Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

All pobl hŷn gael help gyda chostau teledu a ffôn?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Nid oes rhaid i’ch mam dalu am ei thrwydded i gyd ar un waith. Mae yna ffyrdd o ymestyn y gost dros gyfnod - er enghraifft, talu unwaith y mis neu’n chwarterol. Os ydyw’ch mam yn derbyn budd-daliadau, ar incwm isel neu heb gyfrif banc, fe all wneud cais i dalu’n wythnosol neu bob pythefnos o dan Gynllun Talu Arian Parod.

Os ydyw’ch mam yn 75 oed neu drosodd, fe all gael trwydded deledu am ddim. Am wybodaeth bellach, ffôniwch Drwyddedu Teledu ar: 0300 790 6071.

Gall rhai darparwyr ffôn gynnig cyfraddau rhatach. Er enghraifft, mae gan BT gynllun a elwir yn BT Sylfaenol sy’n cynnig llinell rhent am bris gostyngol a lwfans o alwadau ffôn am ddim i bobol sy’n derbyn y rhan credyd gwarant o Gredyd Pensiwn.

Os ydyw’ch mam yn anabl, efallai y gall gael help gyda’i bil ffôn, Efallai y gall ei hawdurdod lleol neu wasanaethau cymdeithasol helpu gyda chostau gosod llinell ffôn, rhentu’r llinell ffôn neu filiau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau teledu, gweler Trwyddedau Teledu.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau ffôn, gweler Gwasanaethau ffôn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau i bobol dros 60, gweler Budd-daliadau i bobol dros chwe deg.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau sydd ar gael i bobol anabl, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n sal neu’n anabl.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyfathrebu:

Mynegai A i Y