The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Os oes cwyn gennych ynghylch y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, dylech godi hyn gyda’ch cwmni cyflenwi yn gyntaf.
Rhaid bod gan eich cwmni cyflenwi weithdrefn ar gyfer delio gyda chwynion. Dylech fod yn medru cael copi o’r weithdrefn hon oddi ar wefan eich cwmni cyflenwi.
Fe fyddwch yn medru cwyno dros y ffôn, yn bersonol neu’n ysgrifenedig – gan gynnwys drwy’r e-bost.
Os fyddwch chi angen help neu gyngor ynghylch cwyno neu ddelio gyda’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, fe fyddwch yn medru cysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506.
Os na fydd eich cwmni cyflenwi’n medru datrys y gwyn i’ch boddhad, rhaid iddynt ddweud hyn yn ysgrifenedig. Gelwir hyn yn llythyr sefyllfa ddiddatrys. Unwaith fyddwch chi wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, os ydych am fynd â’r gwyn ymhellach, fe fyddwch yn medru cysylltu â Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni. Os nad ydych wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, rhaid i chi aros o leiaf wyth wythnos cyn fedrwch chi gysylltu â Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni.
Am fanylion cyswllt Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni, gweler y pennawd Cwynion yn Cyflenwad nwy neu Cyflenwad Trydan.
Ystyrir bod rhai defnyddwyr nwy a thrydan yn ddefnyddwyr bregus. Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os fyddai’n afresymol disgwyl i chi gwyno ar eich pen eich hun oherwydd:
Os ydych yn fregus ac nid ydych wedi medru sortio’ch problem yn uniongyrchol gyda’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, dylech gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar: 0845 404 0506.
Ble’n briodol, fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi defnyddwyr Llais Defnyddwyr.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd y mae Llais Defnyddwyr wedi delio gyda’ch cwyn, fe fyddwch yn medru cwyno i Wasanaethau’r Ombwdsman: Ynni.
Am fanylion cyswllt Gwasanaethau’r Ombwdsman: Ynni, gweler y pennawd Cwynion yn Cyflenwad nwy neu Cyflenwad trydan.
Os ydych wedi cael eich datgysylltu, neu os bygythiwyd eich datgysylltu ac nid ydych wedi medru sortio’r sefyllfa gyda’r cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, dylech gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar: 0845 404 0506.
Mae datgysylltu’n cynnwys ble mae rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’ch mesurydd rhagdaliad fel nad ydych yn medru gwneud taliad neu rydych wedi talu ond nid yw’ch cyflenwad nwy’n gweithio o hyd.
Ble’n briodol fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi defnyddwyr Llais Defnyddwyr, a fydd yn medru mynd ar drywydd eich cwyn gyda’r cwmni cyflenwi nwy.