|
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os oes cwyn gennych ynghylch gweithgareddau codi arian elusen neu fudiad arall sy’n codi arian, efallai y byddwch chi’n medru cwyno gerbron y Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB).
Gwylgi gwirfoddol ar gyfer codi arian yn y Deyrnas Unedig yw’r FRSB. Mae elusennau sy’n aelodau o’r FRSB yn gorfod dilyn Codau Ymarfer Codi Arian. Os nad ydynt yn dilyn y Codau, rydych chi’n medru cwyno i’r FRSB ar yr amod eich bod wedi cwyno i’r elusen yn gyntaf.
Mae’r FRSB ond yn medru delio gyda rhai mathau o gwynion ynghylch elusennau neu fudiadau sy’n codi arian. Mae’r rhain yn cynnwys cwynion ynghylch digwyddiad i godi arian, fel dawns elusennol neu ras elusennol. Maen nhw hefyd yn medru delio gyda chwynion am y ffordd y mae mudiad sy’n aelod yn gofyn i chi am arian - er enghraifft trwy hysbyseb yn y papur newydd, hysbyseb ar y teledu neu berson sy’n codi arian yn gofyn am rodd ar y stryd neu ar stepen eich drws.
Nid yw pob elusen yn aelod o’r FRSB. Os nad ydyw elusen yn aelod, nid oes rhaid iddi ddilyn y Codau ac nid ydych yn medru cwyno yn ei chylch gerbron yr FRSB.
Yng Nghymru a Lloegr, i ddarganfod a yw elusen yn aelod o’r FRSB a sut i gwyno, ewch at wefan yr FRSB yn: www.frsb.org.uk/england.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, cliciwch ar: www.frsb.org.uk/Scotlandnorthernireland.
|