Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 6 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Materion defnyddwyr    Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr  

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

 

 


Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Ynglyn â’r wybodaeth yma

Yn yr wybodaeth yma mae plentyn yn golygu rhywun sy'n iau na 14 mlwydd oed ac mae person ifanc yn golygu rhywun sy’n 14 oed a throsodd ond yn iau na 18 mlwydd oed. Mae rhiant yn golygu rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Nôl i’r Brig



Bancio, credyd a benthyg arian

Nid oes terfyn oedran cyfreithiol ar gyfer agor cyfrif banc ond mae rheolwr banc yn medru penderfynu p'un ai i adael i blentyn neu berson ifanc agor cyfrif ai peidio. Mae yna gyfyngiadau ar agor mathau penodol o gyfrif, er enghraifft, fel person ifanc, nid ydych fel arfer yn gyfreithiol gyfrifol am eich dyledion felly mae’n annhebygol y cewch orddrafft.

Os ydych chi'n iau na 18 mlwydd oed, mae’n drosedd i unrhyw un i anfon deunydd atoch yn eich gwahodd i fenthyg arian neu brynu nwyddau neu wasanaethau ar gredyd neu hurbwrcais. Ond, os ydych yn 14 oed a throsodd ond yn iau na 18 mlwydd oed, gallwch wneud cytundeb credyd neu hurbwrcais os oes oedolyn yn gweithredu fel gwarantydd i chi.

Am wybodaeth ynglyn â gwarantwyr a materion credyd eraill, gweler Credyd.

Gallwch fenthyg arian ar unrhyw oedran, ond mae’n bosib y cyfyngir mynediad at fenthyciadau oherwydd fel arfer, ni fydd benthyciwr yn medru mynd â pherson ifanc i'r llys os yw'n torri amodau benthyciad. Mae hyn am na ellir eich dal yn gyfreithiol i gytundeb yr ydych yn ei wneud pan yn iau na 18 fel arfer.

Os ydych yn gwneud cais am gerdyn credyd pan yn iau na 18. fe fydd eich cais yn cael ei wrthod.

Nôl i’r Brig



Dyledion

Fel plentyn neu berson ifanc ni ellir mynd â chi i’r llys fel arfer oherwydd dyled. Mae hyn oherwydd nad ydych fel arfer yn medru cael eich dal yn gyfreithiol i gytundeb yr ydych yn ei wneud pan yn iau na 18. Ond, mae yna rai eithriadau i'r rheol hon. Gellir eich dal yn gyfrifol am unrhyw ddyledion sydd gennych wedi prynu pethau sydd angen arnoch fel bwyd, dillad a lloches.

Efallai fod yna ddyledion eraill y gellir eich dal yn gyfrifol amdanynt. Os oes amheuaeth, holwch ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Fel rhiant, fel arfer nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i dalu dyledion eich plentyn. Ond, os ydych wedi bod yn warantydd ar gyfer cytundeb a wnaethpwyd, mi fyddwch yn gyfrifol am unrhyw ddyledion o dan y cytundeb.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â dyledion, gweler Help gyda dyled.

Nôl i’r Brig



Treth incwm

Rydych yn cael eich trethu yn annibynnol ar eich incwm, yn yr un modd ag oedolyn. Ond, yn gyffredinol, os ydych yn iau na 16 mlwydd oed, mae eich rhieni yn gosod manylion eich incwm ar eu ffurflenni treth nhw.

Am fwy o wybodaeth, gweler Treth incwm.

Os ydych yn ddi-briod, yn iau na 18 mlwydd ac mae eich rhieni yn rhoi arian i chi sy’n ennill incwm o fuddsoddiad dros £100, fel arfer mi fydd hyn yn cyfrif fel incwm eich rhiant a dylid ei gynnwys ar eu ffurflenni treth. Enghraifft o incwm o fuddsoddiad yw arian a enillir o gynilion mewn cyfrif Cynilion Cenedlaethol.

Os ydych yn iau na 16 mlwydd oed a’ch bod yn dymuno gwneud cais i Gyllid a Thollau EM am ad-daliad oherwydd gordaliad treth, mae’n rhaid i’ch rhieni, gwarcheidwad neu ymddiriedolwr wneud y cais.

Am fwy o wybodaeth, gweler Ad-daliad ar dreth.

Os ydych yn iau nag 16 mlwydd oed, nid ydych yn talu treth ac mae gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n talu llog, gall eich rhieni gofrestru i stopio’r dreth i gael ei dynnu yn awtomatig o’r llog.

Nôl i’r Brig



Prynu nwyddau a gwasanaethau

Wrth brynu nwyddau neu wasanaethau, mae gennych yr un hawliau ag oedolion os oes rhywbeth yn mynd o'i le.

Am wybodaeth ynglyn â'r hyn y dylech ei wneud pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda nwyddau yr ydych wedi eu prynu, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

Am wybodaeth ynglyn â'r hyn y dylech ei wneud pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda gwasanaethau yr ydych wedi eu prynu, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Nôl i’r Brig



Cyfyngiadau wrth brynu nwyddau a gwasanaethau

Mae yna gyfyngiadau ar blant neu bobl ifanc sy'n prynu nwyddau a gwasanaethau penodol.

Alcohol

Am gyfyngiadau ar werthu ac yfed alcohol, gweler Pobl ifainc – iechyd a phersonol.

Betio a gamblo

Mae'n drosedd i unrhyw un i gael trafodiad betio gyda pherson y maen nhw'n gwybod ei f/bod yn iau na 18, neu y dylent wybod hynny.

Siopau betio, clybiau betio a bingo

Os ydych yn iau na 18 ni fedrwch fynd i mewn i glwb betio na siop fetio cyhoeddus. Cewch fynd i glwb bingo trwyddedig ble maen nhw'n chwarae bingo tra nad ydych yn cymryd rhan yn y gêm.  

Yng Ngogledd Iwerddon, yr oed cyfreithiol ar gyfer patio pwl pêl-droed yw 16.

Peiriannau ffrwythau

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych yn iau na 16, cewch fynd i arcêd ond ni chewch chwarae ar beiriannau ffrwythau sy'n talu £10 neu fwy o arian allan.

Os ydych rhwng 14 a 18 cewch fynd i dafarn, ond ni chewch chwarae ar beiriannau ffrwythau sy'n talu £10 o arian neu fwy allan. Rhaid dangos arwydd yn nodi bod y peiriannau ar gyfer y rheiny sydd dros 18 yn unig.

Nid oes terfyn oed is ar gyfer chwarae ar beiriannau ffrwythau sydd ag uchafswm arian neu docynnau o hyd at £8.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes terfyn oed is ar gyfer chwarae ar beiriannau ffrwythau gydag uchafswm y wobr ariannol yn £8 mewn arcêd neu ar safle tebyg. Uchafswm y wobr mewn tafarn yw £15 o arian.  Nid oes cyfyngiad oed cyfreithiol ar chwarae peiriannau ffrwythau mewn tafarndai, ond efallai fod gwahanol reolau gan safleoedd gwahanol.

Tocynnau loteri a chardiau crafu

Os ydych yn iau na 16, ni chewch brynu tocynnau (na chardiau crafu) mewn loteri cyhoeddus cofrestredig. Cewch brynu tocynnau mewn loteri preifat.

Sigaréts

Am wybodaeth ynglyn â chyfyngiadau ar werthiant sigarets, gweler Pobl ifainc – iechyd a phersonol.

Ffilmiau a fideos

Dosbarthiad ffilmiau

Mae yna gyfyngiadau ar y ffilmiau y medrwch eu gweld mewn sinema. Mae corff o'r enw British Board of Film Censors yn cyhoeddi tystysgrifau ar gyfer pob ffilm fel hyn:-

  • U (universal) – addas i bawb sy'n bedair oed neu'n hyn
  • PG – caiff plant fynd i weld y ffilm heb gwmni oedolyn ond mae angen arweiniad oedolyn oherwydd mae rhai golygfeydd yn anaddas i blant ifanc
  • 12A – ni chaiff unrhyw un o dan 12 eu gadael i mewn os nad oes oedolyn ganddynt
  • 15 – ni chaiff unrhyw un o dan 15 eu gadael i mewn
  • 18 - ni chaiff unrhyw un o dan 18 eu gadael i mewn.

Yn ogystal â'r cyfyngiadau hyn, mae rheolwr sinema yn medru defnyddio'i (d)doethineb wrth adael unrhyw aelod o'r cyhoedd i mewn. Yn gyffredinol, nid yw plant o dan bump tu allan i Lundain ac o dan saith yn Llundain yn cael eu gadael i mewn i sinema os nad oes oedolyn gyda nhw.

Dosbarthiad fideos a DVD

Rhaid dosbarthu'r rhan fwyaf o fideos a DVD iaith Saesneg, sydd wedi eu recordio ymlaen llaw a'u labelu, yn ôl pa mor addas ydynt i grwpiau oedran gwahanol eu gwylio. Dyma'r categorïau:-

  • Uc (universal) – yn arbennig o addas i blant cyn oed ysgol
  • U (universal) – addas i bawb sy'n bedair oed neu'n hyn
  • PG – i'w wylio'n gyffredinol ond efallai y bydd rhai golygfeydd yn anaddas i blant ifanc
  • 12 – addas ar gyfer pobl sy'n 12 neu'n hyn. Ni ddylid ei rhoi i unrhyw un o dan yr oed yma.
  • 15 – 12 – addas ar gyfer pobl sy'n 15 neu'n hyn. Ni ddylid ei rhoi i unrhyw un o dan yr oed yma.
  • 18 - 12 – addas ar gyfer pobl sy'n 18 neu'n hyn. Ni ddylid ei rhoi i unrhyw un o dan yr oed yma.
  • Restricted 18 – dim ond i'w ddarparu mewn siopau rhyw trwyddedig i bobl sy'n 18 neu'n hyn.

Mae'n drosedd darparu DVD neu fideo sydd wedi ei ddosbarthu i rywun sy'n iau na'r oed y mae'r dosbarthiad yn ei nodi.

Mae'n drosedd i ddarparu fideo sydd heb ddosbarthiad os nad ydyw'n waith sydd wedi'i eithrio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dosbarthiad ffilmiau, fideos a DVD, ewch at wefan y BBFC (Bitish Board of Film Classification) yn: (New window) www.cbbfc.co.uk.

Gêmau fideo

Efallai y bydd rhai gêmau fideo angen cael dosbarthiad gan y BBFC (British Boad of Film Classification, er enghraifft, os ydynt yn dangos gweithredoedd ymosodol iawn tuag at bobl neu anifeiliaid neu ymddygiad troseddol. Mae'r BBFC yn medru gwrthod rhoi dosbarthiad i'r gêm, ac os yw hyn yn digwydd fe fydd yn drosedd cyflenwi'r gêm yn y Deyrnas Unedig.

Mae yna system raddio ar waith ar draws Ewrop ar gyfer gêmau fideo nad oes angen dosbarthiad arnynt. Gelwir hyn yn system PEGI ac mae'n cael ei gweinyddu yn y DU gan y Cyngor Safonau Fideo yn: (New window) www.videostandards.org.uk.

Toddyddion

Mae’n anghyfreithlon gwerthu toddyddion i blant a phobl ifanc os yw’r gwerthwr yn ymwybodol eu bod yn bwriadu eu camddefnyddio. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwerthu tanwyr sigaréts nwy bwtan i unrhyw un dan 18 mewn unrhyw amgylchiadau.

Am wybodaeth ynglyn ag arogli glud a mathau eraill o gamddefnyddio toddyddion, gweler y pennawd arogli glud a mathau eraill o gamddefnyddio toddyddion yn Pobl ifainc: iechyd a phersonol.

Anifeiliaid anwes

Nid oes terfyn oedran is ar gyfer bod yn berchen ar anifail anwes. Ond, os ydych yn iau nag 16 mlwydd oed ni fedrwch brynu anifail anwes heb fod rhiant yn bresennol.

Nôl i’r Brig



Ffôn symudol

Os ydych yn iau na 18 mlwydd oed ni fedrwch gytuno i gytundeb misol ar gyfer ffôn symudol. Ond, cewch brynu ffôn symudol pay as you go gan nad yw’n gofyn am gytundeb.

Am wybodaeth ynglyn â ffonau symudol, gweler Ffonau symudol.

Nôl i’r Brig



Gwybodaeth bellach i bobl ifanc

Gwybodaeth bellach ynghylch arian

Mae Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA) wedi lansio gwefan ynghylch materion ariannol, yn arbennig ar gyfer oedolion ifanc. Dyma'r wefan: (New window) www.whataboutmoney.info.

Mae Thesite.org yn wefan arall sydd wedi’i anelu at oedolion ifanc ac sydd â gwybodaeth ynghylch arian. Mae hyn yn cynnwys sut i reoli eich arian, credyd a dyledion, gamblo, arian myfyrwyr a dewis banc. Rhowch glic ar: (New window) www.thesite.org.

Hawliau eraill

Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifainc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynghylch cyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynghylch tai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynghylch materion iechyd a phersonol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynghylch y gyfraith a phobl ifainc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a thrafnidiaeth.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ