Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ychydig o hawliau sydd gennych pan yn prynu'n breifat. Fel arfer, caiff eitemau eu gwerthu fel y maen nhw'n cael eu gweld, sy'n golygu y dylech eu harchwilio'n fanwl cyn eu prynu. Mae'n syniad da mynd â rhywun gyda chi fel tyst a, yn dibynnu ar yr eitem, dylech ofyn i'r gwerthydd ddangos sut mae'n gweithio er mwyn darganfod unrhyw broblemau potensial.
Yr unig amddiffyniad sydd gennych pan yn prynu'n breifat yw y dylai'r eitem a werthir fod fel y cafodd ei hysbysebu. Mae hyn yn golygu y dylai gydymffurfio â'r disgfriad a roddwyd yn yr hysbyseb. Er enghraifft, os ydyw person yn disgwyl prynu cot ledr go iawn, ac yna'n darganfod bod y got wedi'i gwneud allan o “PVC sy'n debyg i ledr” yna nid yw'r eitem yn cydymffurfio â'r disgrifiad gan nad ydyw'n lledr iawn.
Am wybodaeth ar brynu nwyddau gan werthwr preifat, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.