Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae adeiladwr a huriais yn cymryd amser hir iawn i gwblhau'r gwaith - oes unrhyw ffordd i mi wneud iddo orffen y gwaith?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Pam fyddwch chi'n hurio adeiladwr i weithio ar eich cyfer, rydych chi'n prynu gwasanaeth ac mae gennych yr hawl i ddisgwyl ei fod yn cael ei wneud gyda'r gofal a'r medr y byddech yn ei ddisgwyl gan grefftwr. Mae hynny'n golygu na ddylai unrhyw waliau a adeiladwyd gracio, nac unrhyw do ollwng.

Nid oes yn rhaid eich bod wedi cytuno ar amserlen cyn i'r gwaith ddechrau, ond gallwch ddisgwyl iddo gael ei wneud o fewn cyfnod "rhesymol". Nid oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer “rhesymol” ond ni fyddai'n rhesymol disgwyl i adeiladwr adeiladu ty cyfan mewn pythefnos ac ni fyddai'n rhesymol cymryd tri mis i adeiladu barbeciw.

Os ydych yn teimlo bod yr adeiladwr yn cymryd amser afresymol, gallech ddechrau trwy gadw dyddiadur o'r amserau pryd mae'r adeiladwr yn gwneud eich gwaith a lluniau o gamau'r gwaith wrth iddo fynd ymlaen. Gallech ddefnyddio hyn fel math o dystiolaeth os byddwch yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol. Os byddwch yn siarad â'r adeiladwr ynglyn â'ch pryderon a hynny'n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl, byddai'n syniad da ysgrifennu ar yr adeiladwr (gan gadw copi o'r llythyr) yn amlinellu'r hyn yr ydych eisiau.

Os na fydd hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth, yna efallai y gallech gymryd camau yn y Llys.

Am wybodaeth ar sut i ddelio â phroblem gyda gwasanaethau, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chymryd camau yn y llys, gweler Ceisiadau bach.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â materion defnyddwyr: