Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Prynais eitem mewn sêl ac mae nam arni - ydw i'n gallu gofyn am fy arian yn ôl?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae gennych gymaint o hawl i ddisgwyl i'r eitem yr ydych yn ei phrynu fod o asnawdd da ag sydd gennych os ydych wedi prynu'r eitem cyn y sêl. Yr unig wahaniaeth gydag eitemau mewn sêl yw os byddai'n dweud ar y nwyddau eu bod wedi eu marcio/eu bod yn fudr neu yn amherffaith, yna ni fyddech yn medru gofyn am ad-daliad oherwydd byddech yn ymwybodol o hynny cyn eu prynu.

Mae'r holl hawliau cyfreithiol yn dal i fod yn berthnasol i nwyddau a brynwyd mewn sêl. Mae'n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd da, a bod yn iawn at y diben yr ydych yn eu prynu, ac yn cydymffurfio â'r hyn y mae'n ei ddweud ar y label. Mae hynny'n golygu, os ydyw'r sospan yr ydych yn ei phrynu yn un sydd ddim yn gwneud i bethau sticio, yna dylai'r wy yr ydych yn ei ffrïo ddim sticio iddo, neu dylai'r flows 100% cotwm yr ydych yn ei phrynu fod yn 100% cotwm.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddelio â phroblem gyda nwyddau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: