Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Oes rhaid i mi dderbyn nodyn credyd ar gyfer nwyddau a ddychwelwyd i siop?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Os ydych yn mynd â nwyddau yn ôl i'r gwerthydd am nad yw eu hansawdd yn foddhaol, am nad ydynt yn iawn at y diben neu nad ydynt yn cydymffurfio â'u disgrifiad, yna nid oes yn rhaid i chi dderbyn nodyn credyd, rydych o fewn eich hawliau cyfreithiol i ofyn am eich harian yn ôl.

Fodd bynnag, os ydych yn derbyn nodyn credyd pan oedd hawl gennych i gael eich harian yn ôl, ni allwch newid eich meddwl yn hwyrach oni allwch brofi eich bod wedi cael eich gorfodi i dderbyn y nodyn credyd gan y gwerthydd.

Os ydych wedi mynd â nwyddau yn ôl i'r gwerthydd am i chi newid eich meddwl ynglyn â nhw, er enghraifft nid oeddech chi'n hoffi'r lliw, yna ni fyddai gennych hawl cyfreithiol i ofyn am eich harian yn ôl. Os ydyw'r gwerthydd yn cynnig nodyn credyd i chi o dan yr amgylchiadau yma, mae'n gwneud mwy nag sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Am wybodaeth ynglyn â nodynnau credyd, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: