Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan fyddwch chi'n prynu cerbyd ail-law, mae gennych yr un hawliau â phan fyddwch chi'n prynu unrhyw nwyddau eraill. Ond, mae yna rai gwahaniaethau a dylech ddarllen yr wybodaeth hon cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd. Mae yna broblemau penodol yn medru codi hefyd gyda cherbydau ail-law oherwydd:-
Os oes problem gyda cherbyd, mae'n bwysig gweithredu cyn gynted â phosib ar ôl prynu'r cerbyd, oherwydd, mewn llawer o achosion, fe fydd eich cais yn dibynnu ar gyflwr y cerbyd adeg ei brynu. Mae cyflwr cerbydau ail-law yn amrywio’n sylweddol, ac felly fe fydd yn anoddach profi bod yna gwyn gwirioneddol os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio ers tipyn o amser.
Pan fyddwch chi'n prynu cerbyd ail-law, mae eich hawliau'n dibynnu a ydych wedi prynu'r cerbyd gan:
Os ydych wedi prynu'r cerbyd gan ddeliwr, fe fydd rhai hawliau penodol gennych o dan gyfraith defnyddwyr.
Rhaid bod cerbyd ail-law yn cyfateb i'w ddisgrifiad, rhaid ei fod yn addas at ei ddiben a rhaid ei fod o ansawdd boddhaol. Ond, fe fydd y safon ar gyfer cwrdd â'r gofyniad fod y cerbyd o ansawdd boddhaol yn is, am ei fod yn ail-law. Dylai cerbyd ail-law fod mewn cyflwr rhesymol a dylai fod yn gweithio'n iawn. Wrth benderfynu a yw cerbyd ail-law mewn cyflwr rhesymol, mae'n bwysig ystyried oed a gwneuthuriad y cerbyd, hanes y cerbyd a'r pris yr ydych wedi ei dalu am y cerbyd.
Os fydd cerbyd ail-law angen atgyweiriadau mwy helaeth na'r atgyweiriadau yr oedd yn ymddangos y byddai angen eu gwneud adeg prynu'r cerbyd, nid yw hyn, o angenrheidrwydd, yn golygu nad yw'r cerbyd o ansawdd boddhaol. Mae cerbyd ail-law yn medru bod o ansawdd boddhaol os oes modd ei ddefnyddio, hyd yn oed os nad ydyw'n berffaith.
Os oes problem yn datblygu gyda'r cerbyd yn fuan wedi i chi ei brynu, efallai y bydd hawl gennych i ddychwelyd y cerbyd at y deliwr a chael eich arian yn ôl. Fwy na thebyg y byddai angen i hyn fod tua thair i bedair wythnos, ar y mwyaf, o'r dyddiad y prynwyd y cerbyd. Byddai angen i'r broblem fod yn un gweddol sylweddol, a byddai angen i chi ystyried oed y cerbyd, y nifer o filltiroedd y mae wedi'u gwneud a phris y cerbyd, wrth benderfynu a fyddai'n rhesymol dychwelyd y cerbyd.
Rhaid i chi stopio defnyddio'r cerbyd ar unwaith a chysylltu â'r deliwr. Os ydych wedi rhoi eich cerbyd chi fel rhan o'r ddêl, mae gennych yr hawl i gael y cerbyd yn ôl, os ydyw ar gael o hyd, neu i gael y gwerth llawn a ganiateir ar y cerbyd, os gwaredwyd y cerbyd. Os ydych yn rhy hwyr i hawlio ad-daliad, neu os nad ydych eisiau ad-daliad, efallai y bydd hawl gennych i ofyn am atgyweiriad neu gerbyd arall yn ei le. Rhaid bod y nam ar y car pan brynoch y cerbyd. Os ydych yn cytuno i gael nam sylweddol wedi'i atgyweirio ac nid yw'r atgyweiriad yn foddhaol, nid ydyw'n rhy hwyr i ofyn am eich arian yn ôl.
Os nad yw'r deliwr yn cytuno i unioni'r broblem, rydych yn medru cymryd camau cyfreithiol hyd at chwe blynedd o'r dyddiad y prynoch y cerbyd (pum mlynedd yn yr Alban). Ond, fwy na thebyg y bydd yn afrealistig cymryd camau cyfreithiol am nam ar gerbyd ail-law, yn enwedig cerbyd hŷn, unwaith y byddwch wedi bod yn ei ddefnyddio am gyfnod rhesymol o amser.
Os fyddwch chi'n dychwelyd y cerbyd o fewn chwe mis i'r dyddiad y prynwyd y cerbyd, dylai’r deliwr dderbyn bod y broblem yn bodoli pan werthwyd y cerbyd, a chynnig ei atgyweirio neu roi cerbyd arall i chi yn ei le. Os nad yw'r deliwr yn derbyn bod yna broblem gyda'r cerbyd pan werthwyd y cerbyd i chi, fe fydd yn gorfod profi hyn.
Ar ôl chwe mis, fe fydd i fyny i chi brofi bod yna broblem sylweddol gyda'r cerbyd pan werthwyd y cerbyd i chi. Fe fyddwch yn gorfod darparu tystiolaeth i brofi hyn ac felly efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael adroddiad annibynnol a fyddai'n medru sefydlu cyflwr y cerbyd pan werthwyd y cerbyd.
Os yw'r deliwr yn cytuno i atgyweirio'r cerbyd, rhaid gwneud yr atgyweiriadau o fewn cyfnod rhesymol a heb achosi unrhyw anghyfleustra afresymol i chi. Rhaid i'r deliwr dalu costau'r atgyweiriadau. Os yw'r atgyweiriad wedi cymryd amser hir, efallai y byddwch yn medru defnyddio car benthyg neu hawlio iawndal, er enghraifft, ar gyfer cost hurio cerbyd. Os yw'r deliwr yn gwrthod atgyweirio'r cerbyd, mae gennych yr hawl i'w gael wedi'i atgyweirio yn rhywle arall a hawlio'r gost gan y deliwr. Os nad oes modd atgyweirio'r cerbyd neu gynnig cerbyd arall yn ei le, neu os teimlir y byddai g wneud hyn yn rhy ddrud, o ystyried y math o nam, efallai y bydd gennych yr hawl i gael peth o'ch arian, neu'r cyfan ohono, yn ôl. Fe fydd yn rhaid i chi drafod gyda'r deliwr i benderfynu faint fyddai'n rhesymol. Wrth benderfynu beth sy'n rhesymol, fe fydd angen i chi ystyried faint o ddefnydd a gawsoch o'r cerbyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau wrth brynu nwyddau, gan gynnwys nwyddau ail-law, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Mae Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu i drafod gyda deliwr os oes rhywbeth o'i le gyda'ch cerbyd. I chwilio am fanylion eich CAB lleol, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar CAB agosaf.
Mae yna ddau amgylchiad ble mae’n bosib na fydd hawl gennych i gwyno i'r deliwr, sef:
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch y camau fedrwch chi eu cymryd os ydych yn cael problem gyda cherbyd ail-law, gweler Cerbydau ail-law yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Yn ogystal â'r hawliau yr ydych yn eu cael yn awtomatig o dan gyfraith defnyddwyr, efallai eich bod chi a'r deliwr wedi cytuno ar amodau a thelerau eraill, er enghraifft, y byddai rhai atgyweiriadau penodol yn cael eu gwneud cyn i chi dderbyn y cerbyd, neu y byddech yn derbyn y cerbyd erbyn dyddiad penodol. Os nad yw'r deliwr yn cadw at y telerau y cytunwyd arnynt, fe fyddan nhw wedi torri'r cytundeb.
Am fwy o wybodaeth ynghylch iawndal am oedi cyn derbyn y cerbyd, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Os oes telerau annheg yn eich cytundeb gyda deliwr, efallai na fydd yn rhaid i chi gadw atynt.
Am fwy o wybodaeth ynghylch telerau cytundeb annheg wrth brynu nwyddau, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Os cawsoch ddisgrifiad ffug o'r cerbyd wrth i chi ei brynu, er enghraifft, mae'r deliwr wedi dweud bod y cerbyd wedi gwneud 45,000 o filltiroedd pan fydd wedi gwneud 95,000 o filltiroedd mewn gwirionedd, mae hyn yn drosedd. Mae'n bosib i chi geisio dweud wrth y deliwr, os na fydd y broblem yn cael ei datrys â'ch bod yn hapus, y byddwch yn dweud wrth adran safonau masnach yr awdurdod lleol amdanynt. Mae Safonau Masnach yn medru cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y deliwr o dan reoliadau arferion masnachol annheg.
Os na fydd hyn yn datrys eich problem, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr am y deliwr ac fe fyddan nhw'n medru trosglwyddo'r wybodaeth at Safonau Masnach. Rydych yn medru cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506 neu rhowch glic ar: www.consumerdirect.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â ConsumerLine ar 0300 123 6262 neu yn: www.consumerline.org.
Ni fydd Safonau Masnach yn medru cymryd camau ar eich rhan, er bod modd iddynt erlyn y deliwr am droseddu. Os ydych am i'r deliwr eich digolledu mewn rhyw ffordd o hyd, neu os ydych am i'r deliwr roi eich arian yn ôl i chi, fe fydd yn rhaid i chi ystyried a ydyw'n werth mynd â'r deliwr i'r llys. Dylai mynd i'r llys fod yn opsiwn olaf oll i chi. Os nad ydych wedi gwneud ymdrech wirioneddol i ddatys eich problem cyn dechrau cymryd camau yn y llys, yna hyd yn oed os fyddwch yn ennill eich achos, efallai y bydd y llys yn gostwng eich iawndal.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i drafod gyda deliwr pan fydd problem gennych gyda nwyddau a brynwyd gennych, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Yn yr Alban, mae rhai cynghorau dosbarth yn gofyn i ddelwyr cerbydau ail-law gofrestru, ac fe fyddan nhw'n rhoi trwydded iddynt. Os ydych yn cael trafferth gyda deliwr mewn ardal ble mae yna system drwyddedu, dylech gysylltu â'r adran Safonau Masnach leol. Mae Safonau Masnach yn medru tynnu trwydded y deliwr yn ôl. Efallai y byddai'n werth sôn am hyn pan fyddwch yn ceisio dod i gytundeb gyda'r deliwr.
Fe fydd angen i chi holi a yw'r ardal ble prynwyd y cerbyd â system drwyddedu ac, os oes system o'r fath mewn lle, beth yw'r gofynion lleol.
Os ydych yn cael problem gyda cherbyd ail-law yr ydych wedi ei brynu gan ddeliwr, darganfyddwch pa hawliau sydd gennych yn gyntaf a phenderfynwch beth hoffech i'r deliwr ei wneud ynghylch y sefyllfa. Y deliwr ac nid y gwneuthurwr sy'n gyfrifol am ddelio gyda'ch cwyn. Dilynwch y camau isod:
Os nad yw'r trafodaethau gyda'r masnachwr yn gweithio, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i chi. Mae rhai o'r rhain yn cael eu hesbonio isod:
Os ydych wedi prynu'r cerbyd ar gredyd, efallai hefyd y byddwch yn medru hawlio yn erbyn y cwmni credyd yn lle'r deliwr. Mae hyn yn medru bod yn ddefnyddiol ble mae'r deliwr wedi mynd allan o fusnes neu nid oes arian ganddo i'ch digolledu.
Os ydych wedi talu am y cerbyd gan ddefnyddio cerdyn debyd a weithredir gan VISA, efallai y byddwch yn medru defnyddio cynllun 'chargeback' VISA. Os ydych am hawlio ar y cynllun hwn, mae'n rhaid i chi wneud hynny o fewn 120 diwrnod i'r dyddiad y prynwyd y cerbyd. Dylech holi yn eich banc sut i hawlio o dan y cynllun.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddatrys problemau gyda nwyddau diffygiol a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Efallai y bydd deliwr wedi troseddu os ydyw wedi gwneud unrhyw rai o'r canlynol:
Os yw deliwr wedi gwneud unrhyw rai o'r pethau hyn, dylech ddweud wrth Gyswllt Defnyddwyr amdanynt, ac fe fyddan nhw'n trosglwyddo'r wybodaeth at Safonau Masnach. Mae Safonau Masnach yn medru cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y deliwr o dan reoliadau arferion masnachol annheg.
Efallai y bydd Safonau Masnach yn medru erlyn y deliwr am droseddu, ond ni fydd yn medru cymryd camau ar eich rhan. Os ydych am i'r deliwr eich digolledu mewn rhyw ffordd, neu roi eich arian yn ôl i chi, fe fydd yn rhaid i chi ystyried a yw'n werth i chi fynd â'r deliwr i'r llys. Dylech fynd i'r llys fel yr opsiwn olaf oll. Os nad ydych wedi gwneud ymdrech wirioneddol i ddatrys eich problem cyn i chi ddechrau cymryd camau yn y llys, yna hyd yn oed os fyddwch yn ennill eich achos, fe fydd y llys yn medru gostwng eich iawndal.
Rydych yn medru cysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506
neu yn: www.consumerdirect.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â ConsumerLine ar 0300 123 6262 neu yn: www.consumerline.org.
Os ydych yn credu efallai fod y deliwr wedi troseddu, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os daeth y cerbyd gyda gwarant neu waranti, efallai y byddai'n haws i chi hawlio arno os yw'r deliwr yn gwrthod rhoi'r hyn yr ydych yn ei ddymuno. Mae gwarantau a warantïau hefyd yn medru bod yn ddefnyddiol os yw'r deliwr wedi mynd allan o fusnes.
Mae hefyd yn medru bod yn fwy cyfleus i chi hawlio ar warant neu waranti os ydych wedi prynu'r cerbyd dros y rhyngrwyd.
Efallai y byddwch wedi prynu waranti estynedig gyda'r cerbyd. Mae hwn yn bolisi yswiriant ac mae'n gytundeb ar wahân rhyngoch chi a chwmni yswiriant. Ond, nid yw waranti estynedig yn medru cymryd eich hawliau chi i hawlio yn erbyn y deliwr oddi arnoch.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch prynu car ail-law sy'n dod gyda gwarant neu waranti, gweler Ceir ail-law yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Os ydych yn prynu cerbyd mewn ocsiwn byw, ble mae yna arwerthwr ac rydych chi'n bresennol yn yr opsiwn, efallai y bydd eich hawliau'n gyfyngedig iawn.
Dylech ddarllen amodau a thelerau busnes yr ocsiwn, er enghraifft yn y catalog neu ar hysbysiadau sydd wedi eu harddangos. Os ydyw'n nodi nad yw'ch hawliau o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau yn berthnasol, yna rydych yn prynu'r cerbyd fel yr ydych yn ei weld a'ch cyfrifoldeb chi yw edrych dros y car cyn i chi gynnig amdano.
Os ydych yn prynu'r cerbyd ac mae yna rywbeth o'i le arno, efallai na fydd llawer y byddwch yn medru ei wneud.
Fe fydd rhai ocsiynau'n cynnig yswiriant yn erbyn y posibilrwydd fod y cerbyd wedi ei ddwyn ac efallai y bydd rhai'n cynnig cyfnod oeri i chi (er, yn aml mae hyn yn medru bod yn fyr iawn – ychydig o oriau).
Os yw'r arwerthiant yn aelod o’r gymdeithas fasnach, efallai y bydd yn medru eich helpu i sortio cwyn trwy ei chynllun cymrodedd. Fe allwch gysylltu â’r gymdeithas fasnach Retail Motor Industry Federation ar 01788 538317, neu ar-lein yn: www.rmif.co.uk.
Os prynwyd y cerbyd mwn ocsiwn ac rydych am gwyno, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mwn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Nid oes llawer o hawliau cyfreithiol gennych os ydych wedi prynu'r cerbyd gan werthwr preifat yn lle deliwr.
Nid oes rhaid i'r cerbyd fod o ansawdd boddhaol. Ond, os yw'r gwerthwr yn cynnig disgrifiad o'r cerbyd, rhaid iddo gyfateb i'r disgrifiad a roddwyd. Rhaid iddo hefyd fod yn addas i fynd ar yr heol a rhaid bod gan y gwerthwr hawl i'r cerbyd. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid mai nhw yw'r perchnogion cyfreithiol cyn iddynt fedru ei werthu i chi.
Os nad yw'r cerbyd yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd, efallai y bydd hawl gennych i iawndal. Efallai y byddwch hefyd yn medru hawlio iawndal os ydych wedi prynu cerbyd nad ydyw'n addas i fynd ar yr heol, gan werthwr preifat, ac mae wedi achosi anaf i rywun. Ond, efallai y bydd yn arbennig o anodd cael iawndal gan werthwr preifat.
Fe fyddwch ond yn medru hawlio yn erbyn gwerthwr preifat am un o'r rhesymau canlynol:
Os ydych yn medru dangos nad oedd y cerbyd yn cyfateb i'r disgrifiad a gawsoch gan y gwerthwr, fe fyddwch yn medru hawlio yn ei erbyn, hyd yn oed os oedd y gwerthwr yn credu bod y disgrifiad yn un cywir. Fe fydd yn cryfhau eich achos os oes prawf ysgrifenedig gennych o'r disgrifiad ffug, er enghraifft, hysbyseb mewn papur newydd. Fe fydd yn llawer anoddach profi disgrifiad ffug a wnaed yn llafar yn unig ac nid yn ysgrifenedig, onid oedd rhywun arall yn bresennol ac mae'n medru bod yn dyst.
Os yw'r gwerthwr wedi dweud rhywbeth am y car ac nid oedd yn wir, er enghraifft, os ydyw wedi dweud bod gan y cerbyd gydiwr (clutch) newydd neu un perchennog yn ystod oes y cerbyd, fe fyddwch hefyd yn medru hawlio yn eu herbyn. Ond, os yw'r gwerthwr wedi disgrifio'r cerbyd fel un sydd mewn cyflwr da, fe fydd yn fwy anodd cwyno oherwydd mae'n rhaid ystyried oed, gwneuthuriad a milltiroedd y cerbyd, a'r pris y talwyd amdano. Os nad oedd y gwerthwr wedi dweud unrhyw beth o gwbl am y cerbyd, ni fyddwch yn medru hawlio yn erbyn y gwerthwr.
Os oedd y gwerthwr wedi gwerthu'r cerbyd i chi fel cerbyd a oedd â thystysgrif MOT pan nad oedd un ganddo mewn gwirionedd, fe fyddwch yn medru hawlio yn erbyn y gwerthwr.
Os ydych am gymryd camau yn erbyn y gwerthwr am eu bod wedi rhoi disgrifiad ffug o'r cerbyd i chi neu wedi dweud rhywbeth amdano nad oedd yn wir, fe fyddwch chi angen prawf fod y gwerthwr wedi gwneud hyn adeg ei werthu. Os ydych wedi oedi fwy nag ychydig wythnosau neu wedi defnyddio tipyn ar y cerbyd, efallai y bydd bron yn amhosib profi hyn. Efallai y bydd adroddiad annibynnol yn medru sefydlu cyflwr y cerbyd adeg ei werthu, ond mae hyn yn medru bod yn ddrud.
Os ydych am gwyno ynghylch y ffaith nad ydyw'r cerbyd yn cyfateb i'w ddisgrifiad neu ynghylch y ffaith fod y gwerthwr wedi dweud rhywbeth wrthych am y cerbyd nad ydyw'n wir, dylech gwyno'n ysgrifenedig i'r gwerthwr. Gofynnwch iddo am ad-daliad neu am gost unrhyw atgyweiriadau, gan ddibynnu beth rydych chi am iddynt ei wneud. Os nad yw hyn yn llwyddiannus, yr unig opsiwn arall sydd gennych yw mynd â'r gwerthwr i'r llys. Ond, dylech gofio ei bod yn medru bod yn arbennig o anodd cael unrhyw iawndal gan werthwr preifat.
Os ydych yn ystyried mynd â'r gwerthwr i'r llys, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Os nad yw'r gwerthwr yn gwneud rhywbeth y cytunodd yn benodol i'w wneud, er enghraifft, trwsio diffygion penodol neu y byddai gan y cerbyd dystysgrif MOT, fe fydd wedi torri ei gytundeb gyda chi ac fe fyddwch yn medru hawlio yn ei erbyn.
Os ydych am gwyno am y gwerthwr yn torri'r cytundeb, dylech gwyno'n ysgrifenedig i'r gwerthwr. Gofynnwch iddo am ad-daliad am gost unrhyw atgyweiriadau, gan ddibynnu beth rydych am iddo ei wneud. Os nad yw hyn yn llwyddiannus, yr unig opsiwn arall sydd gennych yw mynd â’r gwerthwr i'r llys. Ond, dylech gofio ei bod yn medru bod yn arbennig o anodd cael unrhyw iawndal gan werthwr preifat.
Os ydych yn ystyried mynd â'r gwerthwr i'r llys, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Weithiau, mae deliwr yn smalio bod yn werthwr preifat, trwy ddefnyddio mân-hysbysebion a chyfeiriad a rhif ffôn preifat. Mae'n arfer masnachol annheg ac yn drosedd gwneud hyn. Os ydych yn amau bod y person a werthodd y cerbyd yn ddeliwr yn smalio bod yn werthwr preifat, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506, neu rhowch glic ar www.consumerdirect.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Consumerline ar 0300 123 6262, neu rhowch glic ar www.consumerline.org. Os oedd y gwerthwr yn ddeliwr, nid yw'n golygu eich bod yn medru canslo'r gwerthiant. Ond mae'n golygu bod gennych yr un amddiffyniad cyfreithiol â phryd fyddwch chi'n prynu gan ddeliwr. Efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn os oes problemau gyda'r cerbyd nad oes modd eu datrys.
Mewn rhai achosion, efallai y darganfyddwch chi nad oedd gan y gwerthwr hawl i'r cerbyd. Hynny yw, nid y gwerthwr yw gwir berchennog cyfreithiol y cerbyd ac felly nid oedd hawl ganddo i'w werthu. Efallai mai'r rheswm dros hyn yw bod:
Os ydych wedi prynu cerbyd ac mae'n ymddangos fod yna broblem ynghylch ei berchnogaeth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Os nad yw'r cerbyd yn addas i fynd ar yr heol, efallai y bydd y gwerthwr wedi troseddu a dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506 neu yn: www.consumerdirect.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â ConsumerLine ar 0300 123 6262 neu yn: www.consumerline.org.
Mae mwyafrif y dulliau o dalu mewn gwerthiant preifat yn golygu bod y gwerthwr mewn perygl o dwyll neu ddwyn. Nid yw cadw'r dystysgrif gofrestru (llyfr log) hyd nes i'r siec glirio yn rhoi unrhyw sicrwydd i'r gwerthwr, oherwydd nid yw'r llyfr log yn brawf o berchnogaeth. I sicrhau ei fod yn cael ei dalu, mae'r gwerthwr yn medru gofyn am arian neu gysylltu â'i fanc neu gymdeithas adeiladu i drafod ffyrdd o dalu sy'n gwarantu y bydd yn cael ei dalu.
Os yw'r gwerthwr yn mynnu cadw'r cerbyd hyd nes i siec glirio, dylech gael derbynneb sy'n nodi manylion y cerbyd ac enw a chyfeiriad y gwerthwr.
Mae yna wahanol fathau o werthu ar gael ar y we ac fe fydd eich hawliau'n dibynnu ar y gwerthiant dan sylw. Fe fydd hefyd yn dibynnu pwy yw'r gwerthwr.
Os ydych yn prynu'ch cerbyd gan ddeliwr dros y rhyngrwyd, fe fydd yr un hawliau gennych â phetaech wedi prynu'r cerbyd gan y deliwr wyneb-yn-wyneb, ond fe fydd rhai hawliau ychwanegol gennych yn ogystal â'r hawliau hyn. Yr hawl ychwanegol pwysicaf yw'r hawl i gyfnod 'oeri'. Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi i ganslo eich archeb, heb orfod talu unrhyw beth, cyn i chi dderbyn y car. Mae gennych saith diwrnod gwaith i ganslo. Rhaid i'r masnachwr ddweud wrthych am yr hawl hwn pan fyddwch chi'n archebu.
Os ydych yn prynu'ch cerbyd gan werthwr preifat dros y rhyngrwyd, fe fydd yr un hawl gennych â phetaech wedi ei brynu gan y gwerthwr preifat wyneb-yn-wyneb. Ond, dylech gofio bod gennych lai o hawliau pan fyddwch yn prynu rhywbeth gan werthwr preifat.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau wrth brynu nwyddau ar y we, gweler Gwerthu o bell yn Prynu nwyddau, eich hawliau.
Mae yna wahanol fathau o werthu ar gael ar safleoedd ocsiwn ar y we ac, yn aml, fe fydd eich hawliau'n dibynnu ar y math o werthiant sydd dan sylw.
Mae rhai mathau o werthu yn ocsiynau rhyngrwyd. Mae'r rhain yn gwerthu yn yr un ffordd ag ocsiwn ac yn golygu cynnig am eitemau. Nid yw enghreifftiau eraill, er enghraifft, ‘Buy-it-now’ ar eBay, yn werthiant ocsiwn o gwbl. Os ydych yn prynu gan ddeliwr ar safle ocsiwn ar y we, efallai y bydd gennych yr un hawliau â phetaech wedi prynu gan y deliwr wyneb-yn-wyneb.
Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu nwyddau o safle ocsiwn ar y we, gweler Prynu ar safleoedd ocsiwn ar y we.
Efallai y bydd adroddiad annibynnol ar y cerbyd yn medru sefydlu a yw'r diffygion yn rhesymol i gerbyd o'r oed, pris a milltiroedd yna. Mae'n bosib defnyddio adroddiad wrth drafod atgyweiriadau neu iawndal, neu ei ddefnyddio fel tystiolaeth os yw'r achos yn mynd i'r llys.
Fe fydd adroddiad hefyd yn dangos ble mae diffygion sy'n edrych yn rhai bach yn symptomau diffygion mwy difrifol.
Mae archwiliadau annibynnol yn medru bod yn ddrud. Mae nifer o fudiadau moduro'n cynnal archwiliadau annibynnol ac felly mae'n werth holi nifer o fudiadau i geisio cael y pris gorau. Efallai na fydd adroddiad gan garej arall yn ddigon os yw'r achos yn mynd i'r llys, oherwydd gellid dadlau y byddai'n fuddiol iddynt orliwio'r diffygion er mwyn cael y gwaith atgyweirio. Ond, mae angen i chi gael caniatâd y llys i ddefnyddio tystiolaeth arbenigol yn y llys, neu efallai na fyddwch yn medru adennill eich costau.
Mae cyhoeddiadau amrywiol yn rhestru canllawiau ar gyfer prisiau cerbydau yn ôl eu gwneuthuriad, eu model a'u hoed. Gelwir y canllawiau hyn yn 'book prices', ac, yn bennaf, delwyr sy'n eu defnyddio.
Ond cofiwch, canllawiau yn unig yw'r prisiau hyn a dyma'r uchafswm y mae deliwr yn debygol o'i dalu am gerbyd y mae'n bwriadu ei werthu. Yn amlwg, fe fydd pris gwerthu'r deliwr yn uwch, i dalu am gost y gwaith a wnaed a'r elw.
Os nad ydych yn credu bod y cerbyd yn werth yr arian yr ydych wedi ei dalu amdano, nid oes unrhyw beth fedrwch chi ei wneud, oherwydd wrth i chi brynu’r cerbyd roeddech yn cytuno'n gyfreithiol gyda'r gwerthwr ac mae'n rhaid i chi lynu at y cytundeb hwn, gan gynnwys y pris a dalwyd. Ni fyddwch chi'n medru cymryd unrhyw gamau yn erbyn y gwerthwr oni bai fod y gwerthwr wedi torri'r cytundeb. Fe fydd wedi torri'r cytundeb os yw'r cerbyd:
Am esboniad o ansawdd boddhaol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Mae'n drosedd newid y nifer o filltiroedd sydd wedi'u cofnodi ar gloc milltiroedd cerbyd neu gynnig gwerthu cerbyd sydd â chofnod a newidiwyd. Mae'n bosib erlyn deliwr am y troseddau hyn. Mae hyn yn golygu bod modd erlyn deliwr am werthu cerbyd gyda chofnod milltiroedd ffug, hyd yn oed os nad y deliwr sydd wedi newid y milltiroedd, neu os nad oedd yn gwybod bod y milltiroedd wedi eu newid.
Os nad yw'r deliwr yn medru cadarnhau bod y nifer o filltiroedd ar gloc milltiroedd y cerbyd yn gywir, yna mae'n medru arddangos rhybudd o ymwadiad sydd, yn gyfreithiol, yn gorfod bod yr un mor amlwg, manwl a chymhellol â disgrifiad y cerbyd. Mae hyn yn golygu y dylid dangos ymwadiad clir drws nesaf i'r nifer o filltiroedd, neu drosto. Mae modd erlyn deliwr sy'n newid y milltiroedd hyd yn oed os ydyw'n arddangos ymwadiad. Os ydych yn credu y gwerthwyd y cerbyd gyda darlleniad milltiroedd anghywir, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr ar 0845 404 0506, neu rhowch glic ar www.consumerdirect.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Consumerline ar 0300 123 6262, neu rhowch glic ar www.consumerline.org.
Cyn i chi brynu cerbyd ail-law, efallai y bydd yn werth holi a ydyw'n dal i fod ar hurbwrcas, gwerthiant amodol neu gytundeb les neu os oes benthyciad llyfr log arno. Os ydyw, efallai nad oes gennych hawl i'r cerbyd (efallai nad chi fydd y gwir berchennog). I ddarganfod a yw'r cerbyd yn rhwym i unrhyw gytundebau o hyd, chwiliwch yn y llyfr ffôn, neu chwiliwch ar y we, am 'wiriadau hanes cerbyd' ('vehicle history checks').
Mae gwybodaeth ar gael ar-lein ynghylch gwiriadau hanes cerbyd, yn adran Foduro gwefan Directgov yn: www.directgov.gov.uk.
Os ydych wedi prynu cerbyd yn barod ac mae'n ymddangos bod problem ynghylch perchnogaeth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Os ydych yn darganfod eich bod wedi prynu cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn, y rheol gyffredinol yw ei fod yn parhau i fod yn eiddo i'r perchennog y cafodd ei ddwyn ganddo.
Os ydych wedi prynu cerbyd sydd wedi cael ei ddwyn, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar arwydd CAB.
Os nad ydych wedi cael y dystysgrif gofrestru V5C (llyfr log) oherwydd, er enghraifft, mae'r gwerthwr yn dweud ei fod wedi ei golli, dylech ofyn am gopi o'r ddogfen ar ffurflen V62, sydd ar gael o'r swyddfa bost. Rydych hefyd yn medru lawrlwytho'r ffurflen hon oddi ar adran Foduro gwefan Directgov yn: www.directgov.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, enw'r ffurflen yw V34.
Os yw'r cerbyd a gawsoch gan y deliwr â diffygion ac rydych yn gwrthod derbyn y cerbyd, mae gennych yr hawl i gael unrhyw arian a dalwyd yn ôl, a hefyd y cerbyd yr ydych wedi ei rhan-gyfnewid.
Os yw'r deliwr wedi cael gwared ar eich hen gerbyd yn barod, mae gennych yr hawl i hawlio'r swm gwreiddiol a nododd y deliwr fel gwerth y cerbyd. Hyd yn oed os yw'r deliwr yn honni bod diffygion yn y cerbyd sydd wedi cael ei rhan-gyfnewid wedi gostwng ei werth, rydych yn dal i fedru hawlio'r swm llawn oherwydd dylai'r deliwr fod wedi archwilio'r cerbyd yn drwyadl adeg dod i gytundeb.
Mae cwmni yswiriant yn medru dweud bod cerbyd wedi ei ddileu (write-off) neu'n golled llwyr:
Nid yw'r ffaith fod cerbyd yn cael ei ddileu yn golygu, o angenrheidrwydd, y dylid sgrapio'r cerbyd neu ei ddinistrio. Mae'n bosib i'r perchennog, neu ddeliwr sydd wedi ei brynu gan y cwmni yswiriant, ei atgyweirio a'i rhoi yn ôl ar yr heol.
O ganlyniad i ryw broblem arall, er enghraifft, damwain neu wiriad gan yr heddlu, efallai y darganfyddwch chi eich bod wedi prynu cerbyd sydd wedi ei ddileu ar ryw adeg yn y gorffennol.
Yn gyntaf, dylech ddarganfod a yw'r cerbyd wedi cael ei atgyweirio'n iawn. Os ydyw wedi cael ei atgyweirio’n iawn ac mae'r cerbyd mewn cyflwr sy'n addas i'w ddefnyddio ar yr heol, ni fyddwch yn medru hawlio yn erbyn y gwerthwr, onid ydyw wedi rhoi disgrifiad camarweiniol o'r cerbyd. Er enghraifft, efallai eu bod wedi dweud ei fod mewn cyflwr heb ei ail, gydag un perchennog gofalus, neu ei fod yn hollol berffaith, pan nad yw hyn yn wir.
Os ydych wedi prynu'r cerbyd gan ddeliwr ac mae wedi rhoi disgrifiad camarweiniol i chi, efallai ei fod wedi troseddu.
Os ydych wedi prynu'r cerbyd gan werthwr preifat ac mae wedi rhoi disgrifiad camarweiniol i chi, efallai y bydd yn bosib i chi gymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.
Os nad yw'r atgyweiriad wedi ei wneud yn dda iawn, fe fydd eich hawliau'n dibynnu a ydych wedi prynu'r cerbyd gan ddeliwr ai peidio, neu gan werthwr preifat.
Os ydych wedi rhoi blaendal ar gerbyd ac yna'n penderfynu peidio â'i brynu, ni fyddwch yn medru cael yr arian yn ôl onid yw'r gwerthwr wedi cytuno bod modd dychwelyd y blaendal petaech yn newid eich meddwl, er enghraifft, ar ôl cael archwiliad annibynnol. Os ydych yn newid eich meddwl cyn i chi gael y cerbyd, nid yw'r gwerthwr yn medru eich gorfodi chi i'w brynu.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i ganslo cytundeb i brynu car ail-law gan ddeliwr, gweler Ceir ail-law, yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Retail Motor Industry Federation (RMI)
Conciliation services
9 North Street
Rugby
CV21 2AB
Ffôn: 01788 538317
Llinell gymorth i ddefnyddwyr: 0845 758 5350 (Llun-Gwe 9.00yb-5.15yp)
Gwefan: www.rmif.co.uk
Mae'r RMI yn gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant moduro yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Os yw'r deliwr yr ydych wedi prynu eich cerbyd ganddo yn aelod o'r RMI, rhaid iddo ddilyn codau ymarfer yr RMI ar y diwydiant moduro.
Os oes cwyn gennych ynglŷn â deliwr sy'n perthyn i'r RMI, efallai y bydd yr RMI yn medru eich helpu i'w sortio trwy eu cynllun cymrodedd neu gyflafareddiad. Rhaid i chi geisio ei ddatrys gyda'r deliwr yn gyntaf cyn gofyn i'r RMI am help.
PO Box 44755
London
SW1X 7WU
Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr: 0800 692 0825
E-bost: consumer@motorcodes.co.uk
Gwefan: www.motorcodes.co.uk
Mae Motor Codes Limited yn is-gwmni i SMMT (Society of Motor Manufacturers and Traders) sy’n gymdeithas fasnach ar gyfer gwneuthurwyr moduron a chwmnïau yswiriant methiant mecanyddol. Mae Motor Codes Limited yn gweithredu nifer o godau ymarfer y mae’n rhaid i’w danysgrifwyr gydymffurfio â nhw. Dyma’r codau:
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer Ceir Newydd – Mae hwn yn cwmpasu gwerthu ceir newydd, warantïau ceir newydd, argaeledd rhannau newydd ar gyfer y ceir a hysbysebu;
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer ar gyfer Gwasanaethu ac Atgyweirio – Mae hwn yn ymrwymo garej i ddelio’n deg gyda chwsmeriaid. Gwahoddir cleientiaid sy’n cael gwasanaeth gwael gan unrhyw garej i ddweud wrth Motor Codes Limited am y mater, waeth a yw’r garej wedi cofrestru gyda’r cod ai peidio. Fe fydd y garejys hyn yn cael gwahoddiad i gofrestru gyda’r cod gyda’r nod o wella’u gwasanaethau;
Cod Ymarfer y Diwydiant Moduro ar gyfer Cynnyrch Waranti Cerbydau – Mae hwn yn cynnwys yswiriant methiant mecanyddol, gwarantau a warantïau estynedig, cymorth wrth ochr yr heol, yswiriant MOT, yswiriant teiars, yswiriant allweddi, GAP (gwarant diogelu asedau), yswiriant i rhoi cerbyd newydd yn lle cerbyd diffygiol ac yswiriant dychwelyd i anfonebu.
Mae’r codau’n gosod y safonau lleiaf y mae’n rhaid i danysgrifwyr gydymffurfio â nhw a’r broses ar gyfer trafod cwynion, ac mae hefyd yn darparu cyngor rhad ac am ddim i ddefnyddwyr a gwasanaeth cymodi.
Os nad ydych yn medru datrys problem yn syth gyda’r tanysgrifiwr, dylech gysylltu â’r Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr am gyngor a chymorth. Os nad ydych yn medru ei datrys, efallai y cewch eich cyfeirio at Wasanaethau Cynghori a Chymodi Motor Codes.
Os nad ydych yn medru datrys y broblem drwy gymodi, efallai y bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at gynllun cyflafareddiad annibynnol. Mewn rhai achosion, er enghraifft, ynghylch cynnyrch wedi’i yswirio, rydych yn medru dwyn eich cwyn gerbron Ombwdsmon y Gwasanaethau Ariannol. Mae canllawiau manwl ar sut i gwyno ar gael ymhob cod.
Palmerston House
10 The Loan
South Queensferry
EH30 9NS
Ffôn: 0131 331 5510
Ffacs: 0131 331 4296
E-bost: info@smta.co.uk
Gwefan: www.smta.co.uk
Rhaid i aelodau Scottish Motor Trade Association (SMTA) ddilyn y Côd Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Moduro. Mae'r SMTA yn gweithredu gwasanaeth cymrodedd mewnol a chynllun cyflafareddu annibynnol.
Ffôn: 0845 404 0506
Gwefan: www.consumerdirect.org.uk
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr. Mae'n cael ei gefnogi gan wasanaethau'r Swyddfa Masnachu Teg a Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Gyswllt Defnyddwyr ar sail prisiau 0845. Mae Cyswllt Defnyddwyr ar gael yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae Cyswllt Defnyddwyr yn medru eich helpu i ddatrys problem gyda masnachwr neu i gwyno. Mae hefyd yn medru esbonio eich hawliau fel defnyddiwr a'ch cyfeirio chi at gyrff eraill fel cymdeithasau masnach neu Safonau Masnach os fyddai'r rhain yn medru datys eich problemau defnyddwyr yn well.
Ffôn: 0300 123 6262
Gwefan: www.consumerline.org
Mae Consumerline yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr. Mae'n cael ei gefnogi gan adran o'r enw Department of Enterprise, Trade and Investment.
Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Consumerline ar sail prisiau 0300.