Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Olew i wresogi'ch cartref - yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Olew i wresogi’ch cartref – yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Os yw’ch cartref mewn ardal yn y Deyrnas Unedig sydd heb gysylltiad at y prif rwydwaith nwy, efallai eich bod yn defnyddio olew gwresogi i bweru eich system gwres canolog a’ch dwr poeth.

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i ddefnyddio olew i gynhesu’ch cartref, a’ch hawliau fel defnyddiwr pan fyddwch yn ei brynu ac yn ei ddefnyddio.

Sut mae gwres canolog olew yn gweithio?

Os oes gwres canolog olew gennych, yna fel arfer fe fydd boeler gennych sy’n cael ei danio gan olew. Mae hwn yn cynhesu dwr i ddarparu gwres canolog trwy reiddiaduron a dwr poeth trwy’r tapiau yn eich cartref.

Yn wahanol i brif gyflenwad nwy, caiff olew gwresogi ei gludo i’ch cartref mewn tancer. Caiff ei fwydo trwy biben i danc sydd gennych gartref, ac efallai y bydd yn rhaid i chi brynu tanc neu rentu un gan y cwmni sy’n cyflenwi eich olew. Mae rhai cwmnïau cyflenwi yn mynnu eich bod yn archebu isafswm o olew, ac fel arfer mae’n rhaid i chi dalu am eich olew ymlaen llaw.

Am fod yr olew’n cael ei gludo ar yr heol, yn hytrach na thrwy gyflenwad parhaus trwy biben, mae’n bosib i’ch tanc wacau tra’ch bod yn aros am eich cyflenwad nesaf. Felly, dylech sicrhau eich bod yn archebu olew gyda digon o amser i’w sbario, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.

Eich hawliau os ydych yn gwsmer sy’n prynu olew i wresogi’ch cartref

Pan fyddwch chi’n prynu olew gwresogi gan gwmni cyflenwi, mae gennych hawliau cyfreithiol, fel y defnyddiwr, o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau. Os yw’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew yn gwneud camgymeriad gyda’ch archeb, neu’n ceisio newid y pris y cytunwyd arno, fe fyddwch yn medru gwneud rhywbeth ynglyn â’r peth.

Am help a chyngor pellach ar yr hyn ddylech chi ei wneud os oes problem gyda’r cwmni sy’n cyflenwi eich olew, gweler Problemau gyda’r cwmni sy’n cyflenwi’r olew i wresogi’ch cartref

Arbed arian ar olew i wresogi’ch cartref

Mae olew gwresogi yn danwydd effeithlon iawn, ond mae’r pris yn medru codi o hyd. Efallai y gwelwch chi eich bod yn medru arbed arian drwy ymuno ag eraill yn eich ardal i ffurfio clwb olew. Trwy ddod at eich gilydd i archebu mwy o olew, fe allwch chi gael gwell dêl gan y cwmni cyflenwi.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chlybiau olew a ffyrdd eraill o arbed arian ar olew i wresogi’ch cartref, gweler Arbed arian ar filiau olew wrth wresogi’ch cartref

Camau nesaf

I gael cyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud os ydych yn ei chael yn anodd talu am olew i wresogi’ch cartref, gweler Rydych chi’n ei chael yn anodd talu’r biliau ar gyfer olew i wresogi’ch cartref

I gael cyngor ar sefydlu clwb olew, a’i redeg, gweler Sefydlu clwb olew a’i redeg

Mwy o wybodaeth

Am help pellach ar ffyrdd o arbed arian ar eich biliau ynni gweler Arbed arian ar filiau ynni

Rate this page Give feedback