Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae gwarant yn warchodaeth ychwanegol sydd y tu hwnt i'ch hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu eitem. Nid oes yn rhaid i'r gwerthydd roi gwarant i chi.
Mewn rhai achosion, mae'r gwarant yn eich caniatau i gael nwyddau diffygiol wedi eu hatgyweirio neu gael rhai newydd yn eu lle. Nid yw rhoi gwarant yn golygu y gall y gwerthydd anwybyddu eich hawliau cyfreithiol fel cwsmer, er enghraifft, eich hawl i gael eich harian yn ôl mewn rhai amgylchiadau os oes yna broblem gyda'r nwyddau.
Os yw'r masnachwr yn ceisio anwybyddu hawliau cyfreithiol cwsmer efallai y bydd yn troseddu. Yng Nghymru a Lloegr, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar: 0845 404 0506. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline ar 0300 123 6262.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwarantau a chael eich harian yn ôl pan fydd pethau'n mynd o le gyda nwyddau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.