Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae yna sawl math o bensiwn a allai fod ar gael i chi. Maent yn cynnwys:-
Os ydych yn dymuno cael cyngor ynglyn â pha fath o bensiwn i ddewis dylech gysylltu â chyngorydd ariannol annibynnol neu un o’r cymdeithasau a restrwyd ar ddiwedd yr eitem yma.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut mae cael cyngor ariannol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori, I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pensiwn cyfradd unffurf yw pensiwn ymddeoliad sylfaenol y wladwriaeth a delir i unrhyw un sydd wedi talu digon o gyfraniadau neu gredydau yswiriant gwladol pan fyddant yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Ar hyn o bryd, mae oed pensiwn yn 60 mlwydd oed i ferched a 65 mlwydd oed i ddynion.Fe fydd oed pensiwn y wladwriaeth yn newid o 6 Ebrill 2010 oherwydd mae’r gwahaniaeth rhwng oed dynion a menywod yn cael ei hafalu’n raddol ac mae’r oed ymddeol i ddynion a menywod yn codi’n raddol.
Os ydych am wybod pryd fyddwch chi’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, mae yna gyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk. Fe fydd pensiwn ymddeol sylfaenol y wladwriaeth ond yn cael ei dalu’n llawn os ydych wedi talu cyfraniadau llawn yn ystod y rhan fwyaf o’ch bywyd gwaith, neu os yw’r cyfraniadau hyn wedi cael eu credydu i chi.
Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau i dderbyn pensiwn eich efallai y byddwch yn medru cael pensiwn yn seiliedig ar gyfraniadau eich cymar neu bartner sifil.
Am fwy o wybodaeth, gweler Pensiwn ymddeoliad yn Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Yr enw arall ar bensiwn ychwanegol yw ail gynllun pensiwn y wladwriaeth ac roedden nhw’n arfer ei alw’n ‘SERPS’ (State Earnings Related Pension). Mae'n rhaid i bob gweithiwr gyfrannu tuag at bensiwn ychwanegol onid ydynt yn gwneud trefniadau eraill trwy gyfannu at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol sy'n cael ei gontractio allan o bensiwn ychwanegol. Telir pensiwn ychwanegol ar ben pensiwn sylfaenol y wladwriaeth.
O 6 Ebrill 2002, os ydych yn gweithio ac heb hawlio Pensiwn Ymddeol y wladwriaeth, rydych yn casglu pensiwn ychwanegol o dan gynllun a elwir yn ail bensiwn y wladwriaeth (S2P). O 1978 i 2002 roedd pensiwn ychwanegol yn cael ei gronni o dan SERPS.
Ond, os ydych, neu os oeddech, wedi eich 'contractio allan' o gynllun pensiwn ychwanegol y wladwriaeth ac yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, pensiwn budd-ddaliwr neu bensiwn personol, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn ychwanegol ar gyfer y cyfnod yr ydych wedi'ch contraction allan.
O Ebrill 6 2002, bydd cynhalwyr neu bobl anabl hir dymor yn medru cronni hawl wrth bensiwn ychwanegol er nad ydynt yn cael eu cyflogi.
Os cawsoch eich contractio allan o ail bensiwn y wladwriaeth (S2P), efallai y byddwch am sicrhau eich bod wedi gwneud y penderfyniad iawn. Mae rhai pobl hŷn yn debygol o fod ar eu colled yn ariannol trwy gontractio allan. I ddarganfod mwy am gontractio allan o S2P, gweler y daflen a gynhyrchwyd gan gwylgi ariannol y Llywodraeth, Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA): The State Second Pension – should you be contracted out?
Mae nifer fach iawn o bobl sy'n hŷn nag oed penodol, wedi cael cyngor anghywir i optio allan o SERPS rhwng Gorffennaf 1988 ac Ebrill 1997. Os ydych yn y grŵp yma o bobl, efallai bod hawl gennych i iawndal. I ddarganfod mwy, gweler taflen yr FSA: The State Second Pension – were you wrongly advised to opt out?
Os ydych wedi talu cyfraniadau graddedig arbennig ar enillion rhwng 1961 a 1975, efallai y bydd hawl gennych i bensiwn graddedig (a elwir hefyd yn fudd-dâl ymddeol graddedig). Fe fyddwch yn medru cael hwn hyd yn oed os nad oes hawl gennych i unrhyw Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth sylfaenol. Ond, mae symiau pensiwn graddedig yn fach, ac felly mae’n bosib y cewch un taliad yn unig yn lle taliadau wythnosol.
Os nad ydych yn hawlio Pensiwn Ymddeol yn 60 neu’n 65, fe fyddwch yn ennill mwy o bensiwn. Os ydych eisoes wedi hawlio eich pensiwn, rydych yn medru canslo’r cais er mwyn ennill mwy o bensiwn yn nes ymlaen, ond dim ond unwaith fyddwch chi’n medru gwneud hyn.
Telir llog ar y pensiwn nad ydych yn ei hawlio fel eich bod yn cael mwy o arian pan fyddwch chi’n hawlio yn nes ymlaen. Telir hwn naill ai fel mwy o swm wythnosol o Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, neu mae’n bosib i chi gael swm un taliad ar ben eich pensiwn wythnosol arferol. Gelwir y broses o hawlio eich Pensiwn Ymddeol yn ‘gohirio eich pensiwn’.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch gohirio eich pensiwn ar gael ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn yn www.thepensionservice.gov.uk neu dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Y cyflogwr sy'n gwneud cynlluniau pensiwn galwedigaethol i ddarparu penisynau a budd-daliadau yswiriant bywyd ar gyfer gweithwyr, er enghraifft, swm un taliad di-dreth os ydynt yn marw cyn oed pensiwn ar gyfer eu dibynydd(ion). O’r 6 o Ebrill 2001, mae’n bosib y bydd rhai cyflogwyr yn sefydlu cynlluniau pensiwn budd-ddaliwr. Bydd y fath gynlluniau yn ddarostyngedig i’r un amodau a chynlluniau galwedigaethol ag eraill, yn ogystal â’r amodau cyffredinol ar gyfer cynlluniau pensiwn budd-ddalwyr (gweler y pennawd Mathau o bensiwn).
Mae yna ddau brif fath o gynllun pensiwn galwedigaethol:-
Fel gweithiwr mae gennych yr hawl i adael, neu wrthod ymuno, â chynllun pensiwn galwedigaethol. Os ydych yn ystyried gadael cynllun pensiwn galwedigaethol, dylech ystyried y goblygiadau yn ofalus iawn, oherwydd mae cynllun pensiwn galwedigaethol fel arfer yn llawer mwy manteisiol na chynllun pensiwn personol. Yn ogystal, mae’n bosib y bydd cynllun pensiwn galwedigaethol yn amharod i adael i chi ddychwelyd i’r cynllun wedi i chi adael i gychwyn pensiwn personol. Os byddwch yn penderfynu gadael, neu’n gwrthod ymuno, â chynllun pensiwn galwedigaethol, yna bydd yn rhaid i chi gyfrannu at bensiwn ychwanegol neu bensiwn personol.
Os ydych yn ystyried gadael cynllun pensiwn personol, dylech ystyried cael cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud hynny. Mae yna wybodaeth ar sut i gael cyngor ariannol annibynnol ar dudalen pensiynau gwefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Mae’n bosib y caiff y cynllun pensiwn galwedigaethol ei grebachu allan o’r pensiwn ychwanegol, sy’n golygu na fyddwch yn talu cyfraniadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a byddwch ond yn gymwys i dderbyn pensiwn ymddeoliad sylfaenol y wladwriaeth yn ogystal â phensiwn galwedigaethol ar eich ymddeoliad. Os nad yw’r cynllun yn cael ei grebachu allan o’r pensiwn ychwanegol byddwch yn parhau i dalu tuag at bensiwn ychwanegol a byddwch yn gymwys i dderbyn pensiwn ymddeoliad sylfaenol yn ogystal â phensiwn galwedigaethol ar eich ymddeoliad - – gweler y pennawd Pensiwn ymddeol y wladwriaeth.
Sefydlwyd y Gronfa Diogelu Pensiynau i helpu os yw'ch cyflogwr wedi mynd allan o fusnes ac nid yw ei gynllun pensiwn yn medru fforddio talu eich pensiwn mwyach.
Os ydych yn y sefyllfa yma, mae mwy o wybodaeth ar wefan y Gronfa Diogelu Pensiynau yn: www.ppf.gov.uk.
Gallwch gymryd pensiwn personol (gan gynnwys pensiwn budd-ddaliwr (gweler y pennawd Mathau o bensiwn) p'un ai eich bod yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig. Gallwch hefyd gymryd pensiwn personol (gan gynnwys pensiwn budd-ddaliwr) os ydych yn ddiwaith.
I gymryd pensiwn personol, mae'n rhaid eich bod rhwng 18 a 75. Gallwch hefyd gymryd pensiwn budd-ddaliwr ar ran plentyn.
Os ydych yn weithiwr sy'n aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, efallai y gallwch gymryd pensiwn personol hefyd. O Ebrill 2006, fe fyddwch yn medru cynilo cymaint â fynnwch mewn unrhyw nifer o gynlluniau pensiwn. Mae hyn yn wir gyda chynlluniau personol a galwedigaethol. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar gyfer cyfanswm y cynilion pensiwn y medrwch eu hadeiladu, ond mae yna derfyn ar y gostyngiad treth y byddwch yn ei gael.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gael cyngor ariannol annibynnol ar bensiynau personol a galwedigaethol, ewch at dudalen bensiynau gwefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.
Bydd cynllun pensiwn personol yn darparu un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol:-
Gellir contractio cynllun pensiwn personol allan o bensiwn ychwanegol. Mae hyn yn golygu nad ydych yn talu cyfraniadau i mewn i bensiwn ychwanegol ac na fyddwch yn derbyn ychwanegiad i'ch pensiwn ymddeol gwladol syflaenol (gweler y pennawd Mathau o bensiwn) onid ydych â hawl i bensiwn ychwanegol gan gyflogwr arall. Os caiff y cynllun pensiwn ei gontractio allan o bensiwn ychwanegol, bydd CATHEM yn gwneud cyfraniadau i mewn i'r cynllun.
Os na chaiff y pensiwn ei gontractio allan o bensiwn ychwanegol, byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau i mewn i bensiwn ychwanegol a bydd hawl gennych i ychwanegiad i'ch pensiwn ymddeol gwladol sylfaenol yn ychwanegol at eich pensiwn personol.
Mae pensiwn budd-ddaliwr yn bensiwn cost isel sy'n gorfod cwrdd ag amodau a safonau penodol, er enghraifft, ni all darparwr y pensiwn godi mwy nag 1% o werth cronfa'r unigolyn bob blwyddyn am weinyddu'r pensiwn. Bydd hefyd yn gorfod cwrdd â'r un amodau â'r pensiynau personol (gweler isod).
I rai pobl, gall pensiwn budd-ddaliwr fod yn well opsiwn na phensiynau personol eraill. Mae pensiynau budd-ddaliwr yn cynnig mwy o hyblygrwydd na phensiynau personol, er enghraifft, gallwch stopio talu i mewn i'r cynllun heb orfod talu cosb ac ail-ddechrau yn ôl eich dymuniad. Gallwch hefyd amrywio dyddiad a swm eich taliadau i mewn i'r cynllun.
Mae pensiynau budd-ddaliwr ar gael gan ddarparwyr pensiwn personol, er enghraifft, cwmnïau yswiriant, banciau, cymdeithasau adeiladu. Gall mudiadau eraill hefyd, er enghraifft, undebau llafur a'r Swyddfa Bost, gynnig cynlluniau pensiwn budd-ddaliwr i'w haelodau. Os ydych yn gyflogedig, efallai y byddwch yn medru cael pensiwn budd-ddaliwr drwy eich cyflogwr. Gallwch hefyd ddewis ymuno â chynllun pensiwn budd-ddaliwr gwahanol i'r un a gynigir gan eich cyflogwr.
Fel cyflogwr ni fyddwch yn medru ymuno â chynllun pensiwn budd-ddaliwr a gynigir gan eich cyflogwr os:-
Mae'n rhaid i gyflogwr gynnig cynllun pensiwn budd-ddaliwr i'w weithwyr onid yw'r cyflogwr:-
Mae TPAS yn darparu gwasanaeth cynghori ar bensiynau personol a galwedigaethol. Darperir y gwasanaeth trwy rywdwaith o gynghorwyr proffesiynol gwirfoddol. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac yn gyfrinachol. Mae TPAS yn medru:-
Mae TPAS hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch pensiynau budd-ddaliwr, gan gynnwys cwestiynau ynghylch y coed penderfynu a gynhyrchir gan y Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol - gweler isod.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol (buddsoddi), er enghraifft, pa ddarparydd pensiwn personol sy'n darparu'r opsiwn orau. Os ydych angen y cymorth cyfreithiol yma, bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd ariannol annibynnol.
Gellir cael gwybodateh bellach ar TPAS oddi ar:-
11 Belgrave Road
London
SW1V 1RB
Llinell gymorth: 0845 601 2923 cyfradd lleol
Gwefan: enquiries@pensionsadvisoryservice.org.uk
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Gwefan budd-ddalwyr: www.stakeholderhelpline.org.uk
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio'r diwydiant gwasanaethau ariannol yn y DU. Hefyd mae’n darparu gwybodaeth a chyngor sylfaenol am amrywiaeth o wasanaethau ariannol, gan gynnwys pensiynau. Ar wefan yr FSA ceir canllawiau i’ch helpu i ddarganfod os yw pensiwn budd-ddaliwr yn addas i chi. Hefyd gallwch gael gwybodaeth ar faint sydd angen i chi gynilo er mwyn cael yr incwm ymddeoliad yr ydych yn ei ddymuno, drwy ddefnyddio eu cyfrifiannell incwm ymddeoliad ar www.pensioncalculator.org.uk.
Gellir cysylltu â'r FSA yn:-
Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London
E14 5HS
Rhif ffôn: 020 7066 1000
Ffacs: 020 7676 7066 1099
Llinell gymorth ymholiadau gan y cyhoedd a llinell taflenni: 0845 606 1234 cyfradd lleol
Ebost: consumerhelp@fsa.gov.uk
Gwefan: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk