Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Ydw i’n medru cael help i dalu fy miliau tanwydd?

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Os ydych ar ei hôl chi gyda’r taliadau ar gyfer eich biliau nwy neu drydan, cysylltwch â’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd ar unwaith.

Rhaid i’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd gynnig trefniant i chi dalu’r ôl-ddyledion ar gyfradd y byddwch yn medru ei fforddio. Rhaid i’ch cwmni cyflenwi gynnig y dull o dalu sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi a rhaid iddo ystyried eich gallu i dalu.

Efallai y byddwch yn medru trefnu ad-dalu eich ôl-ddyledion mewn rhandaliadau misol. Gelwir hyn yn gynllun talu. Os ydych yn wynebu’r posibilrwydd o gael eich datgysylltu neu os nad ydych wedi medru cadw i fyny gyda’ch cynllun talu, efallai y bydd y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd yn cynnig gosod mesurydd rhagdaliad. Fe fydd mesurydd rhagdaliad yn eich galluogi chi i dalu swm sefydlog oddi ar eich dyledion tra’n talu am y tanwydd yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ôl-ddyledion tanwydd, gweler Ôl-ddyledion nwy a thrydan, yn y Daflen ffeithiau ar gredyd a debyd.

Efallai y byddwch yn medru cael grant i’ch helpu i dalu am eich ôl-ddyledion tanwydd yn ogystal â rhai o filiau eraill y cartref. I ddarganfod a fyddwch chi’n medru cael y math yma o help, ewch at wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain yn: www.britishgasenergytrust.org.uk neu Ymddiriedolaeth Ynni EDF: www.edfenergytrust.org.uk.

Os ydych ar incwm isel neu os ystyrir eich bod yn fregus, efallai y byddwch yn medru cael tariff gostyngol gan y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd. Gelwir hyn yn ‘dariff cymdeithasol’. I ddarganfod a yw’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd yn cynnig ‘tariffau cymdeithasol’, rhowch glic ar wefan Llais Defnyddwyr yn: www.consumerfocus.org.uk. Ewch at ‘Your energy questions’ a rhowch 'social tariff' yn y peiriant chwilio.

Os ydych yn fenyw sydd wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, neu’n ddyn sydd wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menyw sydd â’r un dyddiad geni, Mae Taliad Tanwydd y Gaeaf yn daliad di-dreth a delir bob blwyddyn. Rydych yn medru gwario’r arian ar beth bynnag yr ydych am ei wario - nid oes rhaid iddo fynd tuag at eich biliau tanwydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tanwydd y gaeaf, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer i helpu gyda’ch costau tanwydd yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn. Telir taliadau tywydd oer i bobl sydd ar rai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm. yn ystod tywydd oer. Efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer yn ogystal â Thaliad Tanwydd y Gaeaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, gweler Help i bob ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.

Dylech sicrhau hefyd eich bod yn defnyddio’r tanwydd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Fe fydd hyn yn helpu gostwng eich biliau ynni.

Mae Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i ddefnyddwyr sydd ar incwm isel. Fe fyddwch yn medru cysylltu â Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 33 66 99.

I helpu gostwng eich biliau ynni, dylech hefyd sicrhau eich bod yn talu’r pris isaf sydd ar gael ar gyfer eich tanwydd. Efallai y byddwch yn medru gostwng eich costau tanwydd drwy newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd ar wefan y gwylgi defnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: www.consumerfocus.org.uk.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â nwy a thrydan:

Mynegai A i Y