Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Eich byd chi    Materion defnyddwyr    Banciau a chymdeithasau adeiladu  

Banciau a chymdeithasau adeiladu - Yng Nghymru


Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

Amodau a thelerau

Pan fyddwch chi’n agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu ac yn defnyddio’u gwasanaethau, rydych yn dod i gytundeb gyda nhw. Rydych yn medru gweld union amodau a thelerau eich cytundeb gyda’r banc neu gymdeithas adeiladu trwy edrych ar y gwaith papur y maen nhw’n ei anfon atoch pan fyddwch chi’n agor cyfrif. Fe fydd yr amodau a thelerau hefyd ar hysbysiadau sy’n cael eu harddangos yn y banc ac mewn taflenni a gynhyrchir gan y banc. Dylai unrhyw amodau a thelerau ysgrifenedig fod mewn iaith glir.

Fe fydd yr amodau a thelerau yn cynnwys pethau fel:

  • pa ffioedd banc sy’n rhaid i chi eu talu - gweler y pennawd Ffioedd banc
  • beth sy’n digwydd os ydych yn tynnu mwy o arian nag sydd ar gael
  • pa log mae’r banc yn ei dalu i chi ar eich cynilion
  • pa log sy’n rhaid i chi ei dalu o ydych yn cymryd credyd ganddyn nhw.

Mae’r amodau a thelerau yn newid o bryd i’w gilydd. Os yw newid i amodau a thelerau eich cyfrif yn golygu eich bod dan anfantais, dylai’r banc neu gymdeithas adeiladu ddweud wrthych yn bersonol am y newid, o leiaf 30 diwrnod cyn gwneud y newid.

Ar unrhyw adeg hyd nes 60 diwrnod o’r dyddiad y maen nhw’n dweud wrthych am y newid, rydych yn medru newid at gyfrif arall, neu gau eich cyfrif, heb rybudd a heb orfod talu unrhyw ffioedd ychwanegol.

Os nad ydych dan anfantais oherwydd y newid, nid oes rhaid iddynt ddweud wrthych amdano ymlaen llaw. Ond, rhaid iddynt ddweud wrthych o leiaf 30 diwrnod wedi gwneud y newid.

Os oes newid sylweddol neu lawer o newidiadau bach mewn unrhyw un flwyddyn, dylai’ch banc neu gymdeithas adeiladu roi copi o’r amodau a thelerau newydd i chi neu grynodeb o’r newidiadau.

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Yn ogystal ag amodau a thelerau eich cytundeb gyda banc neu gymdeithas adeiladu, mae yna rai pethau y mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu eu gwneud yn ôl y gyfraith. Rhaid i fanc neu gymdeithas adeiladu ddarparu ei wasanaethau:

  • gyda gofal a sgil rhesymol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod yn rhaid iddynt weithredu’n gyfrifol a chadw cofnodion cywir o’ch arian
  • pan mae’n dweud y bydd yn eu darparu. Os nad ydyw’n rhoi amser penodol i chi, rhaid iddo drosglwyddo’r gwasanaeth o fewn amser rhesymol. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar y gwasanaeth y mae’r banc yn ei gynnig. Er enghraifft, dylai rhoi penderfyniad ynghylch eich cais am fenthyciad o fewn ychydig ddiwrnodau
  • am y pris y cytunwyd arno. Os nad chytunwyd ar bris pendant, rhaid bod y pris yn un rhesymol.

Hefyd, mae yn erbyn y gyfraith i fanc neu gymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb. Os ydych yn dioddef gwahaniaethu am un o’r rhesymau hyn, efallai y byddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol – gweler y pennawd Beth os yw pethau’n mynd o le. Efallai y bydd hefyd yn bosib dwyn achos gerbron y llys.

Mae banc neu gymdeithas adeiladu yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill, er enghraifft, mae’n medru gwrthod gadael i chi agor rhai mathau o gyfrifon onid ydych mewn grŵp oedran penodol. Mae hyn yn wahaniaethu ar sail oed ond nid yw yn erbyn y gyfraith.

Y Cod Bancio

Efallai y bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio. Mae’r Cod hwn yn gosod safonau gwasanaeth lleiaf ar gyfer banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau cerdyn credyd sy’n cynnig gwasanaethau bancio personol i’w cwsmeriaid. Nid oes rhaid i fanc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd gofrestru gyda’r Cod, ond os ydyw’n cofrestru, rhaid iddo ddilyn safonau gwasanaeth y Cod. Mae mwyafrif y banciau a chymdeithasau adeiladu mwy wedi cofrestru gyda’r Cod. Rydych yn medru cael rhestr o'r banciau a'r cymdeithasau adeiladu sydd wedi cofrestru gyda'r Cod Bancio, a chopi o'r Cod, oddi ar wefan Bwrdd Safonau'r Cod Bancio yn: (New window) www.bankingcode.org.uk.

Os ydyw wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio, mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu weithredu’n deg ac yn rhesymol yn ei holl drafodion gyda chi. Mae hyn yn wir os ydych yn mynd i drafferthion ariannol hefyd. Os nad ydynt yn cadw at y Cod, rydych yn medru cwyno gan ddefnyddio gweithdrefn gwynion y banc neu’r gymdeithas adeiladu ei hun ac, os nad ydych yn fodlon o hyd, fe fyddwch yn medru cwyno i Ombwdsman y Gwasanaethau Ariannol - gweler y pennawd Beth i’w wneud pan fydd pethau’n mynd o le.

Nôl i’r Brig



Mathau o gyfrif banc

Cyfrifon cyfredol

Rydych yn medru defnyddio cyfrif cyfredol i’ch helpu chi i reoli eich arian o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • talu eich biliau
  • derbyn arian – fel eich cyflog neu fudd-daliadau
  • cadw llygad i weld ble mae eich arian yn mynd.

Mae rhai cyfrifon cyfredol hefyd yn medru ennill llog i chi ar yr arian sydd gennych yn y cyfrif, er bod hyn yn debygol o fod yn llai na llawer o gyfrifon cynilo.

Gyda chyfrif cyfredol, fe fyddwch yn cael llyfr siec a cherdyn gwarantu y byddwch yn medru ei ddefnyddio i dynnu arian allan. Efallai y byddwch hefyd yn cael cerdyn debyd y byddwch yn medru ei ddefnyddio mewn siopau a pheiriannau arian parod. Efallai y bydd y banc yn gadael i chi gael gorddrafft a mynediad at fathau eraill o gredyd. Byddwch yn cael sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog.

Fe fydd rhai banciau yn gadael i chi newid siec personol cyfrif cyfredol neu ddefnyddio eich cerdyn yn y Swyddfa Bost, yn rhad ac am ddim. Holwch eich swyddfa bost os ydych yn medru gwneud hyn yn rhad ac am ddim o’ch cyfrif cyfredol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sieciau, gweler y pennawd Problemau gyda sieciau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch peiriannau arian parod, gweler y pennawd Problemau gyda pheiriannau arian parod.

Cyfrifon banc sylfaenol

Os oes gennych raddiad credyd gwael neu incwm isel, efallai y cewch drafferth yn agor cyfrif cynilo neu gyfrif cyfredol safonol. Efallai hefyd y cewch drafferth os oes gennych gyfrif cyfredol yn barod ac rydych wedi tynnu mwy o arian nag oedd ar gael. Os ydych yn y sefyllfa yma, efallai y byddwch yn medru agor cyfrif banc sylfaenol.

Rydych yn medru gofyn am gael agor cyfrif banc sylfaenol. Mae’n rhaid i fanciau sydd wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio gynnig cyfrif banc sylfaenol i chi os ydynt yn credu mai’r math hwn o gyfrif sydd orau ar gyfer eich anghenion.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cod Bancio, gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

Efallai y gwrthodir cyfrif banc sylfaenol i chi os yw gwiriad cyfeirio credyd yn dangos bod gennych ddrwgddyledion o fwy na £500 yn y gorffennol, neu ddyfarniad llys sirol sy’n aros yn eich erbyn.

Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifon banc sylfaenol y nodweddion canlynol:

  • nid oes rhaid i chi gael unrhyw arian i’w rhoi yn y cyfrif i’w agor
  • nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd
  • rydych yn medru talu eich cyflog, tâl, budd-daliadau a chredydau treth yn syth i mewn i’r cyfrif
  • rydych yn medru talu sieciau ac arian i mewn
  • rydych yn medru talu biliau trwy ddebyd uniongyrchol
  • rydych yn medru tynnu arian trwy beiriannau arian parod.

Mae yna rai anfanteision i gael cyfrif banc sylfaenol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ni fyddwch yn medru cael llyfr siec na thynnu mwy o arian nag sydd gennych
  • os ydych wedi sefydlu debyd uniongyrchol ac nid oes digon o arian i dalu amdano, efallai y codir tâl arnoch am hyn.

Nid ydych yn medru cael mynediad at bob cyfrif banc sylfaenol yn y Swyddfa Bost. Os ydych eisiau bod yn medru gwneud hyn, holwch y banc cyn i chi agor cyfrif banc sylfaenol.

Os oes gorddrafft gennych, neu ddyledion eraill, ar eich cyfrif cyfredol ac rydych yn agor cyfrif banc sylfaenol yn yr un banc, efallai y byddan nhw’n defnyddio’r arian yn eich cyfrif newydd i dalu’r dyledion yn eich hen gyfrif. Os ydych yn cael budd-daliadau, credyd treth neu bensiwn y wladwriaeth, efallai y byddwch chi am ystyried agor eich cyfrif banc sylfaenol mewn banc neu gymdeithas adeiladu gwahanol.

Mae mwy o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol, gan gynnwys tabl yn cymharu’r gwahanol fathau o gyfrif banc sylfaenol, ar wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn print bras neu Braille neu fel fersiwn sain, oddi wrth Linell Gymorth Defnyddwyr Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol ar: 0845 606 1234 (Mincom/Ffôn Testun 08457 300 104).

Cyfrifon cerdyn y Swyddfa Bost

Rydych yn medru defnyddio cyfrif cerdyn y Swyddfa Bost i gasglu budd-daliadau, credydau treth a phensiwn y wladwriaeth. Nid ydych yn medru talu unrhyw arian arall i mewn.

Rydych ond yn medru cael eich arian allan o gyfrif cerdyn y Swyddfa Bost gyda cherdyn plastig a rhif adnabod personol yn y Swyddfa Bost. Nid ydych yn medru gordynnu ar gyfrif cerdyn y Swyddfa Bost ac nid ydych yn medru defnyddio eich cerdyn mewn unrhyw beiriannau arian parod.

Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau adnabod personol, gweler y pennawd Rhifau ‘Chip and PIN’.

Cyfrifon cynilo

Rydych yn medru defnyddio cyfrifon cynilo i gadw arian yr ydych am ei gynilo ar gyfer y dyfodol, ar gyfer argyfwng neu i brynu rhywbeth drud fel car newydd neu wyliau.

Fe fydd cyfrif cynilo yn rhoi llog i chi ar eich arian.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifon cynilo, gan gynnwys tabl yn cymharu gwahanol fathau o gyfrifon cynilo, rhowch glic ar wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn: (New window) http://www.fsa.gov.uk/tables.

Nôl i’r Brig



Sut i agor cyfrif

Mae banc neu gymdeithas adeiladu yn medru gwrthod agor cyfrif i chi. Nid oes rhaid iddynt roi rheswm i chi, ac nid oes unrhyw beth fedrwch chi ei wneud am y peth.

Efallai y bydd yn arbennig o anodd i rai grwpiau o bobl, fel cyn-garcharorion, agor cyfrif.

Ond, nid yw banc neu gymdeithas adeiladu yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb. Os ydych yn dioddef gwahaniaethu am un o’r rhesymau hyn, efallai y byddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol - gweler y pennawd Beth os yw pethau’n mynd o le. Hefyd, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron y llys.

Mae banc neu gymdeithas adeiladu yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill, er enghraifft, maen nhw’n medru gwrthod gadael i chi agor rhai mathau o gyfrif os nad ydych mewn grŵp oedran penodol. Ni fyddai hyn yn erbyn y gyfraith.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu gan fanc neu gymdeithas adeiladu, dylech gael help gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cyn iddyn nhw adael i chi agor cyfrif, fe fydd y banc neu gymdeithas adeiladu eisiau prawf o bwy ydych chi gan gynnwys eich enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad. Fel arfer, mae’n rhaid i chi ddangos dwy ddogfen ar wahân i’r banc sy’n profi pwy ydych chi, er enghraifft, eich pasport, a dogfen sy’n profi ble rydych chi’n byw, er enghraifft, bil diweddar. Os nad oes gennych unrhyw rai o’r dogfennau sydd eu hangen ar y banc, dylent dderbyn llythyr gan berson cyfrifol sy’n eich adnabod chi, er enghraifft Meddyg Teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf.

Os ydych yn fethdalwr neu â hanes o dwyll, fel arfer ni fyddwch yn cael agor cyfrif banc. Hefyd, efallai na chewch ganiatâd i agor cyfrif cyfredol os oes gennych raddiad credyd gwael. Ond, os ydych yn fethdalwr neu â graddiad credyd gwael, efallai y byddwch yn medru agor cyfrif banc sylfaenol – gweler y pennawd Mathau o gyfrif banc.

Am fwy o wybodaeth ynghylch methdaliad, gweler Methdaliad yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn i fedru agor rhai cyfrifon.

Nôl i’r Brig



Ffioedd banc

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn codi ffioedd ar gyfer rhai gwasanaethau. Fe fyddwch yn cael manylion y ffioedd hyn wedi i chi ddod yn gwsmer i’r banc neu gymdeithas adeiladu, neu pan fyddwch yn gofyn amdanynt. Os yw’ch banc neu gymdeithas adeiladu wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio, rhaid i chi gael gwybod, yn bersonol, o leiaf 30 diwrnod ymlaen llaw os oes unrhyw ffioedd yn codi neu os cyflwynir ffi newydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cod Bancio, gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

O dan y Cod Bancio, rhaid i fanc neu gymdeithas adeiladu roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i chi ynghylch y swm sy’n cael ei dynnu o’ch cyfrif cynilo neu gyfredol ar gyfer ffioedd a llog.

Os nad ydych yn glir pam mae’r ffi wedi codi, dylech ofyn am esboniad a dadansoddiad o’r ffi. Os nad ydych yn fodlon o hyd ac rydych yn teimlo na ddylid fod wedi codi’r ffi, fe fyddwch yn medru cwyno - gweler y pennawd Beth os yw pethau’n mynd o le. Efallai y bydd uwch staff banc neu gymdeithas adeiladu yn medru cytuno i ildio rhan o’r ffi, neu’r cyfan ohono, felly efallai y byddai’n werth gofyn iddynt i wneud hyn.

Ffioedd gorddrafft annheg

Mae banciau’n codi ffi pan fyddwch chi’n tynnu mwy o arian nag sydd ar gael heb drefnu cyfleuster gorddrafft, pan fyddwch chi’n mynd dros y terfyn gorddrafft y cytunwyd arno neu pan na fydd digon o arian yn eich cyfrif i dalu swm a dynnwyd allan, fel siec. Gelwir hyn yn orddrafft anawdurdodedig. Yn aml, mae ffioedd ar gyfer gorddrafft anawdurdodedig yn uchel iawn. Mae sawl person wedi cwyno eu bod yn annheg ac wedi gofyn am ad-daliad.

Oherwydd y cafwyd cymaint o gwynion am ffioedd gorddrafft annheg, mae’r Swyddfa Masnachu Deg yn dwyn achos prawf gerbron yr Uchel Lys. Hyd nes ein bod yn gwybod beth yw canlyniad yr achos llys, cytunwyd y bydd unrhyw drafodaeth ynghylch cwynion am daliadau gorddrafft yn cael ei gohirio am y tro, er, dylai eich cwyn gael sylw o hyd os ydych mewn caledi ariannol gwirioneddol. I ddarganfod beth sy’n digwydd nawr os ydych am gwyno am ffioedd gorddrafft anawdurdodedig, neu os ydych yn berson sydd eisoes wedi cwyno, ewch at wefan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn: (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol yn yr Alban, ble mae rhai llysoedd siryf yn derbyn hawliadau ac yn caniatáu i’r achos gael gwrandawiad ffurfiol. Mae rhai o’r achosion hyn yn cael eu setlo tu allan i’r llys, heb angen cymryd unrhyw gamau cyfreithiol. Efallai y byddwch chi am gael cyngor arbenigol ynghylch hyn gan eich CAB lleol.

Mae yna lythyron enghreifftiol ar gyfer cwyno am ffioedd gorddrafft anawdurdodedig ar wefan Which? yn: (New window) www.which.co.uk.

Nôl i’r Brig



Problemau gyda sieciau

Mae siec yn gyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrthych chi, fel deiliad y cyfrif, i’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’n awdurdodi taliad o’ch cyfrif i bwy bynnag a enwir ar y siec (a elwir yn dalai). Rhaid llofnodi siec a’i llenwi’n iawn, neu efallai y bydd banc neu gymdeithas adeiladu yn ei dychwelyd heb ei thalu.

Os yw siec yn cael ei chroesi a’i marcio 'cyfrif talai' neu 'cyfrif talai yn unig', rhaid iddi gael ei thalu i mewn i gyfrif y person y mae’n daladwy iddo. Ond, mae rhai cwmnïau’n cynnig cyfleuster newid sieciau ac maen nhw’n fodlon newid siec wedi’i marcio gyda’r geiriau ‘cyfrif talai yn unig'. Maen nhw’n codi ffi am hyn. Os nad yw siec wedi ei chroesi, neu os yw’n ‘agored’, nid oes rhaid ei thalu i mewn i gyfrif. Yn yr achos hwn, mae’r person y mae’n daladwy iddo’n medru mynd â’r siec i’r banc a chael yr arian.

Mae yna reolau ynghylch pa mor hir y dylai gymryd i siec glirio. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i sieciau sy’n cael eu talu i mewn i gyfrifon cyfredol, sylfaenol a chynilo.

Mewn cyfrif cyfredol neu sylfaenol, dylai gymryd uchafswm o ddau ddiwrnod ar ôl talu’r siec i mewn, cyn y dylech ddechrau ennill llog ar yr arian a dalwyd i mewn. Dylech fod yn medru tynnu arian allan o fewn pedwar diwrnod (chwech o gyfrif cynilo) ac ar ôl chwe diwrnod, rydych yn medru bod yn siŵr na fydd y siec yn cael ei gwrthod. Y terfynau hyn yw’r uchafswm y medrwch ei ddisgwyl, ond efallai y byddwch yn medru gwneud y pethau hyn ynghynt.

Os yw banc neu gymdeithas adeiladu wedi dweud wrthych fod siec wedi clirio, ac nid yw hyn yn wir, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal gan y banc os ydych ar eich colled.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun clirio ar gyfer sieciau ar gael oddi ar wefan Cymdeithas Gwasanaethau Clirio Taliadau (APACS) yn: (New window) www.apacs.org.uk.

Canslo sieciau

Rydych yn medru gofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu stopio siec, hynny yw, gwrthod talu allan yn erbyn siec yr ydych wedi’i hysgrifennu.

Nid ydyw yn erbyn y gyfraith i stopio siec. Ond, mae’n drosedd talu siec gyda’r bwriad o’i stopio yn nes ymlaen, er ei bod yn medru bod yn anodd profi hyn. Os ydych yn talu siec gan wybod na fydd y banc neu gymdeithas adeiladu’n talu’r swm, hynny yw, y bydd y siec yn cael ei gwrthod, mae hyn hefyd yn drosedd.

Os ydych yn prynu rhywbeth gyda siec ac yna’n stopio’r siec, gellir cymryd camau yn eich erbyn yn y llys am yr arian sy’n ddyledus.

Efallai y byddwch chi am stopio sieciau rhag cael eu talu allan o’ch cyfrif os yw’ch llyfr siec wedi ei golli neu ei ddwyn.

Os ydych am stopio siec, dylech ffonio’r banc neu gymdeithas adeiladu ar unwaith, gan roi manylion y siec. Dylid cadarnhau’r alwad ffôn yn ysgrifenedig cyn gynted â phosib. Fel arfer, codir tâl arnoch am stopio siec. Fe fydd stopio siec yn canslo’r siec yn gyfan gwbl, oni chytunwyd ar gyfnod hirach, er enghraifft, os ydych am ohirio taliad hyd nes i chi gael digon o arian yn eich cyfrif.

Fel arfer, ni fyddwch yn medru stopio siec yr ydych wedi ei defnyddio gyda cherdyn gwarantu siec. Ond, darllenwch amodau a thelerau eich cyfrif oherwydd efallai y bydd yna amgylchiadau pan fyddwch chi’n medru stopio siec. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn.

Os yw banc neu gymdeithas adeiladu yn talu allan ar ôl stopio siec, rhaid iddynt ad-dalu deiliad y cyfrif. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn ceisio cael yr arian yn ôl gennych, ond fe fyddwch yn medru dadlau yn erbyn hyn. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Defnyddio cyfreithiwr ac, yn yr Alban, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Sieciau a wrthodir

Rhaid i fanc neu gymdeithas adeiladu dalu allan (anrhydeddu) unrhyw siec yr ydych yn ei hysgrifennu, tra bod digon o arian yn eich cyfrif neu tra bod y siec o fewn terfynau gorddrafft y cytunwyd arnynt. Yn aml, wrth sôn am siec na chafodd ei thalu allan, dywedir ei bod wedi ‘bownsio’.

Os nad yw’r banc neu gymdeithas adeiladu yn talu allan ar siec pan fydd credyd yn eich cyfrif neu pan fyddwch o fewn terfyn gorddrafft y cytunwyd arno, rydych yn medru cymryd camau yn erbyn y banc – gweler y pennawd Beth os yw pethau’n mynd o le.

Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif cyfredol i dalu am siec ond mae digon gennych mewn cyfrif arall, er enghraifft, cyfrif cadw, efallai y bydd eich banc yn defnyddio’r arian yma i dalu amdano. Ond, nid oes rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu wneud hyn os nad ydyw’n dewis gwneud hyn. Efallai y bydd banc neu gymdeithas adeiladu hefyd yn trin y siec fel cais am orddrafft, ac efallai y bydd yn cytuno iddo, gan ddibynnu at eich hanes credyd.

Dylech fod yn ofalus ynghylch derbyn siec gan rywun nad ydych yn ei adnabod neu ymddiried ynddo, am eitem ddrud, fel car. Os telir siec yn dwyllodrus neu os ydyw wedi cael ei dwyn, gellir tynnu’r arian yn ôl hyd yn oed os ydyw wedi pasio drwy’r system glirio. Os yw hyn yn digwydd, dylech gysylltu â banc deiliad y cyfrif ar unwaith. Nid yw banciau bob amser yn tynnu arian yn ôl a dylid penderfynu ar bob achos ar sail yr amgylchiadau unigol.

Os dychwelir siec eb ei thalu, fedrwch chi geisio adennill y swm gan ddeiliad y cyfrif. Os nad ydych yn gwybod cyfeiriad deiliad y cyfrif, mae’n bosib i chi:

  • ysgrifennu at y gangen ble tynnwyd y siec
  • dweud wrth yr heddlu os ydych yn amau twyll
  • os na thelir y siec o hyd, yna opsiwn arall fyddai mynd i’r llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch mynd i’r llys, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Ceisiadau bach neu, yn yr Alban, gweler Ceisiadau bach yn y Llys Siryf.

Sieciau neu lyfrau siec a gollwyd neu a gafodd eu dwyn

Os ydych wedi colli’ch llyfr siec neu gerdyn gwarantu siec neu os ydynt wedi cael eu dwyn, dylech ffonio eich banc ar unwaith. Yna, dylech gadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Fe fydd angen i’ch banc neu gymdeithas adeiladu wybod, os yn bosib, y rhifau ar unrhyw sieciau sydd wedi cael eu dwyn.

Efallai y cewch eich dal yn gyfrifol am siec sydd wedi cael ei cholli neu ei dwyn, gan ddibynnu a gafodd y siec ei cholli neu ei dwyn cyn neu ar ôl i chi ei hysgrifennu.

Os yw’ch banc yn eich dal yn gyfrifol am siec sydd wedi cael ei cholli neu ei dwyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn colli siec yn y post, dylech lenwi ffurflen hawlio’r Post Brenhinol, sydd ar gael o’r Swyddfa Bost, a stopio’r siec. Fe fydd y Post Brenhinol yn holi a gyrhaeddodd y llythyr, a dylai ad-dalu’r ffi am stopio’r siec. Os gyflwynwyd y siec i’w thalu yn barod, efallai y byddwch yn cael eich dal yn gyfrifol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno i’r Post Brenhinol, gweler Problemau gyda phost.

Nôl i’r Brig



Debyd Uniongyrchol

Mae Debyd Uniongyrchol yn gyfarwyddyd i'ch banc neu gymdeithas adeiladu, sy'n galluogi sefydliad i gasglu taliadau o'ch cyfrif.

Gwneir hyn trwy ddefnyddio cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol. Gellir ond gwneud taliadau i'r sefydliad sydd wedi'i enwi.

Os oes unrhyw newidiadau i'r swm sydd i'w gasglu neu i'r dyddiad y cesglir y swm, dylech roi o leiaf deng niwrnod o rybudd.

Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i dalu am daliad Debyd Uniongyrchol, efallai na fydd eich banc yn caniatáu'r taliad. Nid oes rhaid i'ch banc ddweud wrthych nad ydyw wedi caniatáu'r taliad. Os gwneir y taliad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd i'ch banc am unrhyw orddrafft anawdurdodedig – gweler y pennawd Ffioedd banc.

Os yw'r banc neu'r sefydliad sy'n casglu'r Debyd Uniongyrchol yn gwneud camgymeriad, er enghraifft, trwy gymryd y swm anghywir, mae gennych hawl i ad-daliad gan eich banc.

Rydych yn medru canslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg.

Os oes problem gennych gyda Debyd Uniongyrchol, dylech gysylltu â'ch banc.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ynghylch Debyd Uniongyrchol oddi ar wefan BACS, (New window) www.bacs.co.uk.

Nôl i’r Brig



Problemau gyda pheiriannau arian parod

Mae’r un alldyniad yn cael ei dynnu ddwywaith

Os yw’r un alldyniad yn cael ei dynnu o’ch cyfrif ddwywaith, dylech wneud yn siŵr yn gyntaf nad ydych wedi gwneud dau daliad ar wahân sydd wedi cael eu tynnu o’ch cyfrif ar yr un diwrnod bancio. Mae hyn yn debygol o ddigwydd dros benwythnos neu ŵyl y banc. Efallai y bydd hefyd yn digwydd os ydych wedi defnyddio peiriant arian parod banc neu gymdeithas adeiladu arall. Yn yr achos hwn, ni fydd y trafodiad yn dangos ar eich mantolen hyd nes ychydig ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y tynnwyd yr arian.

Os ydych yn gweld bod symiau anghywir wedi gadael eich cyfrif, dylech gysylltu â rheolwr eich cyfrif. Fe fydd o gymorth os oes tystiolaeth gennych i ddangos nad ydych wedi tynnu’r arian. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi bod ar eich gwyliau a heb fod yn agos at y peiriant arian parod ar y pryd, neu efallai nad ydyw’r swm a dynnwyd yn adlewyrchu eich patrymau gwario arferol.

Mae i fyny i’r banc neu gymdeithas adeiladu brofi na chymerwyd yr arian gennych, yn hytrach nag i chi brofi na chymerwyd yr arian.

Rydych yn cael llai o arian nag y gofynnoch amdano

Os ydych yn cael llai o arian o’r peiriant arian parod nag y gofynnwyd amdano, efallai bod y swm anghywir wedi gadael eich cyfrif.

Dylech gysylltu â’r rheolwr yn y gangen ble mae’r peiriant ar unwaith, neu, os nad yw hyn yn bosib, rheolwr eich cyfrif. Mae’r banc neu gymdeithas adeiladu yn medru cadarnhau p’un i y cawsoch y swm anghywir trwy wirio balans y peiriant arian parod yn erbyn ei gofnod o’r trafodion. Efallai y byddai o gymorth petai tyst gennych a oedd yn bresennol pan ddefnyddioch y peiriant. Fe fyddai hefyd o gymorth petai gennych ddyddiad ac amser y trafodiad. Os cawsoch dderbynneb, dylech ei chadw.

Mae i fyny i’r banc neu gymdeithas adeiladu brofi eich bod wedi cael y swm cywir o arian, ac nid i fyny i chi brofi na chawsoch y swm cywir.

Nôl i’r Brig



Mae arian yn cael ei dynnu heb yn wybod i chi

Taliadau anghywir

Os tynnir swm anghywir o’ch cyfrif mewn camgymeriad, rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ad-dalu’r taliad, ynghyd ag unrhyw daliadau y bu’n rhaid i chi eu talu o ganlyniad. Efallai y byddai’r trafodiad yn anghywir, er enghraifft, am fod y swm anghywir yn cael ei dynnu neu am fod debyd yn digwydd ar ddyddiad gwahanol i’r dyddiad y gofynnoch amdano.

Twyll

Os ydych wedi colli’ch cerdyn credyd neu ddebyd, neu mae wedi cael ei ddwyn, dylech ddweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu ar unwaith. Os yw rhywun arall yn defnyddio’r cerdyn cyn i chi ddweud wrth y banc neu gymdeithas adeiladu ei fod wedi cael ei golli neu ddwyn, y mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu yw £50, oni ellir dangos eich bod wedi twyllo neu ymddwyn heb ofal rhesymol, er enghraifft trwy gadw eich rhif adnabod personol gyda’ch cerdyn.

Os oes rhywun arall wedi defnyddio manylion eich cerdyn heb eich caniatâd, ac nid yw'ch cerdyn wedi cael ei golli neu ei ddwyn, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth.

O dan y Cod Bancio, mae i fyny i’ch banc neu gymdeithas adeiladu, ac nid chi, i brofi eich bod wedi ymddwyn heb ofal rhesymol. Ond, fe fydd disgwyl i chi gydweithredu gydag ymchwiliad y banc i’r hyn a ddigwyddodd. Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cod Bancio, gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

Mae’r rheolau hyn hefyd yn berthnasol os oes rhywun arall yn defnyddio eich cerdyn heb eich caniatâd pan na fydd wedi cael ei golli neu ddwyn. Gelwir y math hwn o dwyll yn ddwyn hunaniaeth. Mae’n digwydd pan fydd rhywun nad ydych yn ei adnabod yn cael gafael ar eich manylion personol neu rif adnabod ac yn eu defnyddio i gael mynediad i’ch cyfrif.

Os ydych yn amau eich bod wedi dioddef twyll hunaniaeth, dylech gymryd camau ar unwaith:

  • cysylltwch â’r banc ar unwaith. Cadwch gofnod o bob sgwrs a gawsoch gyda nhw a chopïau o unrhyw lythyr a anfonwyd neu a dderbyniwyd
  • dywedwch wrth yr heddlu, a gofynnwch am gyfeirnod trosedd
  • holwch yr asiantaethau cyfeirio credyd a gyflwynwyd unrhyw gais am gredyd yn eich enw chi. Os do, fe fyddwch yn medru gofyn am dynnu’r wybodaeth o’ch ffeil
  • os ydych yn amau bod rhywun wedi cael gafael ar eich manylion trwy ddwyn eich post, neu wedi ceisio’n dwyllodrus i gael post wedi’i ailgyfeirio oddi wrth eich cyfeiriad, dylech gysylltu â Rhif Ymholiadau Cwsmeriaid y Post Brenhinol ar: 08457 740740
  • cysylltwch â CIFAS, Gwasanaeth Atal Twyll y Deyrnas Unedig yn (New window) www.cifas.org.uk. Am ffi fach maen nhw’n medru sicrhau bod unrhyw un sy’n gofyn am gredyd yn eich enw yn cael eu gwirio’n ychwanegol.

Am fanylion asiantaethau cyfeirio credyd, gweler Gwrthod rhoi credyd i chi yn Credyd.

Nôl i’r Brig



Cardiau ‘chip and pin’

Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o gardiau talu fel cardiau credyd, cardiau debyd a chardiau gwarantu sieciau yn gardiau ‘chip and PIN’. Mae ganddynt ficrosglodyn at ddibenion diogelwch ac rydych yn rhoi’ch rhif adnabod personol (PIN) trwy bwyso botymau, yn lle llofnodi, wrth wneud taliad.

Ond, efallai y byddwch yn medru defnyddio cerdyn taliad gyda llofnod o hyd mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os cyhoeddwyd y cerdyn mewn gwlad arall neu os oes anabledd gennych sy’n golygu ei bod yn anodd i chi ddefnyddio rhif adnabod personol.

Os oes anabledd gennych ac rydych am ddefnyddio eich llofnod yn lle rhif adnabod personol, dylech ofyn i ddarparwr eich cerdyn am gerdyn sglodyn a llofnod (chip and signature). Pan fydd cynorthwyydd siop yn rhoi’r cardiau hyn i mewn i’r peiriant, fe fydd y peiriant yn nodi y dylid derbyn llofnod. Mae yna fwy o wybodaeth am gardiau ‘chip and PIN’ ar y wefan: (New window) www.chipandpin.co.uk.

Nôl i’r Brig



Cydgyfrifon

Pan fydd dau berson neu fwy yn penderfynu agor cyfrif ar y cyd, mae’n rhaid iddynt lofnodi ffurflen o’r enw mandad. Mae’n nodi pa rai o ddeiliaid y cyfrif sy’n cael llofnodi sieciau neu wneud trafodion ar y cyfrif. Os ydych am newid telerau’r cydgyfrif neu ei gau, fe fyddwch chi, neu berson arall sydd â’r cydgyfrif, yn medru ei ganslo ar unrhyw adeg heb ganiatâd y lleill. Ond, mae’n bosib llunio mandad sydd ond yn gadael i chi newid telerau’r cydgyfrif neu ei gau gyda chytundeb pob un o ddeiliaid y cyfrif.

Nid oes terfyn ar y nifer o ddeiliaid sy’n cael bod ar gydgyfrif.

Dylid anfon mantolenni at bob un o ddeiliaid y cydgyfrif yn unigol, onid yw holl ddeiliaid y cyfrif yn llofnodi cytundeb eu bod am dderbyn un fantolen yn unig.

Nid yw deiliaid yn cael eu hawdurdodi’n awtomatig i ddefnyddio credyd ei gilydd. Ni ddylid cysylltu credyd at gyfrif un o ddeiliaid y cyfrif heb gytundeb pob un arall o ddeiliaid y cyfrif. Y rheswm dros hyn yw y byddai holl ddeiliaid eraill y cyfrif yn gyfrifol am y ddyled. Os na threfnwyd gorddrafft, dylid dweud wrth holl ddeiliaid y cyfrif os oes gordynnu anawdurdodedig ar y cyfrif.

Os oes gennych eich cyfrif personol eich hun, mae’r banc yn medru trosglwyddo arian allan ohono i dalu dyled ar gyfrif arall sydd gennych ar y cyd gyda phobl eraill. Gellir gwneud hyn yn awtomatig er, yn aml, fe fydd banciau’n gofyn am eich caniatâd cyn trosglwyddo arian yn y ffordd yna.

Ond, nid yw’r banc yn medru trosglwyddo arian o’ch cydgyfrif i dalu dyled ar eich cyfrif personol, onid yw holl ddeiliaid y cydgyfrif wedi cytuno i hyn neu fod amodau a thelerau eich cydgyfrif yn dweud bod hyn yn medru digwydd. Os yw’r amodau a thelerau yn dweud bod hyn yn medru digwydd, rhaid bod eich banc wedi tynnu sylw deiliaid y cyfrif at hyn.

Os oes anghytundeb rhwng deiliaid y cydgyfrif, dylid canslo’r mandad ar unwaith. Os nad yw’r mandad yn cael ei ganslo ar unwaith, fe fydd unrhyw un o ddeiliaid y cyfrif yn dal i fedru cael mynediad i’r cyfrif ac ni fydd y banc yn medru gwrthod eu talu.

Os ydych yn canslo mandad ar gydgyfrif, fe fydd y cyfrif yn cael ei rhewi. Yna, fe fydd yn rhaid i holl ddeiliaid y cyfrif ddod i gytundeb ynghylch sut i rannu’r arian rhyngddynt. Os nad yw’n bosib cytuno, fe fydd yn rhaid i’r llysoedd benderfynu sut i rannu’r arian.

Os oes gorddrafft ar gydgyfrif, mae pob un o ddeiliaid y cydgyfrif yn gyfrifol am y swm cyfan sy’n ddyledus.

Yng Nghymru a Lloegr, os yw pob person yn talu arian i mewn i’r cydgyfrif, cymerir bod pob un ohonynt yn berchen ar y swm ar y cyd, waeth faint y mae pob person wedi’i dalu i mewn. Gyda gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil, cymerir bod yr arian yn y cyfrif yn eiddo i’r ddau, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy’n talu i mewn i’r cyfrif. Ond, ar gyfer deiliaid cydgyfrif sydd ddim yn briod nac yn bartneriaid sifil, os oes un ohonynt ddim yn talu i mewn, ni chymerir eu bod yn berchen ar yr arian. Mae’n medru bod yn anodd profi eich bod yn berchen ar yr arian mewn cydgyfrif os nad ydych yn talu i mewn iddo, onid ydych yn medru dangos ei fod yn fwriad clir i’r cydgyfrif gael cronfa gyffredin y byddai pob person yn medru ei defnyddio.

Yn yr Alban, cymerir bod yr arian mewn cydgyfrif yn eiddo i’r person a’i dalodd oni ellir dangos mai’r bwriad oedd ei rhannu. Mae’r rheol hon yn berthnasol waeth a yw deiliaid y cydgyfrif yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n cydfyw. Yn ymarferol, efallai y bydd holl ddeiliaid y cydgyfrif yn medru cael mynediad at yr holl arian, a byddai’n rhaid i unrhyw anghytundeb ynghylch pwy sydd biau’r arian gael ei setlo gan y llys.

Nôl i’r Brig



Tynnu mwy o arian nag sydd ar gael

Os tynnwyd mwy o arian o’ch cyfrif nag sydd ar gael, ac yna rydych yn cael eich talu, fe fydd y banc yn medru ceisio defnyddio’r arian hwn i dalu eich gorddrafft heb eich caniatâd. Ond, mae gennych yr hawl i ofyn iddynt beidio â gwneud hyn a thalu costau eraill yn gyntaf, fel eich rhent neu forgais. Gelwir hyn yn hawl neilltuo cyntaf neu, yn Saesneg, ‘first right of appropriation’. Mae’n rhaid i chi ofyn i’ch banc wneud hyn yn ysgrifenedig. Sicrhewch eich bod yn ysgrifennu’r geiriau 'first right of appropriation' yn eich llythyr.

Fe fydd angen i chi ysgrifennu at y banc gyda chyfarwyddiadau newydd bob tro y byddwch yn talu arian i mewn.

Nôl i’r Brig



Gordaliadau i’ch cyfrif

Os oes arian yn cael ei roi i mewn i’ch cyfrif mewn camgymeriad, fel arfer, mae hawl gan y banc neu gymdeithas adeiladu i adennill yr arian, tra’i fod yn gwneud hyn o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Efallai y bydd rhai amgylchiadau ble nad ydych yn cael cadw’r arian, er enghraifft, os nad oeddech yn sylweddoli bod y banc wedi gwneud camgymeriad ac rydych wedi gwario’r arian yn ddidwyll. Er mwyn i chi fedru cadw’r arian o dan yr amgylchiadau hyn, byddai’n rhaid eich bod wedi ei wario mewn ffordd a fyddai’n golygu ei bod yn annheg gofyn i chi ei ad-dalu.

Os ydych yn credu bod y banc neu gymdeithas adeiladu yn annheg wrth ofyn i chi ad-dalu’r arian, cewch gwyno i’r Ombwdsman Ariannol- gweler y pennawd Help pellach.

Os oes rhaid i chi ad-dalu’r arian, efallai y byddwch yn medru dod i drefniant gyda’r banc i ad-dalu’r arian mewn rhandaliadau heb gael unrhyw log pellach arno. Fel arfer, fe fydd banc neu gymdeithas adeiladu yn cytuno i hyn.

Os nad ydych yn ad-dalu arian sydd arnoch i’r banc, mae’n bosib, mewn rhai amgylchiadau, eich erlyn am ladrad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda phobl y mae arnoch arian iddynt, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled neu, yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Nôl i’r Brig



Mae’r banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal

Os yw banc neu gymdeithas adeiladu’n mynd i’r wal ac rydych yn colli arian o ganlyniad, ni fyddwch yn cael blaenoriaeth i gael eich arian yn ôl. Fe fyddwch ond yn cael arian yn ôl os oes asedion gan y banc ar ôl talu’r credydwyr sy’n flaenoriaeth, a hyd yn oed bryd hynny, efallai na chewch bob ceiniog sy’n ddyledus yn ôl.

Os nad oes gan eich banc neu gymdeithas adeiladu unrhyw arian ar ôl i’ch talu, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (yr FSCS). Cyn i chi fedru hawlio iawndal gan yr FSCS, rhaid bod eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi cael ei awdurdodi gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA).

O dan yr FSCS, rydych yn medru hawlio hyd at £50,000 ar gyfer cyfanswm yr arian sydd gennych mewn un banc neu gymdeithas adeiladu. Nid oes gwahaniaeth sawl cyfrif gwahanol sydd gennych. Er enghraifft, os oes dau gyfrif gennych gyda HSBC a £50,000 ym mhob un, byddwch yn medru hawlio cyfanswm o £50,000.

Mae pobl sydd â chyfrif ar y cyd yn medru hawlio hyd at £50,000 yr un ar y cyfrifon sydd ganddynt gydag un banc neu gymdeithas adeiladu.

Os oes arian gennych mewn banciau neu gymdeithasau adeiladu gwahanol, byddwch yn medru hawlio hyd at £50,000 am bob banc neu gymdeithas adeiladu, tra bod ganddynt drwyddedau bancio ar wahân. Er enghraifft, os oes £50,000 gennych yn Barclays a £50,000 yn HSBC, yna byddwch yn medru hawlio £100,000 yn ôl.

Ble nad yw’r banciau neu’r cymdeithasau adeiladu â thrwyddedau bancio ar wahân, byddwch ond yn medru hawlio hyd at £50,000, waeth sawl cyfrif sydd gennych. Er enghraifft, os oes £50,000 gennych yn yr Halifax a £50,000 yn Bank of Scotland, byddwch ond yn medru hawlio hyd at £50,000 oherwydd mae Halifax a Bank of Scotland wedi eu hawdurdodi o dan yr un drwydded fancio.

Os oes unrhyw ddyledion gennych yn weddill gyda’r banc neu’r gymdeithas adeiladu, fe fydd y rhain yn cael eu tynnu o’r swm o iawndal sydd ar gael i chi. Er enghraifft, os oes £50,000 gennych yn y banc a benthyciad o £20,000, yna byddwch ond yn cael iawndal am golli £30,000.

Fe fyddwch yn medru edrych i weld os yw banc neu gymdeithas adeiladu wedi’i awdurdodi gan yr FSA ar Gofrestr yr FSA yn: www.moneymadeclear.fsa.gov.uk[http://www.moneymadeclear.fsa.gov.uk/tools/check_our_register.html], neu trwy gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr yr FSA ar: 0845 6061234. I holi a oes gan y banc neu gymdeithas adeiladu drwydded fancio ar wahân, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr yr FSA.

Am wybodaeth ynghylch yr FSCS, gweler taflen yr FSCS How we can help, yn: (New window) www.fscs.org.uk.

Os oes cyfrif gennych gyda banc neu gymdeithas adeiladu sydd wedi’i awdurdodi ac sydd wedi mynd i’r wal, dylai’r FSCS gysylltu â chi. Os ydych yn credu bod hawl gennych i hawlio ond nid yw’r FSCS wedi cysylltu â chi, dylech gysylltu â nhw. Gweler taflen yr FSCS am fanylion cyswllt.

Os yw cyfanswm yr arian sydd gennych yn dod i fwy na therfyn yr iawndal, ar y cyfan, fe fyddwch yn cael iawndal o hyd at £50,000 o dan yr FSCS. Ond, efallai y byddwch hefyd yn medru cael mwy o’ch arian yn ôl yn ogystal â’r iawndal yma. Efallai y byddwch yn medru cael cyfran o’ch arian yn ôl wedi dosbarthu’r asedau fel rhan o broses fethdaliad y banc neu gymdeithas adeiladu sydd wedi mynd i’r wal. Fe fydd yn rhaid i chi aros hyd nes bod y broses fethdaliad wedi dod i ben i weld a ydych yn medru cael mwy o arian yn ôl.

Os oes cyfrif gennych gyda banc neu gymdeithas adeiladu tramor sydd heb ei awdurdodi i weithredu yn y Deyrnas Unedig, ni fyddwch yn medru hawlio unrhyw iawndal gan yr FSCS. Ond, efallai y byddwch yn medru hawlio yng ngwlad cartref y banc neu gymdeithas adeiladu os ydyw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

I ddarganfod pa wledydd sydd yn yr AEE, gweler Timeshare a chlybiau gwyliau.

Nôl i’r Brig



Newid eich banc neu gymdeithas adeiladu

Os ydych yn penderfynu newid eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, dylech ystyried:

  • pa ffioedd fydd yna, er enghraifft, am gau eich cyfrif neu ganslo archebion sefydlog
  • a yw’r gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y banc neu gymdeithas adeiladu newydd yn well na’r rheiny yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd
  • y ffaith efallai y bydd oedi yn nhaliad archebion sefydlog neu ddebydau uniongyrchol. Dylech ystyried hyn wrth benderfynu ar y dyddiad y byddwch am gau eich cyfrif
  • pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros cyn y byddwch yn medru defnyddio holl wasanaethau’r banc neu gymdeithas adeiladu newydd. Er enghraifft, efallai y bydd oedi cyn i chi dderbyn cerdyn gwarantu siec.

Dylech agor cyfrif newydd cyn cau eich hen gyfrif a sicrhau eich bod yn canslo unrhyw archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol. Cofiwch eich bod yn dychwelyd unrhyw sieciau sydd heb eu defnyddio neu gardiau plastig (wedi eu torri’n ddarnau) at eich hen fanc neu gymdeithas adeiladu.

Os ydych yn trosglwyddo balans at eich cyfrif newydd, gwnewch yn siŵr fod digon o arian ar ôl gennych yn yr hen gyfrif i dalu unrhyw sieciau sydd heb glirio.

Mae’n rhaid i fanciau a chymdeithasau adeiladu sydd wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio gydweithredu gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu newydd i helpu sicrhau bod trosglwyddiad eich cyfrif mor llyfn â phosib. Rhaid i’ch hen fanc neu gymdeithas adeiladu roi gwybodaeth am daliadau rheolaidd o’ch cyfrif o fewn tri diwrnod gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cod Bancio, gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

Os oes camgymeriad neu oedi yn y broses drosglwyddo sy’n arwain at ffioedd banc, ni ddylai fod yn rhaid i chi eu talu.

Nôl i’r Brig



Beth os yw pethau’n mynd o le

Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gynigir gan eich banc neu gymdeithas adeiladu, mae’n bosib i chi:

Cwynion am fanciau a chymdeithasau adeiladu

Cyn i chi gwyno, sicrhewch mai’r banc neu gymdeithas adeiladu sydd wedi achosi’r broblem mewn gwirionedd. Er enghraifft, nid yw’r banc neu gymdeithas adeiladu yn gyfrifol os ydych yn rhoi eich cerdyn banc a’ch rhif adnabod personol i berson arall ac maen nhw’n eu defnyddio i dynnu arian heb eich caniatâd – gweler y pennawd Mae arian yn cael ei dynnu heb yn wybod i chi.

Os oes cwyn gwirioneddol gennych, dylech gysylltu â’r banc neu gymdeithas adeiladu mor fuan â phosib. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad yr ydych yn gwneud hyn oherwydd efallai y bydd yn bwysig os ydych am fynd â’r gwyn ymhellach.

Casglwch eich holl ddogfennau at ei gilydd, gan gynnwys manylion amodau a thelerau eich cyfrif, mantolenni banc, bonion sieciau ac unrhyw ohebiaeth arall gyda’r banc. Os ydych yn cwyno’n bersonol yn y banc, ewch â chopi o’ch holl ddogfennau a gofynnwch am gael siarad â’r person sy’n gyfrifol am ddelio gyda’ch cyfrif neu reolwr y gangen. Neu, ysgrifennwch at reolwr y gangen, gan anfon copïau o’ch dogfennau, a chadwch gopi o’ch llythyr. Esboniwch eich problem yn bwyllog ond yn bendant gan ddweud sut hoffech iddynt ddatrys y broblem, gan gynnwys unrhyw iawndal yr hoffech ei gael. Efallai y byddwch am hawlio iawndal os ydych wedi colli arian oherwydd rhywbeth y mae’r banc wedi ei wneud o le, er enghraifft, os nad ydyw wedi talu debyd uniongyrchol pan yr oedd digon o arian yn eich cyfrif i’w dalu.

Os nad ydych yn fodlon gydag ymateb rheolwr y gangen, dylech ofyn am fanylion gweithdrefn gwyno’r banc neu gymdeithas adeiladu. Ar ôl pob cam yn y weithdrefn gwyno ysgrifennwch at y person sy’n gyfrifol gyda manylion llawn eich achos. Os yw’ch banc neu gymdeithas adeiladu wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio ac nid ydyw wedi dilyn safonau gwasanaeth y Cod, sicrhewch eich bod yn crybwyll hyn. Dywedwch beth hoffwch i’r banc neu gymdeithas adeiladu ei wneud i unioni’r broblem, gan gynnwys unrhyw iawndal yr hoffech ei gael ganddynt.

Ni ddylai banciau sydd wedi cofrestru gyda'r Cod Bancio gau eich cyfrif, na bygwth cau eich cyfrif, am eich bod wedi cwyno amdanynt.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cod Bancio, gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth fedrwch chi ei ddisgwyl gan eich banc?

Os ydych wedi bod trwy’r weithdrefn gwyno gyfan ac ni ddatryswyd unrhyw beth yn y modd yr hoffech iddo fod wedi ei ddatrys, o fewn wyth wythnos, rydych yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol - gweler y pennawd Help pellach. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn ynghynt os yw’r banc yn anfon llythyr llwyrglo (‘letter of deadlock’) atoch cyn diwedd yr wyth wythnos. Llythyr yw hwn sy’n dweud nad oes unrhyw beth arall y mae’r banc neu gymdeithas adeiladu yn medru ei wneud i ddatrys eich cwyn.

Rhaid i chi gwyno i’r Ombwdsman o fewn chwe mis i’r dyddiad y derbyniwyd y llythyr llwyrglo, neu o fewn chwe mis i ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos os nad ydych yn cael llythyr llwyrglo.

Os nad yw’r Ombwdsman yn medru sortio eich cwyn, eich unig opsiwn arall yw ystyried mynd i’r llys. Ond, dylech edrych ar hyn fel y cam olaf i’w gymryd. Cyn i chi fynd i’r llys, mae angen i chi feddwl os oes gennych ddigon o dystiolaeth. Fe fydd angen i chi ddarganfod a oes gan eich banc neu gymdeithas adeiladu unrhyw arian hefyd. Nid yw’n werth mynd â chwmni i’r llys os nad oes unrhyw arian ganddo. Mae’n hynod o brin i unrhyw un fynd â banc neu gymdeithas adeiladu i’r llys. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Os ydych yn penderfynu mynd â’r mater i’r llys cyn cwyno i’r Ombwdsman, ni fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsman yn nes ymlaen.

Am fwy o wybodaeth ynghylch mynd i’r llys, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Ceisiadau bach neu, yn yr Alban, gweler, Ceisiadau bach yn y Llys Siryf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gweler Defnyddio cyfreithiwr neu, yn yr Alban, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Nôl i’r Brig



Help pellach

Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol

Os ydych wedi dilyn gweithdrefn gwyno’ch banc neu gymdeithas adeiladu ac nid ydych oeddent yn medru eich helpu, rydych yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol.

Rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ddatrys y broblem, onid ydynt yn anfon llythyr llwyrglo atoch cyn diwedd yr wyth wythnos. Llythyr yw hwn sy’n dweud wrthych nad oes unrhyw beth arall y maen nhw’n medru ei wneud i’ch helpu.

Rhaid i chi gwyno i’r Ombwdsman o fewn chwe mis i’r dyddiad y cawsoch y llythyr llwyrglo, neu o ddiwedd y cyfnod o wyth mis os nad ydych yn cael llythyr llwyrglo. Sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad yr oeddech wedi cwyno i’r banc.

I gysylltu â’r Ombwdsman Ariannol ffoniwch 0845 080 1800, neu rhowch glic ar y wefan: (New window) www.financial-ombudsman.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr, Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru, Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn yr Alban, neu Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Cymdeithas Bancwyr Prydain

Cymdeithas Bancwyr Prydain yw’r brif gymdeithas fasnach ar gyfer banciau sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Mae’n un o’r mudiadau sy’n cynhyrchu’r Cod Bancio - gweler y pennawd Pa fath o wasanaeth ddylech chi ei gael gan eich banc?

Nid yw Cymdeithas Bancwyr Prydain yn medru delio gyda chwynion unigol, ond maen nhw’n cynhyrchu cyfres o daflenni ffeithiau rhad ac am ddim sy’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch bancio. Mae’r rhain yn cynnwys deall sieciau a deall cardiau plastig.

I ddarllen y taflenni ffeithiau ewch at wefan Cymdeithas Bancwyr Prydain yn (New window) www.bba.org.uk. Rydych hefyd yn medru ffonio’r llinell archebu ar 020 7216 8801 a gadael eich enw, cyfeiriad a theitl neu destun y daflen ffeithiau sydd ei hangen arnoch.

Bwrdd Safonau’r Cod Bancio

Efallai y bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi cofrestru gyda’r Cod Bancio. Os ydyw wedi, mae’n rhaid iddo ddilyn safonau gwasanaeth lleiaf y Cod. Os yw eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi methu â dilyn y safonau gwasanaeth lleiaf mewn unrhyw ffordd, rydych yn medru dweud wrth Fwrdd Safonau’r Cod Bancio.

Ni fydd Bwrdd Safonau’r Cod Bancio yn medru bod yn rhan o’ch achos unigol chi na rhoi iawndal i chi. Ond, efallai y bydd yn medru dechrau ymchwiliad ffurfiol i mewn i fanc os, er enghraifft, mae nifer fawr o gwsmeriaid eraill hefyd wedi dioddef yr un broblem neu os ydynt yn credu bod y banc wedi penderfynu peidio â dilyn y Cod yn fwriadol.

Mae’r ymchwiliad yn medru arwain at gamau disgyblu yn erbyn y banc neu gymdeithas adeiladu.

Ble mae banc, cymdeithas adeiladu neu gyhoeddwr cerdyn wedi gwneud camgymeriad llai difrifol, mae Bwrdd Safonau’r Cod Bancio yn medru gofyn iddynt unioni’r cam cyn gynted â phosib

Mae Bwrdd Safonau’r Cod Bancio hefyd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch datrys eich problem, neu sut i hawlio iawndal ariannol.

Rhif ffôn Bwrdd Safonau’r Cod Bancio yw 0845 080 1800. Neu rhowch glic ar eu gwefan: (New window) www.bankingcode.org.uk.

Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol

Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yw’r gwylgi ar gyfer diwydiant gwasanaethau ariannol y Deyrnas Unedig.

Nid ydynt yn medru bod yn rhan o gwyn unigol, argymell cwmnïau na rhoi cyngor cyfreithiol neu ariannol. Ond, maen nhw’n cynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol am gynnyrch ariannol fel cyfrifon banc, gan gynnwys tablau cymharu ar gyfer gwahanol gyfrifon cynilo. Mae eu Canolfan Gyswllt i Ddefnyddwyr yn medru ateb ymholiadau cyffredinol ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol. Rhif ffôn eu Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr yw 0845 606 1234 (Minicom/ffôn testun - 0845 730 0104). Cyfeiriad eu gwefan yw (New window) www.moneymadeclear.fsa.gov.uk.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Efallai y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru helpu os yw banc neu gymdeithas adeiladu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft oherwydd eich rhyw, hil, anabledd, rhywioldeb neu grefydd. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan, sef: (New window) www.equalityhumanrights.com. Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna wybodaeth yn: (New window) www.equalityni.org.

Nôl i’r Brig



 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ