Skip navigation | Skip to footer
Why is this important?

The information we provide differs between countries. To get information for your country, please select from the dropdown.

Sut fedra i gael gwybod am y newid at deledu digidol?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Bydd pob gwasanaeth teledu yn y DU yn mynd yn gyfan gwbl ddigidol erbyn 2012. Os nad oes teledu digidol gennych eisoes, bydd yn rhaid i chi drosi eich offer teledu i ddigidol. Os ydych chi’n gallu cael mwy na phum sianel, y mae gennych deledu digidol eisoes.

Bydd y trawsnewid i ddigidol yn digwydd fesul rhanbarth teledu. Whitehaven yn Cumbria oedd y dre gyntaf i drawsnewid ar 17 Hydref 2007. Bydd rhanbarthau eraill yn dechrau trawsnewid o 2008 ymlaen, gan ddechrau gyda rhanbarth Border.

Er mwyn darganfod pryd mae eich ardal chi i fod i drawsnewid, ewch i wefan DigitalUK yn www.digitaluk.co.uk. Fe gewch ddigon o rybudd cyn yr effeithir ar wasanaethau yn eich ardal, a digon o gyngor ynglŷn â beth i’w wneud. Penderfynir ar eich rhanbarth Teledu gan ba wasanaeth ITV1/newyddion rhanbarthol ITV yr ydych yn eu derbyn ar hyn o bryd.

Mae yna bedwar opsiwn i dderbyn teledu digidol. Fe allwch chi:

  • gael blwch digidol a’i blygio i mewn i’ch teledu presennol
  • tanysgrifio i gebl digidol
  • tanysgrifio i loeren ddigidol
  • tanysgrifio i wasanaeth sy’n cyflwyno teledu digidol trwy linell ffôn.

Mae argaeledd y gwahanol fathau o deledu digidol yn amrywio yn dibynnu ble yr ydych yn byw. Er mwyn darganfod mwy am y trawsnewid digidol a pha opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i wefan DigitalUK. Mae hefyd ganolfan alw y gallwch ei ffonio ar 0845 6 50 50 50.

Bydd cynllun a elwir yn Gynllun Cymorth Digidol yn cynnig help ymarferol gyda’r trawsnewid i rai pobol, yn cynnwys help gydag offer a gosod. Fe fyddwch yn gymwys i gael help os:

  • ydych chi (neu eich partner) yn 75 oed neu drosodd
  • ydych chi (neu eich partner) wedi’ch cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall
  • ydych chi (neu eich partner) yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl, Lwfans Gweini neu fudd-daliadau anabledd penodol eraill
  • ydych chi wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis o leiaf.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu £40 tuag at y cymorth gewch chi o dan y cynllun hwn. Sut bynnag, os ydych chi’n derbyn Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, mae’r cymorth am ddim.

Mae yna fwy o wybodaeth ynghylch y Cynllun Cymorth Digidol yn www.helpscheme.co.uk.

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyfathrebu:

Mynegai A i Y