Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Oes rhaid i siopau roi ad-daliad am nwyddau a ddychwelir?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'n rhaid i nwyddau a brynir o siop fod yn iawn at y diben y cawsant eu prynu, gydymffurfio ag unrhyw ddisgrifiad a roddir a bod o ansawdd foddhaol. Mae hynny'n golygu y dylai nwyddau fod yr hyn y byddai'n resymol i chi ddisgwyl iddynt fod o ystyried y pris a dalwyd amdanynt. Os nad yw'r gofynion yma'n cael eu bodloni, yna efallai bydd hawl cyfreithiol gennych i'w gwrthod a chael eich harian yn ôl. Os nad ydych yn medru mynd yn ôl i'r siop am rai diwrnodau, dylech ffonio a dweud wrth y gwerthydd bod gennych broblem gyda'r nwyddau a'ch bod yn dymuno eu gwrthod a chael ad-daliad.

Os ydych wedi cadw eitem am sawl wythnos, heb edrych drosti'n iawn ac yna'n darganfod problem neu nam, efallai y cewch anhawster gyda'i dychwelyd a chael ad-daliad am i chi gael yr hyn y cyfeirir ato fel amser 'rhesymol' i ddychwelyd y nwyddau. Nid oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer amser 'rhesymol'.

Am fwy o wybodaeth ar gael ad-daliad pan fydd pethau'n mynd o le gyda nwyddau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: