Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Efallai y bydd y siop yn cytuno i roi'ch arian yn ôl, ond nid oes unrhyw beth cyfreithiol i ddweud bod yn rhaid iddynt wneud hyn.
Ond, mae gan lawer o siopau'r stryd fawr 'bolisi dychwelyd' sy'n rhoi mwy na'ch hawliau cyfreithiol sylfaenol i chi. Efallai y bydd siop sydd â pholisi dychwelyd yn cynnig ad-daliad i chi, cyfnewid yr eitem, neu nodyn credyd neu daleb, os ydych chi wedi cael rhodd nad ydych yn ei hoffi. Efallai bod cyfyngiad ar y cyfnod sydd gennych i ddychwelyd yr eitem. Os oes polisi dychwelyd gan y siop, mae'n rhaid iddynt gadw ato. Chwiliwch am hysbysiadau yn y siop sy'n dweud am y polisi, neu gofynnwch i staff y siop os oes polisi o'r fath ganddynt.
Hyd yn oed os nad oes polisi dychwelyd gan y siop, efallai y bydd yn dal i gynnig cymryd y rhodd yn ôl fel arwydd o ewyllys da, yn enwedig ar ôl y Nadolig. Mae hyn yn llai tebygol o ddigwydd gyda siopau llai sy'n methu fforddio cael polisi dychwelyd na dangos arwyddion o ewyllys da.
Os ydych chi am ddychwelyd rhodd, dylech wneud yn siwr ei bod mewn cyflwr perffaith a heb ei defnyddio. Dylech fod yn gallu dangos derbynneb, er y bydd rhai manwerthwyr yn cyfnewid eitemau heb dderbynneb. Os nad oes derbynneb gennych, fe allech geisio defnyddio mantolen banc neu gerdyn credyd y person a brynodd yr anrheg yn lle. Os prynwyd yr anrheg gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, fe fydd unrhyw ad-daliad yn gorfod mynd yn ôl ar yr un cerdyn fel arfer, felly os ydych chi am gyfnewid eich rhodd am arian, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi gael y person a'i prynodd i drefnu ad-daliad.
Peidiwch ag anghofio bod hawliau gennych os oes rhywbeth o'i le gyda'r rhodd, ac mae'n rhaid i'r siop wneud rhywbeth yn ei gylch. Efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn i'r person a'i prynodd i gwyno ar eich rhan. Ond, fe allwch gwyno eich hun, tra bod y person wedi sôn, adeg prynu'r anrheg ei bod yn mynd i fod yn rhodd. Fe fyddai'n ddefnyddiol cael rhywbeth ysgrifenedig sy'n dangos fod y siop yn gwybod hyn adeg ei phrynu.
I ddarganfod mwy am eich hawliau pan fyddwch chi wedi prynu nwyddau diffygiol, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.