|
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Ynglyn â'r wybodaeth hon
Yn bennaf, mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i broblemau gyda nwyddau a brynwyd gan fasnachwyr busnes sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Gyfunol.
Os prynwyd y nwyddau gan fasnachwr sydd wedi'i leoli dramor, gweler y pennawd Prynu nwyddau gan fasnachwr tramor.
Os prynwyd y nwyddau gan unigolyn preifat, gweler y pennawd Prynu nwyddau gan werthwr preifat.
Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru a Lloegr, am nwyddau a brynwyd mewn gwlad arall sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gweler Prynu nwyddau a gwasanaethau yn Ewrop yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Beth yw nwyddau
Mae enghreifftiau o nwyddau'n cynnwys:
- dillad, dodrefn, a nwyddau eraill ar gyfer y cartref
- bwyd a diod
- nwyddau a gafwyd fel rhan o wasanaeth, er enghraifft injan wedi'i atgyflyru
- anifeiliaid, er enghraifft rhai anifeiliaid anwes
- cnydau sydd wedi eu cynaeafu.
Nôl i’r Brig
Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau (gan gynnwys nwyddau a gafwyd fel rhan o wasanaeth), mae'r gyfraith yn rhoi rhai hawliau penodol i chi fel defnyddiwr. Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i'r nwyddau:
- fod o ansawdd boddhaol. Mae hyn yn golygu y dylai'r nwyddau fod yn rhydd o unrhyw namau, gan gynnwys namau bach. Dylent fod o'r ansawdd y byddai person rhesymol yn ei ddisgwyl o ystyried y disgrifiad, y pris ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill. Fe allwch ystyried ymddangosiad a gorffeniad y nwyddau, ac a oedd yna unrhyw namau (gan gynnwys namau bach). Fe allwch hefyd ystyried a yw'r wybodaeth a gyhoeddwyd am nodweddion penodol o'r nwyddau yn gywir, ac a yw'r nwyddau'n ddiogel os ydynt yn cael eu defnyddio'n iawn
- fod yn addas at y diben. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi eu defnyddio nhw at y diben y byddech yn ei ddisgwyl fel arfer ar gyfer y math yma o gynnyrch, neu unrhyw ddiben yr ydych wedi sôn amdano wrth y gwerthwr fel rheswm dros brynu'r nwyddau
- gyfateb â'u disgrifiad. Mae hyn yn golygu, os oes yna ddisgrifiad llafar neu ysgrifenedig o'r nwyddau, rhaid ei fod yn gywir. Ac os ydych chi'n dewis nwyddau ar ôl gweld sampl, rhaid bod eich nwyddau'n cyfateb â'r sampl.
Mae yna nifer o bethau na chaiff masnachwr eu gwneud wrth werthu nwyddau i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwneud datganiad ysgrifenedig nad oes unrhyw hawliau cyfreithiol gennych wrth brynu nwyddau
- rhoi disgrifiad ffug o'r nwyddau
- gwerthu nwyddau peryglus neu anniogel
- ceisio codi tâl am nwyddau a anfonwyd nad ydych wedi eu harchebu
- gwerthu'n llai na'r mesur neu'n llai na'r pwysau
- rhoi pris camarweiniol, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar.
Os yw masnachwr yn gwneud unrhyw un o'r pethau hyn, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru - gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Gweithredoedd sy'n camarwain ac esgeulustod
Efallai y bydd masnachwr yn euog o drosedd os ydynt yn eich camarwain fel eich bod yn gwneud penderfyniad gwahanol ynghylch p'un ai eich bod am brynu rhywbeth ai peidio.
Mae hyn yn medru cynnwys rhoi gwybodaeth gamarweiniol i chi. Er enghraifft, mae masnachwr yn dweud nad oes modd atgyweirio eich peiriant golchi a bod angen un newydd arnoch. Os nad yw hyn yn wir, mae'r masnachwr yn cyflawni gweithred gamarweiniol.
Efallai y bydd masnachwr hefyd yn euog o drosedd os ydyw'n methu â rhoi gwybodaeth bwysig i chi, sy'n effeithio ar eich penderfyniad i brynu rhywbeth neu i beidio â'i brynu. Gelwir hyn yn esgeulustod camarweiniol. Er enghraifft, mae masnachwr yn hysbysebu bod ffonau symudol ar werth heb nodi eu bod yn rhai sydd wedi eu hatgyflyru. Mae hyn yn wybodaeth bwysig y dylai fod wedi ei dweud wrthych.
Os fydd masnachwr yn gwneud unrhyw un o'r pethau hyn, dylech gwyno i Gyswllt Defnyddwyr – gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Nôl i’r Brig
Eich hawliau pan fydd pethau'n mynd o le
Os ydych chi'n prynu nwyddau gan fasnachwr ac nid ydynt o ansawdd boddhaol, nid ydynt yn addas at y diben neu nid ydynt yn cyfateb â'u disgrifiad, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i'r masnachwr unioni'r cam. Y masnachwr sy'n gyfrifol am hyn, ac nid y gwneuthurwr. Os yw masnachwr yn dweud wrthych mai'r gwneuthurwr sy'n gyfrifol, neu fod yn rhaid i chi hawlio ar warant gwneuthurwyr, nid oes rhaid i chi dderbyn hyn.
Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd gennych un neu fwy o'r hawliau canlynol:
- i gael pob ceiniog o'ch arian yn ôl
- i gael peth o'ch arian yn ôl
- i gael y nwyddau wedi eu hatgyweirio
- i gael nwyddau eraill yn lle'r nwyddau hyn
- i gael iawndal.
Ni fydd gennych yr hawliau hyn yn yr achosion canlynol:
- nid oes unrhyw beth o'i le gyda'r nwyddau - chi sydd wedi newid eich meddwl a dydych chi ddim eisiau'r nwyddau nawr
- rydych chi wedi archwilio'r nwyddau, neu sampl o'r nwyddau, adeg eu prynu nhw, ac roedd y nam yr ydych am gwyno yn ei gylch mor amlwg y dylech chi fod wedi sylwi arno
- fe ddangosodd y masnachwr y nam yr ydych chi eisiau cwyno amdano nawr i chi
- rydych chi wedi difrodi'r nwyddau eich hun
- mae'r broblem yn ganlyniad i dreulio arferol
- mae'r nwyddau wedi para cyhyd ag y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol.
Mewn rhai achosion, fe fydd eich hawliau yn gyfyngedig pan fydd pethau'n mynd o le gyda'ch nwyddau. Mae'r rhain yn cynnwys achosion ble'r ydych chi:
Cael ad-daliad llawn
Os yw pethau'n mynd o le gyda'r nwyddau yr ydych wedi eu prynu, mae gennych yr hawl i'w dychwelyd a chael pob ceiniog o'ch arian yn ôl (ad-daliad llawn). Ond, mae'r hawl hwn yn parhau am gyfnod byr iawn ar ôl i chi brynu'r nwyddau. Rydych chi'n cael amser byr i archwilio'r nwyddau ac i roi tro arnynt, ond mae'n rhaid i chi ddweud wrth y masnachwr am y nam cyn gynted ag y byddwch chi'n dod o hyd iddo.,Fe fydd i fyny i chi i brofi bod rhywbeth o'i le gyda'r nwyddau os nad yw'r masnachwr yn derbyn hyn.
Ni fyddwch yn medru cael ad-daliad llawn os ydych chi wedi:
- parhau i ddefnyddio'r nwyddau ar ôl i chi sylweddoli bod rhywbeth o'i le
- ceisio atgyweirio'r nwyddau mewn unrhyw ffordd
- cadw'r nwyddau am ormod o amser heb ddweud wrth y masnachwr bod yna rhywbeth o'i le gyda nhw, neu cyn sylwi ar y nam.
Os nad oes hawl gennych i ad-daliad llawn am un o'r rhesymau hyn, efallai y bydd gawl gennych i gael peth o'ch arian yn ôl, neu i gael y nwyddau wedi eu hatgyweirio neu gael nwyddau eraill yn eu lle - gweler isod.
Os ydych chi'n credu bod hawl gennych i ad-daliad llawn ond mae'r masnachwr yn cynnig un o'r opsiynau eraill hyn i chi, efallai y byddwch chi am ystyried derbyn y cynnig, ond nid oes rhaid i chi. I ddarganfod beth fedrwch chi ei wneud os yw masnachwr yn gwrthod cynnig yr hyn y mae gennych hawl iddo, gweler y pennawd Sut i ddelio â phroblemau gyda nwyddau.
Cael eich nwyddau wedi eu hatgyweirio neu gael nwyddau eraill yn eu lle
Os oes rhywbeth o'i le gyda'ch nwyddau ac nid oes hawl gennych i gael ad-daliad llawn, neu dydych chi ddim eisiau ad-daliad llawn, fe allwch ofyn i'r masnachwr atgyweirio'r nwyddau neu roi nwyddau eraill i chi, yn rhad ac am ddim, yn lle. Efallai na fyddwch chi'n medru cael ad-daliad llawn os ydych wedi cael y nwyddau am gyfnod rhy hir cyn sylweddoli bod yna broblem, neu cyn i'r broblem ddod i'r amlwg.
Os ewch chi â'r nwyddau yn ôl o fewn chwe mis i'w prynu, mae'n rhaid i'r masnachwr dderbyn eu bod yn ddiffygiol adeg eu gwerthu a chynnig eu hatgyweirio neu roi nwyddau eraill yn eu lle. Os nad yw'r masnachwr yn derbyn bod y nwyddau yn ddiffygiol, fe fydd yn rhaid iddo brofi hyn.
Os ydych chi wedi cael y nwyddau am fwy na chwe mis pan fydd pethau'n mynd o le, rydych chi'n dal i fedru gofyn i'r masnachwr i'w hatgyweirio neu roi nwyddau eraill yn eu lle, ond efallai y bydd yn rhaid i chi brofi eu bod nhw'n ddiffygiol adeg eu prynu os nad yw'r masnachwr yn cytuno. Fe allwch chi ofyn am atgyweirio'r nwyddau neu gael nwyddau eraill yn eu lle, ar unrhyw adeg hyd at chwe blynedd ar ôl i chi brynu'r nwyddau (pum mlynedd yn yr Alban), tra'i fod yn rhesymol iddynt fod wedi para cyhyd. Os yw pethau'n mynd o le ar ôl chwe blynedd (neu bum mlynedd yn yr Alban), nid oes hawl gennych i ofyn am atgyweiriad nac am nwyddau eraill.
Os yw'r masnachwr yn cytuno i atgyweirio'r nwyddau neu i roi nwyddau eraill i chi yn eu lle, rhaid iddo wneud hyn o fewn cyfnod rhesymol o amser, a heb achosi unrhyw anghyfleustra sylweddol i chi. Os ydych chi'n gofyn i'r masnachwr am atgyweiriad ond nid yw hyn yn ymarferol neu mae'n rhy ddrud, nid oes rhaid i'r masnachwr atgyweirio eich nwyddau, ond fe allwch ddewis cael nwyddau eraill yn eu lle. Yn yr un ffordd, os ydych chi wedi gofyn i'r masnachwr am nwyddau eraill yn lle'r nwyddau gwreiddiol ac mae hyn yn anymarferol neu'n rhy ddrud, nid oes rhaid i'r masnachwr roi nwyddau eraill yn eu lle, ond fe allwch chi ddewis eu cael wedi eu hatgyweirio yn lle.
Os nad yw'n ymarferol atgyweirio neu gynnig nwyddau eraill i chi yn lle, fe allwch ofyn am gael peth o'ch arian yn ôl, neu bob ceiniog o'ch arian. Fe allwch ofyn hefyd am gael peth o'ch arian yn ôl, neu bob ceiniog, yn yr achosion canlynol:
- byddai atgyweirio eich nwyddau, neu gynnig yr un nwyddau yn eu lle, yn costio mwy na rhoi peth o'ch arian yn ôl, neu bob ceiniog ohono, neu
- nid yw'r masnachwr wedi atgyweirio neu roi'r un nwyddau i chi o fewn cyfnod rhesymol o amser, neu
- nid oedd y masnachwr yn medru atgyweirio neu gynnig yr un nwyddau i chi heb achosi anghyfleustra sylweddol i chi.
Fe fydd faint o arian y medrwch chi ei gael yn ôl yn dibynnu ar faint o ddefnydd yr ydych chi wedi ei gael o'r nwyddau. Fwy na thebyg y byddwch chi ond yn medru cael peth o'ch arian yn ôl yn yr achosion canlynol:-
- roedd y nwyddau wedi gweithio am beth amser cyn i bethau fynd o le, neu
- maen nhw'n dal i weithio ond maen nhw'n edrych yn waeth, neu
- dim ond un o'u swyddogaethau sydd wedi methu.
Ond, os nad ydych chi wedi medru defnyddio'r nwyddau o gwbl, neu rydych chi wedi eu defnyddio am ychydig yn unig, a/neu nid oedd yr ymgais i'w hatgyweirio yn llwyddiannus, fwy na thebyg y byddwch chi'n medru rhoi'r nwyddau yn ôl a chael pob ceiniog o'ch arian yn ôl.
Nôl i’r Brig
Nodiadau credyd
Pan fyddwch chi'n cwyno am nwyddau, efallai y bydd y masnachwr yn cynnig nodyn credyd i chi. Mae nodyn credyd yn eich galluogi chi i ddychwelyd y nwyddau a phrynu rhywbeth arall o'r un gwerth.
Os oes hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad, nwyddau eraill yn lle'r nwyddau gwreiddiol neu iawndal (gweler y pennawd Eich hawliau pan fydd pethau'n mynd o le) nid oes rhaid i chi dderbyn nodyn credyd yn lle, ond fe allwch ddewis gwneud hynny. Efallai hefyd y byddwch yn dewis derbyn nodyn credyd ble nad oes gennych unrhyw un o'r hawliau hyn.
Os ydych yn derbyn nodyn credyd, ni fedrwch chi newid eich meddwl yn nes ymlaen a chael ad-daliad neu iawndal, hyd yn oed os oedd hawl gennych i ad-daliad neu iawndal.
Nid oes rhaid i nodyn credyd fod ar unrhyw ffurf benodol. Gellir ei rhoi fel tocyn rhodd ac efallai hefyd y bydd amodau ynghlwm wrtho. Efallai y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio o fewn cyfnod penodol.
Os ydych chi'n ystyried derbyn nodyn credyd, edrychwch ar yr amodau sydd wedi eu nodi arno a gwnewch yn siwr fod gan y masnachwr nwyddau yr ydych am eu prynu.
Ni fedrwch fynnu cael nodyn credyd, os nad yw'r masnachwr am roi un i chi.
Nôl i’r Brig
Hawliau ychwanegol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau
Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth, efallai y bydd y masnachwr yn rhoi hawliau eraill i chi ar ben y rheiny y mae'r gyfraith yn eu rhoi i chi. Er enghraifft, mae rhai siopau yn eich gadael chi i ddychwelyd eitemau yn ystod cyfnod byr ar ôl eu prynu, hyd yn oed os nad oes unrhyw beth yn bod arnynt. Chwiliwch am unrhyw beth sy'n dweud wrthych am yr hawliau hyn pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth. Efallai y bydd yn golygu eich bod yn medru gofyn am eich arian yn ôl, nodyn credyd, cyfnewid yr eitem, cael eitem arall yr un peth yn ei le neu gael gostyngiad ar y pris gwerthu, er nad oes gennych yr hawl hon fel arall.
Weithiau, pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth gan fasnachwr, fe fyddwch yn cytuno ar amod penodol ar gyfer y gwerthiant yr ydych wedi ei drafod gyda nhw fel unigolion. Efallai y bydd hwn, er enghraifft, yn ddyddiad arbennig ar gyfer derbyn yr eitem neu eich bod yn cael yr eitem mewn lliw penodol. Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i'r masnachwr gadw at yr amod hwn. Os nad ydynt yn gwneud hyn efallai y byddwch yn medru gofyn am eich arian yn ôl, cyfnewid yr eitem neu gael eitem arall yr un peth yn ei lle, neu ostyngiad ar y pris gwerthu.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddelio gyda masnachwr pan fydd problem gennych, gweler y pennawd Sut i ddelio â phroblem gyda nwyddau.
Telerau cytundeb annheg
Gyda thelerau cytundeb annheg mae yna amod safonol mewn cytundeb gwerthu sy'n golygu bod y cytundeb yn annheg i'r cwsmer. Amodau safonol yw'r rheiny y mae'r masnachwr wedi eu llunio ymlaen llaw, nid y rhai yr ydych chi'n eu trafod yn unigol pan fyddwch chi'n penderfynu a ydych chi am brynu rhywbeth. Os oes cytundeb ysgrifenedig gennych, mae'r amodau safonol yn y print bach.
Mae enghreifftiau o amodau annheg yn cynnwys cytundeb a ysgrifennwyd mewn ffordd fel nad ydych yn medru ei ddeall, neu amodau sy'n ceisio cymryd eich hawliau i hawlio gan y masnachwr oddi arnoch os yw nwyddau'n ddiffygiol. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch ystyr amod mewn cytundeb, dylid penderfynu o blaid y cwsmer.
Os oes problem gennych gyda chytundeb neu os ydych yn credu bod yna amod annheg yn eich cytundeb, fe allwch gael mwy o gyngor a gwybodaeth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Gwahaniaethu pan fyddwch chi'n prynu nwyddau
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu hil neu eu hanabledd wrth ddarparu nwyddau. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw hefyd yn cynnwys gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol a gwahaniaethu yn erbyn menywod oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu barn wleidyddol wrth ddarparu nwyddau.
Os ydych chi'n credu bod rhywun sy'n gwerthu nwyddau wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Fe allwch hefyd gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Nôl i’r Brig
Nwyddau peryglus
Os ydych chi wedi prynu nwyddau peryglus neu ddiffygiol, efallai eu bod wedi achosi difrod i’ch eiddo neu anaf personol i chi neu i rywun arall.
Os ydych yn gwybod bod masnachwr yn gwerthu nwyddau peryglus neu anniogel neu os oes gan wneuthuriwr gynnyrch anniogel ar y farchnad, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach am fanylion.
Fe fyddwch yn medru hawlio iawndal am nwyddau anniogel sydd wedi achosi difrod neu anaf personol. Os oeddech wedi prynu’r nwyddau eich hun, fe fyddwch yn medru hawlio iawndal oddi wrth y masnachwr neu’r gwneuthurwr. Os nad chi sydd wedi prynu’r nwyddau eich hun, yna dim ond wrth y gwneuthurwr y medrwch chi hawlio iawndal, ac nid y masnachwr. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys i geisio cael iawndal – gweler y pennawd Sut i ddelio gyda phroblem gyda nwyddau.
Fe fyddwch hefyd yn medru dweud wrth eich Adran Safonau Masnach leol am unrhyw nwyddau peryglus neu anniogel - gweler yr adran ar Ddweud wrth Safonau Masnach am y masnachwr, o dan y pennawd Sut i ddelio â phroblem gyda nwyddau.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am nwyddau peryglus, gweler Diogelwch yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Os ydych chi am hawlio iawndal am anaf personol neu ddifrod i eiddo, mae hyn yn medru bod yn faes cyfreithiol cymhleth ac efallai y bydd angen cyngor arbenigol arnoch. Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Hysbysebu
Mae'r ffordd y mas masnachwr yn hysbysebu yn medru bod yn drosedd. Dyma enghreifftiau o arferion hysbysebu sy'n medru bod yn erbyn y gyfraith:
- hysbyseb wedi'i hanelu'n benodol at blant, sy'n annog eu rhieni neu oedolion eraill i brynu pethau ar eu cyfer
- hysbyseb cynnyrch na ellir eu gwerthu yn ôl y gyfraith
- rhoi argraff gamarweiniol ynghylch eich hawliau. Er enghraifft, mae siop yn hysbysebu beiros ac yn dweud os nad ydynt yn gweithio y byddwch yn medru cael eich arian yn ôl ond na fyddwch yn gweld y cynnig hwn yn unrhyw le arall. Mae hyn yn hysbysebu anghyfreithiol oherwydd mae gennych yr hawl i gael eich arian yn ôl bob tro yn yr amgylchiadau hyn
- mae masnachwr yn dweud bod rhywbeth ar gael am gyfnod cyfyngedig iawn yn unig, fel eich bod yn teimlo eich bod yn gorfod gweithredu'n gyflym neu golli'r eitem
- ble mae rhywbeth yn cael ei hysbysebu a phan fyddwch yn gofyn amdano maen nhw'n dangos model gwahanol i chi neu'n gofyn i chi ei archebu.
Yn yr holl achosion hyn, efallai y bydd masnachwr yn ymddwyn yn annheg ac efallai y bydd yn euog o drosedd. Mae'n bosib i chi ddweud wrth Gyswllt Defnyddwyr amdanynt - edrychwch o dan y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt. Neu cysylltwch â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (yr ASA). Mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan: www.asa.org.uk.
Nôl i’r Brig
Gwarantau a warantïau
Pan fydd masnachwr yn gwerthu nwyddau i chi, efallai y bydd hefyd yn cynnig gwarant neu waranti i chi. Fe all hyn fod yn rhad ac am ddim, neu efallai y bydd yn codi tâl arnoch amdano. Fel rheol gyffredinol, mae gwarantau fel arfer yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim, ond fel arfer mae'n rhaid i chi dalu am waranti.
Nid oes gofyn i fasnachwyr gynnig gwarant neu waranti i chi yn ôl y gyfraith.
Yn aml, mae gan warantau neu warantïau amodau a thelerau ynghlwm wrthynt ac mae'r hyn y maen nhw'n ei gynnig i chi yn gyfyngedig. Ond, efallai y byddan nhw'n cynnig mwy o ddiogelwch i chi yn ychwanegol at eich hawliau defnyddiwr eraill. Maen nhw'n medru golygu eich bod yn cael nwyddau eraill yn lle'r nwyddau diffygiol neu eu bod yn cael eu hatgyweirio, neu eich bod yn cael gwaith diffygiol wedi ei unioni pan fydd eich hawliau defnyddiwr eraill ddim yn berthnasol mwyach.
Efallai y bydd yn haws i chi hawlio ar warant neu waranti os yw'r masnachwr yn gwrthod rhoi'r hyn yr ydych chi'n gofyn amdano. Maen nhw hefyd yn medru bod yn ddefnyddiol iawn os yw'r masnachwr wedi mynd allan o fusnes.
Os ydych chi wedi prynu nwyddau mewn gwerthiant o bell (dros y rhyngrwyd neu dros y ffôn, er enghraifft) efallai y bydd yn fwy hwylus i chi hawlio ar y warant neu'r waranti.
Mae'n rhaid bod gwarantau a geir yn rhad ac am ddim gyda nwyddau wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg clir a rhaid eu bod ar gael i chi gael eu gweld. Mae amodau'r warant yn rhwymo'n gyfreithiol.
Os yw masnachwr yn gwerthu warantïau estynedig (weithiau, gelwir y rhain yn gytundebau gwasanaeth) ar gyfer nwyddau trydanol i'r cartref - er enghraifft cyfrifiaduron, stereos, oergelloedd neu beiriannau tostio - mae'n rhaid iddynt ddangos pris y waranti ochr yn ochr â'r nwyddau. Fe allwch ofyn i fasnachwr roi dyfynbris ysgrifenedig i chi am bris waranti ac mae'n rhaid iddo nhw gadw at y pris hwn o dan y gyfraith os ydych yn mynd yn ôl i brynu'r waranti ar ôl i chi brynu'r nwyddau. Mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y prynwyd y nwyddau. Mae'n rhaid i'r masnachwr hefyd ddweud wrthych am eich hawl i brynu waranti o rywle arall a bod posibilrwydd fod yr eitem drydanol a brynwyd eisoes yn dod o dan eich yswiriant cynnwys y cartref chi. Os ydych chi'n dewis prynu'r waranti gan y masnachwr, mae gennych yr hawl i ganslo o fewn 45 diwrnod a chael ad-daliad llawn, tra nad ydych chi wedi hawlio. Os ydych chi wedi hawlio ar y waranti, rydych chi'n dal i fedru canslo a chael ad-daliad pro-rata ar unrhyw adeg hyd nes diwedd y cytundeb gwasanaeth.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am warantau, gweler Gwarantau yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Danfoniadau
Oedi wrth dderbyn eich nwyddau
Os ydych chi wedi cael dyddiad ar gyfer derbyn eich nwyddau, yna rhaid i chi dderbyn eich nwyddau erbyn y dyddiad hwn. Os nad ydych yn eu derbyn, yna fe fydd y masnachwr wedi torri ei gytundeb gyda chi ac mae gennych yr hawl i ofyn am iawndal.
Os nad ydych wedi cael dyddiad iawn ar gyfer derbyn eich nwyddau, yna ni fyddwch yn medru hawlio iawndal. Ond, os ydych yn credu eich bod wedi aros am amser rhesymol ac nid yw'r nwyddau wedi cyrraedd o hyd, dylech ysgrifennu at y masnachwr, yn rhoi dyddiad cadarn ar gyfer derbyn y nwyddau. Yr enw ar hyn yw 'dweud bod amser yr hanfodol' neu, yn Saesneg, 'making time of the essence'. Os nad yw'r masnachwr yn cadw at y dyddiad hwn, fe fyddwch yn medru hawlio iawndal.
Os ydych wedi prynu eich nwyddau o bell, er enghraifft trwy gatalog neu dros y rhyngrwyd, fe fydd eich hawliau'n wahanol. Am fwy o wybodaeth, gweler y pennawd Gwerthu o bell.
Pan fyddwch yn hawlio iawndal am dderbyn eich nwyddau'n hwyr, efallai y bydd y masnachwr yn cynnig swm penodol o arian i chi. Ond, fe fyddwch yn medru hawlio'n ychwanegol am golledion eraill ar ben hyn, fel y gost o gymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith tra'ch bod yn aros am nwyddau sydd heb gyrraedd.
Yn ogystal â hawlio iawndal, fe fyddech hefyd â hawl i ganslo eich archeb a chael eich arian yn ôl. Ond, os nad yw'r masnachwr yn cytuno i hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i geisio cael eich arian yn ôl. Am fwy o wybodaeth, gweler y pennawd Sut i ddelio â phroblem gyda nwyddau.
Mae'r nwyddau a ddaeth yn ddiffygiol
Pan fyddwch yn derbyn nwyddau, mae gennych yr hawl i'w harchwilio'n ofalus a sicrhau eu bod nhw'n foddhaol. Dylech gwyno ar unwaith i'r masnachwr os ydych yn dod o hyd i nam neu os nad ydych yn credu eu bod yn cyfateb â'r disgrifiad a gawsoch pan brynoch y nwyddau.
Os ydych yn gweld bod rhywbeth o'i le pan fydd y cwmni sydd wedi cludo'r nwyddau atoch wedi mynd, rydych chi'n dal i fedru cwyno i'r masnachwr. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych wedi llofnodi nodyn danfon. Pan fyddwch chi'n llofnodi nodyn danfon, y cyfan yr ydych chi'n ei gydnabod yw eich bod chi wedi derbyn y nwyddau. Nid yw hyn yn cael gwared ar eich hawl i gwyno os ydych yn darganfod yn nes ymlaen bod rhywbeth o'i le gyda'r nwyddau, er, dylech wneud hyn cyn gynted â phosib- gweler y pennawd Eich hawliau pan fydd pethau'n mynd o le.
Os difrodwyd y nwyddau yn ystod y daith dylech gwyno i'r masnachwr sydd wedi eu gwerthu i chi. Cyfrifoldeb y masnachwr, ac nid y cwmni cludo, yw'r nwyddau hyd nes yr amser y maen nhw'n eich cyrraedd chi.
Nôl i’r Brig
Codi tâl am nwyddau nad ydych wedi eu harchebu
Weithiau mae masnachwr yn ceisio codi tâl ar bobl am nwyddau nad ydynt wedi eu harchebu. Mae hyn yn erbyn y gyfraith. Mae'n medru digwydd pan fydd masnachwr yn anfon hysbyseb atoch am nwyddau ac yn cynnwys dogfen sy'n edrych fel anfoneb, i roi'r argraff eich bod eisoes wedi archebu'r nwyddau a bod angen i chi dalu nawr. Mae hefyd yn medru digwydd pan fyddwch yn derbyn nwyddau nad ydych wedi eu harchebu ac mae'r masnachwr yn mynnu taliad ar unwaith neu'n gofyn i chi anfon y nwyddau yn ôl. Os yw hyn yn digwydd i chi, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr am y masnachwr - gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt. Ni ddylech dalu ceiniog i'r masnachwr.
Nôl i’r Brig
Gwerthu o bell
Os ydych chi'n prynu nwyddau gan fasnachwr heb gyswllt wyneb-yn-wyneb gyda nhw, gelwir hyn yn werthu o bell. Mae enghreifftiau o werthu o bell yn cynnwys nwyddau sy'n cael eu prynu:
- dros y ffôn neu'r ffacs, gan gynnwys negeseuon testun a ffonau symudol
- trwy archebu drwy'r post
- yn electronig dros y rhyngrwyd, e-bost neu deledu digidol
- trwy sianel siopa neu deletestun
- o gatalog
- trwy ffurflen archebu mewn hysbyseb mewn cylchgrawn neu bapur newydd.
Os ydych chi'n prynu nwyddau yn unrhyw un o'r dulliau hyn, mae gennych hawliau ar ben y rheiny sydd gennych pan fyddwch chi'n prynu nwyddau mewn siop. Y pwysicaf o'r rhain yw'r hawl i gyfnod 'oeri'. Mae hwn yn rhoi'r hawl i chi i ganslo eich archeb o fewn saith niwrnod gwaith, heb orfod talu unrhyw beth. Mae'n rhaid i'r masnachwr ddweud wrthych am yr hawl hwn pan fyddwch chi'n archebu. Mae'r hawliau ychwanegol eraill sydd gennych pan fyddwch chi'n gwerthu o bell yn cynnwys yr hawl:
- i gael enw a chyfeiriad y masnachwr
- i gael gwybod pris nwyddau, gan gynnwys treth a thaliadau cludiant
- i gael y nwyddau o fewn 30 diwrnod
- i gadw neu gael gwared ar unrhyw nwyddau yr ydych yn eu derbyn ond heb eu harchebu. Os yw gwerthwr yn mynnu cael ei dalu am nwyddau nad ydych chi wedi eu harchebu, nid oes rhaid i chi dalu amdanynt na’u dychwelyd – gweler y pennawd Codi tâl am nwyddau nad ydych wedi eu harchebu.
Os ydych yn defnyddio cerdyn credyd i brynu nwyddau yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn, rydych chi hefyd yn cael eich diogelu'n arbennig yn erbyn y defnydd twyllodrus o fanylion eich cerdyn credyd.
Os na fydd y masnachwr yn gadael llonydd i chi ac mae'n parhau i gysylltu â chi pan fyddwch wedi dweud wrtho am beidio, efallai y bydd yn euog o drosedd. Dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr - gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda nwyddau diffygiol a brynir ar gredyd, gweler Credyd.
Nwyddau a brynwyd gan ddefnyddio e-fasnach
Mae E-fasnach yn golygu eich bod chi'n prynu nwyddau yn electronig. Mae prynu nwyddau dros y rhyngrwyd, trwy neges testun neu ffôn symudol yn enghreifftiau o e-fasnach. Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau gan ddefnyddio e-fasnach, mae gennych yr un hawliau â phan fyddwch chi'n prynu mewn siop neu o bellter, ond mae'n rhaid i'r masnachwr hefyd roi peth gwybodaeth ychwanegol i chi. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n defnyddio e-fasnach i brynu nwyddau yn y Deyrnas Gyfunol neu yn unrhyw le arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid i'r masnachwr:
- roi cyfarwyddiadau manwl i chi ar gyfer cwblhau eich archeb
- dweud wrthych sut i gywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydych wedi eu gwneud wrth archebu
- roi unrhyw amodau a thelerau ar gyfer y gwerthiant ar ffurf y gellir ei arbed neu ei argraffu yn hawdd
- dweud wrthych a fyddan nhw'n cadw ffeil o'r gwerthiant i chi gael mynediad ato
- dweud wrthych am unrhyw god ymarfer sy'n berthnasol i'r gwerthiant a sut yr ydych chi'n medru ei ddarllen yn electronig
- anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi derbyn eich archeb.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu nwyddau o bell, gweler Siopa o'ch cartref, a Prynu dros y rhyngrwyd yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Os ydych chi angen cyngor ynghylch pwrcas yr ydych wedi ei wneud o bell, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Gwerthu ar stepen eich drws
Mae gwerthu ar stepen eich drws yn golygu eich bod yn prynu rhywbeth gan rywun wyneb-yn-wyneb ond i ffwrdd o’r safle masnachu - er enghraifft, gartref neu gan berson gwerthu yn eich gweithle. Os ydych chi’n prynu rhywbeth ar stepen eich drws, yna yn ogystal â’r hawliau arferol sydd gennych pan fyddwch chi’n prynu o siop, mae gennych yr hawl hefyd i ‘gyfnod oeri’ saith niwrnod. Er mwyn cael yr hawl hwn, mae’n rhaid i’r nwyddau yr ydych yn eu prynu gostio dros £35. Nid oes gwahaniaeth a ydych wedi gwahodd y person sy'n gwerthu i alw yn eich cartref neu weithle ai peidio.
Mae'r cyfnod oeri yn rhoi saith niwrnod i chi ble fyddwch chi'n medru newid eich meddwl a chanslo eich archeb, heb orfod talu unrhyw beth. Mae'n rhaid i'r person gwerthu ddweud wrthych fod yr hawl hyn gennych, yn ysgrifenedig, pan fyddwch chi'n gosod eich archeb. Os nad ydyn nhw'n gwneud hyn, fe fyddwch chi'n medru canslo eich archeb ar unrhyw adeg a chael eich arian yn ôl - hyd yn oed os yw hyn ar ôl saith niwrnod. Os nad yw masnachwr yn dweud wrthych am eich hawl i ganslo archeb a wneir mewn gwerthiant stepen ddrws, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach.
Os ydych wedi gofyn yn ysgrifenedig am gael nwyddau cyn diwedd y cyfnod oeri, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu pris rhesymol am y nwyddau hynny, gan ddibynnu beth mae'r cytundeb yn ei ddweud, hyd yn oed os ydych yn canslo'r cytundeb o fewn y cyfnod oeri. Mae hyn yn berthnasol i nwyddau nad oes modd eu dychwelyd i'r masnachwr yn rhesymol, er enghraifft am eich bod wedi eu defnyddio neu am eu bod wedi eu gwneud yn arbennig i chi.
Os yw masnachwr yn dod i'ch cartref ac yn anwybyddu eich cais iddo adael neu i beidio â dod yn ôl, efallai y bydd yn troseddu. Mae hefyd yn erbyn y gyfraith os ydyw'n parhau i gysylltu â chi o bell, er enghraifft, dros y ffôn neu drwy'r e-bost. Dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr amdano - gweler y pennawd Help pellach am eu manylion cyswllt.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am eich hawliau i ganslo cytundeb a wneir mewn gwerthiant ar eich stepen ddrws, gweler Prynu ar eich stepen drws yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Hyd yn oed os nad oes hawl gennych i ganslo eich archeb, neu os ydych chi am ganslo ar ôl saith niwrnod, efallai y bydd y masnachwr yn dal i gytuno i'w ganslo. Ond, fe fyddai hawl ganddo i godi tâl canslo, neu i gadw eich blaendal.
Canslo cytundeb credyd os ydych wedi prynu nwyddau mewn gwerthiant stepen ddrws
Os ydych chi’n cofrestru i gael credyd i brynu nwyddau yn eich cartref eich hun, mae hawl gennych i ganslo'r cytundeb of fewn cyfnod oeri.
Ar ôl llofnodi'r cytundeb, dylech gael copi o'r cytundeb credyd yn nodi eich hawliau canslo yn glir. Dylech hefyd gael ail hysbysiad drwy'r post yn dweud wrthych am eich hawliau canslo. Mae gennych hawl i gyfnod oeri sy'n dechrau ar y diwrnod yr ydych yn llofnodi'r cytundeb ac yn diweddu bum niwrnod ar ôl i chi dderbyn yr ail hysbysiad am eich hawliau canslo.
Mae gennych yr hawl hwn, waeth a ydych chi wedi gwahodd y person gwerthu i alw ai peidio.
Mae'n rhaid eich bod chi wedi trafod y ddêl wyneb-yn-wyneb gyda'r person gwerthu a rhaid bod y gwasanaeth yr ydych wedi ei brynu ar gredyd yn costio fwy na £35.
Mae'r hawl hwn yn berthnasol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau ar gredyd unrhyw le i ffwrdd o safle busnes y masnachwr neu swyddfeydd y cwmni credyd.
Am fwy o wybodaeth am brynu gwasanaethau ar gredyd, gweler Credyd.
Os ydych chi angen cyngor ar sut i ganslo cytundeb am nwyddau a brynwyd i ffwrdd oddi wrth safleoedd masnachu, dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, fel mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Nwyddau ail law
Os yw'r nwyddau yr ydych wedi eu prynu gan fasnachwr yn ail law neu'n nwyddau eilaidd ('seconds'), mae gennych yr un hawliau â phetai'r nwyddau'n newydd - gweler y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau. Ond, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, fe fydd angen i chi ystyried y pris a dalwyd amdanynt wrth benderfynu a ydych chi'n disgwyl i'r masnachwr unioni'r cam. Hefyd, ni ddylech ddisgwyl i'r nwyddau fod o ansawdd perffaith, a dylai fod gennych ddisgwyliadau is o ran eu perfformiad.
Nôl i’r Brig
Prynu nwyddau gan fasnachwr tramor
Os ydych chi'n prynu nwyddau gan fasnachwr tramor, er enghraifft pan fyddwch chi ar eich gwyliau, fel arfer fe fydd eich hawliau yn dibynnu ar gyfreithiau'r wlad ble prynoch chi'r nwyddau.
Os ydych chi’n prynu nwyddau ar y rhyngrwyd gan werthwr sydd wedi'i leoli mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd(UE), efallai y bydd gennych yr un hawliau cyfreithiol â phetaech wedi prynu'r nwyddau yn y Deyrnas Gyfunol.
I ddarganfod mwy am brynu nwyddau yng ngwledydd eraill yr UE, ewch at wefan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig, www.ukecc.net. Mae Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig hefyd yn medru eich helpu i gwyno am nwyddau a brynwyd gan fasnachwr mewn gwlad arall yn yr UE. Mae gwybodaeth ynglyn â hyn ar eu gwefan.
Yng Nghymru a Lloegr, gellir cael gwybodaeth am nwyddau a brynwyd gan werthwr mewn gwlad arall yn yr UE o dan y pennawd Prynu nwyddau a gwasanaethau yn Ewrop yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Mae masnachwr yn ymddwyn yn ymosodol
Mae ymddygiad ymosodol gan fasnachwr yn medru bod yn erbyn y gyfraith ac mae'n bosib y ceir y masnachwr yn euog o drosedd. Mae ymddygiad ymosodol sy'n medru bod yn erbyn y gyfraith yn achos ble mae'r masnachwr yn eich poeni neu'n rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad gwahanol ynghylch prynu rhywbeth. Mae hyn yn medru bod yn bwysau corfforol neu'n bwysau seicolegol. Mae'r ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu a yw masnachwr wedi ymddwyn yn ymosodol yn cynnwys:
- amseru, natur a dyfalbarhad geiriau neu weithredoedd y masnachwr
- p’un ai fod y masnachwr wedi defnyddio iaith neu ymddygiad bygythiol neu ymosodol
- a yw'r masnachwr wedi bygwth cymryd camau nad oes modd eu cymryd yn gyfreithiol.
Un enghraifft o ymddygiad ymosodol yw ble mae rhywun yn dod i'ch drws ac yn rhoi pwysau arnoch i dalu arian yn y fan a'r lle am atgyweiriadau, ac yn eich gorfodi i fynd i'r 'twll yn y wal' agosaf i dynnu arian.
Os ydych yn credu bod masnachwr yn ymddwyn yn ymosodol, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr amdano - gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt.
Nôl i’r Brig
Prynu nwyddau gan werthwr preifat
Os ydych chi'n prynu nwyddau gan unigolyn preifat, er enghraifft, trwy hysbyseb mewn papur newydd neu ffenestr siop, neu mewn gwerthiant cefn car, ychydig iawn o hawliau cyfreithiol sydd gennych. Ond, os yw'r gwerthwr yn rhoi disgrifiad o'r nwyddau, mae'n rhaid iddynt gyfateb â'r disgrifiad a roddwyd. Os nad yw'ch nwyddau'n cyfateb â'r disgrifiad a roddwyd, efallai y bydd hawl gennych i iawndal. Efallai hefyd y bydd hawl gennych i iawndal os ydych chi wedi prynu car sydd ddim yn addas i'w ddefnyddio ar yr heol gan werthwr preifat, ac mae hyn wedi achosi anaf i rywun. Ond, efallai y bydd yn arbennig o anodd cael iawndal gan werthwr preifat.
Os ydych wedi prynu car sydd ddim yn addas ar gyfer yr heol – dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt.
Weithiau, mae pobl sy’n gwerthu nwyddau fel rhan o’u busnes yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n werthwr preifat er mwyn osgoi eu cyfrifoldebau cyfreithiol i’w cwsmeriaid. Mae hyn yn drosedd. Os ydych chi’n amau nad yw’r person yr ydych wedi prynu nwyddau ganddo yn werthwr preifat, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru – gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt.
Fe all eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol roi mwy o gyngor i chi ynghylch hawlio yn erbyn gwerthwr preifat. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru a Lloegr, rydych chi'n medru cael mwy o wybodaeth am eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau gan unigolyn preifat o werthiant cefn car a gwerthiant preifat yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Ocsiynau
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau mewn ocsiwn, fe fydd eich hawliau'n dibynnu a yw'r nwyddau yn newydd neu'n ail law, ac a yw'r gwerthwr yn fasnachwr neu'n unigolyn preifat. Y gwerthwr fydd perchennog gwreiddiol y nwyddau, ac nid yr arwerthwr. Efallai y bydd eich hawliau hefyd yn dibynnu a ydych chi wedi cael y cyfle i fynd i'r ocsiwn yn bersonol.
Nwyddau newydd
Os ydych chi'n prynu nwyddau newydd mewn ocsiwn gan fasnachwr, fe fydd gennych yr un hawliau cyfreithiol ag y byddai gennych petaech wedi eu prynu nhw mewn siop - gweler y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau.
Os ydych chi'n prynu nwyddau newydd mewn ocsiwn gan werthwr preifat, fe fydd gennych lai o hawliau cyfreithiol. Fe fydd gennych yr un hawliau â'r rheiny a ddisgrifir o dan y pennawd Prynu nwyddau gan werthwr preifat.
Nwyddau ail law
Os ydych chi'n prynu nwyddau ail law o ocsiwn ac nid ydych yn cael cyfle i fynd i'r ocsiwn yn bersonol, er enghraifft ocsiwn ar y rhyngrwyd, fe fydd eich hawliau'n dibynnu a yw'r gwerthwr yn fasnachwr neu'n unigolyn preifat.
Os yw'r gwerthwr yn fasnachwr, fe fydd gennych yr un hawliau cyfreithiol â petaech wedi prynu'r nwyddau mewn siop - gweler y pennawd Eich hawliau cyfreithiol pan fyddwch chi'n prynu nwyddau.
Os yw'r gwerthwr yn unigolyn preifat, fe fydd gennych yr un hawliau â'r rheiny a ddisgrifir o dan y pennawd Prynu nwyddau gan werthwr preifat.
Os ydych chi'n prynu nwyddau ail law o ocsiwn yr ydych yn mynd iddo'n bersonol (neu'n cael cyfle i fynd yn bersonol), efallai na fydd unrhyw hawliau cyfreithiol gennych o gwbl. Fe fydd hyn yn wir os ydych yn cael gwybod nad yw'ch hawliau cyfreithiol yn berthnasol neu os yw nwyddau'n cael eu gwerthu 'fel yr ydych yn eu gweld' yn unig. Fe allai'r wybodaeth hyn fod yng nghatalog yr ocsiwn neu wedi'i arddangos ar hysbysiad. Fe all yr arwerthwr ddweud nad yw'ch hawliau cyfreithiol yn berthnasol, dim ond os ydyw'n rhesymol gwneud hynny.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am brynu nwyddau mewn ocsiwn, gweler Prynu mewn ocsiwn yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Gwerthu o fusnes i fusnes
Os ydych chi'n prynu nwyddau ar gyfer eich busnes, efallai na fydd yr hawliau cyfreithiol sydd gennych fel arfer fel defnyddiwr preifat yn berthnasol.
Os oes problem gennych gyda nwyddau yr ydych wedi eu prynu ar gyfer eich busnes ac nid ydych yn siwr beth yw eich hawliau, efallai y bydd angen i chi gael cyngor arbenigol. Efallai y bydd canolfan Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu i ddod o hyd i arbenigwr perthnasol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nôl i’r Brig
Roedd y nwyddau'n rhodd
Os ydych yn cael nwyddau fel rhodd ac maen nhw’n ddiffygiol, ddim yn cyfateb â’u disgrifiad neu ddim yn addas at y diben yr ydych wedi eu prynu, y person a’u prynodd ddylai gwyno. Ond, fe allwch chi gwyno i’r masnachwr eich hun, tra bod y person a brynodd y nwyddau i chi wedi dweud wrth y masnachwr, adeg eu prynu, eu bod yn mynd i roi'r nwyddau i chi.
Yn ddelfrydol, dylai eich enw fod wedi'i ysgrifennu ar y dderbynneb, anfoneb neu gerdyn gwarant fel prawf mae eich nwyddau chi ydynt. Os trefnwyd danfon y nwyddau i chi, yn hytrach na'r person s'u prynodd i chi, fe fyddwch yn medru defnyddio hyn fel prawf hefyd.
Nôl i’r Brig
Sut i ddelio â phroblem gyda nwyddau
Trafod gyda'r masnachwr
Os oes problem gennych gyda nwyddau, yn gyntaf ymchwiliwch i weld pa hawliau sydd gennych a phenderfynwch beth yr ydych chi am i'r gwerthwr wneud am y peth. Er enghraifft, efallai y byddwch chi eisiau ad-daliad, atgyweiriad, nwyddau eraill yn eu lle neu iawndal. Neu efallai y byddwch chi eisiau nodyn credyd neu i hawlio ar waranti gwneuthurwr.
Yna, fe fydd angen i chi gysylltu â'r masnachwr i gyflwyno eich achos. Os ydych yn cysylltu â'r gwerthwr yn gynnar yn y broses ac yn paratoi eich achos yn dda, mae eich trafodaethau yn fwy tebygol o lwyddo. Os ydych yn gofyn am ad-daliad llawn, rhaid i chi gysylltu â'r masnachwr cyn gynted â phosib ar ôl prynu'r nwyddau, neu efallai y byddwch yn colli eich hawl i gael eich arian yn ôl (gweler y pennawd Eich hawliau pan fydd pethau'n mynd o le).
Dylech gasglu'r holl wybodaeth sydd angen arnoch i wneud eich cwyn at ei gilydd. Fe allai hyn gynnwys:
- unrhyw hawliau sydd gennych - gweler y pennawd Eich hawliau pan fydd pethau'n mynd o le
- disgrifiad o'r nwyddau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth a ddywedwyd wrthych am y nwyddau, unrhyw beth mewn hysbyseb neu unrhyw beth ysgrifenedig a gawsoch
- manylion am y broblem
- am faint yr ydych wedi cael y nwyddau. Neu, os nad ydych wedi cael y nwyddau o gwbl, pryd yr oeddech i fod i'w cael
- pryd y sylwoch chi ar y broblem am y tro cyntaf
- manylion yr hyn yr ydych wedi ei wneud am y broblem, os ydych wedi gwneud unrhyw beth o gwbl
- os ydych eisoes wedi siarad â'r masnachwr am y broblem, manylion yr hyn a ddywedwyd
- copïau o unrhyw ddogfennau, er enghraifft, ffurflen archebu cytundeb credyd, dyfynbris, cyfarwyddiadau, hysbyseb neu warant
- faint daloch chi, ac unrhyw dderbynebau neu brawf pwrcasu arall.
Pan fyddwch chi wedi casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch, ewch â’r nwyddau yn ôl i’r man y prynwyd hwy gyda’ch prawf pwrcasu, a gofynnwch am gael siarad â’r rheolwr neu’r perchennog. Esboniwch eich problem yn dawel ond yn gadarn, a dywedwch beth yr ydych chi am iddyn nhw wneud am y peth. Rhowch derfyn amser ar gyfer sortio’r broblem. Os yw’r gwerthwr am anfon y nwyddau at y gwneuthurwr i’w harchwilio, gofynnwch faint o amser fydd hyn yn ei gymryd. Rhaid i’r nwyddau gael eu dychwelyd o fewn cyfnod rhesymol o amser. Os ydych chi’n gofyn am ad-daliad llawn, eglurwch yn glir nad ydych am iddynt wneud unrhyw atgyweiriadau heb i chi gytuno iddynt. Mae nifer o arferion annheg gan fasnachwr yn erbyn y gyfraith. Mae'n bosib i chi ddweud, os na fydd y broblem yn cael ei datrys yn foddhaol, y byddwch yn dweud wrth Cyswllt Defnyddwyr am y masnachwr ac efallai y byddan nhw'n cymryd camau yn erbyn y masnachwr.
Efallai y byddai'n well gennych ysgrifennu at y masnachwr neu eu ffonio nhw, yn lle siarad â nhw'n bersonol. Os ydych yn cwyno dros y ffôn neu'n bersonol, dylech ddilyn hyn gyda llythyr bob tro, hyd yn oed os nad yw eich trafodaethau wedi dwyn ffrwyth.
Anfonwch lythyr neu e-bost at y person a werthodd y nwyddau i chi a chadwch gopi. Os oes cyfeiriad prif swyddfa gan y masnachwr, anfonwch gopi o'ch llythyr yno. Os ydych wedi prynu'r nwyddau ar gredyd, anfonwch gopi o'ch llythyr at y cwmni credyd.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problem gyda nwyddau a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Dylai'ch llythyr neu e-bost gynnwys cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib, a chopïau o unrhyw waith papur perthnasol gan gynnwys prawf pwrcasu, os oes gennych brawf o'r fath. Dylai hefyd nodi beth yr ydych chi am i'r masnachwr ei wneud am y broblem.
Dylech roi dyddiad cadarn i'r masnachwr ar gyfer derbyn ymateb. Fel arfer, dylai'r dyddiad yr ydych yn ei roi fod yn saith i bedwar-diwrnod-ar-ddeg ar ôl i chi anfon y llythyr.
Os yw'r masnachwr yn gwrthod sortio'ch problem, ysgrifennwch atynt eto, gan ailddatgan eich cwyn a sôn am unrhyw gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd yn barod. Os ydych wedi prynu'r nwyddau ar gredyd, dylech anfon copi o'r llythyr hwn at y cwmni credyd. Dywedwch eich bod yn mynd i roi pedwar diwrnod ar ddeg iddynt i sortio'r broblem neu y byddwch yn ystyried cymryd camau cyfreithiol. Anfonwch eich llythyr gyda phost wedi'i gofnodi ac anfonwch gopi at y brif swyddfa. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw copi o unrhyw ohebiaeth.
Efallai na fydd y masnachwr yn sortio'ch problem yn y ffordd yr ydych wedi gofyn iddo, ond efallai y bydd yn cynnig ateb arall i chi yn lle. Fe allech hefyd geisio awgrymu opsiynau eraill eich hun. Dylech feddwl yn ofalus a oes yna ateb arall sy'n dderbyniol i'r ddau ohonoch. Byddwch yn realistig ynghylch yr hyn yr ydych yn fodlon ei dderbyn. Os nad oes dewis gennych ond mynd i'r llys yn y pendraw i geisio cael yr hyn yr ydych ei eisiau neu'r hyn y mae gennych hawl iddo, nid oes unrhyw warant y byddwch yn medru ennill eich achos, na chael gwell cynnig.
Efallai hefyd y byddwch yn medru gweld a yw'r masnachwr yn perthyn i gymdeithas fasnach. Os felly, efallai y bydd yn rhaid i'r masnachwr ddilyn cod ymarfer ar gyfer safon uwch o ofal cwsmer. Os nad yw'r masnachwr yn dilyn y cod ymarfer, efallai y bydd y gymdeithas yn medru rhoi pwysau arno i sortio'ch problem.
Hefyd, efallai y bydd y gymdeithas fasnach yn cynnig gwasanaeth cymodi neu gyflafareddiad ac efallai y bydd hyn yn eich helpu chi a'r masnachwr i ddod o hyd i ateb derbyniol. Fel arfer, mae cymodi yn rhad ac am ddim ac fel arfer, os nad ydych yn fodlon gyda'r canlyniad, ni fydd yn eich atal rhag cymryd camau cyfreithiol. Fel arfer, rhaid talu am gyflafareddiad ac mae'n rhwymo'n gyfreithiol ar y ddwy ochr. Dylech ofyn i'ch masnachwr os yw'n perthyn i gymdeithas ac, os ydyw, i roi'r manylion cyswllt i chi. Am fanylion rhai cymdeithasau masnach, gweler y pennawd Help pellach.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch defnyddio gwasanaeth cymodi neu gyflafareddiad i ddatrys eich problem, gweler Ffyrdd eraill o ddatrys dadleuon yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr. Yn yr Alban, gweler Ffyrdd eraill o ddatrys dadleuon yn y Ffaith-daflenni i ddefnyddwyr.
Os nad yw'r trafodaethau gyda'r masnachwr yn gweithio, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael i chi. Mae rhai o'r rhain wedi eu disgrifio isod.
Hawlio yn erbyn y cwmni credyd neu'r banc
Os ydych chi wedi talu am eich nwyddau ar gerdyn credyd, efallai y byddwch yn medru hawlio yn erbyn y cwmni cerdyn credyd, yn lle’r masnachwr. Rhaid bod y nwyddau wedi costio dros £100 a llai na £30,000. Fe all hyn fod yn ddefnyddiol ble mae’r masnachwr wedi mynd allan o fusnes neu nid oes arian ganddo i dalu iawndal i chi.
Hyd yn oed os ydych wedi defnyddio cerdyn debyd yn lle cerdyn credyd, neu os ydych wedi defnyddio cerdyn credyd ond mae'r nwyddau wedi costio llai na £100, efallai y byddwch yn medru defnyddio cynllun 'chargeback' eich banc. Efallai y byddwch am ofyn am 'chargeback' os ydych:
- wedi talu am nwyddau ac nid ydynt wedi cyrraedd neu maen nhw wedi cyrraedd ac maen nhw wedi'u difrodi
- nid yw'r nwyddau yr ydych yn eu derbyn yn cyfateb i'w disgrifiad
- nid ydych wedi awdurdodi'r gwerthiant.
Nid yw 'chargeback' yn hawl awtomatig a dylech gysylltu â'r sefydliad/cwmni sydd wedi rhoi'r cerdyn i chi i ddarganfod a ydych yn medru hawlio o dan gynllun 'chargeback'. Er enghraifft, os ydych wedi defnyddio cerdyn credyd (ar gyfer nwyddau sy'n costio llai na £100) neu gerdyn debyd a gyhoeddwyd gan Visa, rydych yn medru ceisio o dan gynllun 'chargeback' Visa. Rhaid hawlio o dan y cynllun hwn o fewn 120 diwrnod.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda nwyddau diffygiol a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Mynd â'r masnachwr i'r llys
Os ydych wedi rhoi tro ar bopeth arall ond heb wneud unrhyw gynnydd o hyd, yr unig opsiwn arall sydd gennych yw mynd i'r llys. Dylai mynd i'r llys fod yn opsiwn olaf. Os nad ydych chi wedi gwneud ymdrech go iawn i sortio'ch problem cyn dechrau camau yn y llys, hyd yn oed os ydych yn ennill eich achos, efallai y bydd y llys yn gostwng eich iawndal.
Cyn i chi fynd i'r llys, mae angen i chi feddwl a oes digon o dystiolaeth gennych. Fe fydd i fyny i chi i brofi eich achos. Mae angen i chi hefyd ddarganfod a oes gan y gwerthwr ddigon o arian i dalu am eich cais. Nid yw'n werth erlyn rhywun sydd â dim arian.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth am fynd i'r llys i ddatrys cwyn defnyddiwr, gweler Dechrau camau yn y llys yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr.
Nôl i’r Brig
Help pellach
Mudiadau cyffredinol
Cyswllt Defnyddwyr Cymru
Rhif Ffôn: 08454 04 05 05 Gwefan: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn wasanaeth cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein, a gefnogir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaeth Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar sail prisiau 0845. Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar gael yng Nghymru ac yn Lloegr a'r Alban (fel Consumer Direct).
Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn medru helpu sortio problem gyda masnachwr neu wneud cwyn. Mae hefyd yn medru esbonio eich hawliau defnyddwyr a'ch cyfeirio chi at gyrff eraill fel cymdeithasau masnach neu Safonau Masnach os fuasai'r rhain yn medru datrys eich problem defnyddiwr yn well.
Consumerline (Gogledd Iwerddon yn unig)
Ffôn: 0845 600 6262 Gwefan: www.consumerline.org
Mae Consumerline yn wasanaeth cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein a gefnogir gan yr Adran Menter, Masnach a Buddsoddiad.
Mae'r cyngor a'r gwybodaeth yn rhad ac am ddim ond codir tâl am alwadau ffôn i Consumerline ar sail prisiau 0845.
Office of Fair Trading (OFT)
Fleetbank House 2-6 Salisbury Square London EC4Y 8JX
Ffôn: 0845 722 4499 Ffacs: 020 7211 8877 E-bost: enquiries@oft.gsi.gov.uk Gwefan: www.oft.gov.uk
Mae'r OFT yn adran o'r llywodraeth sy'n goruchwylio arferion masnachu i sicrhau eu bod nhw'n deg a bod cwsmeriaid wedi eu diogelu. Mae'r OFT yn cyhoeddi trwyddedau i fasnachwyr sy'n rhoi credyd, ac yn cadw cofrestr o ddelwyr credyd trwyddedig.
Nid yw'r OFT yn medru helpu cwsmer unigol gyda phroblem defnyddiwr, ond mae'n cynhyrchu taflenni defnyddiol sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Which?
2 Marylebone Road London NW1 4DF
Ffôn: 020 7770 7000 Ymholiadau: 08453 074000 Ffacs: 020 7770 7600 E-bost: which@which.co.uk Gwefan: www.which.net
Mae Which? Yn fudiad annibynnol sy'n ymgyrchu tros hawliau defnyddwyr. Ni fydd Which? yn helpu cwsmer gyda phroblem, onid yw'r cwsmer yn aelod o'r mudiad.
Mae Which? yn cyhoeddi cylchgrawn misol diddordeb cyffredinol i ddefnyddwyr, sef Which?, a chylchgronau eraill ar destunau amrywiol, pob un ar gael ar danysgrifiad i'w aelodau. Mae Which? yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau, sydd hefyd ar gael i'r rheiny sydd ddim yn aelodau. Mae llawer o lyfrgelloedd cyhoeddus yn cadw'r cylchgronau a'r llyfrau.
Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd
Os ydych chi wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gan fasnachwr mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae gennych gwyn, fe fyddwch yn medru cael cyngor a chymorth o Ganolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Gyfunol. Efallai y bydd y Ganolfan Defnyddwyr Ewropeaidd hefyd yn medru cyfeirio eich cwyn at fudiad yng ngwlad y masnachwr a fydd yn medru eich helpu i drafod ateb. Gelwir y math hwn o fudiad yn gorff Datrys Dadleuon Amgen.
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig yn www.ukecc.net.
Advertising Standards Authority (ASA)
Mid City Place 71 High Holborn London WC1V 6QT Ffôn: 020 7492 2222 neu ffôn testun 020 7242 8159 Ffacs: 020 7242 3696 E-bost: enquiries@asa.org.uk Gwefan: www.asa.org.uk
Mae'r ASA yn goruchwylio Codau Prydeinig Hysbysebu, Hybu Gwerthiant a marchnata uniongyrchol ac mae'n delio gydag unrhyw achosion o dorri'r cod. Fe fydd yn dilyn cwynion yn ysgrifenedig ar gyfer pob math o hysbysebu.
Direct Selling Association
29 Floral Street London WC2E 9DP Ffôn: 020 7497 1234 Ffacs: 020 7497 3144 E-bost: info@dsa.org.uk Gwefan: www.dsa.org.uk
Mae'r DSA yn cynrychioli masnachwyr sy'n gwerthu o ddrws i ddrws a'r rheiny sy'n gwerthu mewn partïon yn nhy'r cwsmer. Mae gan y Gymdeithas God Ymarfer y mae'n rhaid i'w aelodau gydymffurfio ag ef. Mae gan y Gymdeithas weithdrefn gwyno fewnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn ei aelodau. Mae yna restr o aelodau ar gael trwy wefan y DSA.
Mailing Preference Service
DMA House 70 Margaret Street London W1W 8SS
Neu
Mailing Preference Service MPS Freepost LON20771 London W1E 0ZT
Ffôn: 020 7291 3310 Llinell gofrestru'r MPS: 0845 703 4599 Ffacs: 020 7323 4226 E-bost: mps@dma.org.uk Gwefan: www.mpsonline.org.uk
Dylech nodi y bydd defnyddio'r cyfeiriad rhadbost yn oedi'r ymateb sy'n cael ei anfon atoch.
Mae'r MPS yn delio gyda hysbysebu nad ydych wedi gofyn amdano, sydd wedi ei gyfeirio'n bersonol at ddefnyddwyr. Fe fyddan nhw'n tynnu enwau oddi ar restrau postio fel nad ydych chi'n cael unrhyw hysbysebion gan unrhyw gwmni.
Direct Marketing Association (DMA)
DMA House 70 Margaret Street London W1W 8SS Ffôn: 020 7291 3300 Ffacs: 020 7323 4165 E-bost: dma@dma.org.uk Gwefan: www.dma.org.uk
Mae'r DMA yn gymdeithas fasnach ar gyfer cwmnïau sy'n gwerthu trwy'r post neu'n marchnata'n uniongyrchol. Mae gan y DMA God Ymarfer, y mae'n rhaid i'w aelodau ei ddilyn. Mae gan y DMA gynllun cymodi mewnol a chynllun cyflafareddiad annibynnol i ddelio gyda chwynion yn erbyn ei aelodau.
Mail Order Trader's Association
PO Box 51909 London SW99 0WZ Ffôn: 020 8330 3333
Mae'r MOTA yn cynrychioli cwmnïau sy'n gwerthu trwy archebu trwy'r post. Mae'n rhaid i aelodau ddilyn Cod Ymarfer y MOTA. Mae gan y Gymdeithas gynllun cymodi mewnol a chynllun cyflafareddiad annibynnol, i ddelio gyda chwynion yn erbyn ei aelodau.
Cymdeithasau masnach a chyrff proffesiynol
Retail Motor Industry Federation
9 North Street Rugby CV21 2AB Ffôn: RMI Motorline 08457 585350 Ffôn (Cwynion am aelodau): 01788 538317 E-bost (Cwynion am aelodau): andrewhayes@rmif.co.uk Gwefan: www.rmif.co.uk
Mae'n rhaid i aelodau'r RMI ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Manwerthu Moduron. Mae'r RMI yn gweithredu gwasanaeth cymodi mewnol, a chynllun cyflafareddiad a weithredir yn annibynnol.
Scottish Motor Trade Association
Palmerston House 10 The Loan South Queensferry EH30 9NS Ffôn: 0131 331 5510 Ffacs: 0131 331 4296 E-bost: info@smta.co.uk Gwefan: www.smta.co.uk
Mae'n rhaid i aelodau'r SMTA ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Moduro. Mae'r SMTA n gweithredu gwasanaeth cymodi mewnol, a chynllun cyflafareddiad annibynnol.
Society of Motor Manufacturers and Traders
Am ymholiadau ynghylch ceir newydd:
New Car Code Conciliation Service PO Box 44755 London SW1X 7WU
Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr: 0870 7518270 Ffacs: 020 7235 7112 Gwefan: www.smmt.co.uk/consumeradvice
Mae’r SMMT yn gymdeithas fasnach ar gyfer gwneuthurwyr moduron sy’n medru tanysgrifio i God Ymarfer Ceir Newydd yr SMMT a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae’r SMMT yn gweithredu gwasanaeth cymodi a chyflafareddiad diduedd yr ydych yn medru eu defnyddio os oes problem gennych gyda char newydd sydd o dan warant y gwneuthurwr o hyd.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch waranti estynedig:
Mechanical Breakdown Insurance Schemes Code Conciliation Service PO Box 44755 London SW1X 7WU
Llinell Gyngor i Ddefnyddwyr: 0870 7518270 Ffacs: 020 7235 7112 Gwefan: www.smmt.co.uk/consumeradvice
Mae darparwyr warantïau estynedig yn medru tanysgrifio i God Ymarfer Cynlluniau Yswiriant ar gyfer Methiant Mecanyddol yr SMMT. Mae’r SMMT yn gweithredu gwasanaeth cymodi a chyflafareddiad diduedd yr ydych yn medru eu defnyddio os ydych yn cael trafferth gyda darparwr waranti estynedig sydd wedi tanysgrifio i’r cod.
Independent Footwear Retailers Association (IFRA)
3 Burystead Place Wellingborough Northamptonshire NN8 1AH Ffôn: 01933 272999 Ffacs: 01933 225009 E-bost: ifra@britfoot.com Gwefan: www.shoeshop.org.uk
Mae’r IFRA yn cynrychioli siopau esgidiau a chyfanwerthwyr esgidiau. Mae ganddi god ymarfer sy'n cynnwys cwynion. Os oes problem gennych gyda siop esgidiau sy'n aelod o IFRA, fe fydd y Gymdeithas yn ddolen gyswllt rhyngoch chi a'r siop esgidiau i geisio datrys y broblem.
Radio, Electrical and Television Retailers Association (RETRA)
RETRA House St John Terrace 1 Ampthill Street Bedford MK42 9EY Ffôn: 01234 269110 Ffacs: 01234 269609 E-bost: retra@retra.co.uk Gwefan: www.retra.co.uk
Mae RETRA'n cynrychioli siopau sy'n gwerthu cyfarpar trydanol domestig gan gynnwys setiau teledu, radio ac offer stereo. Mae'n rhaid i aelodau RETRA ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwerthu a Gwasanaethu Cyfarpar Trydanol ac Electronig. Mae gan RETRA weithdrefn gymodi ar gyfer dadleuon sy'n gysylltiedig â'i aelodau.
Nôl i’r Brig
|