The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Nwy a thrydan – gwerthu ar garreg y drws
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglŷn â gwerthu nwy a thrydan ar garreg y drws
Mae yna lawer o wahanol gyflenwyr ynni ac maen nhw’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am eich busnes chi.
Un o’r ffyrdd o geisio cael eich busnes yw anfon gwerthwyr i’ch cartref er mwyn i chi lofnodi contract. Gelwir hyn yn gwerthu ar garreg y drws. Os nad ydych yn disgwyl ymweliad gan werthwr, gelwir hyn yn alwad diwahoddiad.
Pan fod rhywun yn ceisio gwerthu rhywbeth i chi yn eich cartref, gallwch deimlo dan bwysau i’w brynu er nad yw’n addas ar eich cyfer chi. Os ydych yn gwneud penderfyniad cyn eich bod yn barod neu’n ymwybodol o’r holl ffeithiau, gallai fod yn rhywbeth y gallwch ei ddifaru nes ymlaen a gallwch golli arian.
Mae yna reolau y mae’n rhaid i werthwyr gydymffurfio â nhw. Nid oes hawl ganddynt i roi pwysau arnoch i lofnodi cytundeb os nad ydych yn barod ac mae’n rhaid iddynt roi digon o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.
Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am y rheolau hyn.
Os ydych yn meddwl am gael contract nwy neu drydan newydd, mae’n syniad da chwilio o amgylch er mwyn sicrhau’r cynllun gorau.
Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud hyn ar dudalen Newid cyflenwyr nwy a thrydan.
Sut ddylai gwerthwyr ymddwyn
Os ydych yn cael cytundeb newydd ar gyfer nwy a thrydan gan rywun sy’n galw yn eich cartref, mae yna reolau y mae’n rhaid i werthwyr eu dilyn. Cynlluniwyd y rheolau hyn er mwyn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi.
Dywed y rheolau bod yn rhaid i werthwyr ymddwyn yn gyfrifol. Ni ddylent eich cael i lofnodi cytundeb trwy dwyll na roi pwysau arnoch i benderfynu.
Os yw gwerthwr yn ymddangos ar eich carreg drws, mae’n rhaid iddo:
- ddangos cerdyn adnabod a rhoi rhif ffôn i chi fel eich bod yn gallu gwirio pwy ydyw
- alw rhwng 9yb ac 8yh yn unig, heblaw eich bod wedi’i wahodd i alw tu allan i’r oriau hyn
- wirio ei fod yn siarad â’r person sy’n gyfrifol am dalu’r biliau
- fod yn onest ynglŷn â’r rheswm dros yr alwad
- adael os ydych yn dymuno
- gael caniatâd y warden os ydyw’n ymweld â llety cysgodol
- roi’r wybodaeth gywir am brisiau.
Beth sy'n digwydd os ydych yn cytuno ar gontract gan werthwr carreg drws neu drwy alwad diwahoddiad
Os ydych yn penderfynu llofnodi contract nwy neu drydan newydd, naill ai ar eich carreg drws neu dros y ffôn, dylai’r gwerthwr roi gwybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Dylai hyn gynnwys eich atgoffa i wirio bod y cynllun yn addas ar eich cyfer chi a ble cewch hyd i gyngor annibynnol i’ch helpu i benderfynu.
Os ydych yn llofnodi contract ar garreg y drws, mae’n rhaid i chi dderbyn:
- copi o’r contract, yn ogystal â manylion cyswllt y cwmni
- gwybodaeth am brisiau
- enw a rhif adnabod y gwerthwr
- gwybodaeth am sut i gwyno.
Dylech dderbyn gwybodaeth am sut i ganslo contract o fewn saith diwrnod os ydych yn newid eich meddwl. Nid oes yn rhaid i chi ddweud pam eich bod yn canslo.
Dylai’r gwerthwr hefyd roi amcanbris o faint fydd angen i chi dalu ar gyfer y flwyddyn nesaf dan y contract newydd. Fe all roi hyn i chi yn ysgrifenedig neu’n electronig ar ddyfais llaw a ddefnyddir i gyfrifo costau. Os ydyw’n gwneud hyn, sicrhewch eich bod yn nodi’r symiau fel eich bod yn gallu eu cymharu â chynigion cyflenwyr eraill.
Mae’n rhaid i’r gwerthwr wneud y pethau hyn oherwydd dylech fod yn gwbl ymwybodol o’ch hawliau. Os yw’r gwerthwyr yn anghofio gwneud un o’r pethau hyn, gallwch ddychwelyd at eich hen gyflenwr heb dâl.
Cymorth ychwanegol
Ar Adviceguide
Cyswllt Defnyddwyr
Cyswllt Defnyddwyr yw gwasanaeth ar-lein a ffôn a gyllidir gan y llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch problemau fel defnyddiwr, gan gynnwys beth i’w wneud ynglŷn â galwadau diwahoddiad am nwy a thrydan, ar wefan Cyswllt Defnyddwyr: www.consumerdirect.gov.uk.
Consumer Focus yn Lloegr, Cymru a’r Alban
Consumer Focus yw’r sefydliad i ddefnyddwyr ar gyfer materion ynni. Mae’n ymgyrchu dros chwarae teg i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth am ynni, gan gynnwys eich hawliau defnyddwyr ar ei wefan:www.consumerfocus.org.uk.
Consumerline yng Ngogledd Iwerddon
Cyswllt Defnyddwyr yw gwasanaeth ar-lein a ffôn a gyllidir gan y llywodraeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr. Cewch fwy o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch problemau fel defnyddiwr, gan gynnwys beth i’w wneud ynglŷn â galwadau diwahoddiad am nwy a thrydan, ar wefan Consumerline: www.consumerline.org.









