Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sut ydw i’n newid fy ynni wrth symud tŷ?

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Pan fyddwch chi’n symud i gartref newydd, dywedwch wrth y cwmni sy’n cyflenwi eich trydan pa ddyddiad yr ydych am gymryd y cyflenwad. Os oes rhaid ei ailgysylltu, efallai y bydd y cwmni cyflenwi’n codi tâl. Mae Cyswllt Defnyddwyr yn medru cynghori ynghylch p’un ai y dylid codi tâl a beth fyddai’r swm rhesymol. I gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr, ffoniwch: 0845 404 0506, neu rhowch glic ar eu gwefan: www.consumerdirect.gov.uk.

Os na datgysylltwyd y cyflenwad, darllenwch y mesurydd a dywedwch wrth y cwmni cyflenwi beth yw’r darlleniad. Cadwch gopi o’r darlleniad.

Os ydych am newid y cwmni sy’n cyflenwi eich tanwydd, dywedwch wrth yr hen gwmni a’r cwmni newydd. Fe fydd y ddau’n gofyn am ddarlleniad terfynol a gymerwyd ar y diwrnod yr ydych yn newid eich cwmni cyflenwi. Fe fydd rhai cyflenwyr yn anfon person allan i ddarllen eich mesurydd. Fe fydd eraill yn gofyn i chi ddarllen y mesurydd ac anfon darlleniad atynt. Yn y ddau achos, cadwch nodyn o ddarlleniad y mesurydd rhag ofn bod anghydfod yn nes ymlaen.

Am fwy o wybodaeth a chyngor ynghylch newid at gwmni cyflenwi newydd, cysylltwch â Llais Defnyddwyr. Mae Llais Defnyddwyr yn medru rhoi cyngor ar yr hyn y dylech ei wirio os ydych am newid cyflenwyr a rhestr o gyflenwyr lleol. Rydych hefyd yn medru cael taflenni ffeithiau ar gymharu prisiau.

Os oes arnoch arian ar eich biliau nwy neu drydan, efallai na fydd cwmni cyflenwi newydd yn eich derbyn. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd y cwmni cyflenwi'n gwrthod cysylltu eich cyflenwad hyd nes eich bod wedi darparu sicrwydd ariannol priodol. Fe allai hyn olygu:

  • llofnodi cynllun taliad rheolaidd, neu
  • gytuno i gael mesurydd rhagdaliad, neu
  • ddarpar gwarantydd, neu
  • roi blaendal ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newid at gwmni cyflenwi newydd pan fydd arnoch arian ar filiau tanwydd, gweler Cyflenwad nwy a Cyflenwad trydan.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â nwy a thrydan:

Mynegai A i Y