Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Materion defnyddwyr    Yswiriant  

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

 

 


Yswiriant

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Beth yw yswiriant

Rydych yn prynu yswiriant er mwyn amddiffyn, neu ‘ddiogelu’ eich hun yn erbyn colled ariannol annisgwyl sy’n medru deillio, er enghraifft, o anaf bersonol, salwch, neu ddifrod i’ch adeiladau neu eiddo personol. Rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o yswiriant yw:-

  • yswiriant moduro
  • yswiriant cynnwys y cartref
  • yswiriant adeiladau
  • yswiriant gwyliau
  • yswiriant iechyd preifat
  • yswiriant bywyd.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag yswiriant moduro gweler Yswiriant moduro yn Taflenni ffeithiau defnyddwyr.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag Yswiriant cynnwys y cartref, gweler Yswiriant cynnwys y cartref yn Taflenni ffeithiau defnyddwyr.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag Yswiriant adeiladau, gweler Yswiriant adeiladau yn Taflenni ffeithiau defnyddwyr.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag yswiriant gwyliau, gweler Yswiriant gwyliau yn Taflenni ffeithiau defnyddwyr.

Nôl i’r Brig



Pwy fedrwch chi brynu yswiriant ganddynt

Gallwch brynu yswiriant:-

  • Yn uniongyrchol oddi wrth yswiriwr
  • Trwy asiant yswiriant. Fel arfer mae asiant yswiriant yn cael ei gyflogi gan un yswiriwr
  • Trwy frocer yswiriant neu ganolwr annibynnol. Nid yw brocer yswiriant na chanolwr fel arfer ynghlwm wrth unrhyw yswiriwr penodol, ond fe fydd yn derbyn comisiwn am werthu polisi yswiriant i chi. Weithiau mae’n gyflymach ac yn haws i fynd at ganolwr nag yn syth at yswiriwr, ac maent yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau yswiriant ar gyfer rhywbeth arbennig.
  • Trwy’r banc, cymdeithas adeiladu, cyfreithiwr, cwmni teithio, asiant archebu drwy’r post neu gyfrifydd.

Nôl i’r Brig



Prynu yswiriant

Y Cais

Pan yn prynu yswiriant fel arfer fe fydd yn rhaid i chi wneud cais. Gelwir hon yn ‘ffurflen gynnig’ os byddwch yn ei chwblhau wyneb yn wyneb, neu’n ‘ddatganiad o ffeithiau’ os byddwch yn ei chwblhau dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau’r yswiriwr, neu’r sawl sy’n gwerthu’r yswiriant, yn onest. Mae’n rhaid i chi ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai effeithio ar eu penderfyniad i’ch yswirio chi, a chost yr yswiriant. Mae hyn yn bwysig iawn gan fod modd i’r yswiriwr wrthod talu allan ar gais yn y dyfodol os ydych yn cuddio gwybodaeth.

Gwiriwch yr holl wybodaeth ar eich ffurflen gynnig, neu ddatganiad o ffeithiau, yn ofalus iawn cyn ei arwyddo, i wneud yn siwr ei fod yn gywir. Mae hyn yn hynod o bwysig os yw brocer neu asiant wedi cwblhau’r ffurflen ar eich rhan, neu os yw'r trafodiad wedi cael ei wneud dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. Mae gennych hawl i gael copi o’ch cais.

Gwybodaeth y mae'n rhaid i ddarparwyr yswiriant ei roi i chi

Mae'n rhaid i gwmnïau yswiriant a broceriaid yswiriant sy'n gwerthu'r rhan fwyaf o fathau o yswiriant roi manylion i chi am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gynnig, a dogfen grynodeb sy'n cynnwys rhai ffeithiau allweddol ynghylch y polisi yswiriant y maen nhw am ei werthu i chi. Dylai fod logo 'Keyfacts' ar y ddogfen grynodeb, a rhaid iddi nodi, ymhlith pethau eraill, manylion am y cwmni yswirio, prif nodweddion a manteision yr yswiriant, unrhyw eithriadau arwyddocaol neu anarferol yn y polisi, hyd y polisi ac a oes unrhyw hawliau gennych i ganslo. Fe fydd yr wybodaeth hon yn ei gwneud hi'n haws wrth ddewis yswiriant, i gymharu polisïau o nifer o gwmnïau.

Nid oes rhaid i fasnachwyr sy'n gwerthu yswiriant teithio a werthir fel rhan o wyliau pecyn, a'r rheiny sy'n gwerthu warantïau estynedig am nwyddau trydanol roi'r wybodaeth hon i chi.

Y Polisi Yswiriant

Mae eich polisi yswiriant yn cynnwys telerau eich cytundeb gyda’ch yswiriwr. Bydd hyn yn cynnwys yr hyn a elwir yn ‘raglen’. Mae’r rhaglen yn cynnwys eich manylion personol, a manylion am eich polisi penodol. Mae gennych hawl wrth gopi llawn o’ch polisi. Mae’n bwysig sicrhau bod y wybodaeth yn eich polisi yn gywir, ac fe ddylech ei wirio’n ofalus iawn cyn gynted i chi ei dderbyn.

Os nad ydych wedi derbyn eich manylion polisi ysgrifenedig fis wedi i chi ddechrau gwneud taliadau, cysylltwch â’r yswiriwr a gofynnwch iddynt anfon eich dogfennau atoch.

Gelwir y swm yr ydych chi’n ei dalu am bolisi yswiriant yn ‘bremiwm’. Gellir talu premiymau i’ch yswiriwr mewn un swm unigol, neu mewn rhandaliadau.

Nôl i’r Brig



Gwahaniaethu ac yswiriant

Os ydych yn cael trafferth cael yswiriant, gallai hyn fod oherwydd gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, crefydd neu gred.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred, gweler Gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred.

Os ydych yn credu bod rhywun wedi gwrthod rhoi yswiriant i chi oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, crefydd neu gred, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Hawlio ar eich polisi yswiriant

Os ydych am wneud cais ar eich polisi yswiriant, gwnewch hyn heb oedi, a dilynwch y weithdrefn a amlinellir yn eich dogfen bolisi.

Nid oes yn rhaid i chi wneud cais ar eich polisi yswiriant, hyd yn oed os ydych yn gymwys i wneud hynny. Fodd bynnag, dylech ystyried y penderfyniad yma’n ofalus gan ei bod hi’n bosib y bydd unrhyw gostau y bydd yn rhaid i chi eu talu yn fwy costus nag y byddwch chi’n meddwl. Fe’ch cynghorir i wneud cais yswiriant os oes rhywun wedi cael ei anafu. Mae anafiadau personol yn medru bod yn gostus, ac maent yn medru cael effeithiau annisgwyl a hir dymor ar eich iechyd.

Hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud cais ar eich polisi yswiriant, mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich yswiriwr am unrhyw ddigwyddiad. Os na fyddwch yn adrodd yn ôl am y digwyddiad, efallai y gwelwch y bydd hyn yn arwain at broblemau yn nes ymlaen pan fyddwch chi am wneud cais.

Nôl i’r Brig



Problemau gyda hawlio ar eich polisi yswiriant

Ni fydd eich yswiriwr yn talu’r swm cyflawn

Efallai y bydd eich yswiriwr yn cytuno i dalu eich cais, ond nid y swm cyflawn. Mae hyn oherwydd:-

  • eich bod wedi amcangyfrif yn rhy isel cyfanswm gwerth eich eiddo pan wnaethoch chi gymryd polisi cynnwys y cartref allan ac nid oes gennych ddigon o yswiriant i gwmpasu eich colledion
  • mae eich yswiriwr yn credu eich bod wedi rhoi gwerth afrealistig ar gynnwys eich ty, ac fe fydd yn cytuno i dalu rhan o’r cais
  • oni bai fod gennych bolisi ‘newydd am yr hen’, roedd yr eitem yr ydych yn gwneud cais amdani yn hen, ac fe fydd yr yswiriwr yn talu llai na’r gost o’i ailosod gydag eitem newydd. Mae hyn am eich bod wedi cael peth defnydd ohoni eisoes.

Os credwch bod eich yswiriwr yn ymddwyn yn afresymol, gallwch geisio dod i gytundeb. Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd mae eich cais wedi cael ei drin gwnewch gwyn. Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut mae gwneud cwyn am gais yswiriant, gweler y pennawd Sut i ddatrys problem yn ymwneud ag yswiriant.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag yswiriant cynnwys y cartref, gweler Yswiriant Cynnwys y Cartref yn Taflenni ffeithiau defnyddwyr.

Os yw eich yswiriwr yn gwrthod talu am eich cais

Mae’n bosib y bydd eich yswiriwr yn gwrthod talu am eich cais oherwydd:-

  • nid yw eich polisi yn cwmpasu’r digwyddiad yr ydych yn gwneud cais amdano (gweler y pennawd Colledion sydd heb eu hyswirio)
  • eich bod wedi methu â thalu rhai o randaliadau eich premiwm
  • eich bod wedi methu â hysbysu eich yswirwr o newid yn eich amgylchiadau
  • nid ydych wedi dilyn gweithdrefn hawliadau eich polisi yn gywir
  • nid ydych wedi cadw at amod yn eich polisi.

Mae’n rhaid i’ch yswiriwr roi rheswm i chi am wrthod talu am eich cais, a dylech wirio manylion eich polisi yn ofalus i sicrhau bod eu penderfyniad yn un rhesymol. Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut mae delio â phroblem gydag yswiriant, gweler y pennawd Sut i ddatrys problem yn ymwneud ag yswiriant.

Colledion sydd heb eu hyswirio

Weithiau mae digwyddiad yn medru arwain at gostau nad ydynt wedi eu cynnwys yn eich polisi yswiriant. Mae’r rhain yn cael eu galw’n golledion sydd heb eu hyswirio.

Os yw eich polisi yswiriant yn cynnwys ‘tâl dros ben' (excess), mae hwn hefyd yn fath o golled sydd heb ei yswirio. Swm sefydlog yw tâl dros ben a delir ar unrhyw gais, er enghraifft mae'n rhaid i chi dalu'r £50 cyntaf.

Os byddwch chi’n dioddef colled ariannol nad ydych wedi eich yswirio ar ei gyfer, mewn sefyllfa lle mai rhywun arall sydd ar fai, efallai y byddwch yn medru mynd â nhw i’r llys i adfer eich costau. Mae eich Canolfan Cyngor ar Bopeth yn medru rhoi cyngor i chi ynglyn â pha gamau i’w cymryd yn y sefyllfa yma. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Canslo eich polisi yswiriant

Mae’n bosib y byddwch am ganslo eich polisi yswiriant os ydych newydd ei brynu a’ch bod wedi newid eich meddwl. Mae gennych hawl i wneud hyn os prynwyd y polisi dros y ffôn, ar y rhyngrwyd, neu oddi wrth rhywun a wnaeth alw yn eich cartref neu yn eich gweithle. Mae’n bosib hefyd y bydd gennych hawl i ganslo eich polisi yswiriant os talwyd amdano trwy gytundeb credyd a arwyddwyd gennych yn eich cartref eich hun, neu yn unrhyw le ac eithrio swyddfeydd y cwmni credyd.Os brynoch eich polisi o dan amgylchiadau eraill heblaw'r rhain, dylech wirio amodau'r polisi i weld a fedrwch ei ganslo. Fe fydd llawer o bolisïau yswiriant cyffredinol yn rhoi hawl awtomatig i chi ganslo o fewn 14 diwrnod i'w brynu, ac fe fydd llawer o bolisïau yswiriant bywyd yn rhoi hawl i chi ganslo o fewn 30 diwrnod. Mae hawl gan eich yswiriwr i godi tâl bach am gostau gweinyddol canslo, ond nid oes hawl ganddynt i wneud elw ar y tâl hwn.

Mae’n bosib hefyd y byddwch am ganslo eich polisi yswiriant am fod eich amgylchiadau wedi newid. Dylech wirio manylion eich polisi yswiriant i weld a oes gennych hawl i’w ganslo, ac a oes unrhyw ad-daliad yn ddyledus.

Am fwy o wybodaeth am eich hawl i ganslo cytundeb yswiriant, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Nôl i’r Brig



Mae'ch yswiriwr wedi diflannu

Os ydych am ddod o hyd i’ch yswiriwr, canolwr, neu frocer, cysylltwch â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ar: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Os nad yw eich cais wedi cael ei setlo am fod eich yswiriwr wedi mynd allan o fusnes, efallai y byddwch yn medru cael cymorth gan gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol. Gellir cael manylion am y cynllun ar: (New window) www.fscs.org.uk. Os yw eich yswiriwr yn aelod o Lloyds, dylech gysylltu ag adran gwynion Lloyds ar 020 7327 5693.

Nôl i’r Brig



Sut i ddatrys problem yn ymwneud ag yswiriant

Os oes gennych broblem gyda’ch polisi yswiriant, neu gais yswiriant, ysgrifennwch at eich yswiriwr, gan roi manylion am eich cwyn, a sut hoffech ddatrys y broblem. Os nad ydych yn fodlon gydag ymateb yr yswiriwr, gwnewch gwyn swyddogol, gan ddefnyddio eu gweithdrefn gwynion ffurfiol. Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad y weithdrefn gwynion ffurfiol o hyd, gallwch ystyried mynd â’r gwyn ymhellach.

Os prynwyd eich polisi yswiriant oddi wrth yswiriwr sydd wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), gwnewch gwyn at y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol. Gwasanaeth di-dâl yw hwn sydd ar gael ar gyfer dalwyr polisi sydd eisoes wedi dilyn gweithdrefn gwynion yr yswiriwr. Bydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn ceisio datrys y gwyn trwy drafod. Os na ellir datrys yr anghydfod yn y ffordd yma, fe fydd y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol yn dechrau ymchwiliad ffurfiol. Mae’r penderfyniad terfynol a roddir ar ddiwedd yr ymchwiliad yn orfodol ar yr yswiriwr, ond os na fyddwch yn cytuno gyda’r penderfyniad, gallwch fynd â’ch yswiriwr i’r llys. I ddarganfod p'un ai y gall y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol ymchwilio i’ch cwyn chi, gallwch gysylltu â nhw ar 0845 080 1800, neu cliciwch ar eu gwefan (New window) www.financial-ombudsman.org.uk.

Os yw eich yswiriwr yn aelod o Lloyds, cysylltwch ag adran gwynion Lloyds ar 020 7327 5693. Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad y gwyn, gallwch fynd ymlaen i gwyno wrth y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol.

Os ydych wedi trio’r holl opsiynau ar gyfer datrys eich cwyn trwy weithdrefnau cwyno, ond nid ydych wedi llwyddo eto, neu os yw eich yswiriwr wedi ei leoli y tu allan i’r DU, efallai y byddwch yn dymuno ystyried dwyn achos cyfreithiol. Fodd bynnag, dylech ystyried mynd i’r llys fel opsiwn olaf yn unig. Mae hyn oherwydd y gellir gostwng y swm o iawndal a wobrwyir gan y llys os nad ydych wedi trio ffyrdd eraill o ddatrys y broblem cyn dwyn achos cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth am opsiynau eraill heblaw am ddwyn achos llys, gweler Dulliau amgen o ddatrys anghydfod yn Taflenni Ffeithiau Defnyddwyr.  Yn yr Alban, gweler Ffyrdd eraill o ddatrys dadleuon yn Taflenni Ffeithiau Defnyddwyry.

Os ydych angen help wrth ddelio â chwyn yn erbyn yswiriwr, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ