Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Problemau gyda chost trwsio cerbyd, neu ei wasanaethu, mewn garej

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Dan gyfraith defnyddwyr, mae’n rhaid i garej godi pris rhesymol arnoch am y gwaith y mae’n ei wneud. Ond, efallai y cewch broblem gyda’r hyn y mae’r garej yn ceisio ei godi arnoch oherwydd:

  • ·ni chytunwyd ymlaen llaw ar y pris cyn gwneud y gwaith
  • ·daeth y garej o hyd i fwy o broblemau gyda’r cerbyd ar ôl i chi gytuno ar bris. Roeddech wedi cytuno i’r gwaith gael ei wneud ond ni chytunwyd ar bris newydd
  • ·gwnaethpwyd gwaith nad oeddech wedi gofyn amdano.

Ar y dudalen hon, cewch wybod beth fedrwch chi ei wneud os ydych yn credu bod y garej wedi codi tâl annheg arnoch am waith trwsio neu wasanaethu y mae wedi ei wneud. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i herio’r bil.

Mae’r garej yn codi gormod arnoch

Os ydych yn credu bod y garej wedi codi gormod arnoch am y gwaith y mae wedi ei wneud, mae yna sawl peth fedrwch chi ei wneud ond mae’n dibynnu a oeddech wedi cytuno ar bris am y gwaith cyn gwneud y gwaith neu ar ôl ei wneud.

Nid oeddech wedi cytuno ar y gost ymlaen llaw

O dan gyfraith defnyddwyr, mae gennych yr hawl i gael bil rhesymol. Nid yw’n gorfod bod ar bris y farchnad. Dylai’r pris fod yn deg yn eich llygaid chi ac yn llygaid y garej.

Er mwyn cyfrifo pris teg, holwch garejys lleol eraill i weld pa ffigwr maen nhw’n ei awgrymu a defnyddiwch y ffigwr yma i drafod gyda’r garej. Os na fydd y garej yn fodlon trafod, fe fyddwch yn medru herio’r bil.

Roeddech wedi cytuno ar y gost ymlaen llaw

Os oeddech wedi cytuno ar bris sefydlog gyda’r garej cyn iddynt wneud yr atgyweiriadau, rydych chi wedi ymrwymo i dalu’r swm yna. Wrth gytuno ar y pris gyda’r garej, roeddech yn ffurfio cytundeb gyda nhw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi darganfod bod y swm yr ydych wedi cytuno i’w dalu yn llawer mwy nag y dylai fod.

Ond, dylech ymchwilio i’r mater i weld os mai amcanbris a gawsoch gan y garej neu ddyfynbris.

Mae’r garej yn ceisio codi mwy nag a gytunwyd

Os cawsoch bris gan y garej am y gwaith, cyn i’r gwaith gael ei wneud, ac mae nawr yn ceisio gofyn am fwy o arian, dylech ymchwilio i’r mater i weld os mai amcanbris a gawsoch gan y garej neu ddyfynbris.

Mae dyfynbris yn addewid i wneud y gwaith am y pris y cytunwyd arno.

Amcanbris yw’r hyn y mae’r garej yn credu y dylai’r gwaith ei gostio cyn gwneud y gwaith. Mae’r cyfanswm yn medru bod yn fwy neu’n llai na hyn.

Os cawsoch ddyfynbris, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi dalu’r swm a roddwyd i chi fel dyfynbris.

Os cawsoch amcanbris  ac mae’r bil terfynol lawer yn fwy nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl, fe allwch ei herio. Defnyddiwch yr amcanbris fel man cychwyn wrth i chi ddechrau trafod.

Os yw’r garej wedi rhoi amcanbris afrealistig i chi, efallai ei fod wedi torri’r gyfraith. Gelwir hyn yn gymryd rhan mewn arfer masnachol annheg. Os ydych yn amau bod y garej wedi gwneud hyn, fe allwch ei riportio i Gyswllt Defnyddwyr ac fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn medru eich cynghori ymhellach.

Mae’r garej yn ceisio codi tâl arnoch am waith nad ydych wedi gofyn amdano

Os ydych yn cael bil am waith nad oeddech wedi gofyn amdano, trafodwch gyda’r garej i sefydlu beth gafodd ei ddweud pan gytunwyd ar y gwaith.

Os oeddech wedi gofyn i’r garej wneud beth bynnag yr oedd angen ei wneud i drwsio’r nam, roeddech wedi rhoi’r hawl i’r garej i benderfynu pa waith i’w wneud. Os oedd y gwaith yn angenrheidiol ac mae’r pris yn rhesymol, fe fydd yn rhaid i chi dalu’r swm y mae’r garej yn gofyn amdano.

Os yw’r garej wedi gwneud gwaith nad oeddech wedi gofyn amdano, fe allwch ofyn i’r garej ddadwneud y gwaith. Er enghraifft, fe allwch ofyn am gael y cydrannau gwreiddiol wedi eu gosod yn ôl yn y cerbyd.

Os nad yw hyn yn bosib, fe allwch fynnu eich bod yn talu am yr hyn y cytunwyd iddo yn unig neu fe allwch wrthod talu am y gwaith ychwanegol a herio’r bil.

Trwy wneud gwaith nad oeddech wedi gofyn amdano neu nad oes ei angen, fe allai’r garej fod yn cymryd rhan mewn arfer masnachol annheg. Mae hyn yn drosedd. Os ydych chi’n credu efallai bod y garej wedi arddangos arfer masnachol annheg, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr ac fe fyddan nhw’n medru cynnig cyngor ar yr hyn ddylech chi ei wneud.

Sut i herio bil y garej

Os ydych yn teimlo bod bil gan y garej yn afresymol, fe allwch ei herio. Fe fydd yn rhaid i chi ddweud wrth y garej pam mae’r bil yn rhy uchel yn eich barn chi, a faint yr ydych chi’n barod i’w dalu.

Tra’ch bod yn herio’r bil, mae gan y garej yr hawl i gadw’ch cerbyd hyd nes i chi dalu’r bil. Os ydych chi angen eich cerbyd ar frys, dylech dalu dan brotest yn unig. Oni wnewch chi hyn, fe fydd yn anodd i chi gael yr arian yn ôl yn nes ymlaen.

Talu dan brotest

Os ydych chi’n talu dan brotest, nodwch yn ysgrifenedig ar daflen archeb y gwaith atgyweirio eich bod yn talu dan brotest.

Dywedwch pam, yn eich barn chi, y mae’r bil yn rhy uchel, ac eglurwch eich bod yn bwriadu dwyn yr achos gerbron y llys sirol (llys y siryf yn yr Alban).

Os ydych chi’n mynd i’r llys, gan ddibynnu ar natur eich anghydfod, fe fydd yn rhaid i chi brofi:

  • ·nad oeddech wedi gofyn am i’r gwaith gael ei wneud, neu
  • ·nad oeddech wedi cytuno i’r pris a godwyd, neu
  • ·bod y gwaith o ansawdd gwael.

Os nad ydych yn medru fforddio talu’r bil dan brotest

Os nad ydych yn medru fforddio talu’r bil dan brotest, neu byddai’r gost o fynd i’r llys yn fwy na’r swm yr ydych yn ei herio, siaradwch â’r garej i geisio dod i gytundeb ynghylch y swm y dylech ei dalu.

Nid yw’r garej yn medru gwerthu’r cerbyd na chael ei wared tra’ch bod yn herio’r bil, ac felly efallai y bydd yn barod i drafod gyda chi er mwyn cael y cerbyd oddi ar ei dwylo.

Beth sy’n digwydd i’ch cerbyd os ydych yn herio’r bil

Nid yw’r garej yn medru gwerthu’r cerbyd na chael ei wared tra’ch bod yn herio’r bil.

Mae rhai garejys yn codi ffi storio am gerbydau sydd heb gael eu casglu unwaith fyddan nhw wedi cael eu trwsio. Nid ydynt yn medru gwneud i chi dalu’r ffi oni chawsoch wybod amdani cyn cytuno i’r atgyweiriadau.

Peidiwch â mynd â’ch cerbyd o’r garej cyn i chi dalu’r bil, neu fe allech gael eich erlyn am ddwyn.

Camau nesaf

I ddarganfod mwy am eich hawliau fel defnyddiwr, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Os ydych chi am ddarganfod os yw garej yn aelod o gymdeithas fasnach sy’n cynnig gwasanaeth cymodi neu gyflafareddu, gweler Garejys – help pellach a manylion cyswllt.

Os na fyddwch chi’n medru datrys y broblem drwy siarad â’r garej, ac rydych chi am fynd â’ch cwyn ymhellach, dilynwch ein canllawiau ar Sut i gwyno ynglyn â garej.

Os ydych yn anhapus ag ansawdd yr atgyweiriadau neu’r gwasanaeth gan y garej, gweler Problemau gydag ansawdd atgyweiriadau mewn garej.

Mudiadau defnyddiol

Cyswllt Defnyddwyr


Ffôn: 08454 04 05 06
Gwefan:www.consumerdirect.gov.uk

Gwasanaeth Cyfrwng Cymraeg Cyswllt Defnyddwyr


Ffôn: 08454 04 05 06
www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback