Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dw i wedi cael llythyr personol yn dweud fy mod wedi ennill gwobr mewn loteri. Sut ydw i'n medru darganfod a ydyw hyn yn wir?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os cewch wybod eich bod, yn annisgwyl, wedi ennill gwobr gyffrous mewn cystadleuaeth, loteri neu fath arall o ymgyrch, fe ddylech fod ar eich gwyliadwraeth. Tra bod rhai o'r rhain yn eithaf dilys, mae eraill yn ymgais anonest i'ch cael chi i dalu arian allan. Mae yna sawl twyll cyffredin ar ffurf cystadlaethau neu loteri ac maen nhw wedi eu hanelu at dwyllo'r rheiny sydd ddim ar eu gwyliadwraeth. Fel arfer, mae ymgyrchoedd twyllodrus yn dod o du allan o'r DU, er, efallai y byddant yn defnyddio Blwch Post yn y DU.

Yng Nghymru a Lloegr, fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn ag ymgyrchoedd twyll cyffredin ar wefan yr adran fasnach (New window) www.consumerdirect.gov.uk/general/scams/index.shtml. Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar (New window) www.consumerline.org.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: