The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Mae yna sawl ffordd o arbed arian ar eich biliau tanwydd.
Mae’r rhan fwyaf o gartrefi’n medru arbed swm sylweddol oddi ar eu biliau tanwydd trwy ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac mae’n medru bod yn fwy cynnes ac yn fwy iach o ganlyniad. Mae cynlluniau grant a chynlluniau gostyngiad ar gael i helpu gyda mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae’r rhain yn cynnwys Warm Front yn Lloegr, Energy Assistance Package yn yr Alban a’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yng Nghymru. Hyd yn oed os oes rhaid i chi dalu rhai o’r costau eich hun, mae’r arbedion ar filiau tanwydd yn medru ad-dalu’r gost gychwynnol yn fuan.
Os ydych yn gofyn amdano, rhaid i’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd roi cyngor a gwybodaeth rad ac am ddim i chi ar:
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni ac arbed ar eich biliau tanwydd, ewch at wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: www.energysavingtrust.org.uk. Fe fyddwch hefyd yn medru gwneud gwiriad ynni ar gyfer eich cartref yn: www.energysavingtrust.org.uk neu ffoniwch eich canolfan cyngor effeithlonrwydd ynni leol ar 0800 512 012.
Efallai y byddwch yn medru gostwng eich costau tanwydd drwy newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd. Mae llawer o gwmnïau tanwydd nawr yn cynnig cynlluniau tanwydd deublyg sy’n medru arbed arian i chi os ydych yn prynu nwy a thrydan gan y cwmni yna. Efallai bod cynlluniau eraill ar waith yn lleol neu’n genedlaethol hefyd.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, ar gael gan y gwylgi defnyddwyr Llais Defnyddwyr: www.consumerfocus.org.uk.
Mae help a chyngor ar gael hefyd ynghylch newid eich cwmni, drwy ffonio Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506.
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau tanwydd, dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn medru gostwng eich biliau tanwydd trwy ddewis dull gwahanol o dalu sy’n cynnig gostyngiad.
Er enghraifft, mae rhai cwmnïau cyflenwi tanwydd yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy’n talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cynllun cyllidebu taliad sefydlog neu gynllun taliadau hyblyg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y dulliau gwahanol o dalu eich biliau tanwydd, gweler Cyflenwad trydan a Cyflenwad nwy.
Os ydych yn fenyw sydd wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, neu’n ddyn sydd wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menyw sydd â’r un dyddiad geni, efallai y byddwch yn medru cael Taliad Tanwydd y Gaeaf i helpu gyda chostau tanwydd dros y gaeaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tanwydd y Gaeaf, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwe deg.
Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer pan fydd y tywydd yn disgyn i dymheredd penodol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.