Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os na fydd y gwerthydd yn fodlon siarad â chi, yna'r cam nesaf y dylech ei ystyried yw ysgrifennu at y gwerthydd (gan gofio cadw copi o'r llythyr) yn amlinellu'r problem ac yn dweud pa gamau yr ydych am iddyn nhw eu cymryd. Dylech roi amser rhesymol i'r gwerthydd ymateb i'r llythyr – efallai 14 diwrnod a fydd yn rhoi amser iddo i ymchwilio i'r broblem ac ymateb. Efallai y byddai'n syniad da anfon y llythr wedi'i gofnodi fel sicrwydd bod y llythyr wedi cyrraedd y gwerthydd.
Pan fydd yr amser i fyny, os nad yw'r gwerthydd wedi gwneud unrhyw ymgais i ddatrys y broblem, yna gallech ystyried dwyn achos yn erbyn y gwerthydd.
Am wybodaeth ar brynu car diffygiol, gweler Prynu cerbydau ail-law.