Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Mae eich cerbyd yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn neu ei ddifrodi tra’i fod yn y garej

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ar y dudalen hon, cewch wybod beth yw eich hawliau os caiff eich cerbyd ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi tra’i fod wedi cael ei adael yng ngofal garej er mwyn ei drwsio neu wasanaethu.

Yn gyfreithiol, mae’n gyfrifoldeb ar y garej i ofalu’n dda am y cerbyd tra’i fod gyda nhw. Rhaid iddynt gynnig iawndal i chi os ydyn nhw’n colli’r cerbyd, neu’n ei ddifrodi, onid ydynt yn medru dangos nad eu bai nhw oedd yr hyn a ddigwyddodd i’r cerbyd. Dylai fod gan fwyafrif y garejys yswiriant i dalu am y gost o wneud hyn.

Os yw’r garej yn cynnig iawndal i chi am golled llwyr eich cerbyd neu am nad ydych yn medru defnyddio’ch cerbyd mwyach, nid oes rhaid iddyn nhw gynnig mwy na gwerth y cerbyd pan ddaeth i mewn i’r garej.

Os ydych chi’n cytuno i’r garej atgyweirio cerbyd a ddifrodwyd, nid oes rhaid i’r garej ei adfer i gyflwr gwell na’i gyflwr pan ddaeth i mewn i’r garej.

Holwch os oes gan y garej yswiriant

Os yw’r cerbyd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddwyn neu ei ddifrodi, holwch yn gyntaf i weld os oes yswiriant gan y garej i dalu am y gost o drwsio’ch cerbyd neu roi cerbyd arall i chi yn ei le.

Dylai’r garej ddweud wrthych pwy yw’r cwmni yswiriant sydd ganddi, a dylai gynnig unioni’r cam neu roi cerbyd arall i chi yn lle.

Ond, os nad yw’n fodlon gwneud hyn, neu os ydych yn cael trafferth, holwch os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach ac anfonwch gwyn at y gymdeithas fasnach.

Os ydych chi angen cyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr a fydd yn medru eich cynghori. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Holwch os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach

Mae nifer o garejys yn perthyn i gymdeithasau masnach sydd â chod ymarfer sy’n gosod safonau y cytunwyd arnynt, ac mae’n rhaid i aelodau eu dilyn. Mae hyn yn cynnwys yswiriant addas.

Fel arfer, dylai garej sy’n perthyn i gymdeithas fasnach ddilyn proses gwyno y byddwch yn medru ei defnyddio i ddatrys problem os na fyddwch chi’n cael llwyddiant trwy siarad â’r garej.

Mae nam ar y cerbyd ac mae modd ei drwsio

Os ydych chi’n cytuno i’r garej atgyweirio’r cerbyd, nid oes rhaid i’r garej ei adfer i gyflwr gwell na’i gyflwr pan ddaeth i mewn i’r garej.

Ydych chi’n medru gofyn i garej arall drwsio’r cerbyd?

Rydych yn medru gofyn i garej arall drwsio’r cerbyd os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Fe fydd angen i chi gysylltu â chwmni yswiriant y garej cyntaf i weld os yw’n cytuno i hyn.

Dylai’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant gytuno i garej arall drwsio’r cerbyd os yw’r garej arall yma’n cynnig gwasanaeth da. Ond, os ydych yn mynnu cael garej wahanol i wneud y gwaith atgyweirio, fe fyddai llys yn medru penderfynu eich bod yn ymddwyn yn afresymol ac efallai na fyddai’n dyfarnu holl gostau’r atgyweiriad i chi.

Beth os nad oes modd trwsio’r cerbyd yn eich barn chi, ond mae’r garej yn credu y gall ei drwsio?

Os oes difrod difrifol i’ch cerbyd a chithau o’r farn nad oes modd ei drwsio, ond mae’r garej yn credu bod modd ei drwsio, fe fydd angen i chi ddod i gytundeb ynghylch yr hyn sy’n mynd i ddigwydd.  Os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, efallai y bydd yn medru eich helpu i drafod gyda’r garej.

Pa hawliau sydd gennych tra bod eich cerbyd yn cael ei drwsio neu tra’ch bod yn aros am un arall yn ei le?

Os ydych yn dod i gytundeb gyda garej i drwsio’r cerbyd neu gynnig iawndal am y golled neu ddifrod, fe fyddwch yn medru gofyn i’r garej wneud hyn:

  • ·o fewn cyfnod rhesymol o amser a
  • ·heb unrhyw anghyfleustra sylweddol i chi.

Os yw’r garej ar fai ac mae’n cymryd amser hir i drwsio’r cerbyd neu gynnig iawndal, fe fyddwch yn medru gofyn i’r garej gynnig benthyg cerbyd i chi neu dalu’r costau ychwanegol sydd wedi codi, er enghraifft cost hurio cerbyd. Os yw’r garej yn gwrthod gwneud hyn, holwch os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach. Efallai y byddai’n medru eich helpu i drafod gyda’r garej.

Beth os nad oes modd trwsio’r cerbyd?

Os oes difrod difrifol i’ch cerbyd, efallai y bydd cwmni yswiriant y garej yn dweud nad oes modd ei drwsio. Fe allai hyn ddigwydd oherwydd:

  • ·byddai trwsio’r cerbyd yn costio mwy na’i werth neu
  • ·nid oes modd trwsio’r cerbyd oherwydd mae gormod o ddifrod.

Os yw hyn yn digwydd, dylid cynnig gwerth presennol y cerbyd i chi fel iawndal. Fel arfer, mae’n llai na gwerth prynu cerbyd newydd. Os nad ydych yn hapus â’r cynnig, ceisiwch drafod gyda’r garej i dalu’r diffyg.

Os oeddech wedi prynu’r cerbyd ar hurbwrcas neu gyda benthyciad gan y banc, efallai y bydd yn dod o dan bolisi Gwarant i Ddiogelu Asedau. Efallai y bydd y polisi hwn yn talu’r diffyg rhwng cynnig y garej am werth presennol y cerbyd a’r hyn y byddai’n ei gostio i brynu cerbyd newydd yn ei le. I ddarganfod os oes polisi o’r fath gennych, darllenwch brint bach cytundeb eich benthyciad.

Beth os yw’r cerbyd wedi mynd a’r goll neu wedi cael ei ddwyn o’r garej?

Os yw’ch cerbyd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddwyn tra’i fod yng ngofal y garej, ac mae hyn wedi digwydd oherwydd nad oedd y garej yn gofalu’n iawn am y cerbyd, mae’r garej yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich digolledu.

Ond, nid oes rhaid i’r garej gynnig mwy i chi na gwerth y cerbyd pan ddaeth i mewn i’r garej.

Os oeddech wedi prynu’r cerbyd ar hurbwrcas neu gyda benthyciad gan y banc, efallai y bydd yn dod o dan bolisi Gwarant i Ddiogelu Asedau. Efallai y bydd y polisi hwn yn talu’r diffyg rhwng cynnig y garej am werth presennol y cerbyd a’r hyn y byddai’n ei gostio i brynu cerbyd newydd yn ei le. I ddarganfod os oes polisi o’r fath gennych, darllenwch brint bach cytundeb eich benthyciad.

Camau nesaf

I ddarganfod os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, sy’n medru cynnig gwasanaeth cymodi a chyflafareddu, gweler Garejys – help pellach a manylion cyswllt.

Am fwy o wybodaeth ar ddelio gyda chwynion, gweler Sut i gwyno ynglyn â garej. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar wasanaethau cymodi a chyflafareddu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar sut i hawlio iawndal yn eich llys sirol lleol yng Nghymru a Lloegr neu yn eich llys siryf yn yr Alban.

Os ydych chi angen help am fod eich cerbyd wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddifrodi neu ei ddwyn tra’i fod yn cael ei drwsio neu ei wasanaethu, mae cyngor ar gael gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Help pellach

Ar Adviceguide

Mudiadau defnyddiol

Cyswllt Defnyddwyr
Ffôn: 08454 04 05 06
Gwefan:www.consumerdirect.gov.uk.

Gwasanaeth Cyfrwng Cymraeg Cyswllt Defnyddwyr
Ffôn: 08454 04 05 06
www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback