Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Sut fyddai cerdyn rhagdal yn medru fy helpu i?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae cerdyn rhagdal yn medru bod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl. Mae’n gerdyn taliad yr ydych yn ei lenwi gyda’ch arian eich hun cyn i chi fedru ei ddefnyddio. Fel arfer, fe fyddwch yn medru rhoi arian arno mewn man tynnu arian yn y banc neu dros y rhyngrwyd. Nid oes unrhyw gredyd. Nid oes unrhyw wiriadau credyd yn cael eu gwneud cyn i chi fedru cael cerdyn ond fe fydd tâl misol. Efallai hefyd yn codir tâl arnoch bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r cerdyn.

Rydych yn medru cael cerdyn rhagdal os nad ydych yn medru cael cerdyn credyd neu ddebyd arferol neu os ydych am osgoi mynd i ddyled. Rydych yn medru prynu pethau gyda’r cerdyn neu dynnu arian allan hyd at gyfanswm yr arian yr ydych wedi ei rhoi ar y cerdyn.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: