Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Ydw i'n medru cael blaendal yn ôl os ydw i'n penderfynu canslo'r gwasanaeth neu nwyddau a archebais?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Efallai y byddwch yn medru cael eich blaendal yn ôl os cafodd ei dalu fel rhan-daliad. Dylech gofio bod hawl gan y masnachydd i iawndal am eich bod wedi torri'r cytundeb am nwyddau neu am gyflawni gwasanaeth ac felly byddai cadw rhan o'r blaendal, neu'r cyfan ohono, efallai yn resymol os yw'r masnachwr wedi gwario arian ar sail eich harcheb.

Os ydych yn newid eich meddwl, a'i fod yn ymddangos yn resymol i'r masnachydd gadw'r blaendal am eu bod eisoes wedi gwario arian ar sail eich harcheb, yna nid oes yn rhaid i chi dalu mwy na swm y blaendal.

Gellir ad-dalu blaendal os nad yw'r masnachydd wedi cadw at eu hochr nhw o'r cytundeb neu os ydych chi a'r masnachydd yn cytuno ymlaen llaw y byddai'r blaendal yn cael ei ddychwelyd o dan amgylchiadau penodol.

Am wybodaeth ar broblemau gyda nwyddau, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.
Am wybodaeth ar broblemau gyda gwasanaethau, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: