Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae'r wybodaeth i garcharorion ar Adviceguide yn ymwneud â sut i ddatrys problemau y medrwch ddod ar eu traws tra yn y carchar. Nid yw'n ymwneud â'r rheswm pam yr ydych chi yn y carchar.
Os ydych chi eisiau gwybodaeth ynghylch pethau fel p'un ai y medrwch chi apelio yn erbyn eich dedfryd carchar neu beth ddylech chi ei wneud os na chadwyd at eich hawliau cyfreithiol, dylech siarad â chyfreithiwr. Mae'n bosib mai'r cyfreithiwr a oedd yn gweithio ar eich rhan yn y lle cyntaf fydd hwn, neu gyfreithiwr arall. Os na chawsoch eich cynrychioli gan gyfreithiwr cyn i chi fynd i'r carchar, mae'n bwysig iawn eich bod yn cael help arbenigol cyn gynted â phosib.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael help arbenigol, gweler Carcharorion - cael help pellach yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Efallai y bydd y rheolau ynghylch carcharorion yn dibynnu a ydych wedi eich euogfarnu ai peidio.
Rydych yn garcharor sydd wedi eich euogfarnu os:
Rydych yn garcharor sydd heb eich euogfarnu os ydych yn aros eich prawf neu yng nghanol eich prawf.
Mae gennych rai hawliau a breintiau penodol pan fyddwch chi yn y carchar. Mae'r rheolau wedi eu hysgrifennu i lawr ac maen nhw ar gael mewn llyfrgelloedd carchardai. Gofynnwch am gael gweld Rheolau Sefydlog y Carchar (PSOs) a Chyfarwyddiadau'r Gwasanaeth Carchardai (PSIs). Rydych hefyd yn medru gweld y rheolau ar wefan y Gwasanaeth Carchardai yn www.hmprisonservice.gov.uk.
Mae'r Gwasanaeth Carchardai ac Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (y PRT) wedi ysgrifennu canllawiau ar y cyd ar hawliau carcharorion a dylech gael copi ohonynt pan fyddwch chi'n cyrraedd y carchar. Os ydych yn anabl, dylech hefyd gael canllawiau o'r enw 'Gwybodaeth i garcharorion anabl' wedi i chi gyrraedd y carchar. Os nad ydych yn y carchar, rydych yn medru cael copi o'r canllawiau gan y PRT yn:
15 Northburgh Street
London
EC1V OJR
Rhif Ffôn: 0207 251 5070
E-bost: prt@prisonreformtrust.org.uk
Gwefan: www.prisonreformtrust.org.uk
Os ydych chi am wybod mwy am hawliau a breintiau yn y carchar, dylech siarad â chynghorydd arbenigol. Am fanylion sefydliadau sy’n medru helpu, gweler Carcharorion - cael help pellach yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Os ydych yn cael trafferth gyda'r amodau yn y carchar, mae yna reolau ynghylch sut fedrwch chi geisio datrys y broblem. Efallai y bydd angen help arbenigol arnoch i geisio datrys problem.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn cael problem gydag amodau yn y carchar, gweler Carcharorion – gwneud cwyn yn y Taflenni ffeithiau i Garcharorion.
Mae yna reolau ynghylch y pethau yr ydych yn medru eu cadw gyda chi yn y carchar.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eiddo yn y carchar, gweler Carcharorion – problemau gydag eiddo yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Os ydych yn y carchar, mae'n bwysig iawn eich bod yn ceisio cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac aelodau'r teulu. Mae yna reolau ynghylch llythyron, galwadau ffôn ac ymweliadau tra'ch bod yn y carchar.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cadw mewn cysylltiad tra'ch bod yn y carchar, gweler Carcharorion – llythyron, Carcharorion – galwadau ffôn a Carcharorion – ymweliadau yn y Taflenni ffeithiau i Garcharorion.
Efallai y cewch broblemau gyda budd-daliadau, naill ai pan fyddwch chi'n mynd i'r carchar i ddechrau, neu wedi i chi adael y carchar. Mewn rhai achosion, mae'r rheolau i garcharorion yn wahanol i'r rheolau i bobl eraill sy'n hawlio budd-daliadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch carcharorion a budd-daliadau, gweler Carcharorion a budd-daliadau yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Os ydych chi yn y carchar, efallai y cewch drafferth cadw gafael ar eich cartref tan i chi ddod allan. Wedi i ch adael y carchar, efallai y bydd angen help arnoch i ddod o hyd i lety.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gadw gafael ar eich cartref pan fyddwch chi yn y carchar a sut i ddod o hyd i lety pan fyddwch chi'n dod allan, gweler Carcharorion a thai yn y Taflenni ffeithiau i Garcharorion.
Mae yna reolau i'ch atal rhag cael eich trin yn annheg yn y carchar, er enghraifft, oherwydd eich hil neu am eich bod yn anabl. Gelwir hyn yn wahaniaethu. Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn eich ymwelwyr chwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y carchar, gweler Gwahaniaethu yn y carchar, yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Os ydych chi yn y carchar, dylech gael yr un gwasanaethau iechyd ag y byddech yn eu cael ar y GIG.
Am fwy o wybodaeth ynghylch iechyd yn y carchar, gweler Iechyd yn y carchar, yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Efallai y bydd rhai carcharorion yn cael eu rhyddhau o'r carchar yn gynnar ac yn cael gweithio gweddill eu dedfryd yn y gymuned. Mae'n rhaid i chi ddilyn rheolau yn ystod yr amser yma. Os ydych yn torri'r rheolau, gellir eich anfon yn ôl i'r carchar.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y rheolau pan gewch eich rhyddhau o'r carchar yn gynnar a'r hyn sy'n medru digwydd os ydych yn torri'r rheolau, gweler Rhyddhau'n gynnar o'r carchar – gweithio'ch dedfryd carchar yn y gymuned yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Rydych yn medru cael help i ddelio gyda'r problemau y medrwch ddod ar eu traws pan fyddwch yn gadael y carchar.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gadael y carchar, gweler Gadael y carchar yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.
Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol, diduedd, annibynnol rhad ac am ddim i'ch helpu i ddatrys unrhyw fath o broblem, fel budd-daliadau, dyled, gwahaniaethu a phroblemau teuluol. Maen nhw hefyd yn medru helpu gyda phroblemau penodol sy'n medru codi os ydych yn y carchar neu os yw aelod o’ch teulu yn y carchar.
Mae rhai Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhedeg sesiynau cyngor yn y carchar. Os ydych yn y carchar, holwch os ydynt yn cynnig y sesiynau hyn yn eich carchar chi. Os nad ydynt yn rhedeg sesiynau cyngor, mae'n bosib i chi ysgrifennu at eich CAB lleol gan esbonio eich problem. Gofynnwch i aelod o staff y carchar am gyfeiriad eich CAB lleol.
Os nad ydych yn y carchar, ac rydych chi am ddod o hyd i'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf, neu chwiliwch o dan C yn eich llyfr ffôn.
Efallai y byddwch chi angen help gan sefydliad sy'n arbenigo mewn cynghori carcharorion a'u teuluoedd.
Am fanylion sefydliadau arbenigol, gweler Carcharorion – cael help pellach yn y Taflenni ffeithiau i garcharorion.