Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 20 af 2010

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

Cyflenwad dwr

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Cael cyflenwad dwr

Mae dwr yn cael ei ddarparu drwy nifer o gwmnïau dwr preifat. Fel cwsmer domestig sy’n byw mewn eiddo, mae gennych yr hawl i gyflenwad dwr.

Ni chodir tâl am gymryd cyflenwad dwr sydd eisoes yn bodoli.

Os oes angen cysylltu cyflenwad dwr gydag eiddo, mae gan y cwmni dwr bob hawl i godi tâl am y cysylltiad. Bydd y taliadau yma’n cael eu gosod yng nghynllun tâl y cwmni, Os ydych yn dymuno cael mwy o fanylion am gynllun taliadau eich cwmni cyflenwi, dylech gysylltu â’r cwmni.

Nôl i’r brig



Cyflenwad dwr

Mae'n rhaid i gyflenwd dwr at ddibenion domestig fod:-

  • yn gyson. Os yw’n ofynnol fod y cwmni’n torri ar draws cyflenwad dwr, mae'n rhaid rhoi rhybudd rhesymol
  • yn ddiogel i’w yfed. Mae’n bosib y caiff Fflworid ei ychwanegu mewn rhai ardaloedd
  • yn cael ei ddarparu ar bwysedd addas
  • yn ddigonol ar gyfer pwrpasau domestig cyffredinol. Oes oes prinder dwr difrifol yn yr ardal, gall y cwmni wahardd y defnydd o bibellau dwr yn yr ardal er mwyn atal dyfrhau gerddi preifat neu olchi ceir preifat.

Nôl i’r brig



Cyfrifo costau dwr

Mae yna sawl ffordd gwahanol o gyfrifo costau dwr. Gall cwmni dwr ddefnyddio mwy nag un o’r ffyrdd yma.

Dyma'r dulliau o godi tâl:-

  • tâl na fesurwyd yn seiliedig ar werth trethadwy yr eiddo. Caiff cost y cyflenwad ei gyfrifo fel swm (mewn ceiniogau) ar gyfer pob punt o’r gwerth trethadwy. Bydd y swm yma yn amrywio o gwmni i gwmni; neu
  • tâl na fesurwyd yn seiliedig ar dâl cyfradd sefydlog. Bydd rhai cwmnïau dwr yn codi tâl cyfradd sefydlog ar bob un sydd heb fesurydd dwr, heb ystyried faint o ddwr y maent yn ei ddefnyddio neu’r math o eiddo y maent yn byw ynddo; neu
  • codi tâl na fesurwyd yn seiliedig ar fandiau. Mae rhai cwmnïau yn gweithredu system fandiau. Bydd y cwmni’n asesu'r costau dwr yn seiliedig ar, er enghraifft, faint yr eiddo a nifer y preswylwyr yn y ty; neu
  • tâl wedi ei fesur (gan ddefnyddio mesurydd dwr) yn seiliedig ar gyfaint y dwr, fel arfer mewn metrau ciwbig, a ddefnyddiwyd ar gyfradd a gymeradwywyd gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Gwasanaethau Dwr (OFWAT).

Mae’n bosib y gallwch ddewis pa ddull a ddefnyddir. Bydd y dewis fel arfer rhwng mesurydd dwr a dull arall o godi tâl.

O’r 1af o Ebrill 2000, bydd pobl sydd eisoes yn derbyn eu cyflenwad dwr ar sail di-fesur at ddibenion cyffredinol, yn gallu barhau i dalu am eu dwr yn y ffordd yma yn hytrach na gorfod newid at dâl fesuredig drwy fesurydd dwr.

Mae’n bosib y byddwch am wneud cais i osod mesurydd dwr:-

  • os mai ychydig iawn o ddwr fyddwch chi'n ei ddefnyddio
  • os oes gan yr eiddo werth trethadwy uchel iawn
  • os ydych am gael mwy o reolaeth ar faint o ddwr fyddwch chi'n talu amdano.

Er hyn, dyma rai anfanteision posib o gael mesurydd dwr:-

  • Anghyfleustra darllen y mesurdd
  • rhaid talu am ddwr sy'n gollwng wedi gosod y mesurydd. Er hyn, bydd pob cwmni yn gweithredu côd ymarfer ar ollyngiadau dwr ar gyfer pobl sydd â mesuryddion dwr. Gall y côdau yma warchod cwsmeriaid rhag colled i raddau
  • yr ansicrwydd o faint fydd y bil blynyddol.

Gall pob cwsmer sy’n byw mewn ty ddewis cael mesurydd dwr wedi ei osod yn eu cartref yn rhad ac am ddim, oni bai y byddai yn anymarferol neu’n afresymol o ddrud i osod mesurydd dwr. Fel arfer, bydd modd i chi newid yn ôl i’ch hen ddull tâl, cyn belled a’ch bod yn gwneud hynny o fewn 12 mis i ddechrau’r cyfnod tâl mesuredig.

Mae gan gwmnïau hawl i osod mesuryddion dwr mewn ardaloedd sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd lle mae dwr yn brin, neu lle mae pobl yn defnyddio llawer o ddwr at ddibenion sydd ddim yn anghenrheidiol, er enghraifft

  • defnyddio system daenu i ddyfrhau’r ardd
  • ail-lenwi pwll neu bwll nofio â chyfaint o 10,000 litr neu fwy
  • defnyddio 'cawod bwer'
  • llenwi bath sy'n dal mwy na 230 litr.

Nôl i’r brig



Biliau dwr

Mae’n bosib y bydd eich bil dwr yn cynnwys y canlynol:-

  • Tâl sefydlog
  • tâl am ddwr, yn seiliedig ar ddarlleniad mesurydd dwr neu ddull arall o godi tâl
  • tâl am garthffosiaeth. Os darperir eich gwasanaeth carffosiaeth gan gan gwmni gwahanol, mae'n bosib y byddwch yn derbyn bil gwahanol am symud carthffosiaeth.

Fel arfer, caiff biliau eu hanfon unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, yn dibynnu ar arfer y cwmni. Os bydd y tâl a godir ar ddwr ar sail anfesuredig, bydd y bil am y cyfnod bilio sydd i ddod. Os bydd y dâl a godir am ddwr yn fesuredig, bydd y bil am y cyfnod bilio sydd newydd fod.

Os ydych yn talu arian i landlord neu berchennog safle cartrefi symudol am ddŵr neu garthffosiaeth, mae yna reolau arbennig ynghylch y swm y gellir ei godi arnoch. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (OFWAT) – gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Help gyda biliau dwr

Mae'n bosib y gall rhai pobl dderbyn help gyda'u costau dwr, er enghraifft, pobl sydd â mesuryddion dwr sy'n defnyddio cyfaint uchel oherwydd rhai cyflyrrau meddygol, neu oherwydd bod ganddynt 3 neu fwy o blant o dan 16 oed a'u bod yn derbyn budd-dâl sy'n eu gwneud yn gymwys. Mae'n bosib y byddant ar eu hennill o gael bil a gyfrifir fel cost cyfartalog ar gyfer cwsmeriaid domestig y cwmni hwnnw yn hytrach na'r cyfaint mesuredig o ddwr a ddefnyddiwyd.

Mae gan bob cwmni ddarpariaeth yn ei lle er mwyn helpu pobl sy'n cael trafferth talu biliau, er enghraifft. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglyn â'r gwahanol fathau o help sydd ar gael, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig gwybodaeth drwy'r e-bost, ciciwch ar (New window) CAB agosaf.

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil

Preswyliwr y ty sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu'r costau dwr. Os bydd rhywun yn rhannu'r annedd, yna caiff y cyfrifoldeb ei rannu hefyd, hyd yn oed os yw'r bil mewn un enw'n unig. Bydd preswyliwr sy'n aros yn y cartref yn cael yn gyfrifol am gostau presennol ac unrhyw ôl-ddyledion sy'n sefyll wedi i'r person arall yr oedd yn rhannu'r cartref ag ef/hi adael (er enghraifft, os bydd partneriaid wedi gwahanu). Mae'n bosib y bydd y cwmni yn ceisio ad-ennill unrhyw arian a oedd yn ddyledus iddynt gan y person a adawodd yr annedd.

Nôl i’r brig



Ôl-ddyledion dwr

Ni all cwmnïau dwr ddatgysylltu cyflenwad dwr cwsmer domestig oherwydd ôl-ddyledion am ddwr. Byddai'n rhaid i'r cwmni dwr gymryd camau drwy'r llys sirol ar gyfer dyled.

Os oes gennych ôl-ddyledion dwr, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi gwybodaeth drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Trefniadau i dalu'r ôl- ddyledion

Bydd yn rhaid i chi dalu am eich defnydd dwr presennol ynghyd â swm rhesymol tuag at yr ôl-ddyledion. Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn medru gwneud didyniadau trydydd person o'ch budd-dâl ar gyfer dwr.

Mae rhai cyflenwyr dŵr wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid i'w helpu i dalu am ddyledion dŵr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r cwmni sy'n cyflenwi'ch dŵr a holwch am y cynlluniau sydd ar gael.

Nôl i’r brig



Iawndal oddi wrth y cwmni dwr

Mae gan bob cwmni rai safonau gwasanaeth a reolir gan y Cynllun Gwarantu Safonau Statudol. Mae'n orfodol bod y cwmnïau'n cydymffurfio â'r cynllun hwn. Mae'r safonau yma'n ymwneud â:

  • Chadw apwyntiadau
  • ymateb i ymholiadau ynglyn â chyfrif
  • ymateb i gwynion
  • toriadau yn y cyflenwad
  • pwysedd dwr
  • gosod mesuryddion
  • gorlifiad carthffosiaeth.

Os na all cwmni gwrdd â safon gwasanaeth arbennig, gallwch hawlio £20 o iawndal. Os bydd pwysedd y dwr yn is na'r lefel digonol ddwywaith mewn 28 niwrnod, gallwch hawlio £25. Fel arfer, bydd iawndal yn cael ei dalu/ ei gredydu gan y cwmni 'n awtomatig. Os yw'r gwyn yn ymwneud â thorri ar y cyflenwad, pwysedd isel y cyflenwad dwr neu orlifiad carthffosiaeth, rhaid i chi hawlio iawndâl yn ysgrifenedig o fewn tri mis i'r digwyddiad.

Ynghyd â safonau gwasanaeth a lefelau isafswm iawndaliadau angenrheidiol sy'n ddisgwyliedig gan bob cwmni, mae'n bosib y bydd rhai cwmnïau yn gweithredu eu safonau uwch a/ neu lefelau iawndaliadau eu hunain.

Nôl i’r brig



Cwynion

Os oes cwyn gennych am eich cwmni dwr, dylech fynd ar drywydd y gwyn gyda'r cwmni i ddechrau. Mae gan bob cwmni weithdrefn gwyno ac mae gan rai ohonynt swyddogion cwyno i ddelio gyda chwynion.

Os nad ydych yn fodlon ar ôl cwyno i'r cwmni dwr, fe fyddwch yn medru cwyno i'r Cyngor Defnyddwyr Dwr.

Y Cyngor Defnyddwyr Dwr

Mae'r Cyngor Defnyddwyr Dwr (CCWater) yn fudiad annibynnol sy'n medru ymchwilio i gwynion am y cwmniau dwr. I gysylltu â CCWater, ffoniwch nhw ar: 0845 039 2837, neu ewch at eu gwefan: (New window) www.ccwater.org.uk.

Os yw CCwater yn teimlo bod eich cwyn wedi'i chyfiawnhau, fe fyddan nhw'n gofyn i'ch cwmni dwr i unioni'r mater. Fe fydd swyddfa CCWater yn eich diweddaru chi ar gynnydd y gwyn ac yn ysgrifennu i ddweud wrthych beth yw'r canlyniad.

Os nad yw CCWater yn medru datrys y gwyn, fe fydd yn ei chyfeirio at OFWAT. Neu, os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae CCWater wedi delio gyda'ch cwyn, rydych chi'n medru cwyno i OFWAT eich hun. Fe fydd OFWAT ond yn mynd ar drywydd y mater os yw'n teimlo nad yw CCWater wedi delio gyda'ch cwyn yn iawn.

Office of Water Services (OFWAT)

OFWAT yw'r gwylgi annivynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i fonitro a rheoleiddio gweithgareddau'r cwmnïau dwr. Rydych chi'n medru cysylltu ag OFWAt yn:

OFWAT
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham B5 4UA
Ffôn: 0121 625 1300
Ffôn testun: 0121 625 1422
Ebost: enquiries@ofwat.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.ofwat.gov.uk

Arolygiaeth Dwr Yfed (Drinking Water Inspectorate)

Mae'r Arolygiaeth Dwr Yfed yn monitro ansawdd y dwr. Os ydych yn anhapus gydag ansawdd y cyflenwad dwr, gallwch anfon cwyn at y Pwyllgor Gwasanaethau Cwsmer Rhanbarthol  (gweler uchod) neu at Arolygiaeth Dwr Yfed. Rydych chi'n medru cysylltu â'r Arolygiaeth Dwr Yfed yn:

55, Whitehall
London
SW1A 2EY
Ffôn: 020 7270 3370
Ffacs: 020 7082 8028
Ebost: dwi.enquiries@defra.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.dwi.gov.uk

Nôl i’r brig