The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Rydw i’n mynd i’r brifysgol yn fuan ac rydw i am fynd â fy nheledu gyda fi. Oes angen trwydded ar wahân arna i?
Bydd angen trwydded deledu ar y rhan fwyaf o fyfyrwyr. Mae yna rai eithriadau, er enghraifft, os na all y set deledu dderbyn rhaglenni teledu a chwithau’n ei defnyddio fel monitor cyfrifiadur yn unig. Sut bynnag, bydd myfyrwyr sy’n byw mewn neuaddau preswyl angen trwydded deledu eu hunain bron bob amser.
Os ydych chi’n byw mewn tŷ gyda phobol eraill dim ond un drwydded fydd ei hangen arnoch os ydych chi i gyd yn byw fel un cartref h.y. rhannu y biliau a’r gegin a chyfleusterau eraill.
Os ydyw’ch tŷ wedi’i rannu yn fflatiau un ystafell neu fflatiau mwy gyda’u cyfleusterau eu hunain yna bydd angen trwydded deledu ar bob uned ar wahan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau teledu gweler Trwyddedau teledu.