The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Sut i gwyno ynglŷn â garej
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i gwyno ynglyn â garej. Efallai y byddwch chi am gwyno oherwydd, er enghraifft, mae’r bil yn rhy uchel neu nid yw’r gwaith trwsio wedi cael ei wneud yn iawn.
Fel arfer, fe fydd y ffordd yr ewch chi ati i gwyno yn dibynnu ar natur eich cwyn a ph’un ai fod y garej yn aelod o gymdeithas fasnach ai peidio.
Gellir datrys rhai cwynion yn anffurfiol trwy siarad yn uniongyrchol â’r garej.
Ond, os fyddwch chi angen mynd â chwyn ymhellach, efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn proses fwy ffurfiol. Mae’n werth darganfod os yw’r garej yn perthyn i gymdeithas fasnach sydd â chod ymarfer. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r garej ddelio â’ch cwyn trwy ddilyn cyfres o reolau y cytunwyd arnynt gan y gymdeithas fasnach.
Efallai y bydd cymdeithasau masnach hefyd yn cynnig gwasanaeth cymodi neu gyflafareddu y gallwch ei ddefnyddio i ddatrys eich problem heb orfod mynd i’r llys. Maen nhw’n dod yn ganolwr rhyngoch chi a’r garej i’ch helpu chi a’r garej i ddatrys y broblem.
Os na fydd y dulliau hyn yn gweithio neu os nad yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, fe allwch chi geisio hawlio iawndal gan y garej. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys i wneud hyn.
Mae’n bwysig eich bod yn dilyn proses lem wrth gwyno. Oni wnewch chi hyn mae’n gallu bod yn fwy anodd i chi fynd â’ch cwyn ymhellach os na gewch chi’r canlyniad yr oeddech yn gobeithio ei gael. Mae ein canllawiau cam-wrth-gam yn dangos beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cwyno’n effeithiol.
Cam Un: Ceisiwch ddatrys y broblem yn anffurfiol
Waeth beth yw eich rheswm dros gwyno, ceisiwch ddatrys y broblem gyda’r garej yn anffurfiol i ddechrau. Efallai mai dyna’r cyfan fydd ei angen i unioni’r cam.
Os nad ydych yn llwyddo i ddatrys y broblem yn anffurfiol, ac rydych chi am fynd â’ch cwyn ymhellach, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi brofi eich bod wedi ceisio siarad â’r garej yn gyntaf.
Pan fyddwch chi’n siarad â’r garej, cofnodwch:
- ·enw'r person yr oeddech wedi siarad ag ef/hi
- ·yr hyn a ddywedwyd
- ·dyddiadau ac amseroedd pwysig.
Os wnewch chi hyn, fe fydd cofnod gennych rhag ofn na fyddwch chi’n gallu dod i gytundeb, ac fe fyddwch yn gallu defnyddio’r cofnod hwn i brofi nad oedd y trafodaethau anffurfiol wedi gweithio.
Cam dau: Darganfod os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach
Os ydych chi wedi siarad â’r garej ond nid yw hyn wedi gweithio, holwch os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach sydd â chod ymarfer. Mae cod ymarfer yn gyfres o reolau y cytunwyd arnynt ynghylch safonau gwasanaeth ac mae’n rhaid i aelodau eu dilyn.
Mae hyn yn golygu y dylai fod gan y garej broses gwyno ffurfiol y gallwch ei defnyddio i ddatrys y broblem. Efallai hefyd y bydd cymdeithasau masnach yn cynnig gwasanaeth cymodi rhad ac am ddim os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad y broses gwyno.
Cam tri: Defnyddiwch wasanaeth cymodi neu gyflafareddu
Mae sawl garej yn cynnig gwasanaeth cymodi os ydyn nhw’n perthyn i gymdeithas fasnach. Mae gwasanaeth cymodi yn mynd yn ôl ac ymlaen rhyngoch chi a’r garej i ddatrys eich problem. Fel arfer, mae’n rhad ac am ddim ac mae’n gallu bod yn ffordd dda o ddatrys eich problem.
Ond, efallai na fydd y cymodi’n annibynnol, ac felly os nad ydych chi’n fodlon â’r canlyniad ac rydych yn teimlo bod rheswm gennych dros gwyno o hyd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i ddefnyddio gwasanaeth cyflafareddu annibynnol.
Mae cyflafareddu yn defnyddio aseswr annibynnol i’ch helpu chi a’r garej i ddod i gytundeb. Fel arfer, mae’n rhatach na mynd i’r llys. Mae sawl cymdeithas fasnach yn cynnig hyn fel cam nesaf os nad yw’r cymodi’n gweithio.
Os ydych yn ceisio cael arian yn ôl oherwydd, yn eich barn chi, mae’n ddyledus i chi gan y garej, fel arfer mae yna derfyn uchaf gyda gwasanaethau cymodi a chyflafareddu ar swm yr iawndal y medrwch chi ei hawlio. Maen nhw’n gweithio’n well hefyd ar gyfer achosion syml.
Os yw eich problem yn arbennig o gymhleth, neu os ydych chi am hawlio iawndal am lawer o arian, efallai y byddwch chi am ystyried dwyn achos llys yn lle.
Ond, os ydych chi’n dwyn achos llys, fe fydd y llys am wybod eich bod chi wedi ceisio defnyddio gwasanaeth cymodi neu gyflafareddu yn gyntaf os oedd gwasanaeth o’r fath ar gael.
Cam pedwar: Dwyn achos llys
Fe allwch chi ystyried dwyn achos llys os ydych chi am gael arian yn ôl am eich bod yn credu ei fod yn ddyledus i chi gan y garej ac rydych wedi trïo ffyrdd eraill o gwyno ond heb lwyddo.
Efallai hefyd mai dwyn achos llys fydd eich unig opsiwn, os yw’r garej wedi gwrthod siarad â chi ac nid yw’n perthyn i gymdeithas fasnach sy’n medru helpu datrys y broblem.
Er mwyn ceisio cael eich arian yn ôl, fe fydd angen i chi hawlio iawndal. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn trwy eich llys sirol lleol os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu eich llys siryf os ydych chi’n byw yn yr Alban.
Cyn i chi gyflwyno cais i’r llys, mae’n bwysig cyfrifo os yw’r swm o iawndal sy’n ddyledus i chi, yn eich barn chi, yn werth mwy na chost dwyn achos llys. Os nad yw’n werth fwy, efallai na fydd y gost a’r gofid o ddwyn achos llys yn werth yr ymdrech.
Os ydych yn gofyn am £5,000 neu lai, fe allwch chi ddwyn achos trwy lwybr ceisiadau bach y llys sirol. Os ydych yn hawlio rhwng £5,000 a £25,000, fe fydd eich cais yn mynd at y llwybr cyflym. Os ydych yn gofyn am fwy na £25,000, fe fydd yn cael ei osod ar yr aml-lwybr. Os ydych yn hawlio dros £25,000, fe allwch hefyd ddewis dechrau eich achos yn yr uchel lys.
Os ydych yn dwyn achos yn y llys, rhaid i chi wneud hyn o fewn terfynau amser penodol. Y terfyn amser ar gyfer hawlio, pan fydd garej wedi torri cytundeb i wneud gwaith y mae wedi cytuno i’w wneud, yw chwe blynedd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, a phum mlynedd yn yr Alban. Gelwir hyn yn dorri cytundeb.
Camau nesaf
I ddarganfod os yw garej yn aelod o gymdeithas fasnach sy’n cynnig gwasanaeth cymodi neu gyflafareddu, gweler Garejys – help pellach a manylion cyswllt.
Os ydych yn cwyno ynghylch y tâl y mae’r garej wedi ei godi arnoch, gweler Problemau gyda chost trwsio cerbyd mewn garej.
Os ydych yn cwyno ynghylch y ffordd y gwnaethpwyd y gwaith trwsio, gweler Problemau gydag ansawdd atgyweiriadau mewn garej.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddechrau dwyn achos yn y llys sirol, gweler Ceisiadau Bach.
Fe allwch chi gael help i gwyno ynghylch garej gan gynghorydd CAB profiadol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.









