Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os oes cwyn gennych ynghylch elusen neu os ydych eisiau holi i weld a yw elusen wedi cofrestru, rydych yn medru cysylltu â’r Comisiwn Elusennau. Y Comisiwn Elusennau yw’r gwylgi annibynnol ar gyfer elusennau.
Rydych yn medru ffonio’r Comisiwn Elusennau i ddarganfod p’un ai eich bod yn medru cwyno ai peidio. Y rhif ffôn yw 0845 3000 218. Mae mwy o wybodaeth ynghylch cwyno ar y wefan yn www.charity-commission.gov.uk.
Os oes cwyn gennych ynghylch gweithgareddau codi arian elusen neu fudiad arall sy’n codi arian, efallai y byddwch chi’n medru cwyno gerbron y Bwrdd Safonau Codi Arian (yr FRSB).
I ddarganfod os yw elusen yn aelod o’r FRSB a sut i gwyno, rhowch glic ar wefan gyhoeddus yr FSRB yn www.givewithconfidence.org.uk.