The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Garejys – Help pellach a manylion cyswllt
| Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon |
Ar y dudalen hon, cewch wybod sut i ddarganfod os yw garej yn aelod o gymdeithas fasnach ac os yw’r gymdeithas fasnach yn medru eich helpu i ddatrys problem gyda garej.
Mae cymdeithasau masnach yn cynnig codau ymarfer sy’n gosod safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, ac mae’n rhaid i’w haelodau eu dilyn. Mae nifer hefyd yn cynnig gwasanaethau cymodi a chyflafareddu y gallwch chi eu defnyddio os nad ydych yn medru datrys y broblem gyda’r garej. Mae’r rhain yn medru bod yn ganolwr i’ch helpu chi a’r garej i ddatrys y broblem.
Ceir manylion mudiadau defnyddwyr eraill sy’n medru eich helpu hefyd, ynghyd â manylion gwybodaeth bellach sydd ar gael ar Adviceguide.
Cymdeithasau Masnach a chyrff proffesiynol
Motor Codes Limited
Mae Motor Codes Limited yn gweithredu Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer Gwasanaethu a Thrwsio ar ran Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron.
Lluniwyd y cod gyda’r Swyddfa Masnachu Teg. Mae’n rhaid i garejys sy’n cytuno i’r Cod ddelio’n deg gyda chwsmeriaid. Os ydych chi wedi cael gwasanaeth gwael, dylech riportio’r garej i Motor Codes Limited, hyd yn oed os nad yw’r garej wedi cytuno i’r cod.
Motor Codes Limited
PO Box 44755
London
SW1X 7WU
Llinell gyngor i ddefnyddwyr: 0800 692 0825
E-bost: consumer@motorcodes.co.uk
Gwefan: www.motorcodes.co.uk.
Retail Motor Industry Federation (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)
Mae’r RMI (Retail Motor Industry Federation) yn gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant moduro sy’n cynnwys delwyr cerbydau masnachfraint, garejys annibynnol, garejys sy’n gwneud gwaith ar gorff y car a chwmnïau sy’n delio mewn beiciau modur.
Rhaid i aelodau’r RMI ddilyn codau ymarfer yr RMI ar gyfer y diwydiant moduro, gan gynnwys y rheiny ar gyfer beiciau modur. Mae’r RMI yn gweithredu gwasanaeth cymodi y gallwch ei ddefnyddio os yw’r garej yn aelod o’r RMI.
Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth cymodi dim ond os ydych wedi ceisio datrys y broblem gyda’r garej ond nid ydych wedi llwyddo. Os nad yw’r cymodi’n gweithio, efallai y byddwch yn medru defnyddio gwasanaeth cyflafareddu’r RMI. Mae’n defnyddio aseswr annibynnol i ddelio â’r gwyn.
The National Conciliation Service
Retail Motor Industry Federation
9 North Street
Rugby
CV21 2AB
Ffôn: 01788 538317
Gwefan: www.rmif.co.uk.
Scottish Motor Trade Association
Mae SMTA (Scottish Motor Trade Association) yn gymdeithas fasnach ar gyfer busnesau yn y diwydiant moduro yn yr Alban, gan gynnwys gwerthwyr cerbydau a nwyddau moduro a busnesau sy’n gwasanaethu ac yn trwsio cerbydau. Rhaid i aelodau’r SMTA ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Moduro, a luniwyd gan Retail Motor Industry Federation (RMI) a’r SMTA.
Mae gan yr SMTA wasanaeth cymodi mewnol, y gallwch ei ddefnyddio os yw’r garej yn aelod o’r SMTA. Dylech geisio defnyddio gwasanaeth cymodi mewnol yr RMI dim ond os ydych wedi ceisio datrys y broblem gyda’r garej yn gyntaf ac nid ydych wedi llwyddo.
Os nad yw’r cymodi’n gweithio, fe allwch ddefnyddio cynllun cyflafareddu’r RMI. Mae hyn yn defnyddio aseswr annibynnol i ddelio â’r gwyn.
Scottish Motor Trade Association (SMTA)
Palmerston House
10 The Loan
South Queensferry
EH30 9NS
Ffôn: 0131 331 5510 (Llun-Gwe 9yb hyd 1yp, 2yp hyd 5yp)
Ffacs: 0131 331 4296
E-bost: info@smta.co.uk
Gwefan: www.smta.co.uk.
Motor Cycle Industry Association
Mae aelodau’r MCI (Motor Cycle Industry Association) yn gorfod dilyn y Cod Ymarfer ar gyfer y diwydiant beiciau modur. Lluniwyd y cod gyda’r Swyddfa Masnachu Teg. Mae’r MCI yn gallu eich cyfeirio chi at y gwasanaeth cymodi mewnol a weithredir gan yr RMI (Retail Motor Industry Federation).
Os na fydd y cymodi’n llwyddo i ddatrys y broblem, efallai y byddwch chi’n gallu defnyddio cynllun cyflafareddu annibynnol yr RMI. Mae’n defnyddio aseswr annibynnol i ddelio â’r gwyn.
Motor Cycle Industry Association (MCI)
1 Rye Hill Office Park
Birmingham Road
Allesley
Coventry
CV5 9AB
Ffôn: 02476 408000
Ffacs: 02476 408001
E-bost: motorcycling@mcia.co.uk
Gwefan: www.mcia.co.uk.
Mudiadau eraill i ddefnyddwyr
Cyswllt Defnyddwyr
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn medru ymgymryd â chwyn yn erbyn garej ar eich rhan. Mae hefyd yn medru cyfeirio eich cwyn at Safonau Masnach, sy’n medru cymryd camau yn erbyn y garej os oes angen.
Ffôn: 08454 04 05 06
Ffoniwch gynghorydd sy’n siarad Cymraeg ar: 08454 04 05 05
Gwefan: www.consumerdirect.gov.uk.
Consumerline (Gogledd Iwerddon yn unig)
Ffôn: 0300 123 6262
Gwefan: www.consumerline.org.
Safonau Masnach
Mae Safonau Masnach yn wasanaeth gan yr awdurdod lleol sy’n ymchwilio i broblemau defnyddwyr, yn enwedig ble mae’n bosib y cyflawnwyd trosedd.
Nid yw Safonau Masnach yn delio ag achosion unigol. Os oes problem gennych, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr yn gyntaf, ac yna fe allan nhw gyfeirio eich problem at Safonau Masnach. Yna, fe fyddan nhw’n cymryd camau pellach os oes angen.
Ar Adviceguide
- Dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) [
51 KB] 
- Dewisiadau eraill yn lle'r llys
- Prynu cerbydau ail-law
- Ceisiadau bach









