Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Mae garej yn cymryd gormod o amser i drwsio cerbyd neu ei wasanaethu

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Dan gyfraith defnyddwyr, dylai garej drwsio eich cerbyd neu ei wasanaethu o fewn amser rhesymol. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar y broblem.

Os yw’r gwaith yn waith syml, dylai ychydig o ddiwrnodau fod yn rhesymol. Ond, os yw’n anodd dod at wraidd y broblem neu mae’ch cerbyd angen llawer o atgyweiriadau, fe fydd hawl gan y garej i gymryd mwy o amser i wneud y gwaith.

Os ydych chi’n teimlo bod y garej yn cymryd gormod o amser i drwsio’ch cerbyd, efallai y byddwch chi am gwyno. Ar y dudalen hon, rydyn ni’n esbonio beth fedrwch chi ei wneud os nad ydych yn hapus gyda’r amser y mae’r garej yn ei gymryd. Fe fydd y camau y byddwch yn eu cymryd yn dibynnu hefyd ar b’un ai y cytunoch chi ar ddyddiad union ar gyfer cwblhau’r gwaith.

Rydych chi wedi cytuno ar union ddyddiad ar gyfer trwsio’r cerbyd

Efallai eich bod chi wedi dweud yn glir wrth y garej eich bod chi angen i’r atgyweiriadau fod wedi eu cwblhau ar eich cerbyd erbyn dyddiad penodol. Os oedd y garej wedi cytuno i wneud y gwaith o fewn yr amser yna ond nid yw’n cadw at ei air, mae wedi torri amodau ei gytundeb gyda chi. Gelwir hyn yn dorri cytundeb.

Os yw’r garej wedi torri cytundeb, fe fyddwch chi’n medru hawlio iawndal am golli’r defnydd o’ch cerbyd ac am unrhyw gostau ychwanegol sy’n codi, er enghraifft talu am dacsi neu hurio cerbyd.

Neu, fe allech fynd â’r cerbyd a’i gael wedi ei drwsio mewn garej arall. Os wnewch chi hyn, fe allwch chi hawlio iawndal am y gost o wneud atgyweiriadau ychwanegol.

Neu fe allwch chi drafod dyddiad newydd gyda’r garej ar gyfer trwsio’r cerbyd. Os nad ydych yn siwr pa fath o amser y ddylech chi gytuno iddo, fe allwch chi gael barn garej arall ynghylch yr amser y dylai ei gymryd i wneud yr atgyweiriadau. Os wnewch chi hyn, sicrhewch fod gan y garej arall enw da.

Nid oeddech wedi cytuno ar union ddyddiad ar gyfer trwsio’r cerbyd

Os nad oeddech wedi cytuno ar union ddyddiad ar gyfer trwsio’r cerbyd, rhaid iddo gael ei drwsio o fewn cyfnod rhesymol o amser. Ond, nid ydych yn medru mynd â’r cerbyd os ydych yn credu bod cyfnod rhesymol wedi bod a’r cerbyd yn dal i fod heb ei drwsio.

Fe fydd angen i chi ysgrifennu at y garej, yn esbonio pam, yn eich barn chi, maen nhw wedi cymryd gormod o amser i drwsio’ch cerbyd ac yn nodi dyddiad ar gyfer cwblhau’r atgyweiriadau.

Dylech roi dyddiad sy’n rhesymol. Os yw’r atgyweiriadau’n rhai syml, efallai y bydd gennych syniad gweddol dda o’r hyn sy’n rhesymol yn eich barn chi.

Os nad ydych yn gwybod, fe allech holi garej arall i weld pa mor hir fyddai’n ei gymryd i wneud yr atgyweiriadau yn eu barn nhw. Fe allwch chi ddefnyddio’r wybodaeth hon i osod dyddiad newydd ar gyfer cwblhau’r gwaith. Os wnewch chi hyn, sicrhewch fod gan y garej arall enw da.

Os nad yw’r cerbyd wedi ei drwsio erbyn y dyddiad hwn, fe fydd hawl gennych i fynd â’ch cerbyd a’i gael wedi’i drwsio yn rhywle arall.

Os oeddech eisoes wedi dweud wrth y garej fod angen y cerbyd arnoch am reswm penodol, fe allech hawlio iawndal am golli’r defnydd o’r cerbyd a’r costau ychwanegol sydd wedi codi, fel talu am dacsi neu hurio cerbyd.

Penderfynu pwy i fynd atynt i hawlio iawndal

Os ydych chi am hawlio unrhyw arian ychwanegol yn ôl, os fyddwch chi wedi gorfod gwario arian am i’r garej gymryd gormod o amser i drwsio’ch cerbyd, efallai y bydd sawl opsiwn gennych gan ddibynnu ar eich sefyllfa. Fe allech chi:

  • ·siarad â’r garej yn gyntaf, i weld os ydyn nhw’n fodlon eich ad-dalu’n uniongyrchol am yr arian a wariwyd
  • ·darganfod os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach sydd â chod ymarfer ar gyfer y safonau lleiaf y mae’n rhaid i’w haelodau eu dilyn. Efallai y bydd yna reolau sy’n dweud faint o iawndal fedrwch chi ei hawlio
  • ·os nad yw’r trafodaethau’n gweithio ac mae’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, defnyddio eu gwasanaeth cwynion i ddatrys y broblem. Mae sawl cymdeithas fasnach yn cynnig eu gwasanaethau cymodi rhad ac am ddim eu hunain sy’n ganolwr rhyngoch chi a’r garej. Ond, nid ydynt yn annibynnol, ac felly os nad ydych yn hapus â’r penderfyniad,, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i ddefnyddio gwasanaeth cyflafareddu
  • ·os nad yw’r trafodaethau gyda’r garej yn gweithio neu os nad ydynt yn aelod o gymdeithas fasnach, fe allech geisio hawlio iawndal drwy’r llys mân hawliadau.

Camau nesaf

I ddarganfod os yw’r garej yn aelod o gymdeithas fasnach, gweler Garejys – help pellach a manylion cyswllt.

Dilynwch ein canllaw ar Sut i gwyno ynglyn â garej. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar wasanaethau cymodi a chyflafareddu a sut i hawlio iawndal.

Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau fel defnyddiwr, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Os ydych chi angen help i hawlio iawndal, fe allwch gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Rate this page Give feedback