Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

Y system gyfreithiol - Yng Nghymru

Pobl ifanc a'r gyfraith

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Ynglyn â'r wybodaeth yma

Yn y wybodaeth yma, mae plentyn yn golygu rhywun sy'n iau na 14 mlwydd oed a bydd person ifanc yn cyfeirio at berson sy'n 14 a throsodd, ond sydd yn iau na 18 mlwydd oed. Bydd rhiant yn cyfeirio at unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Nôl i’r brig



Yr Heddlu

Os ydych yn hyn na deng mlwydd oed, gellir cymryd sampl o'ch holion bysedd, cymryd ffotograff ohonoch a’ch harchwilio tra eich bod yng ngofal yr heddlu. Os ydych yn 16 neu'n hyn ac wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw ymddygiad gwerthgymdeithasol, gellir rhoi nodyn cosb i chi sy'n golygu dirwy yn y fan a'r lle. Mae swyddogion cymorth cymunedol hefyd yn medru cymryd camau yn erbyn pobl ifanc os ydynt yn ymddwyn mewn ffordd gwrthgymdeithasol. Am fwy o wybodaeth ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweler y pennawd Ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r weithdrefn sy'n rheoli'r modd y mae'r heddlu yn trafod plant a phobl ifanc yn cael ei gosod allan yn y codau ymarfer a luniwyd yn ganlyniad i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (côdau PACE). Os na ddilynir y gweithdrefnau yma, mae'n bosib y gwrthodir yr achos. Gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn swyddogion yr heddlu a fydd yn torri'r côdau ymarfer hyn.

Yn yr amgylchiadau hyn, dylech gael cyngor gan ganolfan gyfreithiol leol – gweler y pennawd Help pellach.

Nôl i’r brig



Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymddygiad sy'n debygol o ddychryn, creu pryder neu aflonyddu. Mae enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys fandaliaeth, graffiti, taflu tân gwyllt yn y stryd, taflu cerrig at drenau ac achosi niwsans i eraill.

Mae yna nifer o fesurau y gellir eu cymryd i roi sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol gan blant a phobl ifainc:

  • gellir gofyn i rieni arwyddo cytundeb rhiant i helpu gwella ymddygiad eu plentyn. Gallai cytundeb rhiant olygu bod y rhiant yn mynychu sesiynau cwnsela neu sesiynau i dderbyn arweiniad
  • mae swyddogion cynnal y gymuned a'r heddlu yn medru cymryd camau. Er enghraifft, fel all swyddog orchymyn nad yw person yn mynd ar gefn beic ar y palmant a gwasgaru grwpiau o bobl ifainc
  • fe all yr heddlu a swyddogion cynnal cymunedol roi dirwy (nodyn cosb) yn y fan a'r lle i unrhyw un sy'n 16 neu'n hyn
  • fe all cyrff fel yr awdurdod lleol, yr heddlu a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wneud cais i'r llys am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n drosedd i beidio â chydymffurfio â gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • gellir cyflwyno gorchymyn rhiant os ceir plentyn yn euog o drosedd neu os yw person ifanc wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n drosedd i riant beidio â chydymffurfio â gorchymyn rhiant
  • gellir cyflwyno gorchymyn gwahardd yfed yn erbyn person ifanc sy’n 16 neu’n hŷn ac sydd wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiad troseddol neu anrhefn o dan ddylanwad alcohol.

Nôl i’r brig



Trefniadau Troseddol

Ni ystyrir bod gan blentyn sy'n iau na deng mlwydd oed y gallu i benderfynu os yw gweithred yn iawn neu'n anghywir. Ni ellir eu dwyn i lys na'u cyhuddo o gyflawni trosedd. Os ydych yn hyn na deg mlwydd oed ond yn iau nag 14 mlwydd oed, ystyrir eich bod yn gyfrifol am drosedd gyfreithiol a byddwch yn cael eich trin fel unrhyw berson ifanc arall sy'n iau nag 18 mlwydd oed. Golyga hyn y gellwch wynebu camau droseddol, er y bydd llys ieuenctid yn delio â’ch achos fel arfer.

Os ydych chi neu’ch plentyn yn wynebu camau troseddol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medry rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Trefniadau sifil

Os ydych yn iau na 18 mlwydd oed, fel arfer, ni allwch ddechrau camau yn y llys yn eich enw eich hun a rhaid i ffrind ymgyfreithiad (ffrind nesaf yng Ngogledd Iwerddon) - eich rhiant fel arfer- weithredu ar eich rhan.

Fel plentyn neu berson ifanc, ni gael eich erlyn fel arfer am dor-cytundeb oherwydd, yn y mwyafrif o achosion, ni allwch arwyddo cytundeb sy’n orfodadwy mewn llys.

Nôl i’r brig



Tystion

Os ydych yn 14 neu'n hŷn, fel arfer disgwylir i chi roi tystiolaeth fel tyst o dan lw. Os ydych yn iau na 14, yna fel arfer fe fyddwch yn rhoi tystiolaeth heb dyngu llw.

Os ydych yn iau na 17, ac mae'r llys yn cytuno, fe fyddwch yn cael cyflwyno eich tystiolaeth trwy recordiad fideo neu thrwy gyswllt teledu byw. Mae'n rhaid eich bod chi ar gael i gael eich croesholi. Fe fyddai hyn yn berthnasol mewn achos o gam-drin rhywiol, mewn achos o drais neu esgeulustod ac mewn rhai achosion penodol eraill.

Am wybodaeth ynglyn â cham-drin plant, gweler Rhyw a rhywioldeb yn Pobl ifainc – iechyd e phersonol.

Nôl i’r brig



Esgeulustod

Fel plentyn neu berson ifanc, gallwch gael eich erlyn am esgeulustod drwy eich rhiant. Caiff esgeulustod ei ddiffinio fel methu â gweithredu â gofal rhesymol gan achosi niwed i bobl eraill neu eiddo. Mae gan berson a anafwyd yr hawl i erlyn er mwyn cael iawndal. Esiampl o esgeulustod yw marchogaeth beic mewn modd sy'n achosi niwed personol neu ddifrod i eiddo. Wrth gymryd gweithdrefn llys yn erbyn plentyn neu berson ifanc am esgeulustod, dylai'r person sy'n cymryd camau cyfreithiol (yr hawliwr) enwi'r plentyn neu'r person ifanc fel y diffynnydd a rhiant neu warcheidwad fel y ffrind ymgyfreithiad (ffrind nesaf yng Ngogledd Iwerddon).

Wrth gymryd gweithdrefn llys yn erbyn plentyn neu berson ifanc am esgeulustod, dylai'r person sy'n cymryd camau cyfreithiol (yr hawliwr) enwi'r plentyn neu'r person ifanc fel y diffynnydd a rhiant neu warcheidwad fel y ffrind ymgyfreithiad (ffrind nesaf yng Ngogledd Iwerddon).

Rhoddir ystyriaeth i oed y plentyn neu’r person ifanc wrth benderfynu os yw ymddygiad yn esgeulus ai peidio. Nid oes pwynt i rywun erlyn person sydd heb arian oni bai, er enghraifft, nad oes gan y person hwnnw yswiriant. Er hyn, mae'n bosib y bydd rhaid i rywun sy'n erlyn plentyn neu berson ifanc yn llwyddiannus aros hyd nes y bydd y plentyn yn gweithio cyn gorfodi'r dyfarniad. Rhaid i'r dyfarniadau gael eu gorfodi o fewn chwe blynedd.

Gall rhiant gael ei ddal yn gyfrifol am esgeulustod plentyn os bydd y rhiant wedi methu cymryd gofal rhesymol i sicrhau na achosodd y plentyn niwed i eraill.

Dyma faes cymhleth iawn a dylech geisio cyngor gan gynghorydd profiadol, fel Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Cymorth Cyfreithiol

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc, gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol. Mewn rhai achosion, dim ond eich amgylchiadau ariannol chi fydd yn cael eu hystyried ac mewn achosion eraill fe fydd amgylchiadau ariannol eich rhieni hefyd yn cael eu hystyried.

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc a arestiwyd am drosedd, mae gennych yr un hawliau i dderbyn cyngor cyfreithiol (gan gynnwys cymorth cyfreithiol troseddol) ag oedolyn. Os ydych yn iau na 18, ni fydd yn rhaid i chi fodloni amodau cymhwysedd ariannol penodol y bydd yn rhaid i oedolion, efallai, eu bodloni.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â help a chymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig



Help pellach

Children's Legal Centre

Wyvenhoe Park
Colchester
Essex CO4 3SQ
Ffôn: 01206 873 873 (Llinell Gymorth 10yb – 12.30yp Llun - Gwener)
Ffacs: 01206 872 466
E-bost: clc@essex.ac.uk
Gwefan: (New window) www.childrenslegalcentre.com

Mae'r Ganolfan yma yn cynnig cyngor rhad ac am ddim ar ystod eang o faterion drwy gyfrwng llythyr a ffôn.

Ffederasiwn y Canofannau Cyfreithiol

Third Floor
293-299 Kentish Town Road
London
NW5 2TJ
Ffôn: 020 7428 4400
Ffacs: 020 7428 4401
Ebost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Gall Ffederasiwn y Canofannau Cyfreithiol ddarparu enwau a chyfeiriadau canolfannau cyfreithiol lleol.

Children's Law Centre (Gogledd Iwerddon)

Third Floor
Philip House
123-137 York Street
Belfast
BT15 1AB
Ffôn: 028 9024 5704
Ffacs: 028 9024 5679

Mae'r Ganolfan yma yn helpu pobl ifanc a'u rhieni. Gallant ddarparu cyngor ar gyfreithiau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Nôl i’r brig



Gwybodaeth bellach i bobl ifanc

Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifanc mewn mannau eraill yn Adviceguide.

Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifanc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch cyflogaeth, gweler Pobl ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynghylch tai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynghylch materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynghylch arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynghylch iechyd a materion personol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a chludiant.

Nôl i’r brig