Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Materion defnyddwyr    Cyflenwad nwy  

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

 

 


Cyflenwad nwy

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Pwy sy'n medru cyflenwi nwy

Mae yna nifer o gwmnïau sy'n medru cyflenwi nwy

Mae rhestr o'r cwmnïau sy'n cyflenwi nwy yn eich ardal chi ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Ni fydd y cwmni sy'n cyflenwi nwy i'ch cartref yr un cwmni â'r cwmni sy'n gyfrifol am y biben nwy, y system storio a'r gwasanaeth brys.

Caiff pob cwmni cyflenwi nwy eu trwyddedu gan Ofgem (Office of Gas and Electricity Markets). Un o amodau'r drwydded yw bod yn rhaid i gwmni sy'n cyflenwi nwy gynhyrchu côd ymarfer ar:-

  • y gweithdrefnau ar gyfer cwyno
  • talu biliau, y trefniadau ar gyfer delio gyda dyledion a mesuryddion rhagdaliad
  • gweithdrefnau mynediad i safleoedd
  • cyngor ar effeithlonrwydd ynni
  • gwasanaethau i bobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd â salwch cronig.

Er nad yw'r codau hyn yn rhwymo'n gyfreithiol, dylai'r cwmni nwy lynu atynt. Rydych yn medru gofyn i'ch cwmni nwy am gopi o'r codau. Mae'n medru bod yn ddefnyddiol i chi wybod beth sydd yn y codau os ydych yn cael anghytundeb gyda'r cwmni nwy, er enghraifft, ynghylch bil nwy neu newid cwmni cyflenwi. Os nad yw cwmni nwy yn glynu at y codau, fe fyddwch yn medru cwyno – gweler y pennawd Cwynion.

Nôl i’r Brig



Pwy sydd â hawl i gael cyflenwad nwy

Mae gennych yr hawl i gael cyflenwad nwy oni bai:-

Os gwrthodir rhoi cyflenwad nwy i chi, mynnwch gyngor gan Cyswllt Defnyddwyr, gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Nôl i’r Brig



Dewis cwmni cyflenwi nwy

Rydych chi'n medru newid eich cwmni cyflenwi nwy os ydych yn dymuno gwneud hynny. Os ydych yn ystyried newid at gwmni cyflenwi nwy arall, cofiwch y bydd y prisiau, polisïau a gwasanaethau a gynigir gan y cyflenwyr gwahanol, yn amrywio. Dylech ddarllen yr wybodaeth a'r cytundebau ar gyfer y cyflenwyr gwahanol yn ofalus, a chymharu’r rhain gyda'ch cwmni cyflenwi nwy presennol er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y ddêl orau ar gyfer eich anghenion chi.

Darganfyddwch:-

  • sut fydd y cwmni'n codi tâl am eich cyflenwad nwy
  • os cynigir tariffau rhatach ar gyfer dulliau talu penodol, er enghraifft, os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol
  • pa safonau gwasanaeth y mae'r cwmnïau cyflenwi nwy yn eu cynnig, er enghraifft, ar gyfer atgyweiriadau neu gymorth ychwanegol i gwsmeriaid hŷn neu anabl
  • polisïau’r cwmni cyflenwi nwy, er enghraifft, ar ddyled a datgysylltu.

Rydych yn medru gweld beth yw'r prisiau tanwydd diweddaraf ar wefan Llais Defnyddwyr: (New window) www.consumerfocus.org.uk. Neu rhowch glic ar wefan Llais Defnyddwyr am daflen ffeithiau ar gymharu prisiau, neu ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau ar-lein sy'n ei gwneud yn haws i gymharu a newid cyflenwyr. Mae yna restr o wefannau cymharu prisiau ar wefan Llais Defnyddwyr.

Cynigion tanwydd deublyg

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr nwy a thrydan yn cael trwydded gan Ofgem i gyflenwi nwy a thrydan i gwsmeriaid. Mae rhai cwmnïau cyflenwi nwy yn cyflenwi'r ddau danwydd o dan un cytundeb, tra bod eraill yn rhoi un cytundeb ar gyfer nwy ac un arall ar gyfer trydan.

Yn aml, mae cyflenwyr sy'n cynnig cynigion deublyg yn rhoi gostyngiad ar gyfanswm y bil. Ond, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu y bydd nwy a thrydan o dan gynnig deublyg yn rhatach na'u prynu gan gyflenwyr gwahanol.

Am wybodaeth ynghylch cyflenwad trydan, gweler Cyflenwad trydan.

Canllawiau y mae'n rhaid i gwmni cyflenwi eu dilyn wrth werthu nwy i chi

Pan fydd cwmni nwy yn gwerthu nwy i chi, mae'n rhaid iddo gadw at safonau penodol.

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr wedi cofrestru i gôd ymarfer a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Cyflenwyr Ynni (AES). Mae'n rhaid i asiantaethau gwerthu ddilyn y canllawiau yn y côd. Mae'r canllawiau'n cynnwys pob math o werthu nwy, gan gynnwys gwerthu o ddrws i ddrws (gwerthu ar stepen eich drws) a gwerthu dros y ffôn (gwerthu o bell). Dyma rai o'r canllawiau yn y côd ymarfer:

  • mae'n rhaid i unrhyw ymgyrchoedd hysbysebu a hyrwyddo gan gwmnïau nwy fod yn gywir, yn deg ac yn rhesymol. Mae hyn yn golygu nad ydyw asiantau gwerthu, hysbysebion na deunydd cyhoeddusrwydd yn medru rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i chi
  • rhaid i asiantau gwerthu alw yn eich cartref rhwng 9.00yb a 8.00yh yn unig, onid ydych wedi gofyn yn benodol iddynt alw tu allan i'r amserau hyn. Os ydynt yn ymweld â thai gwarchod, rhaid iddynt gysylltu â'r warden yn gyntaf
  • rhaid i asiantau gwerthu brofi pwy ydynt trwy ddangos Cerdyn Adnabod, a hynny heb i neb ofyn iddynt
  • rhaid i'r asiant gwerthu sicrhau eich bod wedi deall y cytundeb, gan gynnwys unrhyw hawl i ganslo (gweler isod) cyn i chi lofnodi
  • rhaid i'r asiant gwerthu sicrhau bod y person sy'n llofnodi'r cytundeb yn gyfrifol am dalu'r bil nwy
  • rhaid i chi gael copi o'r cytundeb.

Os nad yw'r asiant gwerthu'n dilyn y canllawiau hyn, efallai y bydd hawl gennych i iawndal. Os oes cwyn gennych ynghylch y ffordd y gwerthwyd nwy i chi, dylech fynd ar drywydd y gwyn gyda'r cwmni dan sylw yn gyntaf. Gofynnwch iddynt am gopi o'r côd ymarfer a defnyddiwch yr wybodaeth yn y côd i'ch helpu i gwyno – gweler y pennawd Cwynion.

Hawl i ganslo

Os ydych yn llofnodi cytundeb i brynu nwy gan rywun sydd wedi galw yn eich cartref, efallai y bydd hawl gennych i ganslo'r cytundeb os ydych yn newid eich meddwl. Byddwch yn medru canslo'r cytundeb ar yr amod eich bod yn canslo o fewn saith niwrnod i'w lofnodi. Nid oes gwahaniaeth a oeddech wedi gwahodd yr asiant sy'n gwerthu i alw yn eich cartref ai peidio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i ganslo cytundeb a lofnodwyd yn eich cartref, gweler Gwasanaethau a brynwyd ar stepen eich drws yn Prynu gwasanaethau - eich hawliau.

Os ydych yn llofnodi cytundeb i brynu nwy dros y ffôn, efallai y byddwch hefyd yn cael yr hawl i newid eich meddwl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i ganslo cytundeb yr ydych wedi cytuno iddo dros y ffôn, gweler Gwasanaethau a brynwyd o bellter yn Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Nôl i’r Brig



Symud tŷ neu newid eich cwmni cyflenwi nwy

Pan fyddwch chi'n symud i gartref newydd, dywedwch wrth y cwmni cyflenwi nwy o ba ddyddiad yr ydych am gymryd y cyflenwad. Os oes yn rhaid ei ailgysylltu, efallai y bydd y cwmni cyflenwi'n codi tâl. Mae Cyswllt Defnyddwyr (gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol) yn medru eich cynghori ynghylch p'un ai y dylid codi tâl arnoch, a faint yw'r swm rhesymol. Os nad ydyw'r cyflenwad wedi cael ei ddatgysylltu, darllenwch y mesurydd a dywedwch wrth y cwmni cyflenwi beth yw'r darlleniad. Cadwch gopi o'r darlleniad.

Os ydych am newid eich cwmni cyflenwi nwy, dywedwch wrth y cwmni sy'n cyflenwi eich nwy ar y pryd a hefyd y cwmni newydd. Fe fydd y ddau eisiau darlleniad terfynol a gymerwyd ar y diwrnod yr ydych yn newid cwmni cyflenwi. Fe fydd rhai cyflenwyr yn anfon person allan i ddarllen y mesurydd; fe fydd eraill yn gofyn i chi ddarllen y mesurydd ac anfon y darlleniad iddyn nhw. Yn y naill achos neu'r llall, cadwch nodyn o'r darlleniad rhag ofn y bydd yna ddadlau yn nes ymlaen.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid at gwmni cyflenwi newydd, ar wefan Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk. Mae gwefan Llais Defnyddwyr yn medru rhoi gwybodaeth i chi ar yr hyn y dylech ei wirio os ydych am newid cwmni cyflenwi, a rhestr o gwmnïau cyflenwi nwy lleol. Rydych hefyd yn medru cael taflenni ffeithiau ar gymharu prisiau. Os yw cwmni cyflenwi'n cytuno i gyflenwi nwy i chi, fel arfer mae'n rhaid iddo:

  • gyflenwi'r nwy cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol; a
  • pharhau i gyflenwi nwy cyhyd ag y byddwch ei eisiau – (ond gweler y pennawd Dyledion nwy a datgysylltu).

Newid cwmni cyflenwi pan fydd dyled gennych

Os oes dyled nwy gennych, efallai na fyddwch yn cael eich derbyn gan gwmni cyflenwi newydd.

Os yw'r arian yn ddyledus gennych ers llai na 28 diwrnod, er enghraifft, nid ydych wedi talu bil diweddar, fe fyddwch yn dal i fedru newid cwmni cyflenwi. Fe fydd yr arian sy'n ddyledus gennych yn cael ei drosglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd.

Fe fyddwch hefyd yn cael newid eich cwmni cyflenwi os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdaliad ac mae gennych ddyled o hyd at £100. Fe fydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi pan fydd dyled gennych, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr  - gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Os ydych yn cael trafferth cael cyflenwad nwy, neu mae'r cwmni'n mynd i stopio'ch cyflenwad, mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn gwrthod cysylltu'r cyflenwad nwy hyd nes i chi roi sicrwydd ariannol addas. Efallai y gofynnir i chi:-

  • ymuno â chynllun talu rheolaidd (gweler y pennawd Biliau nwy) neu
  • gytuno i gael mesurydd rhagdaliad (gweler y pennawd Mesuryddion); neu
  • ddarparu gwarantydd (gweler isod); neu
  • rhoi blaendal ariannol (gweler isod).

Fel arfer, fe fydd y cwmni cyflenwi nwy angen sicrwydd mewn rhai amgylchiadau yn unig, er enghraifft, os ydych yn gwsmer newydd ac nid ydych yn medru profi pwy ydych chi neu roi cyfeiriad blaenorol neu mae gennych hanes gwael o dalu yn eich cyfeiriad presennol neu flaenorol.

Gwarantyddion

Os ydych yn enwi gwarantydd, fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn edrych i weld a yw eu cofnod taliadau nwy nhw yn foddhaol. Fe fydd y gwarantydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu eich biliau nwy os nad ydych yn talu. Yn ymarferol, fe fydd y cwmni cyflenwi nwy angen gwarantydd i dalu'r bil os nad ydych chi'n talu ac ni ellir cael gafael ynoch chi. Fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn adolygu'r trefniadau ar ôl blwyddyn. Bryd hynny, os ydych wedi talu eich biliau'n llawn, ni fydd angen gwarantydd mwyach.

Blaendaliadau

Mwyafrif y blaendal y gellir ei godi arnoch yw'r ddau chwarter uchaf o nwy a ddefnyddir (amcan os oes angen). Rhaid i'r cwmni cyflenwi nwy ofyn am swm 'rhesymol' yn unig fel blaendal. Os ydych yn credu bod swm y blaendal yn afresymol, yna trafodwch y mater gyda'r cwmni cyflenwi nwy. Os nad ydych yn fodlon o hyd, rydych yn medru cwyno – gweler y pennawd Cwynion. Fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn adolygu'r blaendal ar ôl blwyddyn. Os talwyd y biliau'n llawn, fe fyddwch yn cael y blaendal yn ôl o fewn deufis i ddiwedd y flwyddyn.

Nôl i’r Brig



Mesuryddion

Mae'n rhaid i gwmni cyflenwi nwy roi mesurydd addas i gwsmer sy'n gofyn am un. Mae yna ddau brif fath o fesurydd:-

  • mesuryddion chwarterol neu gredyd, ble rydych chi'n defnyddio'r nwy ac yn talu amdano'n nes ymlaen
  • mesuryddion rhagdaliad, ble rydych chi'n talu ymlaen llaw am eich cyflenwad nwy.

Mesuryddion credyd

Fe fydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael mesurydd credyd ac yn derbyn biliau bedair gwaith y flwyddyn. Gelwir y rhain yn filiau chwarterol. Fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn galw i ddarllen y mesurydd yn rheolaidd, neu'n cysylltu â chi i ofyn i chi ddarllen y mesurydd a rhoi gwybod beth yw'r darlleniad. Rhaid i'r mesurydd gael ei ddarllen o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Rydych yn medru talu'r bil mewn sawl ffordd - gweler y pennawd Biliau nwy.

Mesuryddion rhagdaliad

Os ydych yn cael trafferth talu am eich nwy, rydych yn medru gofyn am osod mesurydd rhagdaliad. Os ydych mewn dyled, dylech gael cynnig mesurydd rhagdaliad yn lle eich datgysylltu.

Rydych yn medru gofyn am fesurydd rhagdaliad os nad ydych mewn dyled, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros hyd nes bod un ar gael.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mesuryddion rhagdaliad electronig yw'r unig opsiwn sydd ar gael ar gyfer mesurydd rhagdaliad.

Dyma'r prif fathau o fesuryddion rhagdaliad:

  • mesuryddion tocyn
  • mesuryddion allwedd
  • mesuryddion cerdyn
  • mesuryddion smart card.

Fe fydd y cwmni cyflenwi nwy yn darparu rhestr o lefydd ble y byddwch yn medru cael y cerdyn, tocyn neu allwedd wedi'i wefru, ac mae hyn yn medru cynnwys peiriannau gwefru. Fe fydd y mesurydd yn cofnodi faint o nwy a ddefnyddir.

Dyma fanteision defnyddio mesurydd rhagdaliad:

  • mae'n medru bod yn ffordd ddefnyddiol o gyllidebu os ydych ar incwm isel
  • mae'n medru cael ei ddefnyddio i dalu dyledion fel opsiwn arall yn lle datgysylltu.

Mae yna sawl anfantais i ddefnyddio mesurydd rhagdaliad, gan gynnwys:

  • fel arfer, rydych yn talu mwy am eich nwy na phetai gennych fesurydd credyd. Fel arfer, mesuryddion rhagdaliad yw'r ffordd ddrutaf o dalu am nwy
  • os nad ydych yn medru fforddio prynu'r tocynnau neu wefru eich cerdyn neu allwedd, ni fydd gennych unrhyw nwy
  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau trafnidiaeth i gyrraedd y man gwefru agosaf
  • nid ydych yn medru rhannu cost y biliau gaeaf mawr dros y flwyddyn gyfan
  • gellir gosod y mesurydd i adennill dyledion. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu am ddefnyddio nwy ac am eich dyledion ar yr un pryd
  • fe fydd yn rhaid i chi dalu mwy tuag at y dyledion pan fyddwch yn defnyddio mwy o nwy.

Darllen eich mesurydd

Mae'n rhaid i'ch cwmni cyflenwi nwy ddarllen y mesurydd o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Os nad yw'r cwmni cyflenwi nwy wedi medru dod i mewn i'ch cartref i ddarllen y mesurydd, fe fydd yn gadael cerdyn i chi ei lenwi gyda'ch darlleniad eich hun. Os ydych yn anabl, â salwch cronig neu wedi cyrraedd oed pensiwn, rydych yn medru gofyn i'r cwmni cyflenwi nwy ddarllen eich mesurydd bob tri mis. Mae'n rhaid i'r cwmni cyflenwi nwy archwilio'r mesurydd, a'i brofi, o leiaf unwaith bob dwy flynedd.

Os ydych yn anabl, â salwch cronig neu wedi cyrraedd oed pensiwn, ac yn ei chael hi'n anodd darllen eich mesurydd oherwydd ei leoliad, rydych yn medru gofyn i'r cwmni cyflenwi nwy symud y mesurydd, ble mae hyn yn rhesymol ymarferol, yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn credu bod darlleniad eich mesurydd yn anghywir

Os ydych yn credu bod y darlleniad a roddwyd ar eich bil yn anghywir, cymerwch eich darlleniad eich hun. Os yw hyn yn dangos bod y mesurydd wedi'i gamddarllen, dywedwch wrth y cwmni cyflenwi nwy beth yw'r darlleniad cywir ac fe fydd yn anfon bil diwygiedig atoch. Os ydych yn credu bod nam ar y mesurydd, dywedwch wrth y cwmni cyflenwi nwy, ac fe fydd yn medru trefnu i'r mesurydd gael ei brofi.

Os ydych wedi cael amcan o ddarlleniad, darllenwch y mesurydd eich hun a chysylltwch â'r cwmni cyflenwi nwy i roi eich darlleniad eich hun. Yna, fe fyddwch yn cael bil diwygiedig.

Nôl i’r Brig



Biliau nwy

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil nwy

Y person a ofynnodd am gyflenwad nwy fydd yn gyfrifol am dalu amdano, ac enw'r person yma fydd yn ymddangos ar y bil nwy.

Os nad yw eich enw ar y bil ond gofynnwyd i chi ei dalu, mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Talu'r bil nwy

Mae'n rhaid i gwmnïau cyflenwi nwy adael i chi dalu eich bil mewn sawl ffordd, er enghraifft, trwy arian, siec, archeb post neu ddebyd uniongyrchol misol. Os nad ydych wedi ymuno ag un o'r cynlluniau talu a nodwyd isod, fe fydd y bil angen ei dalu'n llawn pan fydd yn eich cyrraedd.

Os yw cwmni nwy wedi methu ag anfon bil nwy atoch, ni ydynt yn cael anfon bil atoch am unrhyw swm sy'n mynd yn ôl fwy na blwyddyn.

Cynlluniau talu rheolaidd

Holwch eich cwmni cyflenwi nwy am wybodaeth ynghylch cynlluniau talu. Mae rhai cwmnïau cyflenwi nwy'n cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy'n talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cynllun cyllidebu taliad sefydlog neu gynllun taliadau hyblyg

Debyd uniongyrchol, archeb sefydlog a chynlluniau cyllidebu taliad sefydlog

Gyda'r cynlluniau hyn, rhoddir amcan o'ch defnydd blynyddol o nwy, fel arfer ar sail eich defnydd blaenorol, ac rydych yn talu'r swm hwn trwy randaliadau cyfartal dros y flwyddyn. Os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog fe fydd y taliadau'n mynd yn awtomatig o'ch cyfrif banc, naill ai'n fisol neu'n chwarterol. Os ydych yn defnyddio cynllun cyllidebu taliad sefydlog, rhaid i chi dalu'r swm a gytunwyd i'r cwmni cyflenwi nwy ar yr adeg benodol - fel arfer, mae hyn yn wythnosol ond mae'n medru bod bob pythefnos neu fis.

Ar ddiwedd y flwyddyn efallai y bydd swm yn ddyledus i chi, neu 'gredyd'. Fe fydd unrhyw swm sy'n ddyledus yn cael ei ystyried wrth gyfrifo rhandaliadau’r flwyddyn nesaf, neu, os yw'n swm mawr, fel arfer bydd yn rhaid ei dalu. Fel arfer, ceir ad-daliadau neu gredyd mewn adolygiadau chwe mis neu flynyddol.

Cynllun taliadau hyblyg

Efallai y bydd y cwmni cyflenwi nwy yn cynnig cynllun taliadau hyblyg, sy'n eich galluogi chi i dalu unrhyw swm ar unrhyw adeg. Efallai y bydd hon yn ffordd ddefnyddiol o dalu os yw'ch incwm yn amrywio. Darllenwch amodau'r cynllun yn ofalus, er enghraifft, sut mae'r taliadau'n cael eu cyfrifo a beth sy'n digwydd os ydych yn cynilo credyd neu'n mynd i ddyled.

Cyfraddau is i gwsmeriaid sydd ar incwm isel neu gwsmeriaid bregus

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyflenwi nwy yn cynnig cyfraddau is i gwsmeriaid sydd ar incwm isel neu gwsmeriaid bregus, fel pobl hŷn, neu bobl sydd â salwch tymor hir. Gelwir y cyfraddau is hyn yn dariffau cymdeithasol.

Mae gan bob cwmni cyflenwi ei gyfres ei hun o reolau ynghylch pwy sy'n gymwys i gael y cyfraddau is. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch cwmni cyflenwi nwy a gofynnwch am fanylion eu tariffau cymdeithasol.

Nôl i’r Brig



Arbed arian ar filiau nwy

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich bil nwy trwy ddewis dull o dalu sy'n cynnig gostyngiad, a thrwy ddefnyddio nwy'n effeithlon neu inswleiddio eich cartref. Mae'n rhaid bod gan bob cwmni cyflenwi nwy gôd ymarfer ar ddefnyddio nwy'n effeithlon. Os yw cwsmer yn gofyn, mae'n rhaid i'r cwmni cyflenwi nwy hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim, ar gais, ar:-

  • atal gwres rhag dianc o'r cartref
  • dewis systemau a rheolyddion gwresogi nwy
  • defnyddio system wresogi nwy'n effeithlon
  • sefydliadau sy'n medru rhoi cyngor pellach, hyfforddiant a gwasanaethau eraill
  • ffynonellau cymorth ariannol posib ar gyfer unrhyw waith a fyddai'n gwella'r defnydd effeithlon o nwy.

Rydych hefyd yn medru defnyddio'r cyfleuster gwirio cymhwyster ar wefan Llais Defnyddwyr. Mae'n cynnig opsiwn chwilio personol, ar sail eich amgylchiadau personol, i ddarganfod pa grantiau, budd-daliadau, cyngor neu gymorth sydd, efallai, ar gael i'ch helpu i dalu'ch biliau nwy neu sicrhau bod eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich biliau nwy drwy newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi'ch tanwydd, ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Rydych hefyd yn medru:

  • rhoi clic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.est.org.uk
  • cysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni ar 0800 512 012.

Am fwy o wybodaeth ynghylch arbed arian ar gostau tanwydd, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.

Nôl i’r Brig



Dyledion nwy a datgysylltu

Os oes dyledion nwy gennych, rydych mewn perygl o gael eich datgysylltu. Ond, mae'n anarferol iawn i chi gael eich datgysylltu os ydych yn methu â thalu eich biliau nwy.

Os oes unrhyw ddyledion nwy gennych, gofynnwch am help cynghorydd profiadol, ar frys, os oes rhywun wedi bygwth eich datgysylltu, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Camau y mae'n rhaid i'ch cwmni cyflenwi eu cymryd cyn eich datgysylltu

Mae'n rhaid i gwmni cyflenwi nwy ddilyn amodau safonol trwydded, ac mae un o'r amodau hynny'n nodi sut mae'n delio gyda chwsmeriaid sy'n cael trafferth talu. Nid yw cwmni cyflenwi nwy yn medru cyhoeddi rhybudd o ddatgysylltu hyd nes o leiaf 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi bil. Rhaid i chi gael o leiaf saith niwrnod o rybudd o ddatgysylltu. Os nad ydych yn medru talu eich bil, cysylltwch â'ch cwmni cyflenwi ar unwaith. Dylech gael cynnig trefniant i dalu'r ddyled ar gyfradd yr ydych yn medru ei fforddio. Os nad ydych yn medru fforddio talu'r ddyled fel hyn, mae'n rhaid iddynt gynnig gosod mesurydd rhagdaliad - gweler y pennawd Mesuryddion.

Efallai y bydd gan rai grwpiau cwsmeriaid amddiffyniad ychwanegol rhag cael eu datgysylltu. Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os:

  • rydych wedi cyrraedd oed pensiwn
  • mae gennych salwch hir dymor
  • rydych yn anabl
  • mae gennych drafferthion ariannol difrifol.

Rydych yn medru cael mwy o wybodaeth ynghylch y camau y mae cwmni cyflenwi yn gorfod eu cymryd cyn eich datgysylltu, ar wefan Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk, neu rydych yn medru cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr – gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Datgysylltu – cwyno i Cyswllt Defnyddwyr

Os cawsoch eich datgysylltu, neu os oes cwmni'n bygwth eich datgysylltu, ac nid ydych wedi llwyddo i ddatrys y mater gyda'r cwmni sy'n cyflenwi eich nwy, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar: 0845 404 0506.

Mae datgysylltu'n cynnwys ble mae rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch mesurydd rhagdaliad sy'n golygu nad ydych yn medru talu neu rydych wedi talu ond nid yw'ch cyflenwad nwy yn gweithio o hyd.

Ble'n briodol, fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr, a fydd yn mynd ar drywydd eich cwyn gyda'r cwmni cyflenwi nwy.

Ystyrir cwyn ynghylch datgysylltu yn achos sy'n flaenoriaeth a dylai fod wedi ei ddatrys ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi ei chyfeirio at Llais Defnyddwyr. Os ydych ar fesurydd rhagdaliad, dylech gael eich cyflenwad nwy yn ôl o fewn pedair awr.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn o hyd, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni – gweler y pennawd Cwynion.

Help arall sydd ar gael i chi

Mae Llinell Gymorth Home Heat yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i ddefnyddwyr sydd ar incwm isel. Mae cynghorwyr y Linell Gymorth yn medru helpu adnabod ble y gallai mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim fod ar gael ac maen nhw hefyd yn medru sicrhau nad ydyw cwsmeriaid bregus mewn perygl o gael cyflenwadau tanwydd wedi eu datgysylltu. Rydych yn medru cysylltu â Llinell Gymorth Home Heat ar 0800 33 66 99.

Mae rhai cyflenwyr ynni wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid, i'w helpu i dalu dyledion nwy. Rydych hefyd yn medru cael grantiau i dalu dyledion trydan ac unrhyw rai o filiau eraill y cartref.

Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar (New window) www.edfenergytrust.org.uk neu gofynnwch am gopi o lyfryn Utility Trusts and Schemes gan (New window) www.britishgasenergytrust.org.uk.

Nôl i’r Brig



Diogelwch Nwy

Mae cwmni cyflenwi nwy'n medru awdurdodi ei swyddogion i fynd i unrhyw safle i archwilio'r gosodiad a'r cyfarpar nwy. Os oes adroddiad bod nwy yn gollwng, fe fydd yn gwneud y safle'n ddiogel yn rhad ac am ddim. Mae diogel yn aml yn medru golygu diffodd y cyflenwad. Os oes nam ar y cyfarpar ac mae'n rhaid ei ddatgysylltu, fe fyddwch yn gyfrifol am brynu un arall a chael rhywun i'w osod. Mae'r Grid Cenedlaethol (Transco gynt), y prif gwmni cludo nwy, yn rhedeg gwasanaeth rhadffôn brys 24 awr ar gyfer nwy ar 0800 111999.

Gwiriadau diogelwch i denantiaid

Rhaid i landlordiaid sicrhau bod unrhyw gyfarpar nwy a osodir ganddynt yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael atgyweiriadau, gweler Diffyg atgyweiriadau mewn llety sydd wedi'i rhentu.

Gwiriadau diogelwch i bobl hŷn, pobl anabl a phobl gyda salwch tymor hir

Fe fydd y cwmni cyflenwi nwy'n darparu gwiriad diogelwch nwy rhad ac am ddim ar gyfer cyfarpar a ffitiadau i rai pobl hŷn, pobl anabl neu bobl gyda salwch tymor hir. Gellir gofyn am un gwiriad rhad ac am ddim y flwyddyn. Mae'r gwiriad yn cynnwys archwiliad sylfaenol a gwaith bach iawn. Rhaid talu am unrhyw waith ychwanegol. Am fwy o wybodaeth ynghylch gwasanaethau rhad ac am ddim eraill sydd, efallai, ar gael gan eich cwmni cyflenwi nwy, gweler y pennawd Gwasanaethau rhad ac am ddim i bobl hŷn, pobl anabl, a phobl gyda salwch tymor hir.

Prynu cyfarpar nwy a'u gosod

Rhaid i unrhyw un sy'n darparu cyfarpar nwy sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cwrdd â safonau diogelwch Ewropeaidd.

Rhaid i unrhyw un sy'n gosod neu'n atgyweirio cyfarpar neu offer nwy fod wedi'u cofrestru gyda CORGI (Council for Registered Gas Installers), gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol. Rhaid iddynt gael Cerdyn Adnabod yn rhestru'r mathau o waith nwy y maen nhw'n gymwys i'w gwneud.

Nôl i’r Brig



Gwasanaethau arbennig i bobl hŷn, pobl anabl a phobl gyda salwch tymor hir

Mae gwasanaethau rhad ac am ddim ar gael gan bob cwmni cyflenwi nwy o dan y Gofrestr Gwasanaethau sy’n Flaenoriaeth. Mae gwasanaethau ar gael i gwsmeriaid sydd:

  • wedi cyrraedd oed pensiwn, neu
  • ag anabledd, neu
  • â nam ar eu clyw neu eu llygaid, neu
  • â salwch tymor hir.

Dyma'r gwasanaethau sy'n medru bod ar gael, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • gwasanaeth sydd wedi'i deilwra'n well at eich anghenion, er enghraifft, rydych yn medru gofyn am gael darlleniad eich mesurydd mewn Braille, mewn print brâs neu ar dâp sain
  • symud eich mesurydd yn rhad ac am ddim i'w wneud yn fwy hygyrch
  • cael blaenoriaeth i gael eich cyflenwad nwy wedi'i adfer os oes damwain yn ymyrryd ag ef.

Am fwy o wybodaeth neu gyngor am wasanaethau rhad ac am ddim o dan y Gofrestr Gwasanaethau sy’n Flaenoriaeth gan eich cwmni cyflenwi nwy, rhowch glic ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr, yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae cyngor ymarferol ar gael ar-lein hefyd, ar wefan Energy Retail Association yn: (New window) www.homeheathelp.org.uk. Mae yna:

  • rifau ffôn cyswllt a dolen at dimau gwasanaethau blaenoriaethau cyflenwyr sy'n medru eich helpu i gael mynediad at eich gwasanaethau rhad ac am ddim
  • gwybodaeth ynghylch gwasanaethau eraill sydd ar gael, er enghraifft grantiau ar gyfer inswleiddio'r cartref, opsiynau talu hyblyg ac ad-daliadau'r gaeaf
  • help i osgoi datgysylltu os nad ydych yn medru talu'r bil – gweler y pennawd Dyledion nwy a datgysylltu
  • cyngor ar wneud eich cartref yn effeithlon o ran ynni.

Nôl i’r Brig



Cwynion

Os oes cwyn gennych am eich cwmni cyflenwi nwy, dylech godi'r mater gyda'ch cwmni cyflenwi nwy i ddechrau.

Ond, mae'r broses gwyno'n wahanol i gwsmeriaid sydd wedi cael eu datgysylltu neu ble mae'r cwmni'n bygwth eu datgysylltu, neu i gwsmeriaid sy'n cael eu hystyried yn gwsmeriaid bregus. Dylech geisio datrys y mater gyda'ch cwmni cyflenwi nwy yn gyntaf ond, os ydych yn mynd i drafferthion, dylech fynd â'ch cwyn at Cyswllt Defnyddwyr.

Os ydych wedi cael eich datgysylltu neu mae'r cwmni'n bygwth eich datgysylltu, gweler y pennawd Dyledion nwy a datgysylltu. Os ydych yn credu efallai eich bod yn fregus, gweler y pennawd Cwyno os ydych yn fregus.

Cwyno i'ch cwmni cyflenwi

Rhaid bod gan eich cwmni cyflenwi weithdrefn ar gyfer delio gyda chwynion. Dylech fod yn medru cael copi o'r weithdrefn hon oddi ar wefan eich cwmni cyflenwi. Dylai'r weithdrefn gynnwys enwau a manylion cyswllt pob ffynhonnell help, cyngor a gwybodaeth annibynnol sydd ar gael.

Os fyddwch chi angen help neu gyngor ynghylch cwyno neu ddelio gyda'ch cwmni cyflenwi nwy, rydych yn medru cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr - gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol am fanylion cyswllt, neu edrychwch ar gefn eich bil ynni. Fodd bynnag, ni fydd Cyswllt Defnyddwyr yn medru trafod eich cwyno ar eich rhan.

Rydych yn medru cwyno am unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a gawsoch gan eich cwmni cyflenwi nwy. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y maen nhw wedi delio gyda'ch cwyno, rydych hefyd yn medru cwyno am hyn.

Rydych yn medru cwyno dros y ffôn, yn bersonol neu'n ysgrifenedig – gan gynnwys drwy'r e-bost.

Unwaith fyddwch chi wedi cwyno, rhaid i'ch cwmni cyflenwi ddweud wrthych pa gamau y byddan nhw'n eu cymryd i ddatrys eich cwyn, a faint o amser mae hyn yn debygol o gymryd. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'ch cwmni cyflenwi'n trafod eich cwyn, fe allwch ofyn am adolygiad mewnol.

Os nad yw'ch cwmni cyflenwi'n medru datrys eich cwyn mewn ffordd sy'n eich gwneud chi'n hapus, rhaid iddynt ddweud hyn wrthych yn ysgrifenedig. Gelwir hyn yn llythyr sefyllfa ddiddatrys neu 'letter of deadlock'. Unwaith y byddwch wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, os ydych am fynd â'r gwyn ymhellach, fe fyddwch yn medru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni. Os nad ydych wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, rhaid i chi aros o leiaf wyth wythnos (deuddeg os yw'ch cwmni cyflenwi yn un o'r cwmnïau ynni llai) cyn i chi fedru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni - gweler y pennawd Cwyno i'r Ombwdsman Ynni.

Cwyno os ydych yn fregus

Ystyrir bod rhai defnyddwyr nwy yn fregus. Efallai bod hyn yn berthnasol i chi os nad yw'n rhesymol i chi gwyno ar eich pen eich hun oherwydd:

  • mae gennych anabledd meddwl neu gorfforol
  • nid oes gennych yr iaith neu'r sgiliau darllen Saesneg sylfaenol. Ni fydd hyn yn berthnasol os oes cyfleusterau cyfieithu ar gael i chi
  • mae gennych amgylchiadau personol arbennig o anodd, er enghraifft, rydych newydd gael profedigaeth
  • mae yna angen brys penodol i ddatrys eich problem ac nid ydych yn medru gwneud hyn mewn pryd
  • mae eich problem yn arbennig o gymhleth.

Os ydych yn fregus ac nid ydych wedi medru datrys eich problem yn uniongyrchol gyda'ch cwmni cyflenwi nwy, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr - gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol am fanylion cyswllt, neu edrychwch ar gefn eich bil nwy.

Ble'n briodol, fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr, a fydd yn mynd ar drywydd eich cwyn gyda'r cwmni cyflenwi nwy.

Dylech gael ymateb gan eich cwmni cyflenwi o fewn deg diwrnod gwaith i'r dyddiad y cyfeiriwyd eich achos at Llais Defnyddwyr. Dylai mwyafrif helaeth y cwynion gael eu datrys o fewn 35 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae Llais Defnyddwyr wedi delio â'ch cwyn, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni – gweler isod.

Cwyno i'r Ombwdsman Ynni

Rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni os ydych wedi derbyn llythyr sefyllfa ddiddatrys gan eich cwmni cyflenwi nwy. Os nad ydych wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, fe fyddwch yn medru cwyno os yw'ch cwyn i'r cwmni cyflenwi nwy trydan wedi bod yn mynd ymlaen ers o leiaf wyth wythnos ac un o'r canlynol yw'ch cwmni cyflenwi:

  • E.ON
  • Nwy Prydain
  • EDF
  • Npower
  • Scottish Power
  • Scottish and Southern.

Os nad ydych yn cael eich nwy gan un o'r cwmnïau hyn, fel arfer rhaid i chi aros deuddeg wythnos cyn y byddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni.

Mae'r Ombwdsman Ynni'n medru ymchwilio i gwynion gan gwsmeriaid domestig a chwsmeriaid busnes bach. Mae cwsmer busnes bach yn un sydd â:

defnydd blynyddol o hyd at 200,000 cilowat awr o nwy, neu

hyd at ddeg gweithiwr a throsiant blynyddol o hyd at 2 miliwn ewro.

Rhaid i chi fynd â'ch cwyn i'r Ombwdsman o fewn chwe mis i ddyddiad y llythyr sefyllfa ddiddatrys gan eich cwmni cyflenwi nwy, os cawsoch un. Os na chawsoch lythyr o'r fath, fe fyddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman ar unrhyw adeg rhwng wyth wythnos a naw mis ar ôl y dyddiad y cwynoch i'ch cwmni cyflenwi, os yw'ch cwmni cyflenwi yn un o'r cwmnïau a nodwyd yn gynharach. Os nad yw'ch cwmni ar y rhestr uchod, mae gennych rhwng 12 wythnos a naw mis i gwyno.

Fe fyddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni trwy lythyr, ffacs, ffôn neu ar-lein.

Fe fydd yr Ombwdsman Ynni'n medru trefnu un o'r canlynol:

  • i chi gael ymddiheuriad
  • i chi gael esboniad
  • i ddatrys eich problem
  • mewn rhai amgylchiadau, i chi gael iawndal ariannol.

Am fanylion cyswllt yr Ombwdsman Ynni, gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Nôl i’r Brig



Sefydliadau defnyddiol

Llais Defnyddwyr

Llais Defnyddwyr yw'r gwylgi defnyddwyr sy'n gyfrifol am amddiffyn buddiannau defnyddwyr trydan a nwy.

Mae gan wefan Llais Defnyddwyr:

  • gronfa ddata o wybodaeth ynghylch hawliau defnyddwyr
  • cyfleuster 'Holi cwestiwn' sy'n gadael i chi holi cwestiwn newydd ar-lein os nad ydych yn medru dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen yn y gronfa ddata
  • cyfres o daflenni ffeithiau a thaflenni i ddefnyddwyr, i'w lawrlwytho
  • gwybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi tanwydd
  • gwybodaeth ynghylch y cwmnïau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi a'r prisiau y maen nhw'n eu codi
  • gwybodaeth ynghylch gwasanaethau cymharu prisiau
  • gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni a gostwng eich biliau tanwydd.

Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Cyswllt Defnyddwyr

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr ac fe'i cefnogir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaethau Safonau Masnach yr awdurdodau lleol.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn medru rhoi help a chyngor ynghylch materion ynni. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i newid eich cwmni cyflenwi a hefyd sut i ddelio gyda'ch cwmni cyflenwi os oes cwyn gennych.

Rydych yn medru cwyno am eich cwmni cyflenwi nwy i Cyswllt Defnyddwyr os cawsoch eich datgysylltu, os oes rhywun yn bygwth eich datgysylltu neu os credir eich bod yn gwsmer bregus.

Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Cyswllt Defnyddwyr ar sail prisiau 0845.

Ffôn: 0845 404 0506
Gwefan: (New window) www.consumerdirect.org.uk

Yr Ombwdsman Ynni

Os oes cwyn gennych am eich cwmni cyflenwi nwy ac nid ydych wedi llwyddo i'w datrys yn uniongyrchol gyda'ch cwmni cyflenwi, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni. Rhaid eich bod wedi cwyno i'ch cwmni cyflenwi nwy yn gyntaf.

Mae'r Ombwdsman Ynni hefyd yn delio gyda chwynion am gwmnïau cyflenwi trydan.

Rydych yn medru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni yn:

PO Box 966
Warrington
WA4 9DF

Ffôn: 0845 055 0760 neu 01925 530263
Ffacs: 0845 055 0765 neu 01925 530264
Ffôn testun: 18001 0845 051 1513 neu 18001 01925 430886
E-bost: enquiries@energy-ombudsman.org.uk
Gwefan: (New window) www.energy-ombudsman.org.uk.

Ofgem (Office of Gas and Electricity Markets)

Mae Ofgem yn gorff rheoleiddio annibynnol, a sefydlwyd gan y llywodraeth i hybu cystadleuaeth ac i fonitro a rheoleiddio gweithgareddau cwmnïau cyflenwi yn y diwydiannau nwy a thrydan. Mae Ofgem hefyd yn monitro Codau Ymarfer cwmnïau cyflenwi ac yn ceisio sicrhau bod anghenion cwsmeriaid bregus yn cael eu diwallu. Nid ydynt yn medru delio'n uniongyrchol gyda chwynion defnyddwyr. Mae eu tîm Materion Defnyddwyr yn delio gydag ymholiadau ynghylch eu polisïau. Gellir cysylltu â nhw ar: 020 7901 7295 neu drwy e-bostio: consumeraffairs@ofgem.gov.uk.

CORGI (Council for Registered Gas Installers)

Mae CORGI yn fudiad annibynnol sy'n hybu diogelwch nwy. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gosod neu'n gwasanaethu offer nwy gofrestru gyda CORGI. Mae CORGI'n sicrhau bod Codau Ymarfer Safonau Prydeinig a Rheoliadau Diogelwch Nwy yn cael eu bodloni, er, nid ydyw'n cosbi cwmnïau ei hun – mae'n cyfeirio'r achos at y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch.

Os ydych am gwyno ynghylch gosodwr nwy, neu eisiau manylion gosodwyr nwy sydd wedi'u cofrestru gyda CORGI, cysylltwch â CORGI yn:-

1 Elmwood
Chineham Business Park
Crockford Lane
Basingstoke
Hampshire
RG24 8WG

Ffôn: 0800 915 0485
Ffacs: 0870 401 2600
E-bost: enquiries@trustcorgi.com
Gwefan: (New window) www.trustcorgi.com

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ