Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth yma’n egluro hawliau rhywun sy’n dod o hyd i nwyddau person arall, neu'n dod i'w meddiant.
Os ydych yn dymuno darganfod a fedrwch chi gadw’r nwyddau rhaid i chi yn gyntaf ddarganfod a yw'r nwyddau:-
Mae’n bosib i berson adael nwyddau sy’n eiddo iddyn nhw gyda pherson arall ac ymddangos fel petaent wedi eu gadael. Mae enghreifftiau’n cynnwys:-
Am wybodaeth ynglyn â delio â nwyddau na archebwyd, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.
Os oes gennych nwyddau sydd heb eu casglu neu sydd wedi eu gadael, mae'n ddyletswydd arnoch i ofalu amdanynt, ond ni fedrwch eu defnyddio na’u trin fel eich eiddo chi.
Rhaid i chi ofalu am nwyddau a adawyd gyda chi. Efallai y cewch eich dal yn gyfrifol yn gyfreithiol os yw’r nwyddau’n cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi tra yn eich gofal chi. Ond, mae’r gofal y mae’n rhaid i chi ei gymryd yn dibynnu p’un ai fod gennych gytundeb gyda’r perchennog ai peidio.
Mae achosion ble mae gennych gytundeb gyda’r perchennog yn cynnwys achosion pan fydd nwyddau wedi eu gadael yn eich siop i’w hatgyweirio neu mae tenant wedi symud allan o’ch eiddo ac wedi gadael eiddo ar ôl.
Mae achosion pan na fydd cytundeb gennych gyda’r perchennog yn cynnwys achosion pan fydd ffrindiau wedi gadael llyfrau neu DVDs yn eich cartref.
Os oes cytundeb gennych gyda’r perchennog, yna mae’r gofal y mae’n rhaid i chi ei gymryd dros y nwyddau’n fwy na’r achosion pan na fydd cytundeb gennych. Efallai y bydd yn rhaid i chi roi iawndal i’r perchennog os oes rhywbeth yn digwydd i’r nwyddau a gallech fod wedi ei atal rhag digwydd petaech wedi cymryd mesurau diogelu rhesymol.
Os nad oes cytundeb rhyngoch chi a pherchennog y nwyddau, rhaid i chi ofalu am y nwyddau fel petaent yn eiddo i chi. Mae hyn yn golygu y gofal y mae’n rhaid i chi ei gymryd drostynt yn is.
Os oes nwyddau person arall yn eich meddiant, rydych yn medru eu gwerthu os nad oes unrhyw un yn eu casglu, yn yr achosion canlynol:-
Rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig cyntaf i’r perchennog, naill ai’n bersonol neu drwy’r post, gan ddatgan:-
Os ydych am werthu’r eiddo, rhaid i chi gymryd camau rhesymol i gael hyd i’r perchennog gwreiddiol os nad ydych yn gwybod pwy ydynt neu ble maen nhw. Mae hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond mae’n medru cynnwys rhoi hysbyseb mewn papurau newydd lleol, hysbysiadau ar hysbysfyrddau cymunedol neu gysylltu â chymdeithas fasnach os oes busnes gan y perchennog.
Os ydych wedi cymryd camau rhesymol i ddod o hyd i’r perchennog, ond nid ydych wedi llwyddo, fe fyddwch yn medru gwerthu’r eiddo. Mae’n werth cadw nodyn o’r hyn a wnaethoch i geisio dod o hyd i’r perchennog.
Os ydych wedi dod o hyd i’r perchennog gwreiddiol, rhaid i chi anfon dau rybudd ysgrifenedig i’r perchennog cyn i chi werthu’r nwyddau.
Rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig cyntaf i berchennog y nwyddau, yn bersonol neu drwy’r post, gan nodi:
Rhaid i chi anfon ail rybudd ysgrifenedig i’r perchennog, trwy ddosbarthiad cofnodedig neu bost cofrestredig, gan ddatgan:-
Os oes arian yn ddyledus i chi gan berchennog y nwyddau, rhaid bod y cyfnod rhwng yr ail rhybudd a gwerthiant y nwyddau yn dri mis, o leiaf.
Os na fydd y perchennog wedi casglu’r nwyddau erbyn y dyddiad a nodwyd yn yr rhybudd, a’ch bod yn sicr bod y nwyddau yn eiddo i’r person sydd wedi derbyn y rhybuddion, yna gallwch
Os fyddwch yn gwerthu’r nwyddau yna fe fyddant yn eiddo cyfreithlon i’r prynwr.
Os mai chi sy’n gwerthu’r nwyddau, mae’n rhaid eich bod yn medru dangos i’r perchennog gwreiddiol bod y gwerthiant wedi ei drin yn yn modd cywir er mwyn cael pris teg am y nwyddau. Ar wahân i’r costau o werthu’r nwyddau, er enghraifft, costau storio neu ffioedd ocsiwn, mae'n rhaid rhoi arian y gwerthiant i’r perchennog gwreiddiol os ydych yn gwybod ei g/chyfeiriad. Os yw’r nwyddau wedi cael eu gadael er mwyn eu hatgyweirio ac ni chawsant eu casglu, rhaid didynnu’r costau atgyweirio hefyd. Os na, rhaid cadw’r arian ar gyfer y perchennog gwreiddiol. Fodd bynnag, wedi chwe mlynedd nid oes modd i’r perchennog hawlio'r arian na’ch herlyn amdano.
Pan fydd nwyddau’n cael eu dwyn, mae’r perchennog gwreiddiol yn cadw’r hawl perchnogaeth cyfreithiol dros y nwyddau. Mae yna eithriad i’r rheol hon, ble mae nwyddau sydd wedi eu hyswirio, er enghraifft ceir, yn dod yn eiddo i’r cwmni yswiriant ar ôl setlo hawliad y perchennog gwreiddiol.
Pan fydd nwyddau sydd wedi eu dwyn yn cael eu darganfod gall y llys, os oes angen, orchymyn bod y nwyddau’n cael eu dychwelyd at eu perchennog gwreiddiol. Neu, fe all y llys orchymyn bod iawndal o werth y nwyddau yn cael ei roi i’r perchennog gwreiddiol.
Os yw rhywun yn derbyn nwyddau sydd wedi eu dwyn, hyd yn oed os ydynt wedi talu pris teg amdanynt ac nad oeddent yn ymwybodol bod y nwyddau wedi eu dwyn, fel arfer nid oes ganddynt yr hawl perchnogaeth cyfreithiol. Rhaid i’r person sydd a'r nwyddau yn ei f/meddiant hysbysu’r perchennog a rhoi’r cyfle iddo/iddi adfer y nwyddau, os ydynt yn darganfod bod y nwyddau wedi cael eu dwyn. Gall rhywun sy’n prynu nwyddau, ac yna’n darganfod eu bod nhw wedi eu dwyn, geisio hawlio iawndal oddi wrth y gwerthwr.
Os ydych yn darganfod nwyddau sy'n ymddangos fel petaent wedi eu colli, yna gallwch gadw’r nwyddau ar yr amod:-
Fel arfer, mae'r heddlu yn trefnu eich bod chi’n cael y nwyddau yn ôl ac yn eu cadw os nad ydynt yn cael eu hawlio o fewn chwech wythnos (chwe mis yng Ngogledd Iwerddon). Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yr heddlu yn dymuno cael mwy o amser os oes yna amgylchiadau arbennig a’u bod nhw am gynnal ymchwiliad, er enghraifft, os ydynt yn amau bod y nwyddau wedi cael eu dwyn neu’n credu y gallant ddod o hyd i’r perchennog. Unwaith bydd yr eiddo wedi cael ei ddychwelyd atoch gan yr heddlu, nid yw’r perchennog gwreiddiol fel arfer yn medru hawlio’r nwyddau.
Mae trysor yn eiddo i’r goron. Mae’n cynnwys pethau fel gwrthrychau arian ac aur a grwpiau o ddarnau o arian o’r un darganfyddiad sydd o leiaf 300 mlwydd oed.
Os ydych yn dod o hyd i drysor, dylech ddweud wrth grwner y rhanbarth lle darganfuwyd y gwrthrych, o fewn 14 diwrnod. Dylai hyn fod 14 diwrnod o’r dyddiad y daethoch o hyd iddo neu 14 diwrnod o’r dyddiad y cawsoch reswm i gredu efallai bod y gwrthrych yn drysor. Os nad ydych yn dweud am eich darganfyddiad heb esgus teilwng, byddwch yn troseddu.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch pa wrthrychau sy’n drysor a sut i ddweud eich bod wedi dod o hyd i drysor ar wefan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn www.culture.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae mwy o wybodaeth ar y gwrthrychau sy’n cyfrif fel trysor a sut i riportio trysor ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon yn www.ni-environment.gov.uk.
Fe fydd y crwner yn gofyn i chi fynd â’r darganfyddiad at Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau, amgueddfa neu swyddog archeoleg llywodraeth leol.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe fydd y crwner yn gofyn i chi fynd â’ch darganfyddiad at Wasanaeth yr Amgylchedd a Threftadaeth, Amgueddfa Ulster neu amgueddfa leol.
Efallai, hefyd, y bydd angen cwest i benderfynu os yw’r gwrthrych yn drysor ac os ydyw, pwy ddaeth o hyd iddo. Mae hyn yn medru digwydd os yw’r gwrthrych yn debygol o fod yn drysor ac mae amgueddfa eisiau’r trysor. Mae’r broses hon yn medru cymryd sawl mis.
Unwaith penderfynir bod gwrthrych yn drysor, caiff ei drin yn un o’r ffyrdd canlynol:-
Dylech ddweud am eich darganfyddiad ar unwaith. Byddwch naill ai’n cael y gwrthrych yn ôl neu yn derbyn ei werth marchnad fel ffafr wobr. Fel arfer, dylech gael gwobr o fewn 12 mis i drosglwyddo’r darganfyddiad. Os nad oes angen y darganfyddiad ar gyfer amgueddfa bydd yn cael ei ddychwelyd atoch o fewn chwe mis, neu o fewn 3 mis os ydyw’n wrthrych sengl.
Os ydych yn defnyddio canfyddydd metel i chwilio am drysor cudd, mae'n rhaid i chi:-
Mae Ffederasiwn y canfyddwyr annibynnol yn cynnig gwasanaeth adfer di-dal ar gyfer pobl sydd wedi colli gwrthrychau metel. Mae ganddynt gôd ymddygiad y mae'n rhaid i aelodau ei ddilyn a gallant gynnig gwybodaeth pellach a chyngor ynglyn â defnyddio darganfyddwyr metel. Cyfeiriad y Ffederasiwn yw:-
61 Newtown Road
Newbury
Bucks
RG14 7BU
Rhif ffôn: 01635 522578 (llinell gymorth)
Rhif ffôn: 01792 814615 (gweinyddiaeth)
Gwefan: www.newbury.net/fid
Cyfeiriad English Heritage yw:-
Customer Services Department
PO Box 569
Swindon
SN2 2YP
Rhif ffôn: 0870 333 1181
Ffacs: 01793 414 926
E-bost: customers@english-heritage.org.uk
Gwefan: www.english-heritage.org.uk
Cyfeiriad Cadw: Welsh Historic Monuments yw:-
Cadw
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Plas Carew
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ
Ffôn: 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@cadw.gsi.gov.uk
Gwefan: www.cadw.wales.gov.uk
Os ydych yn defnyddio canfyddydd metel i chwilio am drysor neu wrthrychau cudd eraill, mae'n rhaid i chi:-
gael caniatâd perchennog y tir cyn chwilio ar dir preifat. Dylech drafod o flaen llaw sut mae rhannu enillion unrhyw beth y dewch o hyd iddo a dylech ddweud wrth berchennog y tir am unrhyw ddarganfyddiadau hanesyddol.
gael ‘trwydded i echdynnu’ gan Adran yr Amgylchedd os ydych am chwilio am wrthrychau archeolegol. Rydych yn medru cael dirwy am ddefnyddio canfyddydd metel heb drwydded
gael caniatâd ysgrifenedig gan Adran yr Amgylchedd os ydych am dynnu gwrthrych archeolegol a ddarganfuwyd gyda chanfyddydd metel o heneb rhestredig neu safle arall dan warchodaeth. Os ydych yn gwneud hyn heb ganiatâd ysgrifenedig, fe fyddwch yn troseddu.
riportio unrhyw ddarganfyddiad i’r crwner rhanbarthol neu amgueddfa leol. Rydych hefyd yn medru dweud wrth Wasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth (Environment and Heritage Service) Adran yr Amgylchedd.
Dyma gyfeiriad y Gwasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth:-
Environment and Heritage Service
5-33 Hill Street
Belfast
BT1 2LA
Ffôn: 028 9054 3001
Ffacs: 028 9054 3111
Gwefan: www.ehsni.gov.uk
Mae’n bosib bod eiddo sy’n cael ei ddarganfod yn y môr neu ar lan y môr wedi disgyn oddi ar gwch ac yn dechnegol gelwir yr eiddo yn 'ddrylliau’. Ni ystyrir drylliau yn drysor oherwydd na fyddant wedi eu claddu gyda’r bwriad o’u hadfer. Rhaid hysbysu derbyniwr y drylliad am bob drylliad. Gellir gwneud hyn drwy lwytho ffurflen oddi ar wefan y derbynnydd. Cyfeiriad y Derbynydd yw:-
The Maritime and Coastguard Agency
Bay 1/05, Spring Place
105 Commercial Road
Southampton
Hampshire
S015 1EG
Tel: 023 80 329474
Gwefan: www.mcga.gov.uk