The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydyw’ch ffôn symudol wedi’i ddwyn, hysbyswch yr heddlu ar unwaith ynghyd â’r cwmni ffôn symudol. Fel arfer bydd y cwmni ffôn symudol yn datgysylltu’r gwasanaeth fel na fydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw alwadau ffôn heb awdurdod. Efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i dalu am y llinell rhent am y cyfnod hwn, ond gwiriwch delerau’ch cytundeb. Os ydyw’ch ffôn symudol wedi’i ddwyn, efallai ei fod wedi’i warchod gan eich yswiriant cartref; gwiriwch os gellir gwneud hawliad.
Efallai y byddwch am gofrestru’ch ffôn, am ddim, ar gronfa ddata genedlaethol yn www.immobilise.com. Fe allwch chi ddefnyddio’r wefan i gofnodi os ydyw’ch ffôn ar goll neu wedi’i ddwyn. Gall yr heddlu hefyd ddefnyddio’r gronfa ddata i ddychwelyd y ffôn i chi os deuir o hyd iddo yn ddiweddarach.