurydd, darllenwch y mesurydd eich hun a’i roi’r ffigwr i’ch cyflenwr ynni. Yna bydd eich bil yn cael ei addasu.
Mae gan wefan Consumer Focus wybodaeth am sut i ddarllen mesuryddion nwy a thrydan eich hun. Ewch at: www.consumerfocus.org.uk. Mae’n bosib y cewch fwy o wybodaeth am sut i ddarllen mesurydd eich hun ar wefan eich cyflenwr ynni ac fel arfer bydd rhagor o fanylion ar gefn eich bil.
Os ydych yn anabl, yn ddifrifol sâl neu o oed pensiwn a’ch bod yn ei chael yn anodd darllen eich mesurydd oherwydd ei leoliad, gallwch ofyn i’ch cyflenwr nwy i symud y mesurydd yn rhad ac am ddim, os yw hyn yn ymarferol.
Os ydych yn credu bod y mesurydd yn ddiffygiol, cysylltwch â’r cyflenwr nwy neu drydan a all drefnu bod y mesurydd yn cael ei brofi.
Mewn rhai achosion, os yw eich cartref wedi’i rannu i mewn i fflatiau, gallai fod dryswch ynghylch y mesuryddion. Gwiriwch gyda’ch cyflenwr bod rhif cyfresol eich mesurydd yn cyfateb â’r rhif sydd ar y bil.
Cael ad-daliad os ydych wedi gordalu
Mae gan y mwyafrif o gyflenwyr bolisïau ad-dalu eu hun. Gallwch naill ai edrych ar wefan eich cyflenwr neu gysylltu â nhw’n uniongyrchol i wybod faint allwch ei hawlio. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i drafod lleihau eich taliadau debyd uniongyrchol, ewch at wefan MoneySavingExpert: www.moneysavingexpert.com.
Cymorth ychwanegol
Ar Adviceguide
- Newid cyflenwyr nwy a thrydan
- Nwy a thrydan – gwerthu ar garreg y drws
- Cyflenwad nwy
- Cyflenwad trydan
- Costau tanwydd ac arbed arian
- Taflenni ffeithiau nwy a thrydan
- Help gyda dyled.
Consumer Focus yn Lloegr, Cymru a’r Alban
Consumer Focus yw’r sefydliad i ddefnyddwyr ar gyfer materion ynni. Mae’n ymgyrchu dros chwarae teg i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth am ynni, gan gynnwys y cynlluniau ynni gorau a’ch hawliau defnyddwyr ar ei wefan:www.consumerfocus.org.uk. Sicrhewch eich bod yn dewis y rhan cywir o’r wefan ar gyfer eich ardal chi yn y DU.
Cyswllt Defnyddwyr
Cyswllt Defnyddwyr yw gwasanaeth ar-lein a ffôn a gyllidir gan y llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch problemau fel defnyddiwr, gan gynnwys problemau nwy a thrydan, ar wefan Cyswllt Defnyddwyr: www.consumerdirect.gov.uk
Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Ynni yn Lloegr, Cymru a’r Alban
Mae Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni yn delio â chwynion yn erbyn cyflenwyr nwy a thrydan a chwmnïau’r rhwydwaith ynni. Cyn cwyno i Wasanaethau’r Ombwdsman: Ynni, mae’n rhaid i chi gwyno i’ch cyflenwr gan ddefnyddio’r weithdrefn gwyno.
Cewch fwy o wybodaeth am rôl Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni, gan gynnwys sut i gwyno, ar wefan Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni yn www.ombudsman-services.org/energy.
Cyngor Defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon
Cyngor Defnyddwyr yw’r sefydliad defnyddwyr am faterion ynni yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n ymgyrchu dros chwarae teg i ddefnyddwyr. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ynni, gan gynnwys eich hawliau defnyddwyr, ar ei wefan: www.consumercouncil.org.uk.
Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan (Ofgem)
Ofgem yw corff rheoli a sefydlwyd gan y llywodraeth i hyrwyddo cystadleuaeth a monitro a rheoleiddio gweithgareddau cwmnïau’r diwydiant nwy a thrydan. Mae Ofgem hefyd yn monitro codau ymarfer cyflenwyr a cheisio sicrhau bod anghenion y cwsmeriaid mwyaf bregus yn cael eu diwallu. Ni allant ddelio yn uniongyrchol â chwynion defnyddwyr. Mae eu tîm Materion Defnyddwyr yn delio ag ymholiadau ynglŷn â’u polisïau. Cysylltwch â nhw ar: 020 7901 7295 neu drwy e-bost: consumeraffairs@ofgem.gov.uk.









