Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Oes rhaid i mi dderbyn nwyddau sydd ddim yn union beth a archebais?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych wedi archebu eitem penodol ac nid dyma'r eitem a anfonir atoch, nid oes rhaid i chi ei gadw. Dylech ysgrifennu at y gwerthwr yn esbonio nad ydych yn dymuno cadw'r nwyddau yma am nad dyma a archebwyd gennych ac na fyddwch yn talu amdanynt.

Gallwch ofyn i'r gwerthydd anfon yr eitem a archebwyd yn wreiddiol yn lle'r eitem yma, a threfnu i'r eitem nad ydych ei eisiau gael ei gasglu. Neu, gallech ddychwelyd yr eitem at y gwerthydd a gofyn am gost gwneud hynny yn ôl.

Os ydyw'r gwerthydd wedi cytuno i gasglu'r eitem yr ydych am ei dychwelyd, yna mae'n rhaid i chi ofalu amdani tan iddi gael ei chasglu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os oes gennych nwyddau nad ydych eu hangen a'ch bod yn aros iddynt gael eu casglu, na ddylech eu gadael tu allan i ddrws y ty lle gallent gael niwed neu gael eu dwyn.

Am wybodaeth ar eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu nwyddau a sut i ddelio gyda phroblemau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: