Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 16 af 2010

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

Trwyddedau a mathau eraill o ganiatâd swyddogol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Canolfannau gweithgaredd ar gyfer pobl ifanc

Mae angen trwydded i redeg canolfan sy'n darparu'r gweithgareddau canlynol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n iau na 18:-

  • Archwilio ogofau
  • Dringo (gan gynnwys abseilio a sgramblo, heblaw am strwythurau sydd wedi'u cynllunio at y diben yma)
  • Trecio (gan gynnwys cerdded, trecio ceffylau, beicio mynydd, a sgïo oddi ar y pïst)
  • Chwaraeon dwr.

Mae trwyddedau'n cael eu rhyddhau gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (Adventure Activities Licensing Authority), 17 Lambourne Crescent, Llanisien, Caerdydd CF4 5GS. Ffôn: 029 2075 5715.  Gwefan: (New window) www.aala.org.uk.

Nôl i’r brig



Alcohol (gwerthiant)

Mae cymdeithasau nad ydynt yn gweithredu er budd preifat (er enghraifft, elusennau neu undebau llafur) yn gallu cyflwyno cais am hysbysiad digwyddiad dros dro ar gyfer digwyddiad "unwaith yn unig" lle gwerthir alcohol. Dylech gyflwyno cais i'r awdurdod lleol.

Nôl i’r brig



Radio amatur

Mae'n rhaid cael trwydded radio amatur gan y Radio Licensing Centre, PO Box 885, Bristol BS99 5LF. Ffôn: 0117 925 8333, gwefan: (New window) www.radiolicencecentre.co.uk. Mae'n rhaid gwneud cwrs hyfforddi ymarferol a/neu arholiad  cyn y caiff y drwydded ei chyhoeddi. Mae yna wahanol fathau o drwyddedau amatur. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â , sy'n caniatáu mynediad at wahanol fandiau tonfedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: Ofcom, Amateur and Citizens Band Radio Licensing, 02-130 Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, London SE1 9HA, gwefan: (New window) www.ofcom.org.uk.

Nôl i’r brig



Peiriannau hapchwarae

Gweler Gamblo.

Nôl i’r brig



Anifeiliaid

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol ar unigolion sydd am gadw mathau penodol o anifeiliaid gwyllt peryglus yn y cartref.

Nôl i’r brig



Arbenigwyr ar harddwch

Mewn rhai ardaloedd, fe fydd rhaid i chi gofrestru gydag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol os ydych yn cynnig mathau penodol o driniaeth harddwch.

Nôl i’r brig



Clybiau bingo

Gweler Gamblo.

Nôl i’r brig



Enwau cwmni

Os ydych am wybod a ydyw cwmni cyfyngedig yng Nghymru neu Lloegr eisoes yn defnyddio enw penodol, gallwch gysylltu â Swyddfa Cofrestru Cwmnïau (Company Registration Office) (gweler y pennawd Cwmnïau ar gyfer y cyfeiriad).

Nôl i’r brig



Safleoedd carafán

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol (adran iechyd yr amgylchedd) er mwyn gweithredu safle carafán. Mae angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol cyn rhyddhau trwydded.

Nôl i’r brig



Gwerthu cefn car

Efallai y bydd angen trwydded masnachu stryd gan yr awdurdod lleol neu ganiatâd cynllunio er mwyn cynnal gwerthiant mewn man cyhoeddus a/neu yn rheolaidd.

Nôl i’r brig



Methrinfeydd plant a gwarchod plant

Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n gofalu am blant gartref, ynghyd ag unrhyw un sy'n gweithredu meithrinfa i blant neu gyfleusterau gofal dydd eraill, gofrestru gyda Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted) yn Lloegr neu, yng Nghymru, gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ofsted ar 08456 404 045 neu CSSIW ar 01443 848450.

Nôl i’r brig



Radio band dinesydd

Mae'n rhaid cael awdurdodaeth trwydded flynyddol cyn gosod a defnyddio pob derbynnydd radio band dinesydd a gellir cael trwydded gan Ganolfan Trwyddedu Radio (Radio Licensing Centre) (gweler y pennawd Radio amatur ar gyfer cyfeiriad y Ganolfan).

Nôl i’r brig



Partneriaethau sifil

Cyn y gellir cofrestru partneriaeth sifil, rhaid i’r ddau berson roi rhybudd mewn swyddfa gofrestru yn ardal yr awdurdod lleol ble maen nhw’n byw.

Am fwy o wybodaeth, gweler Cofrestru partneriaeth sifil.

Nôl i’r brig



Cwmnïau

Gellir cael gwybodaeth ynghylch sut i gofrestru unrhyw gwmni newydd gan Swyddfa Cofrestru Cwmnïau, Ty'r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Maendy, Caerdydd, CF14 3UZ.  Ffôn: 08703 333636.  Website: (New window) www.companieshouse.gov.uk.

Nôl i’r brig



Busnesau credyd defnyddwyr

Mae angen trwydded gan y Swyddfa Masnachu Teg i weithredu sawl math o fusnesau sy'n ymwneud â chredyd defnyddwyr, gan gynnwys busnes credyd defnyddwyr, busnes hurio defnyddwyr, broceriaeth gredyd, gwystlaeth, cwnselaeth dyled, a chasglu dyledion. Cyfeiriad y Swyddfa yw Fleetbank House, 2-6 Salisbury Square, London EC4Y 8JX. Ffôn: 08457 224499. Gwefan: (New window) www.oft.gov.uk.

Nôl i’r brig



Casglwyr dyledion

Mae gofyn i gasglwyr dyledion gael trwydded gan y Swyddfa Masnachu Teg (gweler y pennawd Busnesau credyd defnyddwyr am fanylion).

Nôl i’r brig



Bridwyr cwn

Mae bridiwr cwn yn unrhyw berson sy'n cadw mwy na dwy ast i fridio. Mae arni /arno angen trwydded gan yr awdurdod lleol.

Nôl i’r brig



Trwyddedau gyrru

Mae angen trwydded yrru i yrru'r mwyafrif o gerbydau ar y ffordd gyhoeddus. Mae trwyddedau yn cael eu rhyddhau gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA). Cyfeiriad yr Asiantaeth yw Uned Ymholiadau Cwsmeriaid (Gyrwyr), Abertawe SA6 7JL. Ffôn: 0870 240 0009. Mae ffurflenni cais ar gael gan y DVLA ac o'r mwyafrif o swyddfeydd post.

Am fwy o wybodaeth, gweler Trwyddedau gyrru.

Nôl i’r brig



Hyfforddwyr gyrru

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n rhoi hyfforddiant proffesiynol ar gyfer gyrru car am dâl fod wedi cofrestru fel Hyfforddydd Gyrru sydd wedi' Gymeradwyo neu ddal trwydded hyfforddedig i roi cyfarwyddyd. Mae gwybodaeth bellach a phecynnau cychwyn a gwybodaeth ar gyfer hyfforddwyr gyrru ar gael gan Driving Standards Agency, Stanley House, 56 Talbot Street, Nottingham, NG1 5GU. Ffôn: 0115 901 2500.

Nôl i’r brig



Adloniant cyhoeddus

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i gynnal unrhyw adloniant cyhoeddus, gan gynnwys cerddoriaeth, dawnsio, paffio neu restlo, waeth os oes tâl mynediad ai peidio. Efallai fod rhai digwyddiadau penodol yn rhydd o'r angen am drwydded. Mae trwyddedu adloniant cyhoeddus yn Llundain yn ddarostyngedig i reolau statudol ar wahân. Ar Ddydd Sul, ni ellir codi tâl mynediad i ddawns gyhoeddus.

Nôl i’r brig



Dangosiadau ffilm a fideo

Gyda rhai eithriadau, ni ellir defnyddio lleoliadau i ddangos ffilmiau a fideos yn gyhoeddus onid oes ganddynt drwydded gan yr awdurdod lleol. Mae yna eithriad ar gyfer lleoliadau a ddefnyddir lai na chwech diwrnod yr wythnos ac ar gyfer dangosiadau a gynhelir gan fudiadau anfasnachol, sy'n dod o dan dystysgrif eithriad.

Nôl i’r brig



Arfau tân a ffrwydron

Yn y mwyafrif o achosion, mae'n rhaid i unrhyw un sydd am feddiannu, prynu neu gael arf tân (heblaw am ddryll aer) neu ffrwydron ddod o dan dystysgrif arfau tân a ddyrennir gan brif swyddog yr heddlu. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd yn delio mewn arfau tân neu ffrwydron hefyd wneud cais am dystysgrif.

Nôl i’r brig



Tân gwyllt

Mae tân gwyllt yn cael eu hystyried fel ffrwydron. Mae yna reolau llym ynghylch pa dân gwyllt sy'n gallu cael ei werthu ac i bwy y gellir ei werthu. Mae'n rhaid i gyflenwyr sy'n storio tân gwyllt drwy'r flwyddyn gael trwydded. Dylech wneud cais i'ch awdurdod lleol, ac efallai y bydd angen iddyn nhw eich cyfeirio chi at y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch. Am fwy o wybodaeth, ewch at wefan CIaD yn (New window) www.hse.gov.uk/explosives/fireworks/index.htm.

Nôl i’r brig



Pysgota

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n hyn na deuddeg mlwydd oed ac sy'n dymuno pysgota am eog neu bysgod dwr croyw eraill, gan gynnwys brithyll neu lysywod, gael trwydded ffon bysgota a gyhoeddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Am fanylion pellach, ffoniwch 08701 662662. Mae trwyddedau hefyd ar gael o. swyddfeydd post ac ar-lein yn (New window) www.environment-agency.gov.uk/subjects/fish. Bydd angen caniatâd y perchennog tir i bysgota ar ddyfroedd sy'n eiddo preifat neu i groesi tir preifat. Yn aml, gellir prynu cardiau caniatâd sy'n rhoi'r awdurdodaeth angenrheidiol.

Nôl i’r brig



Peiriannau hapchwarae

Gweler Gamblo.

Nôl i’r brig



Digwyddiadau codi arian

Mae cyfraith codi arian yn gymhleth. Efallai y bydd angen trwydded neu ryw fath arall o ganiatâd ar gyfer rhai gweithgareddau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth y Comisiwn Elusennau ar 0870 333 0123.

Nôl i’r brig



Gamblo

Mae Gamblo'n cynnwys hapchwarae, betio, loterïau a rafflau. Mae'n cynnwys peiriannau hapchwarae, casinos, bingo a gamblo o bell, er enghraifft, ar y rhyngrwyd. Efallai y bydd busnes gamblo angen tri chategori o drwyddedau. Gelwir y rhain yn drwyddedau gweithredu, trwyddedau personol a thrwyddedau safle.

Mae'r Comisiwn Gamblo'n cyhoeddi trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl ynghylch cyfreithiau a pholisïau gamblo. Dyma'r manylion cyswllt:

Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham B2 4BP

Rhif Ffôn: 0121 230 6666
Ffacs: 0121 230 6720
E-bost: info@gambling commission.gov.uk
Gwefan: (New window) www.gamblingcommission.gov.uk

Mae'r awdurdod lleol yn cyhoeddi trwyddedau safle.

Nid yw loterïau a rafflau anfasnachol angen trwyddedau ond mae yna reolau ynghylch sut dyild eu cynnal.

Nôl i’r brig



Clybiau hapchwarae

Gweler Gamblo.

Nôl i’r brig



Drylliau

Gweler y pennawd Arfau tân a ffrwydron.

Nôl i’r brig



Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm

Mae angen trwydded i yrru cerbyd nwyddau trwm. Mae trwyddedau ar gael gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA). Mae ffurflenni ar gael gan y swyddfa bost. Mae'n rhaid i ymgeisydd fod yn 21 neu'n hyn onid ydyw wedi cofrestru o dan gynllun hyfforddiant a'i b/fod yn gyrru cerbyd sy'n eiddo i'w ch/gyflogwr neu sefydliad hyfforddiant, ac yn yr achos yma yr isafswm oed yw 18.

Nôl i’r brig



Casgliadau o ddrws i ddrws

Mae'n rhaid i gasgliadau o ddrws i ddrws gael eu hawdurdodi gan drwydded a geir gan yr awdurdod lleol neu Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitaidd, neu gan orchymyn eithriad a roddir gan y Swyddfa Gartref ar gyfer casgliad cenedlaethol, neu gan dystysgrif eithriad a roddir gan brif swyddog yr heddlu ar gyfer rhai casgliadau lleol.

Nôl i’r brig



Hela a gwerthu helfilod

Mae angen trwydded i ladd, cymryd neu werthu helfilod. Bydd angen caniatâd hefyd gan berchennog y tir neu unrhyw un arall sydd â hawliau hela dros y tir.

Nôl i’r brig



Hypnotiaeth

Mae'n rhaid i arddangosiadau hypnotiaeth ar gyfer adloniant y cyhoedd fod wedi'i drwyddedu gan yr awdurdod lleol.

Nôl i’r brig



Cytiau cadw cwn

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu cytiau cadw cwn preswyl ar gyfer cathod neu gwn, gan gynnwys cytiau cadw cwn a weithredir o gartref preifat.

Nôl i’r brig



Loterïau neu rafflau

Gweler Gamblo.

Nôl i’r brig



Masnachwyr marchnad

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol ar fasnachwyr marchnad yn y mwyafrif o ardaloedd.

Nôl i’r brig



Priodas

Cyn cynnal seremoni briodas sifil, mae'n rhaid i’r ddwy ochr hysbysu'r swyddfa gofrestru lleol, lle bydd y Cofrestrydd Arolygol yn awdurdodi'r briodas.

Am fwy o wybodaeth, gweler Priodi.

Nôl i’r brig



Canfyddion metel

Nid oes angen trwydded i ddefnyddio canfyddydd metel, ond mae angen caniatâd y perchennog tir i gael mynediad i dir, ei archwilio neu ei balu.

Am fwy o wybodaeth, gweler Cadw nwyddau sydd wedi eu colli, eu darganfod neu heb eu casglu.

Nôl i’r brig



Bysys mini

Os ydych yn yrrwr bws mini sy'n medru cludo wyth person neu fwy, efallai y bydd angen i chi gael hawl cerbyd cludo teithwyr (PCV) wedi'i ychwanegu at eich trwydded gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA). Efallai na fyddwch angen hyn os yw'r bws mini yn cael ei weithredu gan un o fudiadau anfasnachol penodol o dan drwydded a ryddheir gan gorff sydd wedi'i ddynodi, neu gan yr awdurdod lleol neu'r comisiynydd traffig rhanbarthol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gofynion o ran trwydded i yrru bws mini, ewch at wefan y DVLA (New window) www.dvla.gov.uk/drivers/drivers.htm.

Nôl i’r brig



Minicabs

Mewn ardaloedd tu allan i Lundain, fel arfer mae minicabs yn cael eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol. Yn Llundain, mae minicabs yn cael eu trwyddedu gan yr Heddlu Metropolitaidd yn y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus. Cyfeiriad y Swyddfa yw Public Carriage Office 15 Penton Street, London N1 9PU. Ffôn: 020 7941 4500.

Nôl i’r brig



Awyrennau model

Nid oes angen trwydded i ddefnyddio awyrennau model neu offer tebyg sydd wedi eu rheoli gan fodel, ond mae'n rhaid cydymffurfio â rhai amodau penodol i osgoi ymyrryd gyda defnyddwyr radio eraill.

Nôl i’r brig



Cwmnïau arbed ceir

Mae'n rhaid i gwmnïau arbed ceir gofrestru gyda'u hawdurdod lleol a chadw cofnod o bob cerbyd a werthwyd ac a dderbyniwyd.

Nôl i’r brig



Trwyddedau cerddoriaeth

Os ydych yn chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio yn gyhoeddus, hynny yw mewn unrhyw gyd-destun busnes, mae yna ofyniad cyfreithiol i chi gael Trwydded Cerddoriaeth gan y Gymdeithas Hawliau Perfformio (y PRS) a thrwydded PPL.

Fe fydd unrhyw sefydliad ble chwaraeir cerddoriaeth yn gyhoeddus, boed ar Gryno Ddisg, ar y radio, y teledu, ar systemau ffôn neu dros y rhyngrwyd, angen y ddwy drwydded hyn. Nid yw hyn wedi ei gyfyngu i safleoedd y mae gan aelodau’r cyhoedd fynediad atynt, fel tafarndai, siopau a champfeydd – mae hefyd yn berthnasol i swyddfeydd, ffatrïoedd a hyd yn oed ystafelloedd cefn siopau.

Hyd yn oed os ydych yn defnyddio'ch safle ar gyfer perfformiadau byw yn unig, fe fydd angen i chi gael trwydded gan y PRS ar gyfer Cerddoriaeth.

Fe fyddwch yn medru cael trwydded PRS ar gyfer Cerddoriaeth gan Performing Rights Society Limited (PRS) For Music. Cyfeiriad y PRS yw 29/33 Berners Street, London W1T 3AB. Rhif ffôn: 0800 068 4828, gwefan: (New window) www.prsformusic.com. Fe fyddwch yn medru cael trwydded PPL gan Phonographic Performance Limited (PPL). Cyfeiriad PPL yw 1 Upper James Street, London W1F 9DE. Rhif ffôn: 0207 7534 1000, gwefan:(New window) www.ppluk.com.

Nôl i’r brig



Caffis nos

Mae angen trwydded flynyddol gan yr awdurdod lleol ar gyfer unrhyw adeiladau (heb gynnwys y rheiny sy'n gweini alcohol) sydd ar agor ar gyfer lluniaeth cyhoeddus rhwng 10yh a 5yb. Mewn rhai rannau o Lundain, mae'r rheolau perthnasol rhwng 11yh a 5yb neu hanner nos hyd 5yb.

Nôl i’r brig



Cartrefi nyrsio a phreswyl

Yn Lloegr, mae’n rhaid i gartrefi nyrsio a phreswyl gofrestru gyda'r Comisiwn Safonau Gofal Cenedlaethol. Fe allwch gysylltu â nhw ar 020 7979 2000., neu ewch i’w gwefan (New window) www.csci.org.uk.

Yng Nghymru, mae’n rhaid i gartrefi nyrsio a phreswyl gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fe allwch gysylltu â nhw ar 01443 848450.

Nôl i’r brig



Gwystlwyr

Gweler y pennawd Busnesau credyd defnyddwyr.

Nôl i’r brig



Pedleriaid

Efallai fod angen i bedleriaid sy'n gwerthu o ddrws i ddrws gael tystysgrif flynyddol a geir gan brif swyddog yr heddlu yn rhanbarth yr ymgeisydd. Mae rhai masnachau, er enghraifft, gwerthu bwyd, yn rhydd o'r angen am drwydded.

Nôl i’r brig



Siopau anifeiliaid anwes

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol (adran iechyd yr amgylchedd) i agor siop anifeiliaid anwes. Dylid cyfeirio cwynion ynghylch sut mae anifeiliaid yn cael eu cadw at yr awdurdod trwyddedu neu at fudiad lles anifeiliaid, er enghraifft, yr RSPCA.

Nôl i’r brig



Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus

Mae angen trwydded gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA) i yrru cerbyd mawr sy'n cludo teithwyr.

Am fwy o wybodaeth, gweler Trwyddedau gyrru.

Nôl i’r brig



Stablau marchogaeth

Mae'n rhaid i fusnesau sy'n cadw ceffylau i'w hurio allan ar gyfer marchogaeth a/neu hyfforddiant marchogaeth fod wedi eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol.

Nôl i’r brig



Cludiant ar yr heol

Mae'n rhaid i weithredwyr cludiant ar yr heol fod wedi eu trwyddedu gan swyddfa drafnidiaeth rhanbarthol lleol y VOSA (Vehicle and Operator Services Agency). Am fwy o wybodaeth, ewch at (New window) www.vosa.gov.uk.

Nôl i’r brig



Sgipiau sbwriel

Mae angen caniatâd ysgrifenedig gan yr Awdurdod Prifffyrdd i osod sgip ar ffordd gyhoeddus, ond fel arall nid oes angen caniatâd.

Nôl i’r brig



Saunas

Efallai y bydd awdurdodau lleol angen i leoliadau sy'n cynnig saunas a mathau eraill o ‘driniaeth arbennig', er enghraifft, massage, baddon stêm, manicure, electrolysis neu dyllu'r corff gael trwydded.

Nôl i’r brig



Delwyr metel sgrap

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n delio mewn metel sgrap gael ei g/chofrestru gan ei awdurdod lleol (naill ai adran safonau masnachu neu adran iechyd yr amgylchedd).

Nôl i’r brig



Sefydliadau rhyw

Mae gan awdurdodau lleol bwerau i ofyn i sefydliadau rhyw yn eu hardal fod yn rhai trwyddedig. Mae sefydliad rhyw yn siop rhyw neu sinema rhyw ac, mewn rhannau o Lundain, gallai hefyd gynnwys sefydliad cyfarfod rhyw (heb gynnwys cartrefi preifat).

Nôl i’r brig



Casgliadau stryd

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol neu gomisiynydd yr heddlu Metropolitaidd cyn gwneud casgliad stryd.

Nôl i’r brig



Masnachu stryd

Gweler y pennawd Masnachwyr marchnad.

Nôl i’r brig



Masnachu ar ddydd Sul

Mae siopau lle mae'r arwynebedd llawr yn fwy na 280 metr sgwâr neu lai yn medru agor ar Ddydd Sul heb unrhyw gyfyngiadau. Os oes ganddo awrynebedd o fwy na 280 metr sgwâr, mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod lleol cyn y gallwch agor ar Ddydd Sul. Ni chewch agor am fwy na chwe awr, gan ddechrau am neu ar ôl 10yb a gan ddod i ben heb fod yn hwyrach na 6yh).

Nôl i’r brig



Recordio yn y cartref

Caniateir recordio rhaglenni ar y teledu neu'r radio yn y cartref er mwyn eu gwylio neu wrando arnynt ar adeg mwy cyfleus, o dan y gyfraith. Fodd bynnag, gallai recordio darllediad at unrhyw ddiben arall fod yn ymyrryd â'r hawlfraint.

Nôl i’r brig



Siopau tatw

Efallai y bydd angen trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu siopau tatw.

Nôl i’r brig



Tacsis

Ym y mwyafrif o ardaloedd tu allan i Lundain, mae tacsis a gyrwyr tacsi sy'n arfer cael eu hurio yn drwyddedig gan yr awdurdod lleol. Yn Llundain mae'r Heddlu Metropolitaidd yn trwyddedu yn y swyddfa cludiant cyhoeddus. I gael cyfeiriad y swyddfa cludiant cyhoeddus, gweler y pennawd Minicabs.

Nôl i’r brig



Trwyddedau teledu

Mae angen i’r rhan fwyaf o bobl gael trwydded deledu er mwyn gwylio’r teledu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch setiau teledu a pheiriannau DVD neu fideo, gweler Trwyddedau Teledu.

Nôl i’r brig



Torri coed

Efallai y bydd angen Trwydded gan y Comisiwn Coedwigaeth i dorri coed i lawr. Cyfeiriad y Comisiwn yw yw Silvan House, 231 Cortorphine Road, Edinburgh EH12 7AT. Ffôn: 08453 673787.

Nôl i’r brig



Safleoedd gwaredu gwastraff

Mae trwyddedu safleoedd gwaredu gwastraff yn gyfrifoldeb i Asiantaeth yr Amgylchedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r linell gymorth ar 08459 333111 neu ewch at y wefan: (New window) www.environment-agency.gov.uk/subjects/waste.

Nôl i’r brig