Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Materion defnyddwyr    Costau tanwydd ac arbed arian  

Materion defnyddwyr - Yng Nghymru

 

 


Costau tanwydd ac arbed arian

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglyn â’r wybodaeth yma

Yn yr wybodaeth yma, rydym yn dweud wrthych sut fyddai'n bosib i chi arbed arian ar eich costau tanwydd, gan gynnwys:

Nôl i’r Brig



Arbed arian ar filiau nwy a thrydan

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich biliau tanwydd trwy ddewis ffordd o dalu sy’n cynnig gostyngiad, trwy ddefnyddio nwy a thrydan yn effeithlon neu drwy inswleiddio eich cartref.

Mae rhai cwmnïau sy’n darparu tanwydd yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy’n talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cynllun cyllidebu taliadau sefydlog neu gynllun taliadau hyblyg. Dylech ddarllen telerau’r cynlluniau talu y mae’r cwmni sy’n darparu’ch tanwydd yn eu cynnig yn ofalus.

Mae rhai cyflenwyr trydan yn cynnig yr opsiwn o beidio â thalu tâl sefydlog, ond rydych yn talu cyfradd ychydig yn uwch am y trydan a ddefnyddir yn lle. Mae’n bosib y bydd hyn yn opsiwn rhatach i chi, ond fe fyddai angen i chi gyfrifo hyn o’ch biliau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahanol ffyrdd o dalu sydd ar gael i dalu biliau tanwydd, gweler Cyflenwad nwy a Cyflenwad trydan.

Os ydych yn 60 neu’n hyn, neu’n byw gyda rhywun sy’n 60 neu’n hyn, efallai y byddwch yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda chostau tanwydd dros y gaeaf.

Os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn medru cael Taliad tywydd oer pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol.

Rhaid bod gan bob cwmni sy’n cyflenwi tanwydd god ymarfer ar ddefnyddio nwy a thrydan yn effeithlon. Os ydych yn gofyn amdano, rhaid i’r cwmni cyflenwi roi gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim i chi ar y canlynol, hefyd:-

  • atal gwres rhag dianc o'r cartref
  • dewis rheolyddion a systemau gwresogi nwy neu drydan
  • defnyddio system wresogi nwy neu drydan mewn ffordd effeithlon
  • mudiadau a fydd, efallai, yn medru rhoi cyngor a hyfforddiant pellach a gwasanaethau eraill
  • ffynonellau help ariannol posib ar gyfer unrhyw waith a fedrai wella'r defnydd effeithlon o nwy neu drydan.

Dyma bethau eraill fedrwch chi eu gwneud:

  • rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.est.org.uk
  • cysylltwch â chanolfan gyngor leol yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ar 0800 512 012
  • yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rhowch glic ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk, neu ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506
  • yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar Gyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn: (New window) www.consumercouncil.org.uk, neu ffoniwch nhw ar 028 9067 2488.

Nôl i’r Brig



Prisiau tanwydd – cael y ddêl orau

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, efallai y byddwch yn medru gostwng eich costau tanwydd drwy newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Erbyn hyn, mae llawer o gwmnïau tanwydd yn cynnig cynlluniau tanwydd deublyg sy'n medru arbed arian i chi os ydych yn prynu nwy a thrydan gan y cwmni cyflenwi yna. Efallai y bydd cynlluniau eraill, hefyd, sy'n cael eu gweithredu’n lleol neu'n genedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae gwefan Llais Defnyddwyr hefyd yn rhestru nifer o wasanaethau cymharu prisiau ar y rhyngrwyd sydd wedi eu cymeradwyo. Fe fydd y rhain yn cymharu'r deliau gwahanol sydd ar gael gan gyflenwyr trydan a nwy i'ch helpu chi i ddarganfod a oes modd i chi arbed arian trwy newid at gwmni cyflenwi newydd. Er mwyn cymharu'r prisiau sy'n cael eu cynnig gan gwmnïau cyflenwi gwahanol gyda phris eich cwmni cyflenwi presennol, fe fydd angen i chi gyfrifo faint yr ydych chi'n ei dalu ar hyn o bryd am eich tanwydd, bob blwyddyn. Rydych yn medru cyfrifo hyn drwy edrych ar eich pedwar bil chwarterol diwethaf. Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae gwefan Llais Defnyddwyr hefyd yn medru rhoi rhestr o'r cwmniau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi, ynghyd â'r prisiau y maen nhw'n eu codi.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rydych yn medru cael help a chyngor ynghylch newid eich cwmni cyflenwi drwy ffonio Llais Defnyddwyr ar 0845 404 0506. Y llinell gymorth cyfrwng Cymraeg yw 0845 404 0505.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru cael gwybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi drwy gysylltu â Chyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon ar 028 9067 2488, neu rhowch glic ar eu gwefan: (New window) www.consumercouncil.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwmnïau nwy, gweler Cyflenwad nwy.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cwmnïau trydan, gweler Cyflenwad trydan.

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau tanwydd, dylech gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r Brig



Effeithlonrwydd ynni

Mae'r mwyafrif o gartrefi’n medru arbed swm sylweddol ar filiau tanwydd drwy ddefnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac mae'n medru bod yn fwy cynnes ac iach o ganlyniad. Mae cynlluniau grant a gostyngiadau ar gael i helpu gyda mesurau effeithlonrwydd tanwydd. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gwrdd â pheth o'r costau eich hun, mae'r arbedion ar filiau tanwydd yn medru ad-dalu'r gost gychwynnol yn gyflym.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni a thorri eich biliau tanwydd, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rhowch glic ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar (New window) www.consumercouncil.org.uk.

I gael syniad o'r ynni y medrwch ei arbed yn eich cartrefi, rydych yn medru gwneud gwiriad ynni yn y cartref. Rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk, neu ffoniwch eich canolfan Arbed Cyngor ar Ynni leol ar 0800 512 012.

Nôl i’r Brig



Grantiau a chynlluniau

Mae yna gynlluniau a grantiau effeithlonrwydd ynni amrywiol ar gael. Mae'r cynlluniau hyn yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig ac yn cael eu rhedeg gan amrywiaeth o fudiadau. Y prif gynllun yw cynllun effeithlonrwydd ynni yn y cartref a elwir yn Warm Front yn Lloegr, Warm Deal yn yr Alban, y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref yng Nghymru a Warm Homes Scheme yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r cynlluniau'n cael eu hariannu gan y llywodraeth ac yn rhoi grantiau a chyngor ynglyn ag ynni i helpu gyda chostau inswleiddio'r cartref. Maen nhw hefyd yn helpu gwella effeithlonrwydd ynni i grwpiau penodol o bobl gan gynnwys pobl sydd ar incwm isel.

Cynigir y cynlluniau i berchen-breswylwyr a phobl sy'n rhentu llety. Mewn rhai achosion, nid yw uchafswm y grant sydd ar gael yn talu cost lawn y gwaith a rhaid i chi dalu rhywfaint tuag at y costau.

Mae help gydag inswleiddio'r cartref hefyd ar gael i berchnogion cartrefi a thenantiaid preifat, trwy gynllun gan y llywodraeth sy'n cael ei rhedeg gan eaga Insulation. Mae'r cynllun yn darparu inswleiddio ar gyfer y cartref, naill ai'n rhad ac am ddim neu ar gost isel, gan ddibynnu a ydych chi'n cael rhai budd-daliadau. Mae mwy o wybodaeth ar gynllun inswleiddio'r cartref ar gael oddi ar wefan eaga yn: (New window) www.eagainsulation.com.

Efallai hefyd y byddwch yn medru cyflwyno cais i'r awdurdod lleol am grant, benthyciad neu fath arall o help ar gyfer gwelliannau i'r cartref.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch gwelliannau i'r cartref, gweler Help gyda gwelliannau i'r cartref.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwelliannau i'r cartref, gweler Grantiau tai.

Rydych yn medru cysylltu â'ch canolfan Arbed Cyngor ar Ynni leol am wybodaeth ar gynlluniau a grantiau arbed arian. I ddod o hyd i'ch canolfan leol, ffoniwch radffôn 0800 512 012 neu rhowch glic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn (New window) www.energysavingtrust.org.uk. Rydych hefyd yn medru chwilio am grantiau lleol a chynigion yn eich ardal chi ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.energysavingtrust.org.uk.  Mae llawer o gwmnïau tanwydd annibynnol ac awdurdodau lleol yn cynnig grantiau a chynlluniau ac yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni. Gellir rhoi grantiau am waith sy'n gysylltiedig â mesurau arbed ynni, gan gynnwys, mewn rhai amgylchiadau, ar gyfer darparu gwres canolog nwy neu drydan. Mae'n bosib rhoi grantiau hefyd ar gyfer bylbiau golau ynni isel.

Cynllun Warm Front yn Lloegr

Mae'r cynllun Warm Front yn cael ei rhedeg gan gwmni o'r enw eaga. Adwaenir eaga fel rheolwr y cynllun.

Beth mae'r Cynllun Warm Front yn ei gynnwys

Rydych yn medru cyflwyno cais i'r cynllun Warm Front am grant i wneud un neu fwy o'r canlynol:

  • mesurau inswleiddio, er enghraifft, inswleiddio waliau cafiti, inswleiddio llofftydd, tanciau a phibau, gwaredu drafftiau mewn ffenestri a drysau, awyru, siacedi ar danciau dŵr poeth
  • gwelliannau i gynhesu gofod a dŵr, er enghraifft, gwresogyddion ystafell nwy gyda rheolyddion thermostatig, gwresogyddion stôr trydan, casetiau tân tanwydd solid caeedig, gwresogyddion dŵr tanddwr, rheolyddion amseru ar gyfer gwresogyddion gofod a dŵr trydanol
  • gwella effeithlonrwydd ynni system gynhesu dŵr neu ofod, atgyweirio unrhyw ran o unrhyw system gynhesu dŵr neu ofod neu osod rhan newydd yn ei lle
  • darparu systemau gwres canolog nwy, tanwydd solid neu olew (gan gynnwys systemau sy'n cynhyrchu trydan), trawsnewid tanau ystafell 'tanwydd solid' agored yn danau ystafell 'tanwydd solid' caeedig, darparu systemau gwres canolog sy'n gysylltiedig â grid gwresogi'r gymuned leol
  • darparu systemau gwresogi gofod neu ddŵr sy'n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy
  • cyngor ar ynni a bylbiau golau sy'n arbed ynni.

Pwy sy'n medru cael grant Warm Front

Er mwyn bod yn gymwys i gael grant Warm Front, rhaid i chi gwrdd â rhai amodau penodol. Fe fyddwch yn medru cael grant Warm Front os ydych:

  • yn berchen ar eich eiddo eich hun. Efallai y bydd rhai tenantiaid hefyd â hawl i grant Warm Front
  • â phlentyn sy'n iau nag 16 ac yn cael Budd-dal Plant neu â thystysgrif famolaeth, ac yn cael un nu fwy o'r canlynol - Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn
  • yn cael un neu fwy o'r canlynol - Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (sy'n cynnwys Lwfans Gweini Cyson), neu Bensiwn Anabledd Rhyfel (sy'n gorfod cynnwys y Lwfans Gweini Cyson neu'r symudedd)
  • yn cael un neu fwy o'r canlynol - Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor, pan maen nhw'n cynnwys premiwm anabledd
  • yn 60 neu'n hŷn, ac yn cael Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Treth Gyngor, Budd-dal Tai, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn
  • mewn rhai amgylchiadau, yn cael Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant. Dylech gysylltu â eaga i weld os ydych yn gymwys

Os nad ydych yn gymwys i gael grant Warm Front o dan unrhyw rai o'r amodau hyn, fe fyddwch yn dal i fedru cael grant o dan y cynllun ad-daliad gwres os ydych yn 60 neu'n hyn, neu'n byw gyda phartner sy'n 60 neu'n hyn.

Faint yw'r grant Warm Front

Uchafswm y grant Warm Front yw £2,700, neu £4,000 os fydd system wres canolog sy'n cael ei thanio gan olew'n cael ei gosod.

Efallai y bydd gan landlordiaid hawl i Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid, sy'n werth hyd at £1,500, am bob eiddo, os ydynt yn gwneud rhai gwelliannau arbed ynni penodol. Dylai landlordiaid gysylltu â'u swyddfa dreth leol am fwy o wybodaeth.

Nid yw landlordiaid yn cael codi'r rhent ar eiddo sydd wedi elwa o grant Warm Front am gyfnod penodol wedi gwneud y gwaith. Os yw'ch landlord yn ceisio gwneud hyn, dylech gael help gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Sut i geisio am grant Warm Front

Mae mwy o wybodaeth am Warm Front, a manylion ynghylch sut i geisio amdano, ar wefan Warm Front yn: (New window) www.warmfront.co.uk, neu drwy ffonio eaga ar radffôn 0800 316 2805.

Y Cynllun ad-daliad gwres yn Lloegr

Os nad ydych yn gymwys i gael grant Warm Front, efallai y byddwch yn medru cael grant o dan y cynllun ad-daliad gwres yn lle. Mae angen i chi fod yn 60 neu'n hyn, neu'n byw gyda phartner sy'n 60.

Uchafswm y grant o dan y cynllun ad-daliad gwres yw £300. I fod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod heb unrhyw system wres canolog neu nid yw eich system yn gweithio. Gellir defnyddio'r ad-daliad ar gyfer gosodiadau neu atgyweiriadau nwy, trydan neu danwydd solid. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar wefan Warm Front yn: (New window) www.warmfront.co.uk/heating-rebate-scheme.htm.

Y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref yng Nghymru

Yng Nghymru, rydych yn gymwys i gael grant gan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref os oes plentyn dan 16 yn eich teulu ac rydych yn cael Budd-dal Plant, neu os oes tystysgrif famolaeth gennych, ac rydych yn cael un neu fwy o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh)sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm.

Efallai y byddwch hefyd yn medru cael grant os ydych ar incwm isel ac yn cael credydau treth neu Fudd-dal Plant am blentyn dan 16. Uchafswm y grant yw £2,000.

Mae grant uwch, o'r enw Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref a Mwy, hefyd ar gael os ydych:

  • yn 80 mlwydd oed neu'n hyn, neu'n byw gyda rhywun sy'n 80 neu'n hyn
  • yn 60 mlwydd oed neu'n hyn, neu'n byw gyda rhywun sy'n 60 neu'n hyn ac yn cael Budd-dal Treth Gyngor, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, LCChsy’n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn
  • mewn teulu ac mae aelod o'r teulu'n cael rhai budd-daliadau penodol sy'n gysylltiedig ag anabledd, neu fudd-dal fel Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Tai sy'n cynnwys premiwm neu elfen anabledd
  • yn rhiant sengl sy'n cael Budd-dal Plant a Chymhorthdal Incwm, LCCh sy’n gysylltiedig ag incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • yn cael Credyd Treth Gwaith (gydag incwm sy'n llai na £15,460).

Uchafswm y grant uwch yw £3,600.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ynghylch y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref yng Nghymru ar eu gwefan: (New window) www.heeswales.co.uk. (New window) Ar eu gwefan hefyd, mae yna fwy o gyngor ar effeithlonrwydd ynni.

Grant Warm Deal yn yr Alban

Yn yr Alban, efallai y byddwch yn medru cael grant o'r enw Warm Deal os ydych yn berchennog neu'n denant mewn tai sector preifat ac yn cael rhai budd-daliadau lles penodol. Efallai y byddwch hefyd yn medru cael Grant os ydych dros 60. Mae'r Grant yn talu am waith inswleiddio i helpu gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Uchafswm y grant yw £500.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y grant Warm Deal a phwy sy'n medru bod yn gymwys iddo, gweler Grant Warm Deal.

Rhaglen gwres canolog Llywodraeth yr Alban

Yn yr Alban, efallai y byddwch yn medru elwa o inswleiddio ar gyfer y cartref, a gwres canolog rhad ac am ddim, o dan Raglen Gwres Canolog Llywodraeth y Alban. Mae hyn yn cynnwys perchen-breswylwyr a thenantiaid landlordiaid preifat.

I ddarganfod mwy am y rhaglen gwres canolog yn yr Alban, gweler Rhaglen Gwres Canolog Llywodraeth yr Alban.

Grant Warm Homes yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn gymwys i gael grant newydd o'r enw Warm Homes os ydych chi neu'ch cymar:

  • yn ddeiliaid cartrefi gyda phlentyn dan 16 ac yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol: Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Ad-daliad Treth neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • yn ddeiliaid cartrefi gyda phlentyn dan 16 a thystysgrif famolaeth ac rydych yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol: Budd-dal Tai, Ad-daliad Teth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • yn ddeiliaid cartrefi sy'n cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol, pan fyddan nhw'n cynnwys premiwm anabledd: Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Ad-daliad Treth
  • yn ddeiliaid tai sy'n cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol: Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol sy'n gorfod cynnwys lwfans gofal cyson neu bensiwn anabledd rhyfel gyda naill ai Lwfans Gweini Cyson neu atodiad symudedd
  • yn ddeiliaid cartrefi sy'n cael Credyd Treth Gwaith gyda thystysgrif eithriad y GIG.

Uchafswm y grant Warm Homes yw £850.

Mae yna grant uwch o'r enw Warm Homes Plus. Yr uchafswm ar gyfer y grant yma yw £4,300. Mae ar gael i ddeiliaid cartrefi sy'n 60 neu'n hyn, sy'n cael un neu fwy o'r canlynol:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Ad-daliad Treth
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Credyd Treth Gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol sydd naill ai'n cynnwys Lwfans Gweini Cyson neu'r atodiad symudedd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y grant Warm Homes yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar: (New window) www.eagea.com.

Nôl i’r Brig



Biliau tanwydd – cael help yn y gaeaf

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Os ydych yn 60 neu'n hyn, rydych yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda'ch costau tanwydd. Mae'r Taliad Tanwydd Gaeaf yn daliad di-dreth a delir bob blwyddyn dros fisoedd y gaeaf. Ond, nid oes gwahaniaeth sut fyddwch chi'n defnyddio'r arian, ac nid yw'r taliad yn dibynnu pa mor oer yw'r tywydd. Mae yna daliad arall sydd ond yn cael ei dalu pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol, a gelwir y taliad hwn yn daliad tywydd oer. Mae'n cael ei rhoi i bobl sydd ar rai budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, yn ystod tywydd oer. Efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer yn ogystal â thaliad tanwydd gaeaf.

Pwy sy'n medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf

Rydych yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn 60 neu'n hyn yn ystod yr 'wythnos gymwys' ar gyfer y gaeaf dan sylw. Mae'r wythnos gymwys wastad yn dechrau ar y trydydd Dydd Llun ym mis Medi. Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Unedig i gael Taliad Tanwydd Gaeaf a rhaid nad oes unrhyw delerau mewnfudo ar eich cyfnod yma.

Mae yna rai pobl sydd ddim yn medru cael taliad hyd yn oed os ydynt dros 60, er enghraifft, ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn yr ysbyty yn ystod yr wythnos gymwys (ac rydych wedi bod yno dros flwyddyn), ac nid yw rhai pobl sy'n byw mewn cartref gofal yn gymwys.

Am fwy o fanylion ynghylch pobl sydd ddim yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Faint yw Taliad Tanwydd Gaeaf

Fel arfer, ceir cyhoeddiad ynghylch cyfradd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn ystod yr haf cyn yr wythnos gymwys ym mis Medi.

Ar gyfer gaeaf 2007/08 roedd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn £200 y cartref (£300 os oeddech chi neu eich partner yn 80 neu'n hyn). Ar gyfer gaeaf 2008/09, mae'r Taliad Tanwydd Gaeaf yn £250 y cartref (£400 os ydych chi neu eich partner yn 80 neu'n hyn).

Os ydych yn byw mewn cartref gofal, rydych yn cael cyfradd ostyngol o Daliad Tanwydd Gaeaf. Yn 2007/08, roedd yn £100, neu'n £150 os oeddech yn 80 neu'n hyn. Yn 2008/09, mae'n £125 neu £200 os ydych yn 80 neu'n hyn. Ond, os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf o gwbl.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf, neu ba gyfradd yr ydych yn gymwys i'w chael, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Sut i gael Taliad Tanwydd Gaeaf

Nid oes angen i'r rhan fwyaf o bobl sydd â hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf hawlio. Fe fyddwch yn cael y taliad yn awtomatig os ydych yn cael Pensiwn Ymddeol, Credyd Pensiwn, neu un o nifer o fudd-daliadau eraill, yn ystod yr wythnos gymwys.

Am restr lawn o bobl sy'n medru cael Taliad Tanwydd Gaeaf heb angen hawlio, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os fyddwch chi angen hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf, rydych yn medru cael ffurflen hawlio oddi ar y wefan (New window) www.thepensionservice.gov.uk neu gan linell gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 0845 915 1515 (ffôn testun 0845 601 5613). Rydych hefyd yn medru defnyddio'r llinell gymorth hon ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch Taliadau Tanwydd Gaeaf, neu i ddarganfod beth sy'n digwydd os ydych yn disgwyl taliad ac mae'n hwyr.

Taliadau tywydd oer

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael taliad tywydd oer i helpu gyda'ch costau tanwydd yn ystod cyfnodau o dywydd oer.

Ond, nid oes gwahaniaeth ar beth fyddwch chi'n gwario’ch arian, ac nid oes rhaid ad-dalu taliadau tywydd oer.

Gwneir taliadau pan fydd yr orsaf dywydd sydd wedi ei chysylltu at eich ardal yn darogan neu'n cofnodi tymheredd dyddiol cyfartalog o 0 gradd canradd neu lai am saith niwrnod yn olynol.

Mae taliadau tywydd oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf sy'n cael eu gwneud bob gaeaf i bobl dros 60 waeth faint yw'r tymheredd.

Os oes hawl gennych i daliadau tywydd oer, fe fyddwch yn derbyn £8.50 yn awtomatig am bob cyfnod o dywydd oer.

Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tywydd oer, gan gynnwys pwy sydd â hawl iddynt, gweler Help i bobl ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol.

Nôl i’r Brig



Dyledion tanwydd – cael help

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, os oes dyledion gennych ar eich nwy neu drydan, efallai y byddwch yn medru cael help gan y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd.

Mae rhai cwmnïau cyflenwi ynni wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid, i'w helpu i dalu eu dyledion tanwydd. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael grantiau i dalu am filiau eraill y cartref.

I ddarganfod os ydych yn medru cael help, rhowch glic ar wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain yn: (New window) www.britishgasenergytrust.org.uk neu wefan Ymddiriedolaeth Ynni'r EDF yn: (New window) www.edfenergytrust.org.uk.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch dyledion tanwydd, gweler Ôl-ddyledion nwy a thrydan yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a debyd.

Nôl i’r Brig



Pwy sy’n medru helpu

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn medru asesu eich anghenion a chynnig cyngor ar bob agwedd ar effeithlonrwydd ynni. Maen nhw hefyd yn medru cynnig cyngor ar grantiau neu gynlluniau sydd ar gael yn eich ardal chi.

I gysylltu â'ch canolfan gyngor Ymddiriedolaeth Arbed Ynni leol, ffoniwch (rhadffôn) 0800 512 012, neu rhowch glic ar (New window) www.energysavingtrust.org.uk.

Cyswllt Defnyddwyr

Mae Cyswllt Defnydwyr yn medru rhoi help a chyngor i chi ynghylch nwid y cwmni sy'n cyflenwi eich ynni.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr, a gefnohir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaethau Safonau Masnacgu'r awdurdod lleol. Mae ar gael yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir yr un tâl â rhifau 0845 am alwadau ffôn i Gyswllt Defnyddwyr.

Ffôn: 0845 404 0506 neu 0845 404 0505 ar gyfer y llinell gymorth cyfrwng Cymraeg
Gwefan: (New window) www.consumerdirect.org.uk

Llais Defnyddwyr

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, Llais Defnyddwyr yw'r gwylgi i ddefnyddwyr sy'n gyfrifol am ddiogelu buddiannu defnyddwyr nwy a thrydan.

Ar wefan Llais Defnyddwyr, mae gwybodaeth ynghylch:

  • newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd
  • pa gwmniau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi a'r prisiau y maen nhw'n eu codi
  • gwasanaethau cymharu prisiau
  • sut i defnyddio llai o ynni a gostwng eich biliau tanwydd.

Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon (Consumer Council for Northern Ireland)

Mae Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon yn medru rhoi gwybodaeth a chyngor i chi ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Rydych yn medru cysylltu â nhw ar: 028 9067 2488, neu rhowch glic ar eu gwefan yn: (New window) www.consumercouncil.org.uk.

Age Concern

Mae Age Concern yn cynhyrchu nifer o daflenni ffeithiau defnyddiol, gan gynnwys 'Help gyda gwresogi' ac maen nhw'n medru cynnig cyngor dros y ffôn i bobl hŷn. Yn Lloegr, rydych yn medru cysylltu â nhw ar radffôn 0800 00 99 66 neu roi clic ar eu gwefan yn (New window) www.ageconcern.org.uk. Yn yr Alban, cysylltwch â nhw ar 0131 467 7118 neu yn (New window) www.ageconcernscotland.org.uk.

Llinell Gymorth Home Heat

Mae Llinell Gymorth Home Heat yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gwresogi eu cartrefi neu dalu eu biliau. Mae'r llinell gymorth yn medru rhoi help a chyngor i chi ar ddod o hyd i grantiau effeithlonrwydd ynni, trefnu dulliau eraill o dalu, cynnal gwiriadau budd-daliadau a chael cyngor arbenigol. Rydych yn medru cysylltu â Llinell Gymorth Home Heat ar 0800 33 66 99.

Cwmnïau sy'n cyflenwi nwy a thrydan

Mae'n rhaid i'r holl gyflenwyr nwy a thrydan ddarparu gwybodaeth ar fesurau arbed ynni fel amod o'u masnach. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd a holwch hwy am y cyngor ar ynni a gynigir. Mae manylion cyflenwyr nwy a thrydan ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyflenwyr nwy, gweler Cyflenwad nwy.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyflenwyr trydan, gweler Cyflenwad trydan.

Help i gwsmeriaid anabl

Os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn medru cael grant cyfleusterau i'r anabl i wella eich system wresogi. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael grant neu ryw fath arall o gymorth gan eich awdurdod lleol i helpu inswleiddio'ch cartref.

Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau cyfleusterau i'r anabl, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda gwelliannau i'r cartref ac, yn yr Alban, gweler Cynlluniau gwella cartrefi.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ