The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Problemau gydag ansawdd atgyweiriadau neu wasanaeth mewn garej
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i gael garej i unioni’r cam os nad ydych yn hapus gydag ansawdd yr atgyweiriadau y mae wedi eu gwneud.
Dan gyfraith defnyddwyr, mae’n rhaid i garej wneud y gwaith atgyweirio neu’r gwasanaeth gyda gofal a sgil rhesymol a rhaid ei fod o ansawdd boddhaol.
Nid oes gwahaniaeth os ydych wedi cytuno i’r gwaith ar lafar neu yn ysgrifenedig, yr un yw eich hawliau.
Os nad ydych yn fodlon ag atgyweiriadau gan y garej
Os nad ydych yn hapus gydag ansawdd y gwaith a wnaed gan garej, ac mae’r nam yn dychwelyd, cysylltwch â’r garej i ofyn am gael yr atgyweiriad wedi ei ail-wneud yn rhad ac am ddim.
Os yw eich cerbyd dan warant, darllenwch y cytundeb i weld os oes unrhyw hawliau ychwanegol gennych ar ben yr hawliau sydd gennych dan gyfraith defnyddwyr. Er enghraifft, efallai y bydd y warant yn nodi’n glir fod gennych hawl i gael atgyweiriad yn rhad ac am ddim os oes problem.
Os nad yw’r ail atgyweiriad yn datrys sy broblem
Os yw’r garej yn trwsio’r cerbyd eto ac nid yw’n datrys y broblem, holwch os yw’n perthyn i gymdeithas fasnach.
Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau masnach god ymarfer sy’n cynnwys safonau gwasanaeth y mae’n rhaid i’w haelodau eu dilyn. Fe allwch ei ddefnyddio i ddangos i’r garej fod yn rhaid iddi unioni’r cam.
Os nad yw’r garej yn cytuno i drwsio’r cerbyd eto, neu os nad yw’n aelod o gymdeithas fasnach, fe allwch ddweud wrthi eich bod yn bwriadu cael y cerbyd wedi ei drwsio yn rhywle arall. Yna, fe allwch hawlio iawndal am gost yr atgyweiriadau. Ond, fe fydd yn rhaid i chi brofi bod angen gwneud yr atgyweiriadau neu’r gwasanaeth eto trwy gael barn rhywun arall.
Cael barn arall ynglyn ag atgyweiriadau neu wasanaeth gan garej
Mae garej arall yn medru rhoi adroddiad i chi i’w ddefnyddio fel tystiolaeth ynglyn â’r hyn y mae’r garej wreiddiol wedi methu â’i wneud. Sicrhewch fod gan y garej newydd enw da a’i bod yn perthyn i gymdeithas fasnach.
Os yw’r nam yn un technegol iawn, gofynnwch i beiriannydd cerbydau annibynnol archwilio’r cerbyd i asesu ansawdd yr atgyweiriadau. Fe fydd yn rhaid i chi dalu am yr adroddiad hwn. I ddod o hyd i beiriannydd cerbydau annibynnol edrychwch yn yr Yellow Pages o dan Independent Consultant Vehicle Engineers, neu rhowch glic ar www.yell.com.
Os oes problem yn codi gyda chydrannau newydd
Os oes angen newid cydrannau yn eich cerbyd, mae’n rhaid eu bod o ansawdd boddhaol. Er enghraifft, os oes angen gerbocs newydd ar eich cerbyd ac roedd y gwaith atgyweirio’n iawn ond roedd nam ar y gerbocs, fe allwch ofyn i’r garej osod gerbocs newydd yn rhad ac am ddim.
Os yw eich cerbyd dan warant, darllenwch y cytundeb i weld os oes hawliau ychwanegol gennych ar ben eich hawliau defnyddiwr. Er enghraifft, mae warantau’n aml yn nodi’n glir fod hawl gennych i gael cydrannau newydd yn rhad ac am ddim os fydd rhywbeth yn mynd o’i le.
A yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach?
Holwch os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach. Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau masnach god ymarfer, sy’n cynnwys y safonau gwasanaeth lleiaf y gallwch eu disgwyl, ac mae’n rhaid i aelodau ei ddilyn. Fe allwch ddefnyddio’r cod hwn i ofyn i’r garej unioni’r cam.
Os nad yw’r garej yn fodlon gwneud hyn neu os nad yw’n aelod o gymdeithas fasnach, fe allwch ofyn i garej arall wneud y gwaith yn lle, a hawlio iawndal am y costau ychwanegol.
Yn yr Alban, fe allwch hawlio o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979.
Fe fydd yn rhaid i chi gael barn gan garej arall neu beiriannydd cerbydau annibynnol, er mwyn profi bod angen newid y cydrannau.
Mae’r garej yn dweud ei bod wedi gosod cydrannau newydd ond nid yw hyn yn wir
Os yw’r garej yn dweud ei bod wedi gosod cydrannau newydd ond nid yw hyn yn wir, efallai ei bod yn troseddu. Gelwir hyn yn gymryd rhan mewn arfer masnachol annheg. Os ydych yn amau bod hyn yn digwydd, fe allwch riportio’r garej i Gyswllt Defnyddwyr ac fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn medru cynnig cyngor pellach.
Beth os nad ydych yn medru datrys y broblem gyda’r garej?
Os nad ydych yn medru datrys y broblem gyda’r garej, mae yna sawl peth efallai y byddwch yn medru eu gwneud, gan ddibynnu ar eich sefyllfa:
- ·Os oeddech wedi cytuno ar bris ymlaen llaw ond nid ydych yn hapus ag ansawdd yr atgyweiriadau, fe allwch wrthod talu’r bil hyd nes bod y gwaith wedi cael ei wneud yn iawn. Ond, fe fydd yn rhaid i chi dalu’r pris y cytunwyd arno pan fydd y gwaith wedi cael ei wneud yn y pendraw
- ·Os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, defnyddiwch ei phroses gwyno yn gyntaf. Mae sawl un yn cynnig gwasanaethau cymodi rhad ac am ddim sy’n eich helpu chi a’r garej i ddatrys y broblem. Ond, nid ydynt yn annibynnol, ac felly os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i ddefnyddio gwasanaeth cyflafareddu
- ·Os nad yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, fe allech hawlio iawndal. Fe fydd angen i chi wneud hyn trwy eich llys sirol lleol, neu lys y siryf os ydych yn byw yn yr Alban
- ·Os ydych yn teimlo bod y garej wedi troseddu, dylech ei riportio i Cyswllt Defnyddwyr (ConsumerLine yng Ngogledd Iwerddon) ac fe fydd Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn medru cyfeirio’r achos at Safonau Masnach. Mae Safonau Masnach yn medru atal y garej rhag torri’r gyfraith.
Camau nesaf
I ddarganfod mwy am eich hawliau fel defnyddiwr, ewch at Prynu gwasanaethau – eich hawliau.
I ddarganfod os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, gweler Garejys – help pellach a manylion cyswllt.
Os ydych chi am gwyno ynghylch ansawdd atgyweiriadau’r garej, gweler Sut i gwyno ynglyn â garejys. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar wasanaethau cymodi a chyflafareddu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar hawlio iawndal yn y llys sirol, neu lys y siryf os ydych chi’n byw yn yr Alban.
Os ydych yn credu eu bod wedi codi gormod arnoch neu os ydych chi am ddal taliad yn ôl hyd nes bod y broblem wedi ei datrys, ewch at Problemau gyda chost trwsio cerbyd, neu ei wasanaethu, mewn garej.
Help pellach
On Adviceguide
Mudiadau defnyddiol
Cyswllt Defnyddwyr
Ffôn: 08454 04 05 06
Gwefan:www.consumerdirect.gov.uk.
Gwasanaeth Cyfrwng Cymraeg Cyswllt Defnyddwyr
Ffôn: 08454 04 05 06
www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk.









