The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Os nad ydych yn talu’ch bil o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y bil, mae yna berygl i chi gael eich datgysylltu. Efallai y bydd rhai cwmnïau’n dechrau cymryd camau i’ch datgysylltu mor gynnar â deg diwrnod gwaith o ddyddiad ei bil.
Ond, nid yw’r cwmni sy’n cyflenwi’ch tanwydd yn medru eich datgysylltu heb anfon rhybudd datgysylltu i chi’n gyntaf.
Yn ymarferol, mae’n annhebygol iawn y cewch eich datgysylltu, tra’ch bod yn medru talu am eich tanwydd ac yn cytuno i dalu rhywbeth tuag at yr ôl-ddyledion.
Os fyddwch yn cael rhybudd datgysylltu, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506.
Os nad ydych yn medru talu’ch bil, cysylltwch â’ch cwmni cyflenwi ar unwaith. Dylent gynnig trefniant i chi i dalu’r ôl-ddyledion ar gyfradd y medrwch ei fforddio. Os nad ydych yn medru fforddio ad-dalu’r ôl-ddyledion yn y ffordd yma ac rydych am gadw'ch cyflenwad nwy neu drydan, efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn gosodiad mesurydd rhagdaliad.
Fe fydd mesurydd rhagdaliad yn gadael i chi dalu swm penodol oddi ar eich dyledion ar yr u pryd ag y byddwch yn talu am y tanwydd yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
Efallai y bydd gan rai grwpiau cwsmeriaid sicrwydd ychwanegol rhag cael eu datgysylltu. Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os ydych:
Os ydych yn un o’r grwpiau hyn o bobl, gwnewch yn siŵr bod y cwmni tanwydd yn gwybod hyn pan fyddwch chi’n cysylltu â nhw.
Mae mwy o wybodaeth am y camau y mae’n rhaid i gwmni cyflenwi tanwydd eu cymryd cyn eich datgysylltu ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: www.consumerfocus.org.uk.
Mae Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes yn rhoi cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i ddefnyddwyr incwm isel. Mae ymgynghorwyr y Llinell Gymorth yn medru dweud ble mae mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim yn medru bod ar gael a hefyd yn medru sicrhau nad ydyw cwsmeriaid bregus mewn perygl o golli eu cyflenwad tanwydd. I gysylltu â Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ffoniwch 0800 33 66 99.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ôl-ddyledion tanwydd a datgysylltu gweler Cyflenwad nwy a Cyflenwad trydan.